Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Canllawiau ar ddiogelwch ac oes silff bwyd oer wedi'i becynnu dan wactod neu drwy addasu’r atmosffer mewn perthynas â Clostridium botulinum nad yw’n broteolytig – cig eidion, cig oen a phorc ffres oer

Ymgynghoriad ar adolygiad o'n canllawiau ar ddiogelwch ac oes silff bwyd wedi'i oeri sydd wedi’i becynnu dan wactod neu drwy addasu’r atmosffer mewn perthynas â Clostridium botulinum nad yw’n broteolytig, yn arbennig mewn perthynas ag oes silff cig eidion, cig oen a phorc ffres oer.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 October 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 October 2020

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag adolygiad o ganllawiau arfer gorau ar ddiogelwch ac oes silff bwydwedi'i oeri sydd wedi’i becynnu dan wactod (vacuum packed neu VP) neu drwy addasu’r atmosffer (modified atmosphere neu MAP) mewn perthynas â Clostridium botulinum nad yw’n broteolytig. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 6 wythnos.

Pwrpas yr ymgynghoriad

Mae prif ffocws yr adolygiad hwn yn ymwneud ag oes silff cig eidion, cig oen a phorc ffres oer sydd wedi'u pecynnu dan wactod neu drwy addasu’r atmosffer (Pwynt Ymgynghori A). 

Dyma’r pwyntiau ymgynghori:

  • Pwynt ymgynghori A – I adolygu’r oes silff 10 diwrnod a argymhellir mewn perthynas â chig eidion, cig oen a phorc ffres oer sydd wedi bod yn destun VP neu MAP yn yr ystod tymheredd o 3oC i 8oC fel y darperir ar ei gyfer yn y canllawiau hyn.
  • Pwynt ymgynghori B – I wneud rhai newidiadau i'r canllawiau fel yr argymhellwyd ym mis Ionawr 2020 gan is-grŵp ACMSF ar C. botulinum.
  • Pwynt ymgynghori C – I ddileu unrhyw gyfeiriadau yn y canllawiau sy'n ymwneud â'r Undeb Ewropeaidd na fydd yn berthnasol mwyach ar ddiwedd y Cyfnod Pontio.
  • Pwynt ymgynghori D – I wella hygyrchedd y canllawiau i ddefnyddwyr yn unol â gofynion hygyrchedd cyrff cyhoeddus.

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

Awdurdodau lleol, cymdeithasau masnach cig, gweithgynhyrchwyr cig a busnesau bwyd sydd â diddordeb mewn cig ffres oer sydd wedi'i becynnu dan wactod neu drwy addasu’r atmosffer.

Pecyn ymgynghori

Gweithio mewn Partneriaeth

Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol y diwydiant mewn perthynas â Phwynt Ymgynghori A – I adolygu’r oes silff 10 diwrnod mewn perthynas â chig eidion, cig oen a phorc ffres oer sydd wedi bod yn destun VP neu MAP yn yr ystod tymheredd o 3oC i 8oC.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwaith hwn yn ein datganiad ar y cyd.

Sut i ymateb

Mae gofyn ymateb erbyn 11 Tachwedd 2020.

Dylid anfon ymatebion dros e-bost at: meathygiene@food.gov.uk

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.