Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Y Broses Dadansoddi Risg

Dadansoddi risg yw’r broses o asesu, rheoli a rhoi gwybod am risgiau diogelwch sy’n ymwneud â bwyd a bwyd anifeiliaid. Drwy wneud hyn, rydym yn sicrhau safonau uchel o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ac yn diogelu defnyddwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Pwy sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn y DU?

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) sy’n gyfrifol am asesu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn y DU. Mae’r ASB ac FSS hefyd yn rhoi cyngor i weinidogion y llywodraeth ar awdurdodi cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig i’w defnyddio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Efallai y bydd angen ystyried risgiau diogelwch bwyd am lawer o resymau, er enghraifft:

  • pe bai bacteria (fel Campylobacter), halogion (fel acrylamid), alergenau (fel pysgnau) neu beryglon radiolegol yn bresennol mewn bwyd
  • pe na bai bwyd wedi’i labelu’n gywir
  • pe bai rhywun yn dymuno dod â chynnyrch rheoleiddiedig newydd i’r farchnad (fel ychwanegyn bwyd neu fwyd anifeiliaid, cyflasyn neu fwyd newydd)

Cyn 1 Ionawr 2021, yr Undeb Ewropeaidd (UE) oedd yn gyfrifol am benderfyniadau o ran rheoli risg, a’r rheiny’n seiliedig ar asesiadau risg a gynhaliwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA), gan gynnwys awdurdodi cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig. Ni newidiodd y rheolau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, oherwydd gwnaeth deddfwriaeth Ewropeaidd droi’n gyfraith y DU. Pan fydd angen newid rheolau ar fwyd a bwyd anifeiliaid sy’n cael eu marchnata ym Mhrydain Fawr, rydym yn defnyddio ein proses dadansoddi risg ein hunain yn hytrach na phroses yr UE.

EFSA sy’n gyfrifol am asesu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yng Ngogledd Iwerddon. Mae dull yr ASB o ddadansoddi risg yn parhau i fod yn debyg i’r dull a ddefnyddir gan EFSA, a gellir symud nwyddau a awdurdodwyd ym Mhrydain Fawr i Ogledd Iwerddon drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Beth yw dadansoddi risg?

Mae’n ddull strwythuredig o nodi a rheoli peryglon i iechyd y cyhoedd, lle rydym yn asesu’r risg o beryglon yn ein bwyd a’n bwyd anifeiliaid. Rydym yn defnyddio’r broses hon i edrych ar y risgiau o beryglon microbiolegol (fel E. coli neu salmonela), peryglon radiolegol (fel halogiad radiocaesiwm yn ymwneud â damwain Fukushima), peryglon cemegol (fel metelau trwm neu olchiadau cemegol), peryglon ffisegol ac alergenau. Defnyddir yr un broses hefyd i awdurdodi cynhyrchion newydd y mae busnesau’n dymuno eu rhoi ar y farchnad, fel mathau newydd o gyflasynnau, ensymau neu ychwanegion mewn bwyd anifeiliaid neu fwyd. Mae tair elfen i ddadansoddi risg:

1. Asesu risgiau

Mae hyn yn golygu defnyddio dull gwyddonol i amlygu peryglon ac amcangyfrif y risg bosib i iechyd pobl a/neu anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso pa mor debygol yw hi y bydd pobl a/neu anifeiliaid yn dod i gysylltiad â’r risgiau o fwyd a ffynonellau perthnasol eraill. Mae’n cynnwys dwy ran lle rydym yn asesu difrifoldeb y risg (er enghraifft pa fath o salwch y gall ei achosi) ynghyd â’r tebygolrwydd y byddai’n eich gwneud yn sâl (er enghraifft edrych ar faint o halogiad sydd, a phwy allai fod yn bwyta’r cynnyrch). Mae’r ddwy gydran hyn yn cael eu cyfuno i bennu nodweddion y risg, ac yna ceir rhestr o unrhyw ansicrwydd (er enghraifft, efallai na fyddwn yn gwybod pa mor aml y caiff math newydd o fwyd ei fwyta).

2. Rheoli risgiau

Mae rheoli risgiau’n cyfeirio at fesurau posib i atal neu reoli’r risg. Mae’n ystyried yr asesiad risg a ffactorau eraill sy’n ymwneud â buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae hyn yn helpu i nodi ymateb priodol.

Mae rheolwyr risg yr ASB ac FSS, sy’n gweithio ar y cyd ar faterion ledled y DU, yn ystyried pa ddulliau y gellid eu rhoi ar waith i reoli’r risg. Byddant yn ymgynghori â phartïon â diddordeb ac yn ystyried unrhyw ffactorau sy’n berthnasol i ddiogelu iechyd defnyddwyr a’u buddiannau ehangach mewn perthynas â bwyd cyn rhoi cyngor i weinidogion ac eraill.

Ar faterion mwy arwyddocaol, mae Bwrdd yr ASB yn gyfrifol am gytuno ar argymhellion rheoli risg a rhoi cyngor i weinidogion ac eraill. Bydd Bwrdd yr ASB hefyd yn cadw trosolwg o sut mae’r broses dadansoddi risg yn gweithio, er mwyn sicrhau ei bod yn aros yn gadarn, yn dryloyw ac yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

3. Rhoi gwybod am risgiau

Mae hyn yn golygu cyfnewid gwybodaeth a safbwyntiau drwy gydol y broses dadansoddi risgiau rhwng aseswyr risg, rheolwyr risg, defnyddwyr, y diwydiant, y gymuned academaidd a phartïon eraill â buddiant.

Mae’n cynnwys deall pryderon defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill, cyhoeddi canfyddiadau asesiadau risg a thystiolaeth ategol arall, a dosbarthu cyngor terfynol.

I gael mwy o wybodaeth, cyfeiriwch at Becyn Cymorth yr ASB ar gyfer rhoi gwybod am risgiau.

Sut mae’r broses dadansoddi risg yn gweithio?

Unwaith y bydd y broses dadansoddi risg yn cael ei sbarduno, cynhelir asesiad risg i amcangyfrif y risg i iechyd pobl a/neu anifeiliaid. Gellir gwneud hyn mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr allanol o’n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol a’n Grwpiau Arbenigol ar y Cyd. Yn gyffredinol, bydd asesiadau risg yn cael eu cynnal ar sail pedair gwlad, gyda’r gallu i gynnal asesiadau risg gwlad-benodol lle bo angen a lle mae’r data ar gael.

Yna, mae rheolwyr risg yn ystyried sut y dylem reoli’r risgiau hyn. Ochr yn ochr â diogelwch bwyd, gallent ystyried ffactorau eraill fel lles anifeiliaid, yr amgylchedd, effaith economaidd ac unrhyw ffactorau perthnasol sy’n benodol i’r gwledydd unigol.

Gellir defnyddio cyngor y rheolwr risg i lywio penderfyniadau gweinidogol ar newidiadau i ddeddfwriaeth, neu i helpu i newid canllawiau ar faterion sy’n effeithio ar fusnesau a defnyddwyr.

Yn aml, mae yna elfen o ansicrwydd mewn gwyddoniaeth ac wrth wneud penderfyniadau. Er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau diogelwch bwyd sy’n dod i’r amlwg, mae’r egwyddor ragofalus yn caniatáu i ni weithredu hyd yn oed os nad oes amser na data i gynnal asesiad risg llawn. Pan fydd hyn yn digwydd, gellir rhoi mesurau rheoli risg dros dro ar waith ar yr amod eu bod yn gymesur, yn ymarferol ac nad ydynt yn cyfyngu ar fasnach yn fwy nag sydd angen.

Mae’r cyngor a ddaw yn sgil dadansoddi risg yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth. Mae gwahaniad clir rhwng ein dadansoddiad gwyddonol o risg (asesu risgiau) a’r ffyrdd rydym yn rheoli’r risgiau (rheoli risgiau). Byddwn yn cyhoeddi’r cyngor a ddarparwn i eraill a’r dadansoddiad a’r dystiolaeth y mae’r cyngor yn seiliedig arnynt.

Mae’r siart lif ynghylch y broses dadansoddi risg yn amlinellu sut mae’r ASB, ochr yn ochr ag FSS, yn gwneud argymhellion ar sail tystiolaeth.

Mae’r gofrestr o faterion dadansoddi risg yn darparu gwybodaeth am faterion sy’n cael eu hystyried drwy ein proses dadansoddi risg ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’n rhoi crynodeb o bob mater a’i statws cyfredol.

Mae’r gofrestr gyhoeddus hon o geisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig yn rhestru’r ceisiadau a gafwyd drwy’r gwasanaeth ymgeisio am gynhyrchion rheoleiddiedig yr ydym yn eu hasesu ar hyn o bryd.

Pwy sy’n ymwneud â’r broses dadansoddi risg?

Rydym yn defnyddio dull pedair gwlad drwy gydol y broses dadansoddi risg. Mae hwn yn nodi sut y bydd y pedair gwlad yn gweithio gyda’i gilydd pan fydd angen newidiadau i reolau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’n gwarantu trafodaeth reolaidd gan yr ASB ac FSS ar faterion sy’n destun y broses dadansoddi risg, gan sicrhau bod cyngor yn effeithiol ar gyfer y DU gyfan, neu wledydd unigol yn ôl yr angen.

Ein haseswyr risg sy’n cyflwyno’r wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor. Maent yn gyfrifol am nodi a nodweddu peryglon, asesu lefelau o gysylltiad a nodweddu risgiau i iechyd. Mae eu cyngor yn cefnogi ein rheolwyr risg i ddatblygu’r cyngor cywir.

Yn ogystal, mae ein heconomegwyr, ein hymchwilwyr gweithredol, ein hymchwilwyr cymdeithasol a’n hystadegwyr yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth.

Mae ein rheolwyr risg yn ystyried pa ddulliau y gellid eu rhoi ar waith i reoli’r risg. Maent yn ymgynghori â phawb sydd â buddiant ac yn ystyried unrhyw ffactorau sy’n berthnasol i ddiogelu iechyd defnyddwyr a’u buddiannau ehangach mewn perthynas â bwyd.

Mae ein cyfathrebwyr risg yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n briodol ac yn unol ag ymrwymiadau’r ASB ac FSS i dryloywder.

Mae ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol a’n Grwpiau Arbenigol ar y Cyd yn ein helpu i sicrhau bod ein cyngor i ddefnyddwyr bob amser yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol orau a diweddaraf.

Ein Prif Gynghorydd Gwyddonol sy’n gyfrifol am uniondeb ein tystiolaeth wyddonol ac am sicrhau bod cyngor arbenigol ar gael i ni.

Ni fydd Bwrdd yr ASB yn trafod materion technegol arferol sy’n mynd trwy’r broses dadansoddi risg, ond gall drafod a darparu cyngor i weinidogion ac eraill ar achosion arwyddocaol, proffil uchel neu gymhleth. Caiff ein cyfarfodydd Bwrdd eu cynnal yn gyhoeddus, ond gallai fod nifer bach o amgylchiadau lle na fyddai trafodaethau’r Bwrdd yn agored, fel y nodir ym mharagraff 2.7 o God Ymarfer yr ASB ar fod yn Agored.