Sgil-gynhyrchion anifeiliaid
Diffinnir sgil-gynhyrchion anifeiliaid fel cyrff cyfan anifeiliaid neu rannau ohonynt, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion eraill a gafwyd o anifeiliaid.
Ystyr ‘sgil-gynhyrchion anifeiliaid’ (ABP) yw cyrff cyfan neu rannau o anifeiliaid, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion eraill a geir o anifeiliaid, nad yw’n fwriad iddynt gael eu bwyta gan bobl, gan gynnwys wygelloedd, embryonau a semen.
Gall ABPs fod yn un o dri chategori, yn seiliedig ar y risgiau y maent yn eu peri. Mae ABP Categori 1 ac ABP Categori 2 wedi’u dosbarthu’n risg uchel ac mae ABP Categori 3 wedi’u dosbarthu’n risg isel. Mae ABP Categori 1 a Chategori 2 yn cynnwys deunydd risg uchel a rhaid eu trin yn hynod ofalus. Dylech chi sicrhau felly fod gennych chi wybodaeth ddigonol i gategoreiddio, trin a chael gwared ar wahanol ABPs yn briodol.
I gael canllawiau pellach ar gategoreiddio, trin a gwaredu ABPs, dylech chi ymgynghori â chanllawiau Llywodraeth y DU ar gategorïau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cymeradwyo safleoedd, hylendid a gwaredu.
Mae ABPs a gynhyrchir o anifeiliaid hela gwyllt fel rhan o arferion hela arferol (er enghraifft, gwaed ac offal gwyrdd), ac nad ydynt yn cael eu casglu ar ôl lladd, y tu allan i gwmpas y rheoliadau ABP.
Mae angen i bob ABP a gynhyrchir, ac eithrio’r rhai sy’n rhan o arfer hela arferol ac nad ydynt yn cael eu casglu ar ôl lladd, gael eu categoreiddio’n gywir, eu trin a’u gwaredu’n ddiogel (gan gynnwys cadw cofnodion at ddibenion olrheiniadwyedd) yn unol â chanllawiau uchod Llywodraeth y DU. Unwaith y caiff cynnyrch ei nodi’n ABP, rhaid ei storio ar wahân i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid y bwriedir i bobl eu bwyta, ac ni ellir ei ddargyfeirio yn ôl i’r gadwyn cyflenwi bwyd.
Os ydych am ddefnyddio ABPs, rhaid i chi geisio cymeradwyaeth neu gofrestriad gan APHA. Bydd natur eich busnes a’r ABPs rydych yn eu trin yn pennu a oes angen i chi gael eich cymeradwyo neu’ch cofrestru. I gael canllawiau pellach, gweler yr adran berthnasol yng nghanllawiau Llywodraeth y DU ar gategorïau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cymeradwyo safleoedd, hylendid a gwaredu.
Os ydych yn dymuno gweithgynhyrchu a chyflenwi bwyd anifeiliaid anwes o sefydliad sydd wedi’i gymeradwyo gan yr ASB, darllenwch ganllawiau’r ASB, Cynhyrchu bwyd a bwyd anifeiliaid anwes yn yr un lle.
Er nad yw’n orfodol, yr arfer orau yw y dylai ABPs a gynhyrchir, ac sydd y tu allan i gwmpas y rheoliadau ABP (er enghraifft perfedd), naill ai gael eu:
- llosgi neu eu rendro mewn ffatri cymeradwy
- claddu ar ddaliad lle cafodd yr anifeiliaid hela gwyllt eu saethu neu eu lladd fel arall
- rhoi mewn bagiau dwbl a’u gosod fel gwastraff mewn biniau tirlenwi i atal risgiau halogi amgylcheddol
Hanes diwygio
Published: 19 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Hydref 2024