Pecyn ymgynghori ar un cais i awdurdodi ychwanegyn bwyd i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r cais am gynnyrch rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’i gyflwyno i’w awdurdodi.
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf:
- gwneuthurwyr, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr bwyd anifeiliaid
- pob prynwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
- cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd
- undebau llafur sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio
- sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a chadwyni bwyd anifeiliaid
- Awdurdodau Gorfodi
Rhanddeiliaid allweddol
Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r cymdeithasau masnach rhanddeiliaid allweddol canlynol, sydd â buddiant sylweddol mewn ychwanegion bwyd anifeiliaid a’u defnydd ym maes maeth bwyd anifeiliaid a’r sector amaeth ehangach, ac a gynrychiolir ar draws pedair gwlad y DU, er mwyn cael eu hadborth am yr ymgynghoriad hwn:
- Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC)
- Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Atchwanegiadau ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid Prydain (BAFSAM)
- Cymdeithas Masnach Grawn Gogledd Iwerddon (NIGTA)
- Cymdeithas Masnach Marchogaeth Prydain (BETA)
- Y Gymdeithas Masnach Grawn a Bwyd Anifeiliaid (GAFTA)
- Swyddfa Genedlaethol Iechyd Anifeiliaid (NOAH)
- UK Pet Food (y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Bwyd Anifeiliaid Anwes gynt)
Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.
Pwnc a diben yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio adborth rhanddeiliaid ar y cais am gynnyrch rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon. Mae’r cais hwn wedi’i gyflwyno ar gyfer awdurdodiad newydd.
Bydd argymhelliad rheoli risg yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS), yr asesiad diogelwch a’r safbwyntiau a gesglir drwy’r ymgynghoriad hwn yn cael eu rhannu â gweinidogion Cymru, Lloegr a’r Alban i gefnogi eu penderfyniadau, a bydd Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon yn cael gwybod y diweddaraf hefyd.
Mae ymgynghoriad cyfochrog yn cael ei gyhoeddi gan FSS i gefnogi gweinidogion yn eu penderfyniadau yn yr Alban.
Manylion yr ymgynghoriad
Cyflwyniad
Er mwyn cael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig ym Mhrydain Fawr. Mae’r gweinidogion priodol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gwneud y penderfyniad terfynol ar awdurdodi, a rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon.
Mae’r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn drefniant anstatudol rhwng llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i sefydlu dulliau cyffredin o ymdrin â meysydd polisi lle mae pwerau wedi dychwelyd o’r UE o fewn meysydd o gymhwysedd datganoledig. Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â’r ymrwymiadau i gydweithio ar draws y pedair gwlad a nodir yn y fframwaith hwn. Cytunir ar argymhellion terfynol gan y pedair gwlad cyn eu cyflwyno i weinidogion. Mae’r ASB ac FSS wedi bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod safonau uchel y DU o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a diogelu defnyddwyr yn parhau. Mae hyn yn unol â chyfrifoldeb yr ASB ac FSS i ddarparu argymhellion i weinidogion ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd (adrannau 6 a 9 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 ac adran 3 o Ddeddf Bwyd 2015 yn yr Alban).
Mae ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig ar gyfer marchnad Prydain Fawr, gan gynnwys ychwanegion bwyd anifeiliaid, yn destun proses dadansoddi risg y DU.
Mabwysiadodd yr ASB/FSS ganllawiau technegol a phrosesau sicrhau ansawdd a ddefnyddir gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) er mwyn gallu cynnal asesiadau risg Prydain Fawr ar gyfer ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Gweler y ddolen ar gyfer yr asesiad diogelwch unigol.
Ein haseswyr risg sy’n cyflwyno’r wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor. Maent yn gyfrifol am nodi a disgrifio peryglon a risgiau i iechyd, ac asesu lefelau cysylltiad (exposure). Mae’r cais hwn am ychwanegyn bwyd anifeiliaid wedi bod yn destun asesiad diogelwch gan yr ASB/FSS, gan gynnwys adolygiad o goflen yr ymgeisydd a gwybodaeth atodol. Yn dilyn yr asesiad diogelwch, mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar yr awdurdodiad arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid.
Mae’r ymgynghoriad hwn a dogfen argymhellion rheoli risg yr ASB/FSS yn cyflwyno argymhelliad yr ASB/FSS a’r ffactorau y mae’r ASB/FSS wedi nodi eu bod yn berthnasol i’r cais hwn, gan gynnwys effaith bosib unrhyw benderfyniad a wneir gan weinidogion. Gwahoddir rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn i roi sylwadau ar y ffactorau hyn neu i nodi unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu dwyn at sylw gweinidogion cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd gweinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gwneud penderfyniadau ar awdurdodi, gyda Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Byddant yn ystyried argymhelliad yr ASB/FSS, unrhyw ddarpariaethau perthnasol mewn cyfraith a gymathwyd, ac unrhyw ffactorau dilys eraill, gan gynnwys y rhai a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.
Pwnc yr ymgynghoriad hwn
Yn unol â chyfraith a gymathwyd ar ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, mae’r cais sydd wedi’i gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn wedi’i gyflwyno am awdurdodiad newydd.
Mae ychwanegion bwyd yn sylweddau, yn ficro-organebau neu’n baratoadau (ar wahân i ddeunyddiau a rhag-gymysgeddau bwyd anifeiliaid) sy’n cael eu hychwanegu’n fwriadol at fwyd anifeiliaid neu ddŵr er mwyn cyflawni un neu fwy o swyddogaethau penodol, fel yr amlinellir yn yr adran ‘Gwybodaeth atodol am ychwanegion bwyd anifeiliaid’. Er mwyn rhoi ychwanegion bwyd anifeiliaid ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003. Caiff ychwanegion bwyd anifeiliaid eu hawdurdodi am gyfnod o ddeng mlynedd. Mae’r weithdrefn ar gyfer y cais hwn wedi’i nodi yn Rheoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 o dan Erthygl 4 ac Erthygl 7 – cais am awdurdodiad newydd neu ddefnydd newydd o ychwanegyn bwyd anifeiliaid.
Effeithiau
Fel rhan o’r broses dadansoddi risg, mae’r ASB/FSS wedi asesu’r effeithiau posib pe bai gweinidogion yn penderfynu awdurdodi’r cais hwn am ychwanegyn bwyd anifeiliaid. Ni wnaeth ein cyd-asesiad o’r cynigion nodi unrhyw effeithiau sylweddol. Roedd yr effeithiau a ystyriwyd yn cynnwys y rheiny a gafodd eu nodi amlaf fel effeithiau posib wrth gyflwyno neu ddiwygio cyfraith bwyd anifeiliaid (hynny yw, gwaith gweithredu awdurdodau lleol, iechyd, yr amgylchedd, twf, arloesi, masnach, cystadleuaeth, buddiannau defnyddwyr, neu fusnesau bach a micro). Yn gyffredinol, dylai awdurdodi’r cynnyrch hwn arwain at fwy o gystadleuaeth yn y farchnad, gan gefnogi twf ac arloesi yn y sector.
Yn unol â’r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan yn llawn yn y prosesau dadansoddi risg sy’n ymwneud â diogelwch bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn adlewyrchu rôl annatod Gogledd Iwerddon yn y DU ac yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad a wneir yn ystyried yn llawn yr effeithiau posib ar y DU yn ei chyfanrwydd.
Yr effaith o ran Gogledd Iwerddon
Ers mis Hydref 2023, mae Fframwaith Windsor yn caniatáu i safonau’r DU fod yn gymwys ar gyfer nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw sy’n cael eu symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon a’u gosod ar farchnad Gogledd Iwerddon drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon.
Mae’r cynllun yn ymestyn i rai bwydydd anifeiliaid anwes. Ni fyddai bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol penodol (PARNUTs) nac ychwanegion bwyd anifeiliaid, p’un a ydynt yn cael eu defnyddio i gynhyrchu bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu eu bwydo’n uniongyrchol i dda byw, yn bodloni’r diffiniad o nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol, ac felly ni fyddent yn gallu elwa ar y cynllun. Fodd bynnag, os bydd nwyddau’n aros yng Ngogledd Iwerddon, gall masnachwyr elwa ar y Cynllun Cymorth Symud i adennill costau sy’n gysylltiedig ag ardystio.
Yng Ngogledd Iwerddon, bydd ychwanegion bwyd anifeiliaid a ddefnyddir mewn nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon yn gallu cael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, yn unol ag ymrwymiad cadarn llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Ogledd Iwerddon fynediad dilyffethair i farchnad Prydain Fawr.
Ffactorau dilys eraill
Rydym wedi ystyried amrywiaeth o ffactorau dilys y dymunai gweinidogion eu hystyried o bosib wrth wneud penderfyniadau am y cais hwn, gan gynnwys ffactorau gwleidyddol, economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, dichonoldeb technegol, a ffactorau o ran buddiannau defnyddwyr ac ymddygiadau defnyddwyr. Ni nododd ein cyd-asesiad o’r ffactorau dilys eraill unrhyw beth o bwys. Fodd bynnag, ar gyfer y cais yn yr ymgynghoriad hwn a’n cyd-asesiad o’r cais hwn, dyma’r materion i’w nodi:
Effeithiau ar fasnach
Cais RP16 – nid yw celad cromiwm o DL-methionin wedi’i awdurdodi yn yr UE i’w fwyta gan wartheg godro. Mae’r ASB/FSS wedi asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ac yn cefnogi argymell awdurdodi RP16 i’w fwyta gan wartheg godro, gan arwain at wahaniaeth rhwng Prydain Fawr a’r UE.
Gwybodaeth atodol am ychwanegion bwyd anifeiliaid
Caiff ychwanegion bwyd anifeiliaid eu dosbarthu o dan bum categori bras, fel yr amlinellir yn Erthygl 6 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003, a’u diffinio ymhellach ar gyfer swyddogaethau penodol yn Atodiad I i Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003. Dyma’r categorïau:
- Ychwanegion technolegol (er enghraifft, ychwanegion neu gyffeithyddion (preservatives) silwair)
- Ychwanegion synhwyraidd (lliwiau neu gyflasynnau)
- Ychwanegion maethol (er enghraifft, asidau amino ac elfennau hybrin)
- Ychwanegion söotechnegol, i gyflawni swyddogaethau arbenigol (er enghraifft, gwella treuliadwyedd bwyd anifeiliaid)
- Cocsidiostatau a histomonostatau i reoli parasitiaid perfedd
Nodir micro-organebau (er enghraifft, bacteria, burum neu ffyngau) gan god adnabod unigryw sy’n ymwneud â’u dyddodiad i gasgliad o feithriniadau a gydnabyddir yn rhyngwladol; er enghraifft, y Casgliad Cenedlaethol o Facteria Diwydiannol, Bwyd a Morol (NCIMB) yn y DU, neu Gasgliad America o Fathau o Feithriniadau (ATCC).
Gall ychwanegion bwyd anifeiliaid gael eu cynhyrchu o fathau o ficro-organebau a addaswyd yn enetig; fodd bynnag, ni chanfuwyd y straenau cynhyrchu a’u DNA yn yr ychwanegion bwyd anifeiliaid gorffenedig. O ganlyniad, nid oes angen yr amodau olrhain a bennir gan ddeddfwriaeth GMO ar yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid.
Gall ychwanegion bwyd anifeiliaid fod wedi’u bwriadu ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid, neu ar gyfer prif rywogaethau neu is-grwpiau diffiniedig (er enghraifft, dofednod neu ieir dodwy), fel y diffinnir yn Atodiad IV i Reoliad a gymathwyd (CE) 429/2008. Yn ogystal, gellir allosod grwpiau rhywogaethau i rywogaethau lleiaf (er enghraifft, mân ddofednod fel hwyaid neu wyddau) neu grwpiau anifeiliaid eraill y gofynnir amdanynt yn y cais (er enghraifft, adar hela), fel y nodir yn Erthygl 7(5) o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003. Mae ‘rhywogaeth leiaf’ yn cyfeirio at anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac eithrio gwartheg (anifeiliaid llaeth a chig, gan gynnwys lloi), defaid (anifeiliaid cig), moch, ieir (gan gynnwys ieir dodwy), twrcïod a physgod sy’n perthyn i Salmonidae, fel y diffinnir yn Erthygl 1(2) o Reoliad a gymathwyd (CE) 429/2008.
Gall anifeiliaid fod wedi’u bwriadu i’w bwyta’n uniongyrchol gan bobl (er enghraifft, moch i’w pesgi neu dwrcïod i’w pesgi), tra bo is-grwpiau anifeiliaid ychwanegol at ddibenion bridio yn unig nad yw’n fwriad iddynt gyrraedd y gadwyn fwyd yn uniongyrchol (er enghraifft, hychod ar gyfer atgenhedlu neu dwrcïod a fegir i’w bridio).
Wrth gyfeirio at fwyd anifeiliaid cyflawn yn y ddogfen hon, cyfeirir at yr hyn sy’n cyfateb i fwyd anifeiliaid cyfansawdd sydd, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigonol ar gyfer dogn dyddiol yr anifeiliaid. Mae’r term hwn a ddefnyddir drwyddi draw wedi’i safoni i fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%, a lle cyfeirir at isafswm ac uchafswm cynnwys ar y sail hon, oni nodir yn wahanol. Gall cynigion ar gyfer adnewyddu awdurdodiadau isod gynnwys gwybodaeth ychwanegol o gymharu â’r awdurdodiad cyfredol, nad yw, ynddo’i hun, yn gyfystyr ag addasu awdurdodiad. Er enghraifft, gellir disgrifio nodweddion yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn fwy penodol, fel cyfeirio at baratoad solet neu gelloedd hyfyw, hyd yn oed os oedd y nodweddion hynny’n gymwys yn yr awdurdodiad cyfredol. Mae gwelliannau pellach i’r testun hefyd wedi’u safoni; er enghraifft labelu ar gyfer storio a sefydlogrwydd gwres (o dan yr adran ‘Darpariaethau eraill’).
Y Broses Ymgysylltu ac Ymgynghori
Cyhoeddir manylion yr holl geisiadau dilys am gynhyrchion rheoleiddiedig ar y Gofrestr Ceisiadau ar gyfer Cynhyrchion Rheoleiddiedig a gyhoeddir bob mis ar wefan yr ASB.
Gwahoddir rhanddeiliaid i ystyried y cwestiynau a ofynnir isod mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol a ffactorau dilys eraill.
Yn dilyn y broses ymgynghori, bydd ymatebion yn cael eu cyhoeddi, a byddant ar gael i randdeiliaid a gweinidogion.
Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:
- Oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch diogelwch yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn nad ydynt wedi’u hystyried isod mewn perthynas â’r rhywogaethau anifeiliaid, y defnyddwyr (o ran defnyddio cynhyrchion anifeiliaid), a’r gweithwyr bwriadedig, neu’r effeithiau amgylcheddol?
- Oes gennych chi unrhyw sylwadau neu bryderon am yr effeithiau, wrth ystyried awdurdodi neu beidio ag awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn? Os ydych chi o blaid awdurdodi, oes gennych chi unrhyw sylwadau ar delerau arfaethedig yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn os caiff ei awdurdodi (fel yr amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn)?
- Oes unrhyw ffactorau eraill y dylai gweinidogion eu hystyried nad ydynt wedi’u hamlygu?
- Oes gennych chi unrhyw adborth arall? Ystyriwch unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol a ffactorau dilys eraill a allai gefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymegol a chyfiawnadwy.
Ymatebion
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am 4 wythnos. Mae angen cyflwyno ymatebion erbyn canol nos, dydd Sul 1 Medi 2024.
Sut i ymateb
Dylech ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk.
Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych chi.
Dylid anfon ymatebion o Gymru gan ddefnyddio’r camau uchod. Caiff yr holl sylwadau sy’n dod i law eu rhannu â’r ASB yng Nghymru.
O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar wefan yr ASB.
I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau.
Bydd yr ymatebion yn cael eu rhannu â gweinidogion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mwy o wybodaeth
Os oes angen fformat mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, cysylltwch â’n llinell gymorth drwy ffonio 0330 332 7149. Mae’r llinell ar agor o 9am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fel arall, gallwch gyflwyno ymholiad ar-lein i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth y DU.
Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Yn gywir,
Y Tîm Cymeradwyo Cynhyrchion Rheoleiddiedig
Y Gyfarwyddiaeth Strategaeth a Chydymffurfiaeth Reoleiddiol
Atodiad A: RP16 – Celad cromiwm o DL-methionin fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer gwartheg godro (Availa® Cr) (Zinpro Animal Nutrition (Europe), Inc.) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003 ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP16 am awdurdodiad newydd ar gyfer celad cromiwm o DL-methionin (Availa® Cr) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid söotechnegol o dan y grŵp swyddogaethol o ‘ychwanegion söotechnegol eraill’ (fel y nodir ym mharagraff 4(d) o Atodiad I i Reoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003). Swyddogaeth yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yw cynyddu llaeth mewn gwartheg godro.
Cyflwynwyd cais i awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer gwartheg godro.
Argymhellir defnyddio celad croniwm o DL-methionin ar isafswm o 0.2 mg/kg ac uchafswm o 0.5 mg/kg o gromiwm mewn bwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%.
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS
Argymhelliad rheoli risg yr ASB/FSS yw bod celad cromiwm o DL- methionin (Availa® Cr), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaethau targed, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnyddio arfaethedig.
Mae asesiad diogelwch yr ASB/FSS, a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr ASB:
Hanes diwygio
Published: 23 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Awst 2024