Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ceisiadau am naw organeb a addaswyd yn enetig i’w defnyddio at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid

Ymgynghoriad yn ceisio barn, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynnyrch wedi’i reoleiddio ar gyfer naw organeb a addaswyd yn enetig (GMOs) at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid, a gyflwynwyd i’w hawdurdodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 December 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 December 2021

Crynodeb o ymatebion

Pwysig

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyfeirio at geisiadau, sydd bellach yn cael eu gwneud i Gymru, Lloegr a’r Alban, am gynhyrchion lle cafodd cais ei werthuso gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) cyn diwedd y cyfnod pontio.

Yn ogystal â’r ymgynghoriad hwn, rydym ni hefyd wedi cyhoeddi dogfen ar y cyd rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban gyda safbwyntiau gwyddonol sy’n ymwneud â’r naw GMO perthnasol, ar ôl i’r sefydliadau gynnal adolygiad sicrhau ansawdd o asesiadau risg EFSA. Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym ni’n croesawu sylwadau ar y safbwyntiau gwyddonol hyn, ar wahân i ymatebion i’r ymgynghoriad. Bydd unrhyw sylwadau a ddarperir ar safbwyntiau’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cael eu cyhoeddi a’u hystyried i’w cynnwys yn ein cyngor terfynol i weinidogion. Cofiwch gyflwyno sylwadau, wedi’u marcio’n glir fel rhai sy’n ymwneud â'r safbwyntiau gwyddonol hyn, drwy anfon e-bost at: RPconsultations@food.gov.uk.

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

  • Gwneuthurwyr bwyd anifeiliaid, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr 
  • Pob prynwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd 
  • Cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd   
  • Undebau llafur sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio 
  • Sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a bwyd anifeiliaid 
  • Awdurdodau gorfodi 

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae naw GMO wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban lle caiff y penderfyniad o ran awdurdodi ei wneud gan y Gweinidogion priodol ar gyfer pob un o wledydd Prydain Fawr. Dyma swyddogaeth a gyflawnid yn flaenorol ar lefel yr Undeb Ewropeaidd (UE). Ers diwedd y cyfnod pontio, cyfrifoldeb yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yw asesu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig (DU), a chyfrifoldeb yr awdurdod priodol perthnasol yw awdurdodi cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ym mhob gwlad.

Bydd safbwyntiau terfynol yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban, ynghyd â’r safbwyntiau a gesglir trwy’r ymgynghoriad hwn, yn cael eu hystyried ochr yn ochr â barn Swyddogion y Llywodraethau Datganoledig yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac adrannau eraill Llywodraeth y DU heblaw’r ASB er mwyn llywio penderfyniadau Gweinidogion o ran a ddylid awdurdodi’r GMOs unigol i’w defnyddio yng Nghymru, yr Alban, a Lloegr.

Pwrpas yr ymgynghoriad

Pwrpas yr ymgynghoriad yw ceisio barn, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r GMOs a gyflwynwyd i’w hawdurdodi. Gofynnwn i randdeiliaid ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir (retained) a ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy'n cefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymol, a chyfiawnadwy fel buddiannau defnyddwyr, dichonoldeb technegol a ffactorau amgylcheddol) sy’n berthnasol i’r ceisiadau hyn. Dyma gyfle i randdeiliaid leisio eu barn am y cyngor a roddwyd i Weinidogion i lywio penderfyniadau.

Pecyn ymgynghori

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i'r ymgynghoriad hwn at Dîm Cymeradwyo Cynhyrchion wedi’u Rheoleiddio’r ASB, o fewn yr Uned Polisi Diogelwch Cemegol at: RPconsultations@food.gov.uk.

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, rydym ni’n anelu at gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd a darparu dolen iddo o'r dudalen hon.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym ni’n trin data a ddarparwyd mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi. Os cynhyrchwyd Asesiad Effaith, mae wedi'i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na chynhyrchwyd Asesiad Effaith, rhoddir y rheswm yn y ddogfen ymgynghori.