Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Pecyn ymgynghori ar gyfer Diwygiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793: Rheolaethau Swyddogol a Gynhelir ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel a Fewnforir nad ydynt yn Dod o Anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Ymgynghoriad sy’n ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar ddiwygiadau arfaethedig ar gyfer diweddaru’r rhestrau yn yr Atodiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793. Byddai’r diwygiadau arfaethedig yn cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae Safonau Bwyd yr Alban wedi lansio ymgynghoriad cyfochrog ar wahân yn yr Alban. 

Pwnc yr ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig ar gyfer diweddaru’r rhestrau o fewn Rheoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793 sy’n cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodol.

Diben yr ymgynghoriad 

Ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar ddiwygiadau arfaethedig ar gyfer diweddaru’r rhestrau yn yr Atodiadau i Reoliad (UE) a Ddargedwir 2019/1793 (y Rheoliad).

Manylion yr ymgynghoriad 

Cyflwyniad 

Mae’r awdurdodau priodol ym Mhrydain Fawr yn gyfrifol am adolygu a diweddaru’r ddeddfwriaeth mewnforio bwyd yn ôl yr angen. Yr awdurdodau priodol yw Gweinidogion Cymru yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr, a Gweinidogion yr Alban yn yr Alban. Mae’n ofynnol i’r awdurdod priodol adolygu’r rhestrau a nodir yn yr Atodiadau i’r Rheoliad yn rheolaidd er mwyn ystyried gwybodaeth newydd sy’n ymwneud â risgiau a diffyg cydymffurfio.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban wedi cynnal 
adolygiad ar y cyd o’r rhestrau yn yr Atodiadau sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliad.  Bydd diweddaru’r rheolaethau cyfredol yn galw am osod Offeryn Statudol ym mhob gwlad (Cymru, Lloegr a’r Alban).

Cyflawnir yr adolygiad hwn trwy broses dadansoddi risg ar y cyd rhwng yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban fel y gall Gweinidogion wneud penderfyniadau rheoli risg ar sail argymhellion yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban.

Dylid nodi mai dim ond i Brydain Fawr ac nid Gogledd Iwerddon y bydd penderfyniadau a newidiadau i reolaethau ar fwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd yn gymwys, a hynny oherwydd y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid o dan Fframwaith Windsor.

Rheolaethau cyfredol 

Gellir mewnforio’r rhan fwyaf o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr heb reolaethau ychwanegol, uwch. Fodd bynnag, dim ond trwy Safleoedd Rheoli ar y Ffin a gymeradwywyd yn briodol y gall mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid risg uwch nad ydynt yn dod o anifeiliaid o wledydd penodol ddod i mewn i’r DU lle bo rheolaethau swyddogol yn cael eu cynnal, fel archwiliadau dogfennol, adnabod, a ffisegol, gan gynnwys samplu. Ystyr cynnyrch risg uwch yw bwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi’i nodi naill ai fel risg hysbys neu risg sy’n dod i’r amlwg neu oherwydd bod tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio difrifol a helaeth â deddfwriaeth cadwyn bwyd-amaeth y DU. Gall hyn fod oherwydd presenoldeb pathogenau, halogion, a thocsinau, gan gynnwys afflatocsinau.

Mae’r Rheoliad yn nodi yn ei Atodiadau restrau o fwyd a bwyd anifeiliaid risg uwch nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n destun rheolaethau manylach wrth y ffin.

Mae llwythi bwyd a bwyd anifeiliaid a restrir yn Atodiad I i’r Rheoliad yn destun cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol mewn Safleoedd Rheoli ar y Ffin wrth fynd i mewn i Brydain Fawr trwy safleoedd rheoli.

Mae Atodiad II i’r Rheoliad yn nodi’r rhestr o lwythi bwyd a bwyd anifeiliaid o drydydd gwledydd penodol sy’n destun amodau arbennig er mwyn dod i mewn i Brydain Fawr oherwydd risg halogiad gan fycotocsinau, gan gynnwys afflatocsinau, gweddillion plaladdwyr, pentacloroffenol a diocsinau, a halogiad microbiolegol.

Mae’r bwyd a’r bwyd anifeiliaid a restrir yn Atodiad IIa wedi’u hatal rhag dod i mewn i Brydain Fawr.

Adolygiad

Roedd yr adolygiad yn dilyn y broses dadansoddi risg a sefydlwyd gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Cafodd bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u mewnforio o wledydd penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid eu nodi i’w hasesu gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban, a hynny’n seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd. Roedd y nwyddau hyn a fewnforiwyd yn destun asesiad o’r risgiau i ddefnyddwyr; gwnaed hyn fesul categori risg. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad o ddata mewnforion Prydain Fawr, sy’n nodi cyfanswm mewnforion o’r fath, canlyniadau samplu, nifer y llwythi y canfuwyd nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid Prydain Fawr, cysylltiad disgwyliedig defnyddwyr â’r nwyddau, a’r risg y gallai ei pheri i iechyd defnyddwyr.
 
Ystyriwyd canlyniadau’r categoreiddio risg, ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall, gan reolwyr risg yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban a swyddogion polisi wrth wneud cynigion ar gyfer argymhellion o ran newidiadau mewn rheolaethau swyddogol. Mae’r holl argymhellion a gynigir wedi’u seilio ar wyddoniaeth a thystiolaeth. 

Mae’r holl argymhellion wedi’u datblygu a’u hystyried drwy weithgor arbenigol pedair gwlad, yn unol â’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, a chytunwyd arnynt gan swyddogion yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. O dan delerau Fframwaith Windsor, o dan Gytundeb Ymadael y DU â’r UE, nodir y bydd Gogledd Iwerddon yn parhau i gymhwyso rheoliadau’r UE yn y maes hwn. 

Prif argymhellion 

Mae’r gweithgor arbenigol wedi gwneud cyfres o argymhellion ynghylch nwyddau yr ydym yn eu hargymell, ac sy’n galw am newidiadau i lefel y rheolaethau swyddogol ar gyfer rhai mathau o fwyd a bwyd anifeiliaid o wledydd penodol. Mae’r argymhellion i’w gweld yn yr adran ‘effeithiau’ yn y ddogfen hon. Pan fo’r dystiolaeth yn awgrymu nad oes angen mwy o reolaethau swyddogol ar rai nwyddau bellach oherwydd bod y risg wedi’i rheoli’n effeithiol trwy gydymffurfiaeth well, rydym yn argymell y dylai’r nwyddau hynny gael eu tynnu oddi ar y rhestrau, tra dylai’r amlder gwirio gynyddu neu leihau ar gyfer rhai nwyddau yn dibynnu ar lefel y risg a berir. Argymhellir addasiadau er mwyn adlewyrchu risgiau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, gan sicrhau bod gan ddefnyddwyr ym Mhrydain Fawr fynediad o hyd at fwyd a fewnforir sy’n ddiogel.

Rydym yn bwriadu cyflwyno’r argymhellion hyn i Weinidogion. Mae diogelwch bwyd yn fater datganoledig, a bydd y penderfyniadau’n cael eu gwneud gan Weinidogion ym mhob un o’r gwledydd datganoledig. 

Unwaith y bydd Gweinidogion wedi cytuno i dderbyn ein hargymhellion, bydd angen is-ddeddfwriaeth ym mhob gwlad i ddiwygio’r Rheoliad. Y bwriad yw y bydd deddfwriaeth i weithredu canlyniad yr adolygiad hwn yn dod i rym ddechrau 2024. 

Effeithiau

Mae’r argymhellion arfaethedig yn cynnwys 39 o ddiweddariadau unigol i’r rhestrau sydd wedi’u cynnwys yn Atodiadau I a II. Cânt eu hegluro yn y tabl trosodd, ac maent wedi’u crynhoi fel a ganlyn:  

  • Dylid tynnu dau gynnyrch o gwmpas y rheolaethau. Rydym wedi bod yn monitro lefelau cydymffurfio’r nwyddau hyn ers iddynt gael eu rhestru yn yr Atodiadau sawl blwyddyn yn ôl. Mae data a gafwyd trwy ein System Rhybuddio Cynnar (EWS) a thrwy hysbysiadau ffiniau a hysbysiadau eraill yn dangos bod lefel y risg wedi lleihau yn sylweddol. Ar sail ein hasesiad o’r data, rydym yn ystyried nad oes angen i’r rheolaethau uwch hyn fod ar waith mwyach gan ei fod yn dangos gyda lefel uchel o sicrwydd y byddai tynnu’r rheolaethau yn peri risg ddibwys i iechyd y cyhoedd. 
  • Dylai pedwar cynnyrch fod yn destun llai o wiriadau. Wedi i ni gynnal y lefel uchaf o reolaethau uwch ar y nwyddau hyn dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi casglu digon o ddata i’n gwneud yn fwyfwy hyderus bod lefel y cydymffurfio yn gwella. Dylai’r cynhyrchion hyn fod yn destun y lefel hon o fonitro hyd nes y byddwn yn fodlon bod y risg a berir wedi lleihau ymhellach.
  • Dylai tri chynnyrch fod yn destun rhagor o reolaethau uwch am fod gennym bryderon ynghylch y risg maen nhw’n ei pheri i iechyd y cyhoedd. Mae’r nwyddau hyn wedi bod yn destun monitro a gwyliadwriaeth yn Safleoedd Rheoli ar y Ffin Prydain Fawr dros sawl blwyddyn. Mae’r wybodaeth a gafwyd o’r rheolaethau hyn, yn ogystal â data o wledydd eraill, yn dangos nad yw lefelau diffyg cydymffurfio yn gwella. Felly, ystyrir bod rheolaethau llymach, sy’n rhoi’r pwyslais ar y wlad sy’n allforio i roi sicrwydd ynghylch y cynnyrch, yn briodol ar hyn o bryd.  
  • Cafodd 20 o gynhyrchion newydd eu cyflwyno, a dylent fod yn destun rheolaethau uwch oherwydd pryderon eu bod yn peri risg i iechyd y cyhoedd. Mae’r nwyddau hyn wedi’u nodi trwy EWS yn ogystal â data samplu a gwybodaeth o ffynonellau eraill. Bydd y cynhyrchion yn destun lefel gymesur o fonitro yn Safleoedd Rheoli ar y Ffin Prydain Fawr i gasglu tystiolaeth a fydd yn cael ei defnyddio i ddod i benderfyniad, sef naill ei eu tynnu o’r rheolaethau yn gyfan gwbl neu gynyddu lefel y gwiriadau a gynhelir. 
  • Bydd codau ‘CN’ deg o gynhyrchion sydd eisoes dan reolaeth yn cael eu diweddaru, gan ehangu’r ystod o nwyddau sy’n destun gwiriadau ar y ffin. 

Mae’r nwyddau a restrir yn Atodiad I i’r Rheoliad yn cael eu rheoli dros dro er mwyn helpu i bennu a allai fod angen mesurau llymach yn ddiweddarach. O’r herwydd, mae unrhyw effeithiau yn debygol o fod yn rhai byrdymor. Mae’r nwyddau a restrir yn Atodiad II i’r Rheoliad yn fwy sefydlog eu natur, ond cânt eu cynnwys yn yr adolygiad a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Unwaith y bydd y lefel risg yn newid, bydd lefel y rheolaeth yn cael ei diwygio. Mae’r penderfyniadau ar y nwyddau a restrir yn yr Atodiadau i’r Rheoliad wedi’u seilio ar risg, ac felly maent yn ymwneud â’r wlad tarddiad benodol yn unig. Felly, gall mewnforwyr y DU fewnforio o wledydd eraill ar draws y byd nad yw eu cynhyrchion wedi’u nodi fel rhai ‘risg uchel’ a lle nad yw rheolaethau mewnforio uwch yn berthnasol.

Mae’n debygol y bydd costau ymgyfarwyddo nominal i awdurdodau lleol ac Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd mewn perthynas â’r diweddariadau rheolaidd. Gellir adennill costau cynnal rheolaethau swyddogol ar y ffin trwy godi ffioedd a thaliadau. Dim ond trwy Safleoedd Rheoli ar y Ffin sydd eisoes wedi’u sefydlu ym Mhrydain Fawr y gellir mewnforio nwyddau risg uchel.

Am y rhesymau a amlinellir, yn Lloegr, ni chynhyrchwyd asesiad effaith gan y rhagwelir y bydd yr effaith yn is na’r trothwy de minimis o +/- £5m o ran y gost uniongyrchol net flynyddol gyfwerth i fusnesau.

O dan god asesiad effaith rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth, nid oes angen Asesiad Effaith Rheoleiddiol pan fo diwygiadau ffeithiol yn cael eu gwneud i ddiweddaru is-ddeddfwriaeth ac nad ydynt yn newid y polisi (na’i effaith) mewn unrhyw ffordd arwyddocaol na sut y caiff ei gymhwyso mewn sefyllfa benodol. Felly, nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi’i gynnal yng Nghymru.

Nodir y bwyd a’r bwyd anifeiliaid a restrir yn yr Atodiadau ar sail y codau o’r Dull Enwi Cyfun a’r is-adran TARIC.

Mae’r diwygiadau arfaethedig wedi’u nodi yn y tabl canlynol: 

Atodiad I

Gwlad tarddiad Bwyd a bwyd anifeiliaid (defnydd bwriadedig) Cod CN Is-adran TARIC Perygl Amlder gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod (%) Argymhelliad Rheoli Risg

Bolivia 

(BO)

Pâst cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex 2007 10 10 

ex 2007 10 99

ex 2007 99 39

80 

50 

07;08

Afflatocsinau 50% Cynnyrch newydd o dan y rhestr bresennol. I’w ychwanegu fel rhes o dan ‘Cacen olew a gweddillion solet eraill’. 

Brasil (BR)

Cnau daear (pysgnau),
mewn plisgyn
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

1202 41 00 - Afflatocsinau - Dileu

Brasil (BR)

Cnau daear (pysgnau), heb blisgyn
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

1202 42 00 - Afflatocsinau - Dileu

Brasil (BR)

Menyn pysgnau
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

2008 11 10  - Afflatocsinau - Dileu

Brasil (BR)

Cnau daear (pysgnau), wedi’u paratoi neu eu cadw fel arall
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

2008 11 91;

2008 11 96;

2008 11 98

- Afflatocsinau - Dileu

Brasil (BR)

Cacen olew a gwaddodion solet eraill, boed wedi’u malu neu ar ffurf peledi, sy’n deillio o echdynnu olew cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

2305 00 00 - Afflatocsinau - Dileu

Brasil (BR)

Blawd cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex1208 90 00 20 Afflatocsinau - Dileu

Brasil (BR)

Pâst cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex 2007 10 10 

ex 2007 10 99 

ex 2007 99 39

80 

50 

07;08

Gweddillion plaladdwyr 20% Cynnyrch newydd o dan y rhestr bresennol. I’w ychwanegu fel rhes o dan ‘Blawd cnau daear’. 
Tsieina (CN)

Pâst cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex 2007 10 10 

ex 2007 10 99 

ex 2007 99 39

80 

50 

07;08

Afflatocsinau 10% Cynnyrch newydd o dan y rhestr bresennol. I’w ychwanegu fel rhes o dan ‘Blawd cnau daear’. 
Tsieina (CN)

Pupurau melys (Capsicum annuum)
(Bwyd – wedi’i wasgu neu wedi’i falu)

ex 0904 22 00 11 Salmonela 10% Lleihau amlder gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod yn Atodiad I.
Colombia (CO) Granadila a ffrwyth pasiwn (Passiflora ligularis and Passiflora edulis)
(Bwyd)
ex 0810 90 20 30 Gweddillion plaladdwyr 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol. 
Ecuador (EC) Bananas 
(Ffres a sych) 
080390 - Gweddillion plaladdwyr 5% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 5% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Yr Aifft (EG) Orenau
(Bwyd – ffres neu sych)
0805 10 - Gweddillion plaladdwyr 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Ghana (GH) Olew palmwydd
(Bwyd)

1511 10 90

1511 90 11

ex1511 90 19

1511 90 99

90 Llifynnau Sudan 20% Lleihau amlder gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod yn Atodiad I.
India (IN) Coed drymffyn (Moringa oleifera)
(Bwyd – ffres, wedi’i oeri neu wedi’i rewi)

ex 0709 99 90

ex 0710 80 95   

10 

75

Gweddillion plaladdwyr 20% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 20% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
India (IN) Reis
(Bwyd)
1006 -

Afflatocsinau ac Ocratocsin A 

Gweddillion plaladdwyr

5% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 5% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
India (IN) Sinamon a blodau coeden sinamon
(Bwyd – sbeisys sych)
0906 - Gweddillion plaladdwyr 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
India (IN) Clofs (ffrwyth cyfan, clofs a choesynnau)
(Bwyd – sbeisys sych)
0907 - Gweddillion plaladdwyr 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
India (IN) Nytmeg, mês a chardamoms
(Bwyd – sbeisys sych)
0908 - Gweddillion plaladdwyr 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
India (IN) Hadau anis, badian, ffenigl, coriander, cwmin neu garwe, aeron meryw
(Bwyd – sbeisys sych)
0909 - Gweddillion plaladdwyr 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
India (IN) Sinsir, saffrwm, tyrmerig (curcuma), teim, dail llawryf, cyrri a sbeisys eraill
(Bwyd – sbeisys sych)
0910 - Gweddillion plaladdwyr 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Iran (IR) Hadau melon
(Bwyd)
1207 70 - Afflatocsinau 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Kenya (KE) Pupurau o’r genws Capsicum (ac eithrio rhai melys)
(Bwyd – ffres, wedi’i oeri neu wedi’i rewi)

ex 0709 60 99 

ex 0710 80 59

20

20

Gweddillion plaladdwyr 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Madagascar (MG) Ffa llygatddu (Vigna unguiculata)
(Bwyd)
0713 35 00 - Gweddillion plaladdwyr 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Pacistan (PK) Reis
(Bwyd)
1006 -

Afflatocsinau ac Ocratocsin A 

Gweddillion plaladdwyr

5% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 5% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
 
Pacistan (PK) Cymysgeddau sbeisys
(Bwyd)

0910 91 10

0910 91 90

- Afflatocsinau - Tynnu o Atodiad I. Gosod yn Atodiad II. Wedi’u hychwanegu at y tabl yn Atodiad II isod gyda mwy o fanylion).
Senegal (SN) Pâst cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex  2007 10 10

ex  2007 10 99

ex 2007 99 39

80

50

07;08

Afflatocsinau 50% Cynnyrch newydd o dan y rhestr bresennol. I’w ychwanegu fel rhes o dan ‘Cacen olew a gweddillion solet eraill...’.
Syria (SY) Hadau sesame
(Bwyd)
1207 40 90 - Salmonela 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Syria (SY) Tahini a halva o hadau sesame
(Bwyd)

ex 1704 90 99

ex 1806 20 95

ex 1806 9050

ex 1806 9060

12;92

13;93

10

1191

Salmonela 10% Ychwanegu at Atodiad I ar ôl cynnal 10% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Gwlad Thai (TH) Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum (ac eithrio rhai melys)
(Bwyd – ffres, wedi’i oeri neu wedi’i rewi)

ex 0709 60 99 

ex 0710 80 59

20

20

Gweddillion plaladdwyr 50% Cynyddu amlder gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod yn Atodiad I.
Twrci (TR) Cnau cyll (Corylus sp.) yn y plisgyn
(Bwyd)
0802 21 00 - Afflatocsinau - Dileu
Twrci (TR) Cnau cyll (Corylussp.) heb blisgyn
(Bwyd)
0802 22 00 - Afflatocsinau - Dileu
Twrci (TR) Cymysgeddau o gnau neu ffrwythau sych sy’n cynnwys cnau cyll
(Bwyd)

ex 0813 50 39

ex0813 50 91

ex0813 50 99

70

70

70

Afflatocsinau - Dileu
Twrci (TR) Pâst cnau cyll
(Bwyd)

ex2007 10 10

ex2007 10 99

ex2007 99 39

ex2007 99 50

ex2007 99 97

70

40

05;06

33

23

Afflatocsinau - Dileu
Twrci (TR) Cnau cyll, wedi’u paratoi neu eu cadw fel arall, gan gynnwys cymysgeddau
(Bwyd)

ex2008 19 12

ex2008 19 19

ex2008 19 92

ex2008 19 95

ex2008 19 99

ex2008 97 12

ex2008 97 14

ex2008 97 16

ex2008 97 18

ex2008 97 32

ex2008 97 34

ex2008 97 36

ex2008 97 38

ex2008 97 51

ex2008 97 59

ex2008 97 72

ex2008 97 74

ex2008 97 76

ex2008 97 78

ex2008 97 92

ex2008 97 93

ex2008 97 94

ex2008 97 96

ex2008 97 97

ex2008 97 98

30

30

30

20

30

15

15

15

15

15

15

15

15 

15

15

15

15

15

15

15

15

15

15

15

15

Afflatocsinau - Dileu
Twrci (TR) Blawd a phowdr cnau cyll
(Bwyd)
ex1106 30 90 40 Afflatocsinau - Dileu
Twrci (TR) Olew cnau cyll
(Bwyd)
ex1515 90 99 20 Afflatocsinau - Dileu
Unol Daleithiau (US) Pâst cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex  2007 10 10

ex  2007 10 99

ex 2007 99 39

80

50

07;08

Afflatocsinau 10% Cynnyrch newydd o dan y rhestr bresennol. I’w ychwanegu fel rhes o dan ‘Cacen olew a gweddillion solet eraill...’. 
Fietnam (VN) Pitahaya (ffrwyth y ddraig)
(Bwyd – ffres neu wedi’i oeri)
ex0810 90 20 10 Gweddillion plaladdwyr 50% Tynnu o Atodiad II a’i osod yn Atodiad I. (Nodyn yn y tabl yn Atodiad II i’w ddileu o Atodiad II er ymwybyddiaeth).
Atodiad II
Gwlad tarddiad Bwyd a bwyd anifeiliaid (defnydd bwriadedig) Cod CN Is-adran TARIC Perygl Amlder gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod (%) Argymhelliad Rheoli Risg
Tsieina (CN) Madarch Enoki
(Bwyd)
0709 590000 - Listeria 20% Ychwanegu at Atodiad II ar ôl cynnal 20% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Yr Aifft (EG) Pâst cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex  2007 10 10

ex  2007 10 99

ex 2007 99 39

80

50

07;08

Afflatocsinau 20% Cynnyrch newydd o dan y rhestr bresennol. I’w ychwanegu fel rhes o dan ‘Cacen olew a gweddillion solet eraill...’.
Yr Aifft (EG) Dail gwinwydd
(Bwyd)
ex 2008 99 99 11;19 Gweddillion plaladdwyr 20% Ychwanegu at Atodiad II ar ôl cynnal 20% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Gambia (GM) Pâst cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex  2007 10 10

ex  2007 10 99

ex 2007 99 39

80

50

07;08

Afflatocsinau 50% Cynnyrch newydd o dan y rhestr bresennol. I’w ychwanegu fel rhes o dan ‘Cacen olew a gweddillion solet eraill...’.
Ghana (GH) Pâst cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex  2007 10 10

ex  2007 10 99

ex 2007 99 39

80

50

07;08

Afflatocsinau 50% Cynnyrch newydd o dan y rhestr bresennol. I’w ychwanegu fel rhes o dan ‘Cacen olew a gweddillion solet eraill...’.
India (IN) Pâst cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex  2007 10 10

ex  2007 10 99

ex 2007 99 39

80

50

07;08

Afflatocsinau 50% Cynnyrch newydd o dan y rhestr bresennol. I’w ychwanegu fel rhes o dan ‘Cacen olew a gweddillion solet eraill...’.
India (IN) Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum (ac eithrio rhai melys)
(Bwyd – ffres, wedi’i oeri neu wedi’i rewi)

ex 0709 60 99 

ex 0710 80 59

20

20

Gweddillion plaladdwyr 20% Cynyddu amlder gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod yn Atodiad II.
India (IN) Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum
(melys neu heblaw am rai melys)
(Bwyd – wedi’i sychu, wedi’i rostio, wedi’i wasgu neu wedi’i falu)

0904

ex2005 99 10

ex2005 99 80

10;90

94

Gweddillion plaladdwyr 20% Ychwanegu at Atodiad II ar ôl cynnal 20% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Indonesia (ID) Nytmeg (Myristica fragrans)
(Bwyd – sbeisys sych)

0908 11 00

0908 12 00

- Afflatocsinau 10% Lleihau amlder gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod yn Atodiad II. 
Pacistan (PK) Cymysgeddau sbeisys 
(Bwyd)

0910 91 10

0910 91 90

- Afflatocsinau 10% Tynnu o Atodiad I a’i osod yn Atodiad II. Nodyn yn y tabl blaenorol i’w dynnu o Atodiad I.
De Korea (KR) Madarch Enoki
(Bwyd)
0709590000 - Listeria 20% Ychwanegu at Atodiad II ar ôl cynnal 20% o’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol.
Sudan (SD) Pâst cnau daear
(Bwyd a bwyd anifeiliaid)

ex  2007 10 10

ex  2007 10 99

ex 2007 99 39

80

50

07;08

Afflatocsinau 50% Cynnyrch newydd o dan y rhestr bresennol. I’w ychwanegu fel rhes o dan ‘Cacen olew a gweddillion solet eraill...’.
Fietnam (VN) Pitahaya (ffrwyth y ddraig)
(Bwyd – ffres neu wedi’i oeri)
ex0810 90 20 10 Gweddillion plaladdwyr - Tynnu o Atodiad II a’i osod yn Atodiad I. (Nodyn yn y tabl cyntaf i’w osod yn Atodiad I. Nodyn yma i’w dynnu o Atodiad II er ymwybyddiaeth).
  • Nodiadau: Nodir y cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a restrir yn Atodiadau I, II a IIa o’r rheolaethau swyddogol ar sail y codau o’r Dull Enwi Cyfun a’r is-adran TARIC a geir yn yr Atodiadau. Mae’r gwiriadau adnabod a’r gwiriadau ffisegol ar fwyd a bwyd anifeiliaid, gan gynnwys samplu a dadansoddi labordy, a restrir yn yr Atodiadau i’w cynnal ar amlder a nodir yn yr Atodiadau.
  • Mae llwythi bwyd a bwyd anifeiliaid a restrir yn Atodiad I i’r Rheoliad yn destun cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol mewn Safleoedd Rheoli ar y Ffin wrth gyrraedd Prydain Fawr ac mewn mannau rheoli. Mae Atodiad II i’r Rheoliad yn nodi’r rhestr o lwythi bwyd a bwyd anifeiliaid o drydydd gwledydd penodol sy’n destun amodau arbennig er mwyn dod i mewn i Brydain Fawr oherwydd risg halogiad gan fycotocsinau, gan gynnwys afflatocsinau, gweddillion plaladdwyr, pentacloroffenol a diocsinau, ac oherwydd halogiad microbiolegol. Mae’r bwyd a’r bwyd anifeiliaid a restrir yn Atodiad IIa wedi’u hatal rhag dod i mewn i Brydain Fawr. 

Y Broses Ymgysylltu ac Ymgynghori

Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor tan ddydd Llun, 28 Awst 2023. Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, cynhelir adolygiad o’r canlyniadau a chyhoeddir adroddiad ymgynghori, gyda’n hargymhellion terfynol i’r Gweinidogion priodol.

Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn

  1. A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar yr argymhellion o ran gwlad tarddiad/nwyddau a gynigir i ddiweddaru’r rhestrau?
  2. A ydych chi’n ymwybodol o unrhyw effeithiau y gallai’r diweddariadau arfaethedig i nwyddau eu cael sydd heb eu nodi yn yr ymgynghoriad hwn?

Atodiad A: Rhestr o bartïon â buddiant

  • Archfarchnadoedd y DU
  • Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd yng Nghymru a Lloegr
  • Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr
  • Consortiwm Manwerthu Prydain
  • Cymdeithas Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd (APHA)
  • Cynrychiolwyr Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
  • Cynrychiolwyr Cynnyrch Ffres
  • Cynrychiolwyr Diwydiant Lletygarwch y DU
  • Cynrychiolwyr Mewnforwyr Bwyd Prydain
  • Cynrychiolwyr Siopau Cyfleustra
  • Grŵp Porthladdoedd Mawr y DU
  • Gweithredwyr Meysydd Awyr y DU 
  • Sefydliadau Pecynnu
  • Which?