Cynnig i ganiatáu cynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes mewn sefydliadau bwyd
Cynnig i ganiatáu, o dan feini prawf gwahanu penodol llym, i fwyd anifeiliaid anwes gael ei gynhyrchu'n fasnachol o sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn busnesau sydd hefyd yn cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl.
Crynodeb o ymatebion
England, Northern Ireland and Wales
Manylion yr ymgynghoriad
Mae'r ymgynghoriad hwn o ddidordeb i'r diwydiant bwyd anifeiliaid anwes, awdurdodau lleol a gweithredwyr busnesau bwyd.
Testun yr ymgynghoriad
Cynnig i ganiatáu, o dan feini prawf gwahanu penodol llym, i fwyd anifeiliaid anwes gael ei gynhyrchu'n fasnachol o sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn busnesau sydd hefyd yn cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl.
Pwrpas yr ymgynghoriad
I geisio barn ar y cynnig i ganiatáu i fwyd anifeiliaid anwes gael ei gynhyrchu'n fasnachol mewn busnesau sydd hefyd yn cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl o dan rai amodau, gan gynnwys bodloni meini prawf gwahanu llym.
Pecyn yr ymgynghoriad
Wales
Sylwadau a safbwyntiau
Dylech ymateb i'r ymgynghoriad hwn drwy'r holiadur isod:
www.surveymonkey.co.uk/r/MSR26XD
Os hoffech ymateb drwy e-bost neu'n ysgrifenedig, dylech anfon eich ymatebion at:
E-bost: csulondontransactions@food.gov.uk
Ffôn: 020 7276 8829
Corporate Support Unit
Food Standards Agency
7th Floor, Clive House
70 Petty France
London
SW1H 9EX
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.