Byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr: canllawiau i weithredwyr busnesau bwyd a swyddogion awdurdodau lleol
Rydym ni’n croesawu barn rhanddeiliaid ar y diwygiadau arfaethedig i’n canllawiau ar fyrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr.
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, mae’r ASB bellach wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru ar fyrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru yn ystyried y sylwadau a ddaeth i law gan randdeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Crynodeb o ymatebion
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i:
- fusnesau bwyd
- timoedd diogelwch bwyd awdurdodau lleol
- ymgynghorwyr diogelwch bwyd
- cyrff masnach
Pwnc yr ymgynghoriad
Pwnc yr ymgynghoriad hwn yw canllawiau diwygiedig ar fyrgyrs cig eidion heb eu coginio'n drylwyr [link] sy'n cynorthwyo busnesau sy'n gweini byrgyrs o'r fath ac awdurdodau lleol sy'n cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd mewn busnesau o'r fath. Mae’r canllawiau’n cynnwys cyngor ar reolaethau a systemau diogel a all leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr.
Pwrpas yr ymgynghoriad
Pwrpas yr ymgynghoriad yw ceisio sylwadau gan randdeiliaid ar y canllawiau diwygiedig.
Rydym ni hefyd yn gofyn am farn rhanddeiliaid ynghylch a ddylid cadw'r term 'heb eu coginio'n drylwyr' neu ddefnyddio term arall yn ei le. Nid oes unrhyw newidiadau wedi bod i'r polisi, yr wyddoniaeth na'r gyfraith mewn cysylltiad â byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr.
Yn benodol, byddem ni'n croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ar y canlynol:
- A yw'r canllawiau’n glir ac yn hawdd eu dilyn? Os nad ydynt, pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen?
- A yw'r canllawiau'n cynnwys digon o wybodaeth i helpu pobl i gydymffurfio â'r gyfraith? Os nad ydynt, pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen?
- A yw ein hasesiad o effaith y diweddariadau yn ddigonol?
- A ydych yn ffafrio cadw’r term ‘heb eu coginio’n drylwyr’ a'r acronym Saesneg LTTC neu a fyddai’n well gennych inni ddefnyddio term gwahanol fel ‘pinc’ neu ‘gwaedlyd’ neu ‘wedi’u coginio’n ysgafn’, neu rywbeth arall?
Darllen y canllawiau diwygiedig
Sut i ymateb
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach ar gau.
Manylion yr ymgynghoriad
Dyma'r prif newidiadau i'r canllawiau:
- gwneud y diffiniadau, yr iaith a'r cynllun yn fwy eglur ac yn haws eu deall
- darparu rhagor o wybodaeth am sicrhau cydymffurfiaeth, yn ogystal â thynnu sylw at arferion gorau
- rhoi cyngor ar brynu byrgyrs briwgig eidion neu gig eidion gan sefydliadau sydd wedi’u cymeradwyo’n benodol i gynhyrchu cynhyrchion y bwriedir iddynt gael eu gweini heb fod wedi’u coginio’n drylwyr
- cyflwyno ffeithlun i helpu i nodi'r rheolaethau sydd eu hangen
- darparu rhagor o fanylion am rannu negeseuon â defnyddwyr, er mwyn sicrhau bod y negeseuon yn ddigon dealladwy
- darparu geirfa estynedig i egluro termau technegol
- newid fformat y canllawiau o ddogfen PDF i dudalennau gwe er mwyn gwella hygyrchedd
Mae rhanddeiliaid wedi awgrymu defnyddio term symlach yn lle’r term 'heb eu coginio'n drylwyr'. Gellid defnyddio ‘gwaedlyd' neu ‘pinc' neu 'wedi'u coginio'n ysgafn'. Byddem yn croesawu eich barn a'ch awgrymiadau ar hyn.
Mae rhanddeiliaid, gan gynnwys busnesau a chynrychiolwyr awdurdodau lleol, wedi cyfrannu at y newidiadau a wnaed i’r canllawiau hyn. Rydym ni wedi penderfynu bod ymgynghoriad 12 wythnos o hyd yn briodol i geisio barn rhanddeiliaid ehangach. Y nod yw cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad.
Effeithiau
Nod y newidiadau i'r canllawiau yw eu gwneud yn fwy eglur ac yn haws eu darllen. Bydd hyn o fudd i fusnesau a swyddogion awdurdodau lleol. Bydd cost ymgyfarwyddo i’r gymuned fusnes gyfan. Rydym ni wedi cyfrifo y bydd y gost hon yn llai na £32,000. Rydym ni wedi seilio’r cyfrifiad hwn ar fethodoleg asesu’r llywodraeth drwy amcangyfrif nifer y busnesau bwyd sy’n gweini byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr a’r amser y bydd yn ei gymryd i reolwyr ddarllen y canllawiau ym mhob busnes. Rydym ni wedi penderfynu na fydd angen i fusnesau ailymgyfarwyddo â’r canllawiau’n rheolaidd, gan y byddai unrhyw gamau a gymerir o ganlyniad i ddarllen y canllawiau yn cael eu cynnwys yn eu systemau rheoli diogelwch bwyd. Rydym ni wedi tybio y bydd staff yn cael gwybod am hyn drwy gyfarfodydd busnes fel arfer. Rydym ni'n croesawu barn rhanddeiliaid ar ein hasesiad o effaith y canllawiau.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.