Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Canllawiau ar y gallu i olrhain, tynnu a galw bwyd yn ôl o fewn diwydiant bwyd y Deyrnas Unedig (DU)

Rydym ni'n croesawu barn rhanddeiliaid ar ein canllawiau newydd, sy'n nodi rolau a chyfrifoldebau'r prif bartïon sy'n rhan o'r system tynnu a galw bwyd yn ôl yn y DU.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 January 2019
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 January 2019

Crynodeb o ymatebion

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn 

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i:

  • fusnesau bwyd 
  • awdurdodau gorfodi bwyd  
  • sefydliadau masnach
  • sefydliadau defnyddwyr

Pwnc ymgynghori

Pwnc yr ymgynghoriad hwn yw canllawiau sy'n cynorthwyo busnesau bwyd i gydymffurfio â chyfraith bwyd ac sy'n rhoi cyngor ac adnoddau ategol i helpu busnesau bwyd ac awdurdodau gorfodi bwyd i ddelio ag achosion o dynnu a galw bwyd yn ôl er diogelwch. Mae'r canllawiau yn amlinellu'r gofynion cyfreithiol ac yn cynnwys cyngor ar arfer gorau.

Diben yr ymgynghoriad  

Yn 2017, cynhaliwyd gwaith ymchwil i ddeall y systemau tynnu a galw bwyd yn ôl yn y DU. Roedd hyn yn cynnwys rhai argymhellion ar gyfer gwella. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol o'r diwydiant bwyd, awdurdodau gorfodi bwyd, sefydliadau defnyddwyr a chyrff masnach yn mynd i'r afael â'r argymhellion hyn. Mae hyn yn cynnwys datblygu canllawiau i gryfhau a gwella effeithiolrwydd a gwydnwch cyffredinol system tynnu a galw bwyd yn ôl y DU. 

Nid oes unrhyw newidiadau wedi bod i'r polisi, yr wyddoniaeth na'r gyfraith. 


Nod y canllawiau newydd yw:

  • egluro rolau a chyfrifoldebau swyddogion allweddol sy'n rhan o'r system tynnu a galw bwyd yn ôl er diogelwch 
  • darparu canllawiau ar arfer gorau er mwyn helpu busnesau bwyd i wneud hysbysiadau galw bwyd yn ôl ar gyfer defnyddwyr yn fwy cyson a hygyrch 
  • helpu'r diwydiant i sicrhau bod cyfathrebu masnachol yn gyson ac yn effeithiol
  • datblygu a gweithredu gweithdrefnau dadansoddi gwraidd y broblem ar gyfer y diwydiant os bydd digwyddiadau diogelwch bwyd

Mae'r canllawiau wedi'u datblygu gyda mewnbwn gan weithgorau â nifer o randdeiliaid gwahanol. Rydym ni wedi penderfynu bod ymgynghoriad 4 wythnos o hyd yn gymesur i geisio barn rhanddeiliaid ehangach. 

Croesawn sylwadau gan randdeiliaid ar y canllawiau newydd hyn.

Pecyn ymgynghori  

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

Sylwadau a barn

Dylech anfon eich ymatebion i'r ymgynghoriad hwn at Debbie.Sharpe@food.gov.uk erbyn 4 Chwefror 2019. 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.