Pennod 3: Diogel a chadarn, y tueddiadau diweddaraf o ran troseddau bwyd a digwyddiadau bwyd
Hyd yn oed pan fydd y gwiriadau llymaf ar waith, bydd amgylchiadau lle gallai ansawdd, diogelwch ac uniondeb ein bwyd fod wedi’u peryglu. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen ymateb yn gyflym i nodi’r broblem a thynnu’r cynhyrchion oddi ar y farchnad cyn y gallant achosi niwed.
Cipolwg
Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried y canlynol:
- yr hyn rydym yn ei wybod am raddfa a natur digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid heddiw
- sut mae unedau troseddau bwyd yn gweithredu, a’r hyn y gallwn ei ddysgu o’r data sydd ar gael
- sut rydym yn ymateb i risgiau sy’n dod i’r amlwg ar draws ein cadwyn cyflenwi bwyd
Cyflwyniad
Hyd yn oed pan fydd y gwiriadau llymaf ar waith, bydd amgylchiadau lle gallai ansawdd, diogelwch ac uniondeb ein bwyd fod wedi’u peryglu. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen ymateb yn gyflym i nodi’r broblem a thynnu’r cynhyrchion oddi ar y farchnad cyn y gallant achosi niwed.
Mae Timau Diogelu Defnyddwyr yr ASB yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ac Uned Digwyddiadau a Gwytnwch yr ASB yn Lloegr yn cydlynu’r ymateb i ddigwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid, a hefyd rai agweddau ar frigiadau o achosion o salwch a gludir gan fwyd [21] – tra bo Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd (SFCIU) yr Alban yn cyflawni rôl gyfochrog trwy ei thîm Digwyddiadau.
Mae’r SFCIU hefyd yn gyfrifol am ymchwilio i dwyll bwyd difrifol a throseddoldeb cysylltiedig ar draws yr Alban, tra bo’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yn cwmpasu Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon [22]. Mae’r ddwy uned yn cydweithioʼn agos ag awdurdodau lleol a phartneriaid yn yr heddluoedd, sydd oll â rhan wrth ymchwilio i droseddau bwyd.
Fel y dengys y bennod hon, mae’r gwaith hwn yn mynd at wraidd sawl agwedd allweddol ar safonau bwyd, gan gynnwys diogelwch a hylendid bwyd, dilysrwydd a labelu, safonau cyfansoddiad a rheolaethau swyddogol. Gallai awdurdodau lleol hefyd arwain ar ymchwiliadau i droseddau bwyd.
Digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid
Mae digwyddiad bwyd yn codi pan fydd pryderon am ddiogelwch, ansawdd neu uniondeb bwyd, lle gallai fod angen gweithredu er mwyn diogelu defnyddwyr [23]. Gall hysbysiadau am ddigwyddiadau bwyd ddod o sawl ffynhonnell, gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd, sefydliadau llywodraethol, y diwydiant bwyd, gwledydd eraill, a defnyddwyr eu hunain.
Cynyddodd nifer y digwyddiadau bwyd y rhoddwyd gwybod amdanynt am sawl blwyddyn wedi 2010 o ganlyniad i reoliadau newydd a datblygiadau mewn technoleg, gwyddoniaeth a dulliau dadansoddi, a arweiniodd at ganfod ac adrodd gwell [24]. Mae sylwadau allweddol data 2019 i 2021 wedi’u cynnwys yn yr adran nesaf.
Sylw 1: Mae’n ymddangos bod cyfraddau digwyddiadau bwyd yn dychwelyd at lefelau disgwyliedig yn seiliedig ar gyfraddau a gofnodwyd yn flaenorol ar ôl cwympo yn ystod y pandemig.
Ffigur 22: Nifer y digwyddiadau bwyd yr adroddwyd amdanynt yn y DU
Ffynhonnell: Cronfeydd data rheoli digwyddiadau'r ASB a Safonau Bwyd yr Alban
Mae data diweddar yn dangos y bu gostyngiad gweddol sydyn yn nifer yr hysbysiadau am ddigwyddiadau bwyd a ddaeth i law yn y DU pan oedd y pandemig yn ei anterth ddechrau 2020, wrth i achosion yr adroddwyd amdanynt ostwng 13% yn 2020 o gymharu â 2019. Roedd hyn o ganlyniad i nifer o ffactorau, gan gynnwys newidiadau i ymddygiad defnyddwyr, symleiddio llinellau cynhyrchu bwyd, llai o fusnesau bwyd yn gweithredu, a lleihad yng nghymhlethdod yr ystodau o gynhyrchion a oedd yn cael eu cynnig. Mae nifer y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt wedi cynyddu’n gyson drwy gydol 2021, er bod y nifer hwn yn is na 2019.
Sylw 2: Halogiad gan ficro-organebau niweidiol oedd y perygl yr adroddwyd amdano amlaf.
Salmonela oedd yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r digwyddiadau microbiolegol yr adroddwyd amdanynt dros y tair blynedd diwethaf. Gellir priodoli’r cynnydd diweddar yn rhannol i lefelau uwch o wyliadwriaeth reoleiddiol ar fwyd yn dilyn cyfres o frigiadau o achosion cysylltiedig o salwch a gludir gan fwyd yn 2020 a 2021, a drafodir yn y bennod hon. Maent hefyd yn adlewyrchu cynnydd tymor hwy mewn hysbysiadau am frigiadau o achosion o ganlyniad i gyflwyno dilyniannau genom cyfan, sy’n caniatáu i achosion o heintiau gael eu cysylltu’n fwy diffiniol â tharddiad bwyd [25].
Ffigur 23: Nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt o halogiad gan ficro-organebau niweidiol yn y DU
Ffynhonnell: Cronfeydd data rheoli digwyddiadau'r ASB a Safonau Bwyd yr Alban
Sylw 3: Halogiad cemegol oedd yr ail gategori mwyaf cyffredin yr adroddwyd amdano y llynedd.
Roedd cyfran o ddigwyddiadau halogi yn gysylltiedig ag adroddiadau eang yn yr UE a’r DU am bresenoldeb ethylen ocsid heb ei ganiatáu mewn hadau sesame a chynhyrchion sy’n cynnwys hadau sesame a fewnforiwyd yn ystod 2020 a 2021. Arweiniodd y rhain at dynnu’r cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt oddi ar y farchnad ar draws y DU, a dylai hyn gael ei ystyried yn arwydd calonogol bod y system adrodd yn gweithio’n effeithiol yn ystod y pandemig [26].
Ffigur 24: Nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt o halogiad cemegol yn y DU
Ffynhonnell: Cronfeydd data rheoli digwyddiadau'r ASB a Safonau Bwyd yr Alban
Sylw 4: Mae digwyddiadau sy’n ymwneud ag alergenau heb eu datgan neu alergenau heb eu datgan yn gywir wedi cwympo, ond mae hwn yn faes sy’n peri pryder mawr o hyd.
Bu 272 o achosion a oedd yn gysylltiedig ag alergenau yn 2021, gostyngiad o bron i chwarter ar y 355 o achosion a gafwyd yn 2019. Gallai’r gostyngiad fod o ganlyniad i fwy o adrodd yn y cyfryngau am alergenau mewn bwyd, ac effaith newidiadau diweddar i gyfreithiau labelu. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban hefyd wedi cynnal mwy o ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth sydd wedi’u hanelu at y cyhoedd a busnesau bwyd – fel y mae nifer o elusennau wedi’i wneud hefyd.
Ffynhonnell: Cronfeydd data rheoli digwyddiadau'r ASB a Safonau Bwyd yr Alban
Sylw 5: Bu cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion sy’n ymwneud â dofednod yn ystod 2020 a 2021.
Yn hanesyddol, mae cyfraddau digwyddiadau bwyd a gofnodwyd wedi tueddu i fod ar eu huchaf mewn perthynas â chig a chynhyrchion cig – yn rhannol oherwydd ystod ac amlder y gwiriadau y mae angen eu cynnal ar y bwydydd hyn. Fodd bynnag, rhwng 2019 a 2021 mae’n nodedig bod nifer y digwyddiadau a oedd yn ymwneud â dofednod wedi treblu bron yn dilyn cyfres o frigiadau o achosion o Salmonela a chynnydd cysylltiedig mewn gweithgarwch gwyliadwriaeth (gweler isod).
Mae’n bwysig nodi bod yna nifer mawr o achosion o glefydau a gludir gan fwyd nad oes neb yn rhoi gwybod amdanynt. Er enghraifft, yn achos Campylobacter, cofnodir tua 60,000-70,000 o adroddiadau labordy wedi’u cadarnhau bob blwyddyn gan gyrff gwyliadwriaeth. Fodd bynnag, mae ymchwil yn amcangyfrif bod gwir nifer yr achosion o Campylobacter y gellir eu priodoli i fwyd yn nes at 300,000. Ychydig iawn o’r achosion hyn y gellir eu priodoli i frigiadau o achosion am eu bod yn digwydd ar hap, a hynny yn aml yn y cartref. Dim ond un hysbysiad ar gyfer Campylobacter a gafodd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn ystod 2021. Yn y dyfodol, gallai gwyliadwriaeth genomig well ar gyfer pathogenau o’r fath, er enghraifft drwy’r rhaglen PATH-SAFE (a drafodir yn ddiweddarach yn y bennod hon), ddarparu dulliau mwy cywir o nodi ffynhonnell rhagor o’r achosion hyn.
Ffigur 25: Nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt a oedd yn cynnwys dofednod yn y DU
Ffynhonnell: Cronfeydd data rheoli digwyddiadau'r ASB a Safonau Bwyd yr Alban
Salmonela a chyw iâr mewn briwsion bara
Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion a oedd yn ymwneud â dofednod yn adlewyrchu ymateb y DU i gyfres o frigiadau o achosion o salwch a gludir gan fwyd a oedd yn cynnwys Salmonela mewn cynhyrchion cyw iâr mewn briwsion bara o Wlad Pwyl yn 2020 a 2021, a effeithiodd ar fwy na mil o bobl a nifer o gynhyrchion/brandiau [27].
Mewn ymateb, lansiodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar y pryd) arolwg mawr yn 2020 i werthuso graddau’r halogiad. Dilynwyd hyn gan arolwg ehangach gan yr ASB a chwiliodd am bathogenau ychwanegol a thystiolaeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd. Ers hynny mae awdurdodau yng Ngwlad Pwyl wedi rhoi mesurau rheoli gwell ar waith i sicrhau diogelwch dofednod sy’n cael eu mewnforio i’r DU.
Sylw 6: Yn 2021 gwelwyd cynnydd o 49% ers 2019 yn nifer y digwyddiadau bwyd a oedd yn ymwneud â bwydydd deietetig, atchwanegiadau bwyd a bwydydd cyfnerthedig.
Credwn fod y cynnydd hwn o ganlyniad i gynnydd sylweddol yn y defnydd o atchwanegiadau bwyd yn y blynyddoedd diwethaf – yn enwedig yn y categorïau maetheg chwaraeon, profiotigion, ac atchwanegiadau perlysieuol neu draddodiadol. Bydd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn monitro’r digwyddiadau hyn sy’n ymwneud â’r cynhyrchion yn unol â newidiadau i’r farchnad.
Ffigur 26: Nifer y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt yn ymwneud ag atchwanegiadau bwyd yn y DU
Ffynhonnell: Cronfeydd data rheoli digwyddiadau'r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Rhybuddion alergedd, hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl a rhybuddion bwyd er gweithredu
Unwaith y bydd digwyddiad bwyd wedi’i nodi, gallai fod angen tynnu neu alw cynnyrch bwyd yn ôl28. Mae’r camau gweithredu hyn yn cael eu harwain gan y diwydiant ac yn cael eu cyflawni mewn cysylltiad agos â’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Mae’r dull partneriaeth hwn fel arfer yn allweddol i allu rheoli digwyddiad yn llwyddiannus. Yna, bydd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn aml yn cyhoeddi rhybuddion i roi gwybod i ddefnyddwyr a busnesau bwyd am y mater a’r camau gweithredu arbennig y mae angen iddynt eu cymryd.
Diffiniad o dermau
- Cyhoeddir Rhybudd Alergedd pan fydd y cynnyrch wrthi’n cael, neu wedi cael, ei alw’n ôl oherwydd bod gwybodaeth am alergenau naill ai heb ei datgan ar labeli bwyd (gan gynnwys ei bod mewn iaith heblaw’r Saesneg) neu ei bod yn anghywir.
- Cyhoeddir Hysbysiad Galw Cynnyrch yn Ôl pan fydd pryderon am ddiogelwch cynnyrch, gan amlaf oherwydd halogiad, cambecynnu neu gamlabelu cynhyrchion.
- Cyhoeddir Rhybudd Bwyd er Gweithredu (FAFA) ar gyfer awdurdodau lleol pan nad yw dosbarthiad cynhyrchion mor amlwg neu pan nad yw gweithredwr busnes bwyd yn cymryd y camau gofynnol i dynnu cynnyrch oddi ar y farchnad, ac mae angen i awdurdodau lleol gymryd camau ymyrryd adferol.
Cynyddodd nifer y rhybuddion alergedd pan gyflwynwyd deddfwriaeth newydd yn 2017 oedd yn ei gwneud yn orfodol i nodi cynhwysion alergenaidd ar labeli.
Ffigur 27: Cyfanswm y rhybuddion alergedd a gyhoeddwyd yn y DU, 2019-21
Ffynhonnell: Cronfeydd data rheoli digwyddiadau'r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Yn gyson, llaeth yw’r bwyd y cyhoeddwy rhybudd alergedd ar ei gyfer amlaf, wedi’i ddilyn gan rawnfwydydd sy’n cynnwys glwten a chnau neu bysgnau. Mae hwn yn batrwm hirsefydlog ac mae’n adlewyrchu’r ffaith bod y cynhwysion hyn yn cael eu defnyddio’n helaeth mewn cynhyrchion bwyd o bob math.
Fodd bynnag, ar draws y categorïau hyn, gostyngodd nifer y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt rhwng 2019 a 2021 – arwydd posib bod ymwybyddiaeth gyffredinol o’r risgiau yn cynyddu a bod arferion y diwydiant yn gwella.
Mae digwyddiadau bwyd sy’n gysylltiedig ag alergenau wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf
Ffigur 28: Y pum alergen a oedd yn gysylltiedig amlaf â digwyddiadau bwyd
Noder: gall rhybuddion alergedd gynnwys un neu ragor o’r alergenau a restrir yn y tabl uchod.
Ffynhonnell: Cronfeydd data rheoli digwyddiadau'r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Yn y cyfamser, mae nifer yr hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl wedi aros yn sefydlog dros y tair blynedd diwethaf gyda chyfanswm o 181 o hysbysiadau wedi’u cyhoeddi. Dim ond pedwar hysbysiad FAFA a gyhoeddwyd yn ystod yr un cyfnod.
Ffigur 29: Cyfanswm yr hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl a gyhoeddwyd yn y DU
Ffynhonnell: Systemau Rheoli Digwyddiadau’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban
Datblygiadau ym maes gwyliadwriaeth bwyd ers ymadael â’r UE
Fel y gwelsom yn y bennod flaenorol, mae ymadawiad y DU â’r UE yn golygu nad oes gennym fynediad llawn at y system rhybuddio cyflym sy’n cael ei chynnal gan y Comisiwn Ewropeaidd. Cyn ymadael â’r UE, roedd y DU yn cyfathrebu’n helaeth â gwledydd eraill ar faterion diogelwch bwyd trwy’r RASFF. Erbyn hyn, mae gan y DU fynediad trydydd gwlad i’r system hon, sy’n golygu ein bod yn parhau i gael hysbysiadau perthnasol sy’n effeithio ar y DU.
Ers hynny, rydym wedi cymryd sawl cam ychwanegol i gryfhau ein dull o nodi ac ymateb i risgiau bwyd:
Cam 1: Adeiladu partneriaethau rhyngwladol newydd
Mae’r DU yn defnyddio Rhwydwaith Rhyngwladol yr Awdurdodau Diogelwch Bwyd (INFOSAN) i gyfathrebu â gwledydd eraill ar faterion diogelwch bwyd. Mae hyn eisoes wedi helpu’r DU i weithio gyda’r gymuned ryngwladol wrth ymateb i nifer o ddigwyddiadau mawr. Mae Safonau Bwyd yr Alban a’r ASB hefyd yn aelodau allweddol o weithgor INFOSAN.
Cam 2: Gwella monitro diogelwch bwyd byd-eang
Mae tîm monitro newydd yn yr ASB yn defnyddio gwybodaeth o rybuddion bwyd rhyngwladol, ffynonellau dibynadwy yn y cyfryngau, chwiliadau gwefannau, a gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi risgiau bwyd posib mewn modd rhagweithiol. Rhennir yr wybodaeth hon â Safonau Bwyd yr Alban lle bo’n berthnasol i’r Alban. Mae’r dulliau newydd hyn wedi helpu i nodi 24 o ddigwyddiadau y llynedd, tra bod 109 o gynhyrchion pellach wedi’u cyfeirio at awdurdodau eraill yn y DU ar gyfer ymchwil bellach [29].
Cam 3: Gwella prosesau atal a rheoli risg
Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban hefyd yn parhau i weithio gyda busnesau bwyd, awdurdodau gorfodi a grwpiau buddiannau defnyddwyr i wella prosesau diogelwch bwyd ar gyfer tynnu a galw bwyd yn ôl. Yn benodol, rydym yn cynyddu ein ffocws ar atal digwyddiadau trwy annog awdurdodau lleol a gweithredwyr busnesau bwyd i ddefnyddio ‘dadansoddiad o wraidd y broblem’ i’w helpu i ddeall pa ffactorau sy’n achosi digwyddiadau bwyd, a sut i’w hatal yn y dyfodol.
Cam 4: Defnyddio gwyddoniaeth y genhedlaeth nesaf
Gyda datblygiadau ym maes Dilyniannu Genom Cyfan a dadansoddiadau genetig eraill dan arweiniad Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, gall yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban bellach ddefnyddio ffyrdd cynyddol soffistigedig o nodi a deall salwch a gludir gan fwyd. Mae hyn yn ein helpu i nodi lle mae achosion yn gysylltiedig neu’n debygol o fod yn gysylltiedig â’r un ffynhonnell fwyd a chymryd camau priodol. Yn ystod 2021, llwyddodd y systemau newydd hyn i nodi nifer o faterion diogelwch bwyd pwysig sydd bellach yn destun ymchwiliadau i ddigwyddiadau [30].
Y prosiect PATH-SAFE
Yn 2021, dyfarnwyd cyllid i’r ASB, Safonau Bwyd yr Alban, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar y pryd) ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer rhaglen gwyliadwriaeth pathogenau fawr. Dechreuodd y rhaglen ddiwedd 2021 a bydd yn weithredol tan fis Mawrth 2024. Cynlluniwyd PATH-SAFE i helpu i ddiogelu bwyd, amaethyddiaeth a defnyddwyr yn y DU trwy ddefnyddio technoleg flaengar i ddeall sut mae pathogenau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd yn lledaenu. Bydd olrhain ffynhonnell y materion hyn yn ein helpu i ddatblygu strategaethau rheoli gwell i leihau salwch a marwolaethau.
Mynd i’r afael â throseddau bwyd
Diffinnir troseddau bwyd fel twyll difrifol a throseddu cysylltiedig o fewn cadwyni cyflenwi bwyd, er eu bod hefyd yn cwmpasu diodydd a bwyd anifeiliaid31. Mae unedau troseddau bwyd y DU, yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU), ac Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban (SFCIU), yn gyfrifol am ddwyn troseddwyr bwyd i gyfrif a helpu busnesau a defnyddwyr i ddiogelu eu hunain.
Gall faint o wybodaeth sy’n dod i law’r ddwy uned roi syniad o raddfa a natur troseddau bwyd yn y DU, er nad yw hyn o reidrwydd yn dangos a yw’r gyfradd droseddu gyffredinol yn cynyddu neu’n gostwng, yn rhannol am na fydd defnyddwyr a busnesau bwyd yn ymwybodol eu bod wedi dioddef twyll bwyd yn aml. Gellir dod i nifer o gasgliadau o’r dystiolaeth sydd ar gael.
Sylw 1: mae ffocws yr adroddiadau cudd-wybodaeth am droseddau bwyd a ddaeth i law yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau strategol yr unedau troseddau bwyd.
Mae ffigurau 2021 yn dangos bod y rhan fwyaf o’r gudd-wybodaeth am droseddau bwyd a ddaeth i law yn ymwneud â blaenoriaethau priodol yr unedau, fel y nodir isod. O’r 1,747 o adroddiadau cudd-wybodaeth am droseddau bwyd a ddaeth i law yn ystod 2021 (sef gwybodaeth sy’n ymwneud â throsedd bwyd newydd neu drosedd a nodwyd eisoes), roedd mwy na dwy ran o dair (69%) yn ymwneud â’r blaenoriaethau strategol hyn.
Blaenoriaethau rheoli strategol yr NFCU, 2021-22
- cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd
- cig coch
- alcohol anghyfreithlon a ffug
- pysgod cregyn
- sgil-gynhyrchion anifeiliaid
- cyflenwi anghyfreithlon i fodloni galw yn y gymuned
- Twyll dosbarthu Ewropeaidd
- e-fasnach
- gwasanaeth bwyd
Blaenoriaethau rheoli strategol yr SFCIU, 2021-22 | Themâu allweddol yr SFCIU 2021-22 |
---|---|
Pysgod | Gorgyffwrdd â throseddau cyfundrefnol difrifol |
Cig coch | Camgyfleu statws premiwm |
Alcohol | E-fasnach |
Pysgod cregyn gwyllt |
Cadwyni cyflenwi risg uchel |
Sylw 2: roedd 21 o ymchwiliadau byw yn mynd rhagddynt ar draws dwy uned troseddau bwyd y DU ddiwedd 2021.
Yn yr Alban, mae ymchwiliadau’r SFCIU wedi rhychwantu materion sy’n ymwneud ag alcohol ffug a chamgyfleu cig eidion a bwydydd eraill, yn ogystal ag ymdrin ag achos lles anifeiliaid difrifol. Mae pum achos wedi’u cyfeirio at Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Procuradur Cyllidol, gyda thri o’r rhain yn cael eu hystyried o dan y weithdrefn ddeisebu a gedwir ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol.
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ymchwiliodd yr NFCU i amrywiaeth o faterion, gan gynnwys dargyfeirio cynnyrch gwastraff o gynhyrchu cig i’r gadwyn fwyd ar gyfer pobl yn anghyfreithlon, datganiad cynhwysion ffug a ddefnyddiwyd wrth weithgynhyrchu, a gwerthu’r cemegyn gwenwynig 2,4 deunitroffenol (DNP), a hyrwyddir yn beryglus weithiau fel ‘llosgwr braster’.
Y llynedd hefyd gwelwyd yr erlyniad cyntaf o ganlyniad i ymchwiliad gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd. Roedd yr euogfarn yn ymwneud â gwerthu 2,4 deunitroffenol (DNP) ochr yn ochr â throseddau eraill a oedd yn gysylltiedig â chyffuriau a reolir a meddyginiaethau presgripsiwn-yn-unig. Cafodd diffynnydd ei garcharu am dros ddwy flynedd ar ôl pledio’n euog i’r troseddau.
Sylw 3: cyflawnwyd 100 o ‘darfiadau’ gan unedau troseddau bwyd y DU yn ystod 2021.
Nid erlyniadau yw’r unig ffordd i fynd i’r afael â throseddau bwyd. Mae’r unedau hefyd yn canolbwyntio ar ystod o fesurau sy’n rhwystro neu’n atal ymddygiad troseddol yn y lle cyntaf, ac yn cefnogi defnyddwyr a busnesau trwy ddarparu canllawiau ymarferol ar yr hyn y gallant ei wneud i amddiffyn eu hunain, gan gynnwys trwy’r Adnodd Gwytnwch rhag Twyll Bwyd newydd.
Mae’r NFCU yn disgrifio unrhyw waith a gyflawnir ganddi sy’n cael effaith amlwg ar fygythiad troseddau bwyd fel ‘tarfiad’, ac yn adrodd amdano i’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA). Yn ystod 2021, cofnododd yr NFCU 60 o darfiadau o’r fath, gan gynnwys:
- atal dros dro am gyfnod amhenodol gymeradwyaeth person i drin sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABP) ar ôl canfod bod ABP yn cael eu dargyfeirio i’r gadwyn fwyd ar gyfer pobl
- tynnu i lawr 34 o wefannau neu restriadau ar farchnadoedd ar-lein a oedd gwerthu 2,4-Deunitroffenol (DNP) i’w fwyta gan bobl
- gweithio gyda phartneriaid i atafaelu a dinistrio swm mawr o bysgod a oedd yn anaddas i’w bwyta gan bobl mewn marchnad bysgod ym mis Hydref 2021
Cyfrannodd yr SFCIU at 40 o gamau gweithredu sydd wedi helpu i ganfod, atal, neu darfu ar weithgarwch troseddol. Mae’r rhain yn helpu i atal gweithgarwch troseddau bwyd lefel isel yn ogystal â chyfrannu at ymchwiliadau i droseddau mwy difrifol, ac maent yn cynnwys:
- ymchwiliad i werthu a dosbarthu melysion yr amheuir eu bod yn rhai ffug ledled y DU
- gweithio gydag awdurdodau lleol ar sawl achlysur i bennu geirwiredd cudd-wybodaeth a chymryd camau gorfodi lle bo’n briodol
Edrych i’r dyfodol
Mae newidiadau ym mhatrymau troseddau bwyd yn tueddu i adleisio datblygiadau yn y ffordd y caiff y system cyflenwi bwyd ei threfnu, a’r hyn rydym ni fel defnyddwyr yn ei flaenoriaethu.
Yn ystod y pandemig, roedd rhai honiadau anghywir ar fwyd ac atchwanegiadau mewn perthynas â COVID-19, ond roeddent yn droseddau graddfa fach ac ymchwiliwyd iddynt i raddau helaeth gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.
Yn gyffredinol, nid oedd unrhyw gynnydd canfyddadwy mewn troseddau bwyd o ganlyniad i’r pandemig. Yn yr un modd, prin yw’r dystiolaeth o droseddwyr yn ecsbloetio ein hymadawiad â’r UE, er bod y ddwy uned troseddau bwyd yn parhau i fod yn wyliadwrus.
Gan edrych i’r dyfodol, mae’r ddwy uned troseddau bwyd bellach yn meithrin perthnasoedd cryfach â llwyfannau manwerthu bwyd ar-lein, cynhyrchwyr bwyd, a rhanddeiliaid eraill er mwyn achub y blaen ar unrhyw gynnydd posibl mewn twyll neu arferion anghyfreithlon eraill yn y blynyddoedd i ddod.
Trwy’r Gynghrair Fyd-eang ar Droseddau Bwyd, maent hefyd yn chwarae rhan amlwg mewn mentrau rhyngwladol i fynd i’r afael â throseddau bwyd, gan gynnwys cymryd rhan weithredol yn Ymgyrch OPSON, sy’n targedu bwyd a diod ffug ac israddol yn fyd-eang.
Yn olaf, yn yr Alban, mae’r SFCIU yn gweithio gyda nifer o asiantaethau i fynd i’r afael â gweithgareddau troseddol penodol sy’n effeithio ar dda byw, gydag ymchwiliadau yn mynd rhagddynt i achosion a amheuir o dwyll tagiau clustiau, defnydd anghyfreithlon o basbortau gwartheg a phryderon am les anifeiliaid.
I grynhoi
- Mae ein systemau gwyliadwriaeth ac ymateb a’r ffordd rydym yn cydweithio’n rhyngwladol wedi newid o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r UE. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod gweithgarwch troseddol mewn cadwyni cyflenwi bwyd wedi cynyddu. Bydd y ddwy uned troseddau bwyd yn parhau i fonitro bygythiadau sy’n dod i’r amlwg yn agos.
- Mae achosion o ddigwyddiadau bwyd yr adroddwyd amdanynt a gwybodaeth sydd wedi dod i law am droseddau bwyd yn parhau i fod yn gymharol sefydlog – bu gostyngiad mewn rhai mathau o ddigwyddiadau bwyd yr adroddwyd amdanynt yn ystod anterth y pandemig, ond mae lefelau bellach yn dechrau dychwelyd i lefelau a welwyd cyn COVID-19.