Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Adroddiad y Cyfarwyddwyr, Chwefror 2025

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Anjali Juneja, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU, a Siân Bowsley, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Ionawr 2025

1. Crynodeb

1.1 Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys:

  • crynodeb o bynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2024
  • crynodeb o weithgarwch ymgysylltu’r uwch-dîm rheoli ar draws Cyfarwyddiaeth Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA)
  • trosolwg o ddatblygiadau a materion o ddiddordeb i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) mewn perthynas â Chymru

1.2 Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol:

  • nodi’r diweddariad
  • gwahodd y Cyfarwyddwyr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

2.1 Dyma Adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr, a gyflwynwyd i gyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr.

3. Trosolwg gan Gyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA)

3.1 Mae wedi bod yn gyfnod prysur ers fy niweddariad diwethaf i’r pwyllgor yng nghyfarfod mis Hydref, ac ers hynny rydym wedi cael cadarnhad bod Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, wedi’i hailbenodi tan 31 Rhagfyr 2027. Yn dilyn proses recriwtio gystadleuol, mae Katie Pettifer wedi’i hailbenodi’n Brif Weithredwr parhaol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

3.2 Yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, bu’n rhaid i borthladd Caergybi gau oherwydd y difrod a achoswyd gan Storm Daragh. Achosodd hyn aflonyddwch mawr o ran symudiadau teithwyr a nwyddau; ac, wrth i fasnach ailgyfeirio ar fyr rybudd, arweiniodd at lefel uwch o symudiadau yn uniongyrchol i Belfast, gan roi pwysau ar DAERA a fy nhîm yng Ngogledd Iwerddon. Gwnaethom gydgysylltu’n agos â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a DAERA i sicrhau ein bod yn deall yr effaith yn llawn ac yn gallu cefnogi cynnydd yn ôl yr angen. Roedd yn dda clywed ganol mis Ionawr fod y porthladd wedi ailagor yn rhannol, gan leddfu pwysau ar gydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon a chaniatáu i fasnach ddychwelyd i’r drefn arferol.

3.3 Yn ogystal, rydw i wedi bod yn canolbwyntio ar Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU, gan ei fod yn parhau i fod yn rhan fawr o waith y sefydliad ehangach ar hyn o bryd, gyda ffocws Trysorlys Ei Fawrhydi yn symud i flynyddoedd ariannol 2026/27 a 2027/28. Yn UKIA a’r sefydliad ehangach, rydym wedi bod yn mynd drwy’r broses cynllunio busnes a’r gwaith cysylltiedig o ddyrannu cyllideb. Yng Nghymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr, gan gadarnhau dyraniad drafft gwerth £5.4 miliwn i ni ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda thîm Cymru i ddiffinio cynlluniau busnes manylach.

3.4 Ym mis Tachwedd, ymunais â Chyngor yr RCVS lle, ynghyd â chydweithwyr o’r Gwasanaethau Milfeddygol a thimau gweithredol hylendid cig, rhoesom diweddariad ar ein defnydd o gofrestru dros dro, sy’n caniatáu i filfeddygon o dramor sydd â chymhwyster cydnabyddedig weithio fel milfeddygon yn y DU, tra byddant yn gwella eu hyfedredd Saesneg i’r lefelau proffesiynol uchel sy'n ofynnol.

3.5 Yn ddiweddar, cefais un o’m cyfarfodydd rheolaidd â Sioned Rees, Cyfarwyddwr Dros Dro Diogelu Iechyd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru. Un o’r prif bynciau a drafodwyd y tro hwn oedd yr adolygiad o’r ASB yng Nghymru, a fydd yn cael ei gynnal yn fuan. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn y diweddariadau isod.

3.6 Ddechrau mis Rhagfyr, bu trafodaeth eang ar y cyfryngau cymdeithasol, a adroddwyd yn y cyfryngau prif ffrwd, am ddiogelwch Bovaer, sef ychwanegyn bwyd anifeiliaid a oedd wedi bod trwy broses Awdurdodi Marchnad yr ASB. Roedd y drafodaeth hon yn dilyn cyhoeddiad gan y gwneuthurwr bwyd, Arla, y byddai’n cynnal treialon i asesu effeithiolrwydd yr ychwanegyn wrth leihau allyriadau methan ar rai ffermydd. Yn anffodus, hyrwyddwyd y trafodaethau hyn gan rywfaint o wybodaeth anghywir. Cyhoeddodd yr ASB ddatganiad yn ei gylch, rhoddodd Robin May gyfweliadau â’r cyfryngau, a gwnaethom gyhoeddi blog yn nodi’r ffeithiau. Gwnaethom egluro bod yr ychwanegyn wedi’i awdurdodi fel un diogel i’w ddefnyddio yn y DU, ac mewn gwledydd eraill gan gynnwys yr UE, Awstralia, Canada a’r Unol Daleithiau. Yn ein hasesiad diogelwch, roedd yr ASB wedi dod i’r casgliad nad oedd yn peri unrhyw bryderon diogelwch i ddefnyddwyr, anifeiliaid na’r amgylchedd o ran y dos a fwriadwyd ac roedd wedi cynghori gweinidogion i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.

3.7 Gan edrych i’r dyfodol, eleni, byddwn yn dathlu 25 mlynedd ers sefydlu’r ASB ac rydym yn brysur yn paratoi digwyddiadau mewnol ac allanol i nodi’r garreg filltir arwyddocaol hon.

3.8 Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar gefnogi’r gwaith traws-lywodraethol i ailosod y berthynas â’r UE, gan gynnwys gwaith ar gytundeb SPS posib gyda’r UE. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU.

4. Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

4.1 Dyma fy adroddiad cyntaf fel Cyfarwyddwr Cymru, gan nodi bod yr un blaenorol wedi’i baratoi gan fy rhagflaenydd, Nathan Barnhouse. Ers ymuno â’r ASB ym mis Hydref, rwyf wedi canolbwyntio ar dair blaenoriaeth gyffredinol allweddol – dod i adnabod y tîm yng Nghymru, a’r ASB yn ehangach; dod i adnabod cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru; a chwrdd â rhanddeiliaid Cymreig gan gynnwys cydweithwyr iechyd yr amgylchedd a safonau masnach o fewn awdurdodau lleol.

4.2 Byddaf yn ymdrin yn fanwl â phob un o’r rhain yn ddiweddarach yn fy niweddariad, ond y datblygiad allweddol ers mis Hydref yw’r Adolygiad Gweinidogol o’r ASB yng Nghymru (footnote 1), gyda Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ym mis Rhagfyr eu bod wedi contractio’r adolygiad i’r tîm ymchwil yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae disgwyl i’r tîm ddechrau ar ei waith y mis hwn. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw’r cylch gwaith polisi, y trefniadau llywodraethu a’r cyfrifoldebau sydd wedi’u dirprwyo rhwng yr ASB a Llywodraeth Cymru yn glir ac yn parhau’n briodol.

4.3 Yn hytrach na chanolbwyntio ar rôl graidd yr ASB, bydd yr adolygiad yn edrych ar sut y mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud yng Nghymru, gan gynnwys i ba raddau y mae newidiadau i leoliad polisi maeth a labelu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ac ymadawiad y DU â’r UE, wedi effeithio ar rôl yr ASB yng Nghymru. Ar yr un pryd, bydd yn ystyried datblygiadau posib rhwng Llywodraeth y DU a Chomisiwn yr UE a allai effeithio ar waith yr ASB yng Nghymru. Bydd yr adolygiad hefyd yn canolbwyntio ar lywodraethu ac atebolrwydd o ran sut, ac i ba raddau y mae rolau, cyfrifoldebau a llinellau adrodd wedi’u diffinio’n glir, yn briodol ac yn effeithlon.

4.4 Disgwylir i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, a bydd yn gwneud argymhellion ar y newidiadau y gellid eu hystyried i sicrhau y gall yr ASB yng Nghymru gefnogi Gweinidogion Cymru yn y ffordd orau bosib. Bydd y tîm ymchwil yn cael ei gefnogi gan grŵp goruchwylio, a fydd yn fy nghynnwys i, fel Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru, yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Rydym hefyd wedi sefydlu gweithgor mewnol bychan i gefnogi’r ASB i gyfrannu at yr adolygiad a sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd a gynigir gan yr adolygiad.

4.5 Ers ymuno ym mis Hydref, rwyf wedi canolbwyntio ar ddod i adnabod ein rhanddeiliaid. I’r perwyl hwnnw, es i i Gynhadledd NFU Cymru yn Llandrindod (ein Cadeirydd oedd un o’r prif siaradwyr yno); Cynhadledd Allied Industries Confederation yn Peterborough a brecwast Hybu Cig Cymru yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru. Cefais fy ngwahodd i fynd a chyflwyno gerbron digwyddiad Cynllunio Busnes Safonau Masnach Cymru ym mis Tachwedd ac, yn fwy diweddar, gyfarfod Penaethiaid Gwasanaeth Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru (DPPW) ym mis Ionawr. Rwyf wedi cyfarfod ar wahân â Chadeiryddion Safonau Masnach Cymru, Iechyd yr Amgylchedd Cymru a’r swyddog arweiniol ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid yn DPPW.

4.6 O safbwynt y tîm, rwyf wedi fy syfrdanu gan swmp y gwaith a wneir ar draws y tîm – o ran rheoli gwaith busnes fel arfer, wrth ymdrin â materion brys ac wrth gefnogi cydweithwyr ar draws tîm ehangach yr ASB.

4.7 Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’r timau polisi wedi:

  • 4.7.1 Bwrw ymlaen â gwaith ar awdurdodiadau marchnad BAU a diwygio’r broses awdurdodi – ar 20 Rhagfyr 2024, daeth Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (UE) 2020/354) (Cymru) 2024 i rym. Mae’r offeryn statudol hwn yn ymwneud â chymeradwyo pedwar ar hugain o geisiadau ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid ac un cais ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol penodol (PARNUT). Ers hynny, rydym wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ddeg cynnyrch rheoleiddiedig arall – un ychwanegyn bwyd, un ychwanegyn bwyd anifeiliaid, un cyflasyn bwyd, un deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd, tair organeb a addaswyd yn enetig a dau fwyd newydd. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried cael gwared ar 8 sylwedd cyflasu a ganiateir (un cais yn cwmpasu wyth cyflasyn bwyd). Mae swp arall o geisiadau wedi symud ymlaen o’r cam asesiad risg, ac rydym yn paratoi ymgynghoriad. Yn ogystal, rydym yn bwrw ymlaen â gwaith i ddiwygio’r Gwasanaeth Awdurdodi’r Farchnad. Yn benodol, mae yna ddau gynnig yna ddau gynnig yn benodol, sef– dileu adnewyddiadau a chaniatáu i awdurdodiadau newydd ddod i rym yn dilyn penderfyniad gweinidogol heb Offeryn Statudol (SI). Mae Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Offeryn Statudol Prydain Fawr fynd â’r cynigion hyn rhagddynt, a disgwylir iddo gael ei osod ar 29 Ionawr. Yna, caiff ei drafod yn nau Dŷ Senedd y DU cyn iddo ddod yn gyfraith.
  • 4.7.2 Bwrw ymlaen â gwaith ar y rheoliadau Bara a Blawd. Mae deddfwriaeth sy’n gweithredu nifer o newidiadau i ofynion bara a blawd, gan gynnwys ychwanegu asid ffolig at flawd, bellach wedi’i gwneud yng Nghymru (Ionawr), yn dilyn deddfwriaeth a osodwyd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban ddiwedd y llynedd. Mae cyfnod pontio o 24 mis yn gysylltiedig â’r newidiadau hyn ac mae’r gwaith bellach yn canolbwyntio ar gwblhau canllawiau busnes cyn i’r newidiadau ddod i rym.
  • 4.7.3 Cynnal dwy rownd o ymgysylltu â’r diwydiant ar newidiadau posib i ddeddfwriaeth ar jam, mêl, sudd ffrwythau a llaeth cadw yn dilyn cytundeb yr UE i gyflwyno newidiadau i’r Cyfarwyddebau Brecwast. Byddwn yn lansio ymgynghoriad ffurfiol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban eleni i geisio safbwyntiau’r diwydiant ar fabwysiadu’r newidiadau a ddaw i rym yng Ngogledd Iwerddon, ar ôl cyfnod pontio o 18 mis.
  • 4.7.4 Mae’r tîm atchwanegiadau bwyd wedi cyhoeddi canllawiau i ddefnyddwyr a busnesau ar fwyta atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys caffein yn ddiogel. Mae’r tîm hefyd yn gweithio ar gyflwyniad sy’n gofyn i’r Pwyllgor Gwenwyndra gynnal asesiad risg ar y defnydd o ashwagandha mewn cynhyrchion bwyd ac atchwanegiadau bwyd, gan nodi ei boblogrwydd fel bwyd “iechyd”. Bydd yr asesiad risg yn canfod a ellir pennu lefel ddiogel ar gyfer ei fwyta.
  • 4.7.5 O ran gorsensitifrwydd i fwyd, cawsom dros 200 o ymatebion i ymgynghoriad diweddar yr ASB ar ganllawiau diwygiedig ar gyfer darparu gwybodaeth am alergeddau yn y sector bwyd y tu allan i’r cartref. Cyhoeddir crynodeb ffurfiol o’r ymatebion ym mis Chwefror, ochr yn ochr â’r canllawiau diwygiedig.
  • 4.7.6 Gwnaeth y tîm polisi hylendid gyfrannu ar ran Cymru yn sesiwn gaeedig y Bwrdd ar bysgod cregyn ar 10 Rhagfyr. Roedd hyn yn cynnwys diweddariad ar y sefyllfa yn y Fenai, ynghyd ag eglurder ar gyfrifoldebau allweddol yr ASB.

4.8 Mae’r timau sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol wedi:

  • 4.8.1 Cyhoeddi adroddiad cryno ar yr Archwiliad o ymateb awdurdodau lleol i faterion brys y tu allan i oriau yng Nghymru ar wefan yr ASB. Byddwn yn cynnal yr archwiliad terfynol o’r Prosesau a’r Trefniadau ar gyfer Cynllunio Cyflenwi Gwasanaethau, a’r rhaglen ar Gamau Gweithredu Agored yn sgil Archwiliadau,, ddechrau mis Chwefror. Bydd crynodeb drafft o’r archwiliad hwn yn cael ei rannu ag awdurdodau lleol cyn iddo gael ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni.
  • 4.8.2 Dechrau ar y gwaith o gynllunio’r rhaglen archwilio ar gyfer archwiliadau 2025/26, a chynllunio cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol i drafod y rhaglen arfaethedig yn ddiweddarach yn y gwanwyn.
  • 4.8.3 Parhau i adolygu’r data Monitro Perfformiad a gyflwynir gan awdurdodau lleol a chysylltu â nhw pan fo angen i lywio’r papur a gyflwynir i’r Bwrdd.
  • 4.8.4 Cael yr adroddiad gwerthuso terfynol o gynllun peilot Cymru o’r model gweithredu safonau bwyd newydd arfaethedig. Rydym wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am ein bwriad i’w gyhoeddi, ac ar ôl hynny byddwn yn ceisio cytundeb gan Weinidogion Cymru i ymgynghori ar ddiwygio Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) i ymgorffori’r model.
  • 4.8.5 Rhoi cyflwyniadau ar y model gweithredu safonau bwyd newydd arfaethedig, yn ogystal â ffrydiau gwaith ehangach yr ASB yn nigwyddiad Hyfforddiant Cangen Cymru o’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig yn yr hydref. Mae hwn yn ddigwyddiad gwych ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned safonau masnach ehangach.

4.9 Mae’r tîm digwyddiadau a’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) hefyd wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf:

  • 4.9.1 Mae cydweithwyr yn yr NFCU yn parhau i weithio tuag at sicrhau pwerau gorfodi ychwanegol, ac rydym yn diweddaru cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wrth i hyn fynd rhagddo. Mae gwaith ymgysylltu pellach wedi’i gynllunio gyda’r diwydiant, awdurdodau lleol ac adrannau eraill o’r llywodraeth wrth i ni symud i osod Offeryn Statudol i gymhwyso darpariaethau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 at ymchwiliadau i droseddau gan swyddogion troseddau bwyd awdurdodedig yr ASB. Bydd hyn hefyd yn dod â gweithgareddau swyddogion troseddau bwyd o dan y pwerau hyn, gan ddefnyddio prosesau ymdrin â chwynion Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Er bod y ddeddfwriaeth wedi’i dargadw, byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid yng Nghymru.
  • 4.9.2 Rydym wedi bod yn rhan o ddigwyddiad cenedlaethol, anrheolaidd yn ymwneud â halogi cynhyrchion mwstard â physgnau. Er mai busnes yn Lloegr oedd wrth wraidd yr halogiad, cafodd y digwyddiad a’r cynhyrchion halogedig a ddosbarthwyd effaith ar bob gwlad. Gwnaethom gymryd camau ar unwaith i reoli’r risgiau, gan gynnwys rhannu cyngor rhagofalus â defnyddwyr ag alergedd i bysgnau a chyhoeddi nifer o hysbysiadau tynnu a galw cynhyrchion yn ôl. Ers hynny, rydym wedi llacio’r cyngor rhagofalus ac mae’r digwyddiad wedi cael ei isgyfeirio oherwydd y sicrwydd a ddarparwyd drwy ymchwiliadau’r ASB ac awdurdodau lleol.

4.10 Mae ein tîm cyfathrebu dwyieithog yng Nghymru wedi parhau i sicrhau bod negeseuon allweddol yr ASB wedi’u cyfleu ledled Cymru, sydd wedi cynnwys:

  • 4.10.1 Cymryd rhan yn 21ain Gynhadledd Flynyddol Cymdeithas Diogelu Bwyd y DU (UKAFP), ar thema ‘Troseddau Bwyd a Galw Cynhyrchion yn Ôl’ ym Met Caerdydd ym mis Tachwedd. Gwnaeth cydweithwyr o’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) gyflwyniad yn y digwyddiad, a gwnaeth staff o dimau Cyfathrebu a Digwyddiadau ASB Cymru gefnogi’r digwyddiad drwy gynnal stondin er mwyn rhannu gwybodaeth allweddol am ein gwaith, gan gynnwys ein rhan yn y digwyddiad halogi pysgnau y soniwyd amdano eisoes.
  • 4.10.2 Cefnogi cyfathrebu rhagweithiol yn ymwneud â’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bovaer, gan gynnwys rhannu blog gwirio ffeithiau a negeseuon dwyieithog eraill i fynd i’r afael â chamwybodaeth.
  • 4.10.3 Cyn y Nadolig, cynnal ein hymgyrch diogelwch bwyd Nadolig flynyddol, gan ganolbwyntio ar newid ymddygiad. Y nod oedd gwella arferion diogelwch bwyd yn y cartref dros gyfnod y Nadolig. Yn ogystal â gweithgarwch yn y cyfryngau cymdeithasol, siaradodd aelod o’r tîm ar raglen radio Bore Cothi ar Radio Cymru, ac ar raglen Prynhawn Da ar S4C. Roedd y rhain yn gyfleoedd gwerthfawr i rannu ein negeseuon allweddol â chynulleidfa eang iawn yn Gymraeg.

5. Ymgynghoriadau

5.1 Mae’r ymgynghoriadau canlynol yn fyw ar hyn o bryd:

6. Edrych tua’r dyfodol

6.1 Bydd llawer o’r gwaith rydym wedi rhoi diweddariad arno yn yr adroddiad hwn yn parhau dros y misoedd nesaf, gan gynnwys cefnogi adolygiad Llywodraeth Cymru o’r ASB yng Nghymru, a rhoi unrhyw argymhellion ar waith. Yn ogystal, byddwn hefyd yn gweithio i ddatblygu’r prosiectau a’r ffrydiau gwaith canlynol.

6.2 Ar ôl derbyn £1.6 miliwn o gronfa Blwch Tywod Peiriannu Bioleg yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, mae’r ASB yn gweithio gyda Safonau Bwyd yr Alban i lansio’r Blwch Tywod Rheoleiddiol ar Broteinau a wneir drwy Feithrin Celloedd y mis hwn.

6.3 Daw pwerau Deddf Cyfraith yr UE (Dirymu a Diwygio) (Deddf REUL) yr ydym yn eu defnyddio i gyflawni ein diwygiadau â blaenoriaeth i ben ym mis Mehefin 2026. Byddwn yn parhau i ystyried unrhyw gyfleoedd ar gyfer diwygio deddfwriaethol gan ddefnyddio pwerau Deddf REUL dros y 12 mis nesaf.

6.4 Yn y cyfamser, ym maes awdurdodau lleol:

  • 6.4.1 Rydym yn cynllunio sesiwn ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar gyfer dechrau mis Chwefror. Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â chynigion parhaus, gan gynnwys canlyniadau’r cynllun peilot safonau bwyd yng Nghymru, adborth o gyfarfodydd awdurdodau lleol ynghylch adennill costau, a pharhau â’r gwaith ymgysylltu ar Reoleiddio ar Lefel Genedlaethol a chanlyniadau’r treial yn Lloegr.

6.5 O ran ein gwaith cyfathrebu a’n gweithgarwch gyda rhanddeiliaid dros yr ychydig fisoedd nesaf:

  • 6.5.1 Bydd yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar Safonau Bwyd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin. Ar hyn o bryd, rydym yn cynllunio digwyddiad i randdeiliaid ddechrau mis Gorffennaf i dynnu sylw at y prif ganfyddiadau. Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu’r ASB, gan dynnu sylw at y cynnydd a wnaed ar ddiogelwch bwyd yn ystod y cyfnod hwn, ac i ystyried yr heriau sydd o’n blaenau.
  • 6.5.2 Rwyf hefyd yn bwriadu mynd i wobrau Bwyd a Diod Cymru ym mis Mai, sy’n gyfle gwerthfawr i ddathlu rhagoriaeth ac arloesedd o fewn y diwydiant bwyd yng Nghymru. Gobeithio y bydd hefyd yn gyfle i sgwrsio â rhai o’n prif randdeiliaid.
  • 6.5.3 Byddwn yn gweithio ar ymgyrch gyfathrebu i gefnogi busnesau bwyd fis nesaf, a fydd yn cael ei thargedu at weithredwyr busnesau bwyd bach a micro, sy’n cyflogi 50 neu lai o staff. Y pwrpas yw atgoffa busnesau bod yr ASB yma i gefnogi’r gwaith o sicrhau diogelwch defnyddwyr, rhoi hwb i hyder wrth ddeall a chydymffurfio â rheoliadau, gwella cynllunio ar gyfer galw neu dynnu cynhyrchion yn ôl, a chynyddu nifer y bobl sy’n cofrestru ar gyfer y llwyfan rhybuddion a galw yn ôl. Yn ogystal, bydd yr ymgyrch yn hyrwyddo’r ASB fel ffynhonnell o hyfforddiant a chanllawiau arfer orau. Byddwn yn targedu busnesau sydd â sgôr hylendid bwyd is (1-3), y rhai sy’n ymgysylltu llai ag awdurdodau, a’r rhai lle gallai Saesneg fod yn ail iaith.
  • 6.5.4 Bydd y tîm hefyd yn cynnal ymgyrch hylendid bwyd sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn y gwanwyn. Nod yr ymgyrch hon yw addysgu defnyddwyr am arferion gwael o ran hylendid yn y gegin, a all achosi salwch a gludir gan fwyd. Byddwn yn tynnu sylw at ymddygiadau peryglus, yn egluro pam y maent yn beryglus, ac yn cynnig cyngor ar hylendid. Ymgyrch eang ar gyfer defnyddwyr yw hon, ond byddwn hefyd yn gweithio i dargedu grwpiau mwy penodol, fel gofalwyr a phobl ifanc, trwy hysbysebion â thâl ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr ASB. Byddwn hefyd yn meithrin partneriaethau i helpu i dargedu cynulleidfaoedd sy’n agored i niwed ac anodd eu cyrraedd, fel menywod beichiog, oedolion hŷn a phobl â chyflyrau imiwnoataliedig.