Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Adolygu’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd a gweithredu’r Fframwaith Cymwyseddau – Cymru

Penodol i Gymru

Ymgynghoriad yn ceisio barn rhanddeiliaid ar gynigion i ddiwygio’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (y Cod) a’r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (y Canllawiau Ymarfer), yng Nghymru, a gweithredu Gwybodaeth a sgiliau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer darparu rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid swyddogol a gweithgareddau eraill (Fframwaith Cymwyseddau) yn effeithiol. Mae angen sylwadau a safbwyntiau erbyn hanner nos 25 Mawrth 2021.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o ymatebion

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

Awdurdodau lleol, cynlluniau sicrwydd cymeradwy yr ASB, cyrff sicrwydd sector preifat, cyrff dyfarnu proffesiynol a phartneriaid cyflenwi’r ASB. Efallai y bydd gan Undebau Llafur a Grwpiau Arbenigol ddiddordeb hefyd.

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

Adolygiad o’r Cod a’r Canllawiau Ymarfer, a gweithredu gwybodaeth a sgiliau’r ASB ar gyfer darparu rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid swyddogol a gweithgareddau eraill yn effeithiol (Fframwaith Cymwyseddau).

Mae’r Cod yn nodi cyfarwyddiadau a meini prawf y mae’n rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru eu hystyried wrth gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â darparu rheolaethau bwyd swyddogol. Mae’n ofynnol i’r ASB ymgynghori ar ddiwygiadau i’r Cod cyn eu gweithredu. Mae angen adolygu’r Cod yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau, polisïau a gofynion deddfwriaethol cyfredol fel bod awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu gweithgareddau rheolaethau bwyd sy’n effeithiol, yn gyson ac yn gymesur.

Diben yr ymgynghoriad hwn

Ceisio barn rhanddeiliaid ar gynigion i ddiweddaru’r Cod a’r Canllawiau Ymarfer. Dyma’r prif gynigion:

  • moderneiddio’r gofynion gwybodaeth, sgiliau a phrofiad sylfaenol i alluogi carfan ehangach o weithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd a safonau masnachu i ymgymryd â rheolaethau bwyd swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill, y mae’r Cod yn eu cyfyngu ar hyn o bryd
  • disodli’r gofynion cymhwysedd presennol gyda’r Fframwaith Cymwyseddau, sy’n diffinio cymhwysedd yn ôl gweithgaredd yn hytrach na rôl
  • cyflwyno darpariaeth i alluogi’r ASB i fod yn fwy ymatebol wrth gyhoeddi cyfarwyddiadau, lle gall awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthlaoedd wyro oddi wrth y Cod yn gyfreithlon, o dan amgylchiadau cyfyngedig
  • diweddaru’r Cod i adlewyrchu Rheoliad Rheolaeth Swyddogol (UE) 2017/625, a goblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), lle mae’r safbwynt negodi’n hysbys

Pecyn ymgynghori

At ddibenion bodloni gofynion hygyrchedd, rydym wedi creu fersiynau hygyrch o’r Cod Ymarfer a’r Canllawiau Ymarfer i’w defnyddio gyda darllenydd sgrin. Mae’r dogfennau hyn ar gael yn Saesneg yn unig at ddibenion ymgynghori. Byddant ar gael yn Gymraeg unwaith y byddant yn derfynol.

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

Sut i ymateb

Anfonwch unrhyw sylwadau a safbwyntiau at:

Sarah Maddox
Tîm y Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol
E-bost: CodeReviewResponses@food.gov.uk 

Mae angen sylwadau a safbwyntiau erbyn hanner nos 25 Mawrth 2021.

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.