Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?
Lladd-dai, ffatrïoedd torri cig, sefydliadau trin helgig cymeradwy, gweithredwyr busnesau bwyd, awdurdodau lleol a phartneriaid cyflawni gwasanaethau.
Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?
Y broses awdurdodi, canllawiau a dogfennau cysylltiedig ar gyfer defnyddio systemau amgen i ddiheintio offer mewn Lladd-dai, Ffatrïoedd Torri a Sefydliadau Trin Helgig Cymeradwy.
Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau ar broses awdurdodi'r ASB a dogfennau cysylltiedig. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau cyn i ni gyhoeddi'r fersiwn derfynol ar ein gwefan.
Dylech anfon eich holl sylwadau at
Raj Pal
Food Standards Agency
Aviation House. 125 Kingsway
Llundain
WC2B 6NH
Ffôn: 0207 276 8083
E-bost: raj.pal@food.gov.uk
Rhaid i ymatebion ddod i law erbyn: Dydd Gwener, 12 Ionawr 2018
Pecyn yr ymgynghoriad
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym ni’n gobeithio cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a ddaw i law o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad a darparu dolen i’r crynodeb o’r dudalen hon.
Yn unol ag egwyddor yr Asiantaeth o fod yn agored, byddwn yn cadw copi o'r ymgynghoriad a'r ymatebion llawn, a fydd ar gael i'r cyhoedd ar gais. Gallai’r crynodeb o'r ymatebion hefyd gynnwys data personol, fel eich enw llawn. Ni fyddwn yn datgelu unrhyw ddata personol arall oni bai y ceir cais am yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad. Os nad ydych am i’r wybodaeth hon gael ei rhyddhau, ewch ati i lenwi a dychwelyd y Ffurflen Cyhoeddi Data Personol. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth EM. Os oes Asesiad Effaith wedi cael ei gynhyrchu, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os nad oes Asesiad Effaith wedi cael ei ddarparu, bydd y rheswm yn cael ei nodi yn y ddogfen ymgynghori.
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.