Canllawiau croeshalogi E. coli O157 ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd ac awdurdodau lleol
Rydym ni'n croesawu barn rhanddeiliaid ar y diwygiadau arfaethedig i'n ddogfen ganllaw ar reoli E. coli O157 a chroeshalogi.
Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i:
- fusnesau bwyd lle mae bwyd parod i'w fwyta yn cael ei drin
- swyddogion gorfodi awdurdodau lleol
- cyrff masnach megis Cymdeithas Lletygarwch Prydain a Chonsortiwm Manwerthu Prydain
Pwnc ymgynghori
Pwnc yr ymgynghoriad hwn yw canllawiau sy'n cynorthwyo awdurdodau lleol a phob math o fusnesau sy'n trin bwyd amrwd (a all fod yn ffynhonnell pathogenau gan gynnwys E. coli O157) a bwyd parod i'w fwyta. Mae hyn yn cynnwys arfer gorau o ran hylendid, gwahanu a mesurau diogelwch i'w cymryd er mwyn osgoi croeshalogi.
Diben yr ymgynghoriad
Yn dilyn adolygiad rheolaidd o'r canllawiau E. coli O157, penderfynwyd dilyn fformat newydd i'w gwneud nhw'n fwy dealladwy a hygyrch. Nid oes unrhyw newidiadau wedi bod i'r polisi, yr wyddoniaeth na'r gyfraith.
Dyma'r prif newidiadau i'r canllawiau:
- diweddaru'r fformat i'w gwneud yn fwy hygyrch a defnyddio iaith fwy clir (gan fod o gymorth arbennig i'r rhai hynny nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf)
- mwy o ddiagramau i'w gwneud hi'n haws deall yr wybodaeth
- dulliau newydd o amlygu 'gwybodaeth'
- egluro'r adran wahanu
- egluro'r adran diheintio cemegol
- cyfeiriadau cyfreithiol wedi'u symud i flychau 'Y Gyfraith'
Mae'r newidiadau i'r canllawiau hyn wedi'u datblygu gyda mewnbwn gan gynrychiolwyr busnes ac awdurdodau lleol. Rydym wedi ymgynghori'n helaeth â nhw drwy gydol y broses. Rydym ni wedi penderfynu bod ymgynghoriad 6 wythnos o hyd yn briodol i geisio barn rhanddeiliaid ehangach.
Rydym ni'n croesawu barn gan randdeiliaid ar y newidiadau i'r canllawiau. Yn benodol, p'un a ydych chi'n cytuno bod y canllawiau diwygiedig yn welliant ar fersiwn bresennol y canllawiau, a ph'un a yw'r canllawiau diwygiedig yn cyflawni'r gwelliannau a amlinellir uchod.
Effaith y canllawiau diwygiedig
Er bod y newidiadau i'r canllawiau wedi'u bwriadu i fod yn fwy clir a darllenadwy drwy symleiddio, mae'n anodd mesur y manteision hyn. Mae gan y canllawiau diwygiedig nifer geiriau ychydig yn uwch y gellir ei gyfiawnhau'n ddigon hawdd, a hynny am fod yr ASB yn ystyried nad yw'r nifer geiriau uwch o bwys nac yn faich sylweddol i'r darllenydd. Am y rheswm hwn, nid ydym wedi ceisio mesur manteision y canllawiau, gan ein bod o'r farn y byddai hyn yn gofyn am ymdrech anghymesur.
Rydym ni'n croesawu barn rhanddeiliaid ar effaith y canllawiau a'n hasesiad o hyn. Byddai'n ddefnyddiol, lle bo'n bosibl, i randdeiliaid roi tystiolaeth i gefnogi eu barn.
Dogfen ymgynghori
Sylwadau a barn
Dylech anfon eich ymatebion i'r ymgynghoriad hwn at FoodlawCOP@food.gov.uk erbyn 21 Rhagfyr 2018.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.