Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Adolygiad o Reoliad a Ddargedwir 2016/6 ar fewnforio bwyd o Japan yn dilyn damwain niwclear Fukushima

Penodol i Gymru a Lloegr

Ymgynghoriad yn ceisio barn rhanddeiliaid ar ddewisiadau rheoli risg i gadw, diwygio neu ddirymu Rheoliad a ddargedwir 2016/16.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 December 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 December 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o ymatebion

Crynodeb o'r ymatebion

Adolygiad o Reoliad a Ddargedwir 2016/6 ar fewnforio bwyd o Japan yn dilyn damwain niwclear Fukushima: crynodeb o ymatebion (fersiwn hygyrch: Saesneg yn unig)

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

  • Mewnforwyr pysgod, madarch a llysiau gwyllt wedi'u fforio (foraged) o Japan i'r Deyrnas Unedig (DU).
  • Busnesau bwyd yn y DU gan gynnwys manwerthwyr a bwytai sy'n arbenigo mewn bwyd o Japan a defnyddwyr y bwydydd hyn.

Pwnc yr ymgynghoriad

Fe gafodd Rheoliad 2016/6 ei ddargadw ym Mhrydain Fawr yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (UE) ac mae'n cymhwyso rheolaethau manylach ar rai bwydydd wedi’u mewnforio o Japan o ganlyniad i ddamwain niwclear Fukushima ym mis Mawrth 2011. Mesur brys oedd hwn i ddiogelu defnyddwyr rhag bwyd wedi'i fewnforio a allai fod wedi ei halogi â deunydd ymbelydrol a ryddhawyd yn dilyn y ddamwain niwclear. 

Mae Rheoliad a ddargedwir 2016/6 yn cymhwyso'r lefelau uchaf o gesiwm ymbelydrol ar fwyd a bwyd anifeiliaid o Japan. Fodd bynnag, gellir mewnforio mwyafrif y bwydydd o Japan eisoes i'r DU heb unrhyw reolaethau manylach gan fod lefelau ymbelydredd yn isel iawn ac ymhell islaw'r lefelau uchaf hyn. Mae'r rheolaethau manylach yn berthnasol i nifer gyfyngedig o fwydydd gan gynnwys rhai rhywogaethau o bysgod, madarch gwyllt a llysiau Japaneaidd wedi'u fforio y mae rheolaethau manylach yn parhau i fod ar waith ar eu cyfer. Dim ond mewn symiau bach y mae'r cynhyrchion hyn yn cael eu mewnforio i'r DU, yn bennaf ar gyfer bwytai sy'n arbenigo mewn bwyd Japaneaidd a defnyddwyr bwydydd traddodiadol Japaneaidd.

Pwrpas yr ymgynghoriad

Gofyn am sylwadau gan y diwydiant, awdurdodau gorfodi, defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant o ran ein dewisiadau rheoli risg i gadw, diwygio neu ddirymu Rheoliad a ddargedwir 2016/16.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynnal asesiad risg meintiol o radiocesiwm mewn bwydydd o Japan.

Nid ydym yn ceisio sylwadau ar yr asesiad risg sydd wedi'i adolygu'n annibynnol.

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn at radiation@food.gov.uk erbyn 11 Chwefror 2022.

Pecyn ymgynghori

 

 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.