Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Pecyn ymgynghori ar geisiadau i awdurdodi 10 cynnyrch bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad, Rhagfyr 2024

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon. Dyddiad lansio: 18 Rhagfyr 2024 Ymatebion erbyn: 19 Chwefror 2025

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, awdurdodau iechyd lleol a phorthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Bydd Safonau Bwyd yr Alban (FSS) hefyd yn cyhoeddi’r ymgynghoriad hwn ym mis Ionawr 2025 ar gyfer rhanddeiliaid yn yr Alban.   

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer:

  • manyleb newydd mewn perthynas ag ychwanegyn bwyd presennol a ganiateir
  • defnydd newydd ar gyfer ychwanegyn bwyd anifeiliaid presennol a ganiateir
  • awdurdodiad newydd ar gyfer un cyflasyn bwyd 
  • tynnu wyth cyflasyn bwyd (un cais yn cwmpasu wyth cyflasyn bwyd)
  • awdurdodiad newydd ar gyfer un deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCM)
  • tri awdurdodiad newydd ar gyfer tair organeb a addaswyd yn enetig (GMO) at ddefnyddiau bwyd a bwyd anifeiliaid
  • awdurdodiad newydd ar gyfer un bwyd newydd ac ymestyn y defnydd o fwyd newydd sydd eisoes yn bodoli

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i:

Email: RPconsultations@food.gov.uk

Rhoddir manylion llawn ar sut i ymateb isod.

Diffiniadau

Y mathau o gynhyrchion rheoleiddiedig yn yr ymgynghoriad hwn yw ychwanegion bwyd a bwyd anifeiliaid, cyflasynnau, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCM), organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) a bwydydd newydd.   

Mae’r PDF isod yn rhoi gwybodaeth, a diffiniadau a allai fod o ddefnydd wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Cynhyrchion rheoleiddiedig yw cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid penodol y mae’n rhaid iddynt fynd drwy broses dadansoddi risg ac y mae angen eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu yn y DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio, gan gynnwys y prosesau dadansoddi risg a rheoli risg a chyfraniad gweinidogion yma: Cefndir ar roi cynnyrch rheoleiddiedig ar y farchnad.

Mae ychwanegion bwyd yn sylweddau sy’n cael eu hychwanegu at fwyd i gyflawni swyddogaeth dechnolegol, gan effeithio ar fwyd. Mae Rheoliad a gymathwyd 1333/2008 yn diffinio ychwanegion bwyd fel ‘any substance not normally consumed as a food in itself and not normally used as a characteristic ingredient of food, whether or not it has nutritive value, the intentional addition of which to food for a technological purpose in the manufacture, processing, preparation, treatment, packaging, transport or storage of such food results, or may be reasonably expected to result, in it or its by-products becoming directly or indirectly a component of such foods’.  

Ychwanegion bwyd

Canllawiau ar awdurdodi ychwanegion bwyd

Mae ychwanegion bwyd anifeiliaid yn sylweddau, micro-organebau neu baratoadau (ac eithrio deunyddiau bwyd anifeiliaid a rhag-gymysgeddau) sy’n cael eu hychwanegu’n fwriadol at fwyd anifeiliaid neu ddŵr i gyflawni un neu fwy o swyddogaethau penodol. 

Canllawiau ar awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid

Cyflasynnau bwyd yw ‘products not intended to be consumed as such, which are added to food in order to impart or modify odour and/or taste’ fel y’i diffinnir gan Reoliad a gymathwyd 1334/2008 ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol sydd â phriodweddau cyflasynnau i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt.

Canllawiau ar awdurdodi cyflasynnau

Deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd (FCMs) yw deunyddiau ac eitemau sy’n dod i gysylltiad â bwyd wrth iddo gael ei gynhyrchu, ei brosesu, ei storio, ei baratoi neu ei weini.

Canllawiau ar awdurdodi deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd

Mae organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) yn blanhigion ac anifeiliaid y mae eu cyfansoddiad genetig wedi’i addasu gan ddefnyddio technegau biotechnoleg. Mae addasu genetig yn galluogi gwyddonwyr i gynhyrchu planhigion, anifeiliaid a micro-organebau sydd â nodweddion penodol. Mae bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig yn cynnwys GMOs, neu fe gânt eu cynhyrchu gan ddefnyddio GMOs. Er mwyn i awdurdodiadau newydd, adnewyddiadau ac addasiadau i awdurdodiadau presennol ar gyfer GMOs gael eu rhoi ar farchnad Prydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd 1829/2003. 

Bwydydd a addaswyd yn enetig

Mae bwydydd newydd yn fwydydd sydd heb gael eu bwyta gan bobl i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997. Er mwyn gosod bwydydd newydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr neu i newid manylebau neu amodau defnyddio bwydydd newydd awdurdodedig, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd 2015/2283.

Canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd

Rheoliadau a gymathwyd – Nid yw deddfwriaeth yr UE sy’n uniongyrchol gymwys bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Cafodd deddfwriaeth yr UE, a ddargedwyd pan ymadawodd y DU â’r UE, ei chymathu ar 31 Rhagfyr 2023. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth ag ‘UE/EU’ neu ‘CE/EC’ yn y teitl bellach gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo’n berthnasol i Brydain Fawr. Cyhoeddir cyfreithiau a gymathwyd ar legislation gov.uk. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.

Mae’r Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn drefniant anstatudol rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig   i sefydlu dulliau cyffredin o ymdrin â meysydd polisi lle mae pwerau wedi dychwelyd o’r UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig. Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â’r ymrwymiadau i gydweithio ar draws y pedair gwlad a nodir yn y fframwaith hwn. Felly, datblygwyd yr ymgynghoriad hwn drwy ddull pedair gwlad. Cytunir ar argymhellion terfynol ar sail pedair gwlad cyn cael eu cyflwyno i weinidogion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan lawn yn y prosesau dadansoddi risg sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn adlewyrchu rôl annatod Gogledd Iwerddon yn y DU ac yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad a wneir yn ystyried yn llawn yr effeithiau posib ar y DU yn ei chyfanrwydd.  

Cyfnodau trosiannol – Gellir defnyddio trefniadau trosiannol, er enghraifft, pan fo meini prawf awdurdodiad newydd yn wahanol i’r awdurdodiad bwyd neu fwyd anifeiliaid presennol, neu lle mae awdurdodiadau’n cael eu dileu, er mwyn caniatáu i stociau a chynhyrchion presennol ar y farchnad gael eu defnyddio. Ni chyfeirir at drefniadau trosiannol oni bai fod hynny’n berthnasol, yn seiliedig ar newid sylweddol rhwng yr awdurdodiad presennol a’r awdurdodiad newydd neu ar gyfer dileu awdurdodiadau.

Fframwaith Windsor – Ar gyfer nwyddau sy’n gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS):

Ym mis Hydref 2023, rhoddwyd Fframwaith Windsor ar waith gan ddarparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion bwyd manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.   

Gall y nwyddau hyn fodloni’r un safonau a gymhwysir yng ngweddill y DU ym maes iechyd y cyhoedd, marchnata (gan gynnwys labelu) a bwydydd organig wrth symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS). 

O dan Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon, bydd cynhyrchion rheoleiddiedig sydd wedi’u hawdurdodi ym Mhrydain Fawr yn gallu cael eu rhoi ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r ASB yn parhau i ymrwymo i sicrhau y gall defnyddwyr ar draws y DU fod yn hyderus bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, hyd yn oed lle gall rheolau sy’n gymwys i’r un math o fwyd fod ychydig yn wahanol. 

Fframwaith Windsor – ychwanegion bwyd anifeiliaid

Ym mis Hydref 2023, rhoddwyd Fframwaith Windsor ar waith gan ddarparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion bwyd manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.  

Gall y nwyddau hyn fodloni’r un safonau a ddefnyddir yng ngweddill y DU ym maes iechyd y cyhoedd, marchnata (gan gynnwys labelu) a bwydydd organig wrth symud drwy’r NIRMS. 

Mae’r cynllun yn cynnwys rhai bwydydd anifeiliaid anwes a bwydydd cnoi ar gyfer cŵn. Ni fyddai bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol penodol (PARNUTs) ac ychwanegion bwyd anifeiliaid, p’un a ydynt yn cael eu defnyddio i gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyfansawdd neu’n cael eu bwydo’n uniongyrchol i dda byw, yn gallu elwa o’r cynllun. Fodd bynnag, os bydd nwyddau’n aros yng Ngogledd Iwerddon, gall masnachwyr elwa o’r Cynllun Sicrwydd Symudiad i adennill costau sy’n gysylltiedig ag ardystio. 

Yng Ngogledd Iwerddon, byddai modd rhoi ychwanegion bwyd anifeiliaid a ddefnyddir mewn nwyddau cymwys Gogledd Iwerddon ar y farchnad ym Mhrydain Fawr yn unol ag ymrwymiad cadarn y llywodraeth i sicrhau mynediad dilyffethair Gogledd Iwerddon i farchnad Prydain Fawr.

Asesiad diogelwch – mae aseswyr risg yr ASB/FSS yn cyflwyno’r wyddoniaeth y tu ôl i’n cyngor. Maent yn gyfrifol am nodi a disgrifio peryglon a risgiau i iechyd, ac asesu lefelau cysylltiad (exposure). Mae dolenni i’r asesiad diogelwch i’w gweld yn yr Atodiad cyfatebol perthnasol isod. 

Rheoli risg – Mae ein hymgynghorwyr polisi yn gyfrifol am yr allbynnau rheoli risg. Mae dogfen argymhellion rheoli risg yr ASB yn cyflwyno’r ffactorau y maent wedi’u nodi fel rhai sy’n berthnasol i’r ceisiadau hyn, gan gynnwys effaith bosib unrhyw benderfyniad a wneir gan weinidogion, ac mae’n cynnwys telerau awdurdodi arfaethedig a darpariaethau perthnasol eraill. Mae dolenni i’r ddogfen argymhellion rheoli risg ar gyfer pob cais i’w gweld yn yr Atodiad perthnasol isod.

Manylion yr ymgynghoriad

Cyflwyniad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar y ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedeg ar gyfer un ychwanegyn bwyd, un ychwanegyn bwyd anifeiliaid, un cyflasyn bwyd a thynnu wyth o sylweddau cyflasu a ganiateir, un  deunydd sy’n dod i gysylltiad â bwyd, tair organeb a addaswyd yn enetig (at ddefnyddiau bwyd a bwyd anifeiliaid) a dau fwyd newydd.

Ceir trosolwg o fanylion pob un o’r ceisiadau yn yr Atodiadau isod. I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at ddogfennau technegol asesiadau diogelwch yr ASB/FSS a dogfennau argymhellion rheoli risg yr ASB. Mae’r dolenni wedi’u cynnwys yn yr Atodiad cyfatebol.

Atodiadau i geisiadau

Atodiad 1: RP1112 – Glycosidau stefiol (E 960b) a gynhyrchwyd trwy eplesu (manyleb newydd ar gyfer ychwanegyn bwyd a ganiateir) 

Atodiad 2: RP694Saccharomyces cerevisiae CNCM I-1079 (defnydd newydd) (ychwanegyn bwyd anifeiliaid)

Atodiad 3: RP1466 – 2-Hydroxy-4-methoxybenzaldehyde (awdurdodiad newydd) (Cyflasyn)

Atodiad 4: RP2184 – Tynnu 8 sylwedd cyflasu bwyd a ganiateir oddi ar y rhestr ddomestig 

Atodiad 5: RP1190 – Asid ffosfforig, esterau cymysg gyda 2-hydroxyethyl methacrylate (HEMAP) (CAS, Rhif 52628-03-2) (awdurdodiad newydd) (deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd)

Atodiad 6: RP1123 – GMB151 (awdurdodiad newydd) (organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) i’w defnyddio fel bwyd a bwyd anifeiliaid)

Atodiad 7: RP1232 – Cotwm GHB811 (awdurdodiad newydd) (organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) at ddefnyddiau bwyd a bwyd anifeiliaid)

Atodiad 8: RP1506 – Indrawn DP4114 x MON 810 x MIR604 x NK603 a addaswyd yn enetig ac is-gyfuniadau (awdurdodiad newydd) (organebau a addaswyd yn enetig (GMO) i’w defnyddio fel bwyd a bwyd anifeiliaid)

Atodiad 9: RP1033 – Isomaltooligosaccharide (IMO) (estyn defnydd) (bwyd newydd)

Atodiad 10: RP956 – Magnesiwm L-threonad (awdurdodiad newydd) (bwydydd newydd)  

Wrth ymgynghori, mae’r ASB yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar yr awdurdodiad arfaethedig a’r telerau ar gyfer ei gynnig, unrhyw gyfnod trosiannol neu ofynion labelu, ac ar unrhyw ffactorau dilys eraill (hynny yw, cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd, ac ati) fel y’u nodwyd. Gwahoddir rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn i roi sylwadau ar y ffactorau hyn neu i nodi unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu dwyn i sylw gweinidogion cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, y cam nesaf yw i’r ASB ysgrifennu at weinidogion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda’u hargymhellion. Mae hyn yn unol â chyfrifoldeb yr ASB i ddarparu argymhellion i weinidogion mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd (adran 6, Deddf Safonau Bwyd 1999). Bydd y gweinidogion perthnasol wedyn yn gwneud penderfyniadau ar awdurdodi, gan ystyried argymhellion rheoli risg yr ASB, unrhyw ddarpariaethau perthnasol o gyfraith a gymathwyd ac unrhyw ffactorau dilys eraill, gan gynnwys y rhai a godwyd yn ystod y broses ymgynghori. 

Effeithiau

Fel rhan o’r broses dadansoddi risg a rheoli risg  , mae’r ASB wedi asesu’r effeithiau posib a fyddai’n deillio o’r cynigion. Roedd yr effeithiau a ystyriwyd yn cynnwys y rhai a nodwyd amlaf fel effeithiau posib wrth gyflwyno neu ddiwygio cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid (hynny yw, effeithiau amgylcheddol, masnachol, gwleidyddol, amgylcheddol, cymdeithasol, effeithiau o ran dichonoldeb technegol, a buddiannau defnyddwyr).  

Ar gyfer y ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn, nid oes unrhyw effeithiau arwyddocaol wedi’u nodi. Rhestrir effeithiau manwl unigol, gan gynnwys masnach, Gogledd Iwerddon a ffactorau dilys eraill ar gyfer pob cais yn y ddogfen rheoli risg gyfatebol ar gyfer pob cais. Yn gyffredinol, dylai awdurdodi’r cynhyrchion hyn arwain at fwy o gystadleuaeth yn y farchnad, gan gefnogi twf ac arloesi yn y sector

Y broses ymgysylltu ac ymgynghori

Gwahoddir rhanddeiliaid i ystyried y cwestiynau a ofynnir isod mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith a gymathwyd a ffactorau dilys eraill. 

Yn dilyn y broses ymgynghori, bydd ymatebion ar gael ar wefan yr ASB ac yn cael eu rhannu â gweinidogion.

Cwestiynau

Cwestiynau ar gyfer awdurdodi ceisiadau

Cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn (ar gyfer pob cais ac eithrio RP2184 tynnu cyflasynnau):

1a) A oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch y cais o ran y defnyddwyr arfaethedig?

1b)  A oes gennych unrhyw sylwadau neu bryderon ynghylch effeithiau awdurdodi neu beidio ag awdurdodi’r cais ac, os ydych o blaid awdurdodi’r cais, telerau awdurdodi’r cais (fel yr amlinellir yn argymhellion rheoli risg yr ASB)

1c) A oes unrhyw ffactorau eraill y dylai gweinidogion eu hystyried sydd heb eu hamlygu eisoes??

1d) A oes gennych unrhyw adborth arall? Gan gynnwys ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith a gymathwyd a ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy’n cefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymol, a chyfiawnadwy, fel buddiannau defnyddwyr, dichonoldeb technegol a ffactorau amgylcheddol).

Cwestiwn ychwanegol ar gyfer ychwanegyn bwyd (RP1112)  glycosidau stefiol a gynhyrchwyd trwy eplesu Rebaudioside M yn unig.

1e) A oes gennych unrhyw adborth ynghylch y fanyleb arfaethedig ar gyfer E 960b(ii) Rebaudioside M trwy eplesu (Saccharomyces cerevisiae)?

Cwestiwn ychwanegol ar gyfer bwyd newydd (RP956) Magnesiwm L-threonate yn unig.

1f) A oes gennych unrhyw sylwadau am ychwanegu magnesiwm L-threonate at Atodlen 2 o Reoliadau Maeth (Gwelliant ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019 fel math o fagnesiwm i alluogi ei ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd?

Cwestiynau ar gyfer tynnu wyth cyflasyn (RP 2184 yn unig)

Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:

2a) Mae diwydiant y DU wedi nodi nad ydynt bellach yn defnyddio’r sylweddau cyflasu hyn. A ydych yn cytuno â’n safbwynt na ddylai fod unrhyw effaith sylweddol ar fusnesau’r DU o’u tynnu oddi ar y rhestr?

2b) A ydych yn credu bod angen trefniadau pontio, neu y dylid eu hystyried, ar gyfer bwydydd sy’n cynnwys y cyflasynnau hyn sy’n cael eu rhoi ar y farchnad cyn i unrhyw benderfyniad i’w tynnu oddi ar y rhestr gael ei brosesu?  A ddylai unrhyw fesurau trosiannol o’r fath fod yn berthnasol hefyd ar gyfer bwydydd a anfonir i’w hallforio i Brydain Fawr? Nodwch unrhyw sylwadau i egluro’ch ateb.

2c) Os ydych yn anghytuno â safbwynt yr ASB neu os oes gennych bryder arbennig am ddileu unrhyw un o’r wyth cyflasyn, esboniwch pam a darparwch wybodaeth i’n helpu i ddeall a rhoi tystiolaeth o’r effaith. Cynhwyswch fanylion ynghylch pa rai o’r sylweddau cyflasu (gan gynnwys y Rhif FL perthnasol) y mae eich adborth yn ymwneud ag ef ac, os yw’n berthnasol, y math o gynnyrch yr ydych yn ei ddefnyddio ynddo.

2d) Er mwyn i unrhyw un o’r wyth cyflasyn aros ar y rhestr, bydd angen i’r diwydiant ymrwymo i ddarparu’r astudiaethau diogelwch angenrheidiol i ganiatáu i’r asesiad risg gael ei gwblhau. Os credwch y dylai unrhyw un o’r wyth cyflasyn aros ar y rhestr, nodwch pwy fyddai’n fodlon darparu’r astudiaethau diogelwch angenrheidiol ac ar gyfer pa sylweddau cyflasynnau (er enghraifft, rhowch y rhif FL)?

2e) Mae angen ystyried yr effeithiau ar wledydd y tu allan i’r UE. Nid yw Sefydliad Rhyngwladol y Diwydiant Cyflasu yn ystyried bod unrhyw effeithiau gan nad ydynt yn cael eu defnyddio’n eang ar draws y farchnad fyd-eang.  Ydych chi’n cytuno â’r asesiad hwn? Os nad ydych yn cytuno, nodwch unrhyw sylwadau i egluro’ch ateb.

2f) A oes unrhyw ffactorau eraill y dylai gweinidogion eu hystyried sydd heb eu hamlygu eisoes?

2g) A oes gennych unrhyw adborth arall? Gan gynnwys ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith a gymathwyd a ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy’n cefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymol, a chyfiawnadwy, fel buddiannau defnyddwyr, dichonoldeb technegol a ffactorau amgylcheddol).

Ymatebion

Rhaid cyflwyno ymatebion erbyn 23:59 ar 19 Chwefror 2025. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Ymatebwch i’r ymgynghoriad drwy'r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk

Nodwch pa gais/ceisiadau neu gynnyrch/cynhyrchion rydych chi’n ymateb yn eu cylch trwy ddefnyddio’r llinell bwnc ganlynol ar gyfer eich ymateb: 

‘Ymateb i’r ymgynghoriad a phwnc yr ymgynghoriad (bwydydd newydd / ychwanegion /cyflasynnau bwyd / tynnu cyflasynnau / deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd / ychwanegion bwyd anifeiliaid / organebau a addaswyd yn enetig).’

Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.

Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ymhen tua 3 mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau.

Caiff  crynodeb o’r ymatebion ei rannu â gweinidogion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Mwy o wybodaeth

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.

Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Gwasanaeth Cyflenwi Cynhyrchion Rheoleiddiedig

Atodiad 1: RP1112 – Glycosidau stefiol (E 960b) a gynhyrchwyd trwy eplesu (manyleb newydd ar gyfer ychwanegyn bwyd a ganiateir)

Cefndir

Daeth cais i law’r ASB gan Amyris Inc am fanyleb newydd ar gyfer glycosidau stefiol (E 960b) a gynhyrchir trwy eplesu fel ychwanegyn bwyd (melysydd).

Mae Amyris Inc wedi gwneud cais am awdurdodi Rebaudioside M a gynhyrchwyd trwy eplesu cansenni siwgr safon bwyd gyda Saccharomyces cerevisiae a addaswyd yn enetig (GM).

Oherwydd mai ar gyfer Rebaudioside M a gynhyrchir gan ddefnyddio micro-organeb wahanol (S. cerevisiae) y mae’r cais hwn, rhaid ei awdurdodi cyn ei ddefnyddio, fel sy’n ofynnol o dan Erthygl 12 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1333/2008, sy’n nodi bod angen awdurdodi unrhyw ychwanegyn bwyd a ganiateir a gaiff ei wneud gan ddefnyddio dull cynhyrchu gwahanol, a bod rhaid gosod manyleb newydd mewn deddfwriaeth cyn y gellir defnyddio’r ychwanegyn bwyd mewn bwyd neu ei werthu. 

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny. 

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Nid oes unrhyw glycosidau stefiol a gynhyrchir trwy eplesu (E 960b) wedi’u hawdurdodi gan yr UE, ac felly bydd gwahaniaethau gyda deddfwriaeth yr UE.

Gogledd Iwerddon

Nid yw glycosidau stefiol a wneir trwy eplesu (E 960b) wedi’u hawdurdodi yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gellir symud nwyddau a awdurdodir ym Mhrydain Fawr i Ogledd Iwerddon drwy Gynllun Symud Manwerthu Gogledd Iwerddon.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Argymhelliad rheoli risg yr ASB yw bod Rebaudioside M  a gynhyrchir trwy eplesu (Saccharomyces cerevisiae), fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau arfaethedig.

Gellir cael hyd i argymhellion rheoli risg yr ASB, ynghyd â’i hasesiad diogelwch, isod:

Atodiad 2: RP694 – Saccharomyces cerevisiae CNCM I-1079 (defnydd newydd) (ychwanegyn bwyd anifeiliaid)

Cefndir

Daeth cais i law’r ASB gan Lallemand Animal Nutrition UK am awdurdodiad newydd ar gyfer ychwanegyn (Saccharomyces cerevisiae CNCM I-1079), o dan y categori ‘sootechnegol’ ac yn y grwpiau swyddogaethol ‘sefydlogydd fflora’r perfedd’ a ‘sefydlogydd cyflwr ffisiolegol’ i’w ddefnyddio mewn lloi, a’r holl anifeiliaid cnoi cil a chamelidau eraill, i’w magu a’u pesgi, yn ystod eu cam datblygu cyfatebol. Ers i’r cais ddod i law, mae’r ymgeisydd wedi tynnu’n ôl y cynnig i’r ychwanegyn gael ei ddosbarthu yn y grŵp swyddogaethol ‘sefydlogydd cyflwr ffisiolegol’.

Er mwyn i ychwanegion bwyd anifeiliaid gael eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) 1831/2003.  Defnyddir Erthygl 4 o’r rheoliad i awdurdodi ceisiadau am ychwanegyn bwyd anifeiliaid newydd neu ddefnydd newydd o ychwanegyn bwyd anifeiliaid.   

Labelu

Feed additives labelling must include details pursuant to Article 16 of assimilated Regulation 1831/2003 (Article 16 1831/2003). As this feed additive falls under the ‘zootechnical’ category it is also subject to additional labelling set out in Annex III of assimilated Regulation 1831/2003 and Annex VI of assimilated Regulation 767/2009. Rhaid i labeli ychwanegion bwyd anifeiliaid gynnwys manylion yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad a gymathwyd 1831/2003 (Erthygl 16 1831/2003). Gan fod yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn dod o dan y categori ‘sootechnegol’, mae hefyd yn destun labeli ychwanegol a nodir yn Atodiad III Rheoliad a gymathwyd 1831/2003 ac Atodiad VI o Reoliad a gymathwyd 767/2009.  

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynn

Gogledd Iwerddon

Caiff ychwanegion bwyd anifeiliaid a roddir ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon eu hasesu gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ( EFSA). Os oes unrhyw wahaniaeth yn y dull gweithredu, caiff hyn ei reoli drwy’r Fframweithiau Cyffredin dros dro perthnasol. 

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB    

Argymhelliad rheoli risg yr ASB  yw bod Saccharomyces cerevisiae CNCM I-1079, fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y rhywogaeth darged, diogelwch yr amgylchedd nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau arfaethedig. 

Gellir cael hyd i argymhellion rheoli risg yr ASB, ynghyd â’i hasesiad diogelwch, isod: 

Atodiad 3: RP1466 – 2-Hydroxy-4-methoxybenzaldehyde (awdurdodiad newydd) (Cyflasyn)

Cefndir

Daeth cais i law’r ASB gan Firmenich S.A. i ddefnyddio 2-hydroxy-4-methoxybenzaldehyde fel sylwedd cyflasu newydd mewn bwyd.

Defnyddir cyflasynnau i gyfrannu at neu newid arogl a/neu flas bwyd. Rheolir y defnydd o gyflasynnau gan Reoliad a gymathwyd Rhif 1334/2008, sy’n gymwys yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae Rheoliad a gymathwyd Rhif 1331/2008 yn amlinellu’r broses ar gyfer ychwanegu, addasu neu dynnu cyflasynnau oddi ar restrau domestig.

Yn gyffredinol, mae cyflasyn masnachol yn cynnwys amrywiaeth o gyflasynnau yn hytrach nag un sylwedd unigol. Mae’r rhestr ddomestig o gyflasynnau i’w gweld yn Rheoliad a gymathwyd Rhif 1334/2008, sy’n gymwys yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’n rhestru pa gyflasynnau y caniateir eu defnyddio, ynghyd â’r meini prawf ar gyfer purdeb ac unrhyw gyfyngiadau o ran defnydd.

Labelu

Nid oes unrhyw ofynion labelu penodol wedi’u cynllunio ar gyfer y sylwedd hwn, ac felly bydd y rheolau cyffredinol ar gyfer labelu cyflasynnau mewn bwyd a nodir yn Rheoliad a gymathwyd Rhif 1169/2011 yn gymwys. Mae hyn yn nodi bod angen cynnwys naill ai’r term ‘flavouring(s)’ neu enw/disgrifiad manylach o’r cyflasyn yn y rhestr gynhwysion. Mae rheolau ar gyfer labelu cyflasynnau a werthir o fusnes i fusnes neu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr wedi’u nodi yn Rheoliad a gymathwyd Rhif 1334/2008.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae’r sylwedd cyflasu hwn, 2-hydroxy-4-methoxybenzaldehyde, eisoes wedi’i awdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Chwefror 2023 Rheoliad y Comisiwn (UE) 2023/441. Yr unig wahaniaeth rhwng awdurdodiad yr UE a’r awdurdodiad argymelledig ar gyfer Prydain Fawr yw’r ffaith y byddwn yn cynnwys rhif adnabod JECFA (2277) ar gyfer y sylwedd hwn, sydd ond wedi’i sefydlu’n ddiweddar.

Gogledd Iwerddon

Mae 2-hydroxy-4-methoxybenzaldehyde eisoes wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon, yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n gymwys yno. Mae argymhelliad yr ASB i awdurdodi’r cynnyrch yn cyd-fynd â’r awdurdodiad yng Ngogledd Iwerddon.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Argymhelliad rheoli risg yr ASB yw bod 2-hydroxy-4-methoxybenzaldehyde, fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw ei ddefnyddio yn debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau arfaethedig.

Gellir cael hyd i argymhellion rheoli risg yr ASB, ynghyd â’i hasesiad diogelwch, isod:

Atodiad 4: RP2184 – Tynnu 8 sylwedd cyflasu bwyd a ganiateir oddi ar y rhestr ddomestig

Cefndir

Mae cais wedi’i gyflwyno i ddiweddaru’r rhestr o sylweddau cyflasu, a hynny er mwyn cael gwared ar 8 o sylweddau cyflasu ar y telerau a nodir isod.

Dyma’r wyth sylwedd cyflasu sydd wedi’u cynnwys yn y cais y cynigir eu tynnu oddi ar y rhestr ddomestig:

  • 2-Phenylpent-2-enal (FL Rhif 05.175)
  • 2-Phenyl-4-methyl-2-hexenal (FL Rhif 05.222)
  • 2-(sec-Butyl)-4,5-dimethyl-3-thiazoline (FL Rhif 15.029)
  • 4,5-Dimethyl-2-ethyl-3-thiazoline (FL Rhif 15.030)
  • 2,4-Dimethyl-3-thiazoline (FL Rhif 15.060)
  • 2-Isobutyl-3-thiazoline (FL Rhif 15.119)
  • 5-Ethyl-4-methyl-2-(2-methylpropyl)-thiazoline (FL Rhif 15.130)
  • 5-Ethyl-4-methyl-2-(2-butyl)-thiazoline (FL Rhif 15.131)

Defnyddir cyflasynnau i gyfrannu at neu newid arogl a/neu flas bwyd. Rheolir y defnydd o gyflasynnau gan Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1334/2008, sy’n gymwys yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1331/2008 yn amlinellu’r broses ar gyfer ychwanegu, addasu neu dynnu cyflasynnau oddi ar restrau domestig.

Mae’r rhestr o sylweddau cyflasu a ganiateir yn cynnwys sylweddau cyflasu y mae’r gwerthusiad wedi’i gwblhau ar eu cyfer (‘sylweddau cyflasu wedi’u gwerthuso’) a’r rhai y mae’r gwerthusiad yn parhau ar eu cyfer (‘sylweddau cyflasu sy’n destun gwerthusiad’). Bwriad y cais yw tynnu 8 ‘sylwedd cyflasu sy’n destun gwerthusiad’ gan nad ydynt yn cael eu defnyddio’n eang ac felly mae’r diwydiant cyflasynnau wedi penderfynu peidio â darparu data ychwanegol i’r ASB gwblhau’r gwerthusiad.

Crynodeb o’r Asesiad Diogelwch

Nid oes angen asesiad diogelwch ar gyfer ceisiadau i dynnu sylweddau oddi ar restrau domestig.

Masnach

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae’r UE wedi tynnu’r 8 sylwedd cyflasu hyn oddi ar restr yr Undeb (Rheoliad (UE) 2024/234). Mae mesurau trosiannol ar waith fel y gallai bwydydd sy’n cynnwys y cyflasynnau a roddwyd ar y farchnad yn gyfreithlon cyn 25 Ionawr 2024 aros ar werth tan y dyddiad lleiaf y byddai’r bwyd yn para neu’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni osodwyd unrhyw fesurau trosiannol ar gyfer y cyflasynnau eu hunain na’r paratoadau sy’n eu cynnwys.

Ystyriaethau masnachol ehangach

Er y gellir caniatáu i’r sylweddau cyflasu hyn gael eu defnyddio mewn gwledydd nad ydynt yn yr UE, mae Sefydliad Rhyngwladol y Diwydiant Cyflasu (IOFI) yn cefnogi tynnu’r sylweddau cyflasu hyn yn seiliedig ar adborth gan y diwydiant cyflasynnau byd-eang nad ydynt yn cael eu defnyddio’n eang mewn bwydydd. Felly, mae’n annhebygol y bydd effeithiau sylweddol ar fasnach oherwydd efallai na fyddant yn cael eu defnyddio’n eang mewn bwyd sy’n cael ei allforio i’r DU.

Gogledd Iwerddon

Mae’r 8 sylwedd cyflasu hyn eisoes wedi’u tynnu oddi ar y rhestr a ganiateir yng Ngogledd Iwerddon, felly ni all busnesau ddefnyddio’r cyflasynnau hyn mewn bwyd mwyach ar gyfer marchnad Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, gall bwydydd sy’n cynnwys y cyflasynnau hyn aros ar werth o dan y mesurau trosiannol.

Bydd tynnu’r sylweddau hyn oddi ar restr ddomestig y DU yn sicrhau bod Prydain Fawr yn gyson â Gogledd Iwerddon. Efallai y bydd mân wahaniaeth rhwng y mesurau trosiannol a osodwyd ar gyfer y cyflasynnau hyn gan fod y mesurau trosiannol arfaethedig yn ymdrin â bwydydd sy’n cynnwys y cyflasynnau hyn a’r cyflasynnau eu hunain. Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn wir y gellir symud bwydydd sy’n cynnwys y cyflasynnau hyn i Ogledd Iwerddon drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon, a hynny’n amodol ar y mesurau trosiannol a gynigir.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Argymhelliad rheoli risg yr ASB yw y dylid tynnu’r 8 sylwedd cyflasu hyn oddi ar y rhestr o sylweddau cyflasu a ganiateir, ond y dylid gosod darpariaethau trosiannol ar gyfer y cyflasynnau eu hunain a’r bwydydd sy’n eu cynnwys.

Gellir cael hyd i argymhellion rheoli risg yr ASB, ynghyd â’i hasesiad diogelwch, isod:

Atodiad 5: RP1190 – Asid ffosfforig, esterau cymysg gyda 2-hydroxyethyl methacrylate (HEMAP) (CAS, Rhif 52628-03-2) (awdurdodiad newydd) (Deunydd a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd)

Cefndir

Daeth cais i law’r ASB gan Keller and Heckman LLP gyda’r bwriad o ddefnyddio asid ffosfforig, esterau cymysg gyda 2-hydroxyethyl methacrylate (HEMAP) (CAS Rhif 52628-03-2) mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCMs).

Mae’r broses i gymeradwyo sylweddau mewn FCMs ar gyfer y farchnad ym Mhrydain Fawr wedi’i nodi yn Rheoliad a gymathwyd 1935/2004.

Labelu

Defnyddir HEMAP wrth weithgynhyrchu arwynebau gwaith a sinciau cegin acrylig. Nid oes angen i’r eitem derfynol ei hun fod wedi’i labelu fel un sy’n cynnwys HEMAP. Fodd bynnag, yn unol â gofynion olrheiniadwyedd, mae angen i ddogfennaeth ategol nodi gwybodaeth ddigonol mewn perthynas â sylweddau a ddefnyddir y mae cyfyngiadau a/neu fanylebau wedi’u nodi ar eu cyfer yn Atodiad I i Reoliad a gymathwyd 10/2011. Bydd angen i unrhyw ddefnyddiwr posib sicrhau bod hyn a sylweddau awdurdodedig eraill sy’n destun cyfyngiadau a/neu fanylebau yn cael eu dogfennu’n gywir at ddibenion gwirio cydymffurfiaeth.

Masnach

Bydd angen i FCMs sy’n cael eu hallforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Mae’r awdurdodiad arfaethedig yn adlewyrchu awdurdodiad yr UE mewn perthynas ag ID (rhif sylwedd FCM) ac enw’r sylwedd, gan leihau felly rwystrau i fasnach.

Gogledd Iwerddon

Mae’r cynnyrch hwn eisoes wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon, yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n gymwys yno. Mae argymhelliad yr ASB i awdurdodi yn cyd-fynd â’r awdurdodiad cynnyrch yng Ngogledd Iwerddon.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Argymhelliad rheoli risg yr ASB yw bod HEMAP, fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau arfaethedig.

Gellir cael hyd i argymhellion rheoli risg yr ASB, ynghyd â’i hasesiad diogelwch, isod:

Atodiad 6: RP1123 – GMB151 (awdurdodiad newydd) (organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) i’w defnyddio fel bwyd a bwyd anifeiliaid)

Cefndir

Daeth cais i law’r ASB gan BASF Agricultural Solutions Seed US LLC am awdurdodiad newydd ar gyfer ffa soia GMB151 a addaswyd yn enetig i’w mewnforio, eu prosesu a’u defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid. Nid yw’r cais yn cwmpasu tyfu, ac felly ni fydd unrhyw ffa soia GMB151 yn cael eu tyfu yn y DU.

Ar gyfer GMOs newydd sydd i’w defnyddio fel bwyd a bwyd anifeiliaid a’u rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1829/2003. Defnyddir Erthygl 5 o’r Rheoliad i awdurdodi bwydydd newydd a addaswyd yn enetig, a defnyddir Erthygl 17 o’r Rheoliad i awdurdodi bwyd anifeiliaid newydd a addaswyd yn enetig.

Labelu

  • Yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1830/2003 ynghylch labelu a’r gallu i olrhain organebau a addaswyd yn enetig, a’r gallu i olrhain cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhyrchir gan ddefnyddio GMOs, ceir gofyniad o ran labelu a’r gallu i olrhain cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n deillio o ffynonellau a addaswyd yn enetig, ni waeth a oes deunydd genetig newydd canfyddadwy yn bresennol yn y cynnyrch terfynol, neu faint o gynhwysyn a addaswyd yn enetig sy’n fwriadol bresennol.
  • Yn achos cynhyrchion bwyd/bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig ac a becynnwyd ymlaen llaw, rhaid i’r geiriau ‘This product contains genetically modified organisms’ neu ‘This product contains genetically modified soybean’ ymddangos ar y label. Yn achos cynhyrchion sydd heb ddeunydd pecynnu, mae’n dal i fod yn rhaid i’r geiriau hyn gael eu harddangos yn glir yn union wrth ymyl y cynnyrch.
  • Rhaid i weithredwyr sicrhau bod y dynodwr unigryw BCS-GM151-6 yn dod ynghyd â datganiad ysgrifenedig o bresenoldeb GMO ar gyfer swyddogaethau olrhain, gan gychwyn gyda’r camau cyntaf, sef rhoi’r cynnyrch ar y farchnad, gan gynnwys mewn symiau mawr.
  • Nid yw cynhyrchion bwyd sy’n deillio o anifeiliaid a fwydwyd â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys GMOs yn dod o fewn cwmpas y gofynion labelu penodol ar gyfer bwydydd GM.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae ffa soia GMB151 eisoes wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn yr UE. Mae ein hargymhelliad i awdurdodi’r cynnyrch hwn yn cyd-fynd â’r UE o ran y canlynol: y dynodwr unigryw, y telerau awdurdodi ar gyfer bwydydd a chynhwysion bwyd, bwyd anifeiliaid, cynhyrchion, labeli a dulliau canfod.

Gogledd Iwerddon

Mae ffa soia GMB151 eisoes wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio yng Ngogledd Iwerddon, yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n gymwys yno. Mae argymhelliad yr ASB i awdurdodi yn cyd-fynd â’r awdurdodiad cynnyrch yng Ngogledd Iwerddon.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Argymhelliad rheoli risg yr ASB yw bod ffa soia GMB151, fel y’u disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad ydynt yn debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau arfaethedig.

Gellir cael hyd i argymhellion rheoli risg yr ASB, ynghyd â’i hasesiad diogelwch, isod:

Atodiad 7: RP1232 – Cotwm GHB811 (awdurdodiad newydd) (organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) at ddefnyddiau bwyd a bwyd anifeiliaid)

Cefndir

Daeth cais i law’r ASB gan BASF Agricultural Solutions Seed US LLC am awdurdodiad newydd ar gyfer cotwm GHB811 a addaswyd yn enetig i’w fewnforio, ei brosesu a’i ddefnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid. Nid yw’r cais yn cwmpasu tyfu, ac felly ni fydd unrhyw gotwm GHB811 yn cael ei dyfu yn y DU.

Ar gyfer GMOs newydd sydd i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid a’u rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1829/2003. Defnyddir Erthygl 5 o’r Rheoliad i awdurdodi bwydydd newydd a addaswyd yn enetig, a defnyddir Erthygl 17 o’r Rheoliad i awdurdodi bwyd anifeiliaid newydd a addaswyd yn enetig.

Labelu

  • Yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1830/2003 ynghylch labelu a’r gallu i olrhain organebau a addaswyd yn enetig, a’r gallu i olrhain cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhyrchir gan ddefnyddio GMOs, ceir gofyniad o ran labelu a’r gallu i olrhain cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n deillio o ffynonellau a addaswyd yn enetig, ni waeth a oes deunydd genetig newydd canfyddadwy yn bresennol yn y cynnyrch terfynol, neu faint o gynhwysyn a addaswyd yn enetig sy’n fwriadol bresennol.
  • Yn achos cynhyrchion bwyd/bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig ac a becynnwyd ymlaen llaw, rhaid i’r geiriau ‘This product contains genetically modified organisms’ neu ‘This product contains genetically modified cotton’ ymddangos ar y label. Yn achos cynhyrchion sydd heb ddeunydd pecynnu, mae’n dal i fod yn rhaid i’r geiriau hyn gael eu harddangos yn glir yn union wrth ymyl y cynnyrch.
  • Rhaid i weithredwyr sicrhau bod y dynodwr unigryw BCS-GH811-4 yn dod ynghyd â datganiad ysgrifenedig o bresenoldeb GMO ar gyfer swyddogaethau olrhain, gan gychwyn gyda’r camau cyntaf, sef rhoi’r cynnyrch ar y farchnad, gan gynnwys mewn symiau mawr.
  • Nid yw cynhyrchion bwyd sy’n deillio o anifeiliaid a fwydwyd â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys GMOs yn dod o fewn cwmpas y gofynion labelu penodol ar gyfer bwydydd GM.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae cotwm GHB811 eisoes wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn yr UE. Mae ein hargymhelliad i awdurdodi’r cynnyrch hwn yn cyd-fynd â’r UE o ran y canlynol: y dynodwr unigryw, y telerau awdurdodi ar gyfer bwydydd a chynhwysion bwyd, bwyd anifeiliaid, cynhyrchion, labeli a dulliau canfod.

Gogledd Iwerddon

Mae cotwm GHB811 eisoes wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon, yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n gymwys yno. Mae argymhelliad yr ASB i awdurdodi yn cyd-fynd â’r awdurdodiad cynnyrch yng Ngogledd Iwerddon.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Argymhelliad rheoli risg yr ASB yw bod cotwm GHB811, fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau arfaethedig.

Gellir cael hyd i argymhellion rheoli risg yr ASB, ynghyd â’i hasesiad diogelwch, isod:

Atodiad 8: RP1506 – Indrawn DP4114 x MON 810 x MIR604 x NK603 a addaswyd yn enetig ac is-gyfuniadau (awdurdodiad newydd) (organebau a addaswyd yn enetig (GMO) i’w defnyddio fel bwyd a bwyd anifeiliaid)

Cefndir

Daeth cais i law’r ASB gan Corteva Agrisciences LLC dan gynrychiolaeth Corteva Agriscience UK Limited am awdurdodiad newydd ar gyfer indrawn DP4114 x MON 810 x MIR604 x NK603 a addaswyd yn enetig (dynodwr unigryw: DP-ØØ4114-3xMONØØ81Ø-6xSYN-IR6Ø4-5xMON-ØØ6Ø3-6). Nid yw’r cais yn cwmpasu tyfu, ac felly ni fydd unrhyw ffa soia GMB151 yn cael eu tyfu yn y DU.

Ar gyfer GMOs newydd sydd i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid a’u rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1829/2003. Defnyddir Erthygl 5 o’r Rheoliad i awdurdodi bwydydd newydd a addaswyd yn enetig, a defnyddir Erthygl 17 o’r Rheoliad i awdurdodi bwyd anifeiliaid newydd a addaswyd yn enetig.

Labelu

  • Yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1830/2003 ynghylch labelu a’r gallu i olrhain organebau a addaswyd yn enetig, a’r gallu i olrhain cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhyrchir gan ddefnyddio GMOs, ceir gofyniad o ran labelu a’r gallu i olrhain cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n deillio o ffynonellau a addaswyd yn enetig, ni waeth a oes deunydd genetig newydd canfyddadwy yn bresennol yn y cynnyrch terfynol, neu faint o gynhwysyn a addaswyd yn enetig sy’n fwriadol bresennol.
  • Yn achos cynhyrchion bwyd/bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig ac a becynnwyd ymlaen llaw, rhaid i’r geiriau ‘This product contains genetically modified organisms’ neu ‘This product contains genetically modified maize’ ymddangos ar y label. Yn achos cynhyrchion sydd heb ddeunydd pecynnu, mae’n dal i fod yn rhaid i’r geiriau hyn gael eu harddangos yn glir yn union wrth ymyl y cynnyrch.
  • Rhaid i weithredwyr sicrhau bod y dynodwr unigryw DP-ØØ4114-3 x MON-ØØ81Ø-6 x SYN-IR6Ø4-5 x MON-ØØ6Ø3-6 neu is-gyfuniad sy’n cyfuno dau, tri, pedwar neu bump o’r digwyddiadau unigol yn dod ynghyd â datganiad ysgrifenedig o bresenoldeb GMO ar gyfer swyddogaethau olrhain, gan gychwyn gyda’r camau cyntaf, sef rhoi’r cynnyrch ar y farchnad, gan gynnwys mewn symiau mawr.
  • Nid yw cynhyrchion bwyd sy’n deillio o anifeiliaid a fwydwyd â bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys GMOs yn dod o fewn cwmpas y gofynion labelu penodol ar gyfer bwydydd GM.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae indrawn DP4114 x LLUN 810 x MIR604 x NK603 eisoes wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn yr UE. Mae ein hargymhelliad i awdurdodi’r cynnyrch hwn yn cyd-fynd â’r UE o ran y canlynol: y dynodwr unigryw, y telerau awdurdodi ar gyfer bwydydd a chynhwysion bwyd, bwyd anifeiliaid, cynhyrchion, labeli a dulliau canfod.

Gogledd Iwerddon

Mae indrawn DP4114 x MON 810 x MIR604 x NK603 eisoes wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon, yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n gymwys yno. Mae argymhelliad yr ASB i awdurdodi yn cyd-fynd â’r awdurdodiad cynnyrch yng Ngogledd Iwerddon.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Argymhelliad rheoli risg yr ASB yw bod indrawn DP4114 x MON 810 x MIR604 x NK603, fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau arfaethedig.

Gellir cael hyd i argymhellion rheoli risg yr ASB, ynghyd â’i hasesiad diogelwch, isod:

Atodiad 9: RP1033 – Isomaltooligosaccharide (IMO) (estyn defnydd) (bwyd newydd)

Cefndir

Daeth cais i law’r ASB gan Bioneutra Incorporated, Gogledd America i ymestyn y defnydd o IMO (a elwir hefyd yn oligo-isomaltose) fel bwyd newydd. Ar hyn o bryd, mae IMO wedi’i awdurdodi fel bwyd newydd o dan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn a gymathwyd (UE) 2017/2470, a hynny i’w ddefnyddio mewn 12 categori bwyd gwahanol. Mae’r cais yn cynnig ymestyn y defnydd o IMO fel cynhwysyn mewn 15 categori bwyd pellach ac mae hefyd yn cynnig ei ddefnyddio mewn atchwanegiadau.

Labelu

  • Yn achos y bwyd newydd hwn, er mwyn dangos ei bresenoldeb, defnyddir yr enw ‘Isomaltooligosaccharide’ ar labeli bwyd sy’n ei gynnwys.
  • Rhaid i fwydydd sy’n cynnwys y bwyd newydd gael eu labelu fel ‘ffynhonnell o glwcos’ / ‘a source of glucose’.
  • Pan fydd atchwanegiadau’n cynnwys IMO, ni ddylai plant dan 10 oed eu bwyta.
  • Gwenith yw un o’r cynhwysion y mae IMO yn deillio ohono, ac mae wedi’i restru yn Atodiad II i Reoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011. Pan gaiff ei wneud o wenith, rhaid i Isomaltooligosaccharide gael ei labelu yn unol â’r gofynion labelu a nodir yn Erthygl 21 o Reoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Mae cais tebyg wedi dod i law yn yr UE. Os caiff y cais hwn i estyn ei ddefnydd yn cael ei awdurdodi wedyn ym Mhrydain Fawr a’r UE, efallai y bydd rhywfaint o wahaniaeth yn dibynnu ar gategorïau ac amodau defnyddio, gan gynnwys lefelau uchaf y cytunir arnynt yn y pen draw gan yr UE.

Gogledd Iwerddon

Nid yw’r estyniad defnydd hwn wedi’i awdurdodi yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gellir symud nwyddau a awdurdodwyd ym Mhrydain Fawr i Ogledd Iwerddon drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Argymhelliad rheoli risg yr ASB yw bod IMO, fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau arfaethedig.

Gellir cael hyd i argymhellion rheoli risg yr ASB, ynghyd â’i hasesiad diogelwch, isod:

Atodiad 10: RP956 – Magnesiwm L-threonad (awdurdodiad newydd) (bwydydd newydd)

Cefndir

Daeth cais i law’r ASB gan AIDP, UDA i ddefnyddio monohydrad magnesiwm L-threonad fel bwyd newydd mewn atchwanegiadau bwyd. Mae’r cais hefyd yn gofyn bod monohydrad magnesiwm L-threonad yn cael ei ganiatáu fel math o fagnesiwm i’w ddefnyddio wrth weithgynhyrchu atchwanegiadau bwyd a’i ychwanegu at y tabl a nodir yn Atodlen 2 i Reoliadau Maeth (Diwygio ac ati) (Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd) 2019.

Labelu

  • Wedi’i fwriadu fel ychwanegyn bwyd i oedolion (18 oed a hŷn)
  • Ddim ar gyfer menywod beichiog a menywod sy’n llaetha
  • Ddim ar gyfer plant dan 18 oed
  • Rhybudd i beidio â chymryd mwy na’r dos dyddiol a argymhellir (yn unol â’r gofynion safonol o ran atchwanegiadau)
  • I’w labelu fel “magnesium L-threonate”

Effeithiau

Fel rhan o’r broses dadansoddi risg, mae’r ASB wedi asesu’r effeithiau posib a fyddai’n deillio o awdurdodi’r bwyd newydd hwn, pe bai gweinidogion yn penderfynu ei awdurdodi. Ni nodwyd unrhyw effeithiau arwyddocaol. Roedd yr effeithiau a ystyriwyd yn cynnwys y rheiny a gafodd eu nodi amlaf fel effeithiau posib wrth gyflwyno neu ddiwygio cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid (er enghraifft, yr amgylchedd, masnach a buddiannau defnyddwyr). Yn gyffredinol, dylai awdurdodi’r cynhyrchion hyn arwain at fwy o gystadleuaeth yn y farchnad, gan gefnogi twf ac arloesi yn y sector.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Mae magnesiwm-L-threonad wedi’i awdurdodi gan yr UE. Nid oes unrhyw wahaniaeth sylweddol i delerau awdurdodi arfaethedig yr ASB.

Gogledd Iwerddon

Mae’r cynnyrch hwn eisoes wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon, yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n gymwys yno. Nid oes unrhyw wahaniaeth sylweddol i delerau awdurdodi arfaethedig yr ASB.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Argymhelliad rheoli risg yr ASB yw bod monohydrad magnesiwm L-threonad, fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nad yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau arfaethedig.

Gellir cael hyd i argymhellion rheoli risg yr ASB, ynghyd â’i hasesiad diogelwch, isod: