Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Pecyn ymgynghori ar ddiwygiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig

Nod yr ymgynghoriad hwn yw casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar newidiadau arfaethedig i’r broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 April 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 April 2024

Dyddiad lansio: 3 Ebrill 2024

Dyddiad cau: 5 Mehefin 2024

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb

  • busnesau bwyd a chymdeithasau masnach y diwydiant sydd â buddiant mewn cynhyrchion rheoleiddiedig
  • awdurdodau cymwys (awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd)
  • defnyddwyr a rhanddeiliaid ehangach

Mae rhestr o bartïon sydd â buddiant wedi’i chynnwys yn Atodiad A.

Pwrpas yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar gynigion cychwynnol ar gyfer diwygiadau deddfwriaethol er mwyn symleiddio’r broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig. Etifeddwyd y broses awdurdodi bresennol gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), ac mae Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Bwrdd Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cytuno y bydd angen gwneud newidiadau sylweddol er mwyn sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n gallu ymdopi â chyflymder arloesi yn y diwydiant bwyd. Y ddau gynnig yn yr ymgynghoriad hwn yw:

  • cael gwared ar y gofynion adnewyddu ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, ac ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid sy’n cynnwys, neu sydd wedi’u cynhyrchu ar sail organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) a chyflasynnau mwg; a
  • caniatáu i awdurdodiadau cynhyrchion rheoleiddiedig ddod i rym pan gânt eu cyhoeddi, yn debygol ar gofrestr swyddogol, yn dilyn penderfyniad gweinidogol.

Mae’r ymgynghoriad hwn ar y cyd rhwng yr ASB ac FSS yn gyfle i randdeiliaid gyfrannu at y cyngor terfynol a roddir i weinidogion.

Mae’r ASB ac FSS yn bwriadu cyflwyno cynigion pellach ar gyfer diwygio a moderneiddio’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig. Cam cyntaf yw’r cynigion hyn. Bydd mwy o wybodaeth am gynlluniau diwygio tymor hwy yn cael ei chyflwyno i Fyrddau’r ASB ac FSS ym mis Mehefin 2024 ac, os caiff y cynlluniau hyn eu derbyn, byddant yn destun ymgynghoriad ar wahân.

Sut i ymateb

Darperir arolwg ar-lein ar gyfer ymatebion, ac anogir ymatebwyr i ddefnyddio hwn. Fel arall, e-bostiwch eich ymateb i: RPconsultations@food.gov.uk.

Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.

Manylion yr ymgynghoriad

Cefndir

Mae angen i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, gael eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu. Mae cynhyrchion rheoleiddiedig yn cynnwys ychwanegion bwyd, cyflasynnau, bwydydd newydd, organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) i’w defnyddio fel bwyd a bwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, ac ychwanegion bwyd anifeiliaid. Pan adawodd y DU yr UE, cafodd deddfwriaeth ar gynhyrchion rheoleiddiedig ei dargadw fel deddfwriaeth ddomestig. Cadwyd rheoliadau’r UE ar gyfer cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig, a gwnaed mân addasiadau angenrheidiol yn unig iddynt, a hynny er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth a chynnal safonau diogelwch bwyd. Ers 1 Ionawr 2024, yr enw ar gyfraith yr UE a ddargedwir yw cyfraith a gymathwyd. Mae rhestr anghynhwysfawr o ddeddfwriaeth berthnasol wedi’i chynnwys yn Atodiad B.

Mae’r ASB (ar gyfer Cymru a Lloegr) ac FSS (ar gyfer yr Alban) yn cael ceisiadau awdurdodi ar ran gweinidogion, yn cynnal asesiadau (gan gynnwys proses dadansoddi risg) ac yn gwneud argymhellion i’r gweinidogion priodol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae gweinidogion yn gwneud y penderfyniad terfynol o ran a ddylid awdurdodi cynhyrchion drwy ragnodi’r awdurdodiad mewn Offeryn Statudol (OS) / Offeryn Statudol yr Alban (SSI). Mae hyn yn cynnwys ceisiadau am gynhyrchion newydd, ynghyd ag adnewyddu, addasu neu ddirymu awdurdodiadau ar gyfer cynhyrchion presennol.

Rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno gosod cynhyrchion rheoleiddiedig ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr UE gyflwyno ceisiadau gerbron yr UE. O dan drefniadau Fframwaith Windsor, gall cynhyrchion rheoleiddiedig a awdurdodwyd ym Mhrydain Fawr hefyd gael eu rhoi ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, ar yr amod eu bod yn gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS) a’u bod yn cael eu symud drwyddo.

Adnewyddu awdurdodiadau

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid adnewyddu awdurdodiadau ar gyfer y mathau canlynol o gynhyrchion:

  • ychwanegion bwyd anifeiliaid;
  • organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) i’w defnyddio fel bwyd a bwyd anifeiliaid;
  • cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu y bwriedir iddynt gael eu defnyddio mewn bwydydd neu arnynt.

Ar gyfnodau penodol o ddeng mlynedd, mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr wneud cais am adnewyddiad, sydd fel arfer yn cynnwys adolygu unrhyw dystiolaeth newydd sydd wedi dod i’r amlwg ers yr awdurdodiad diwethaf, adolygu dulliau profi newydd a darparu unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i’r amodau defnydd a nodwyd yn yr awdurdodiad diwethaf. Mae dull dadansoddi risg yr ASB/FSS eisoes yn darparu mecanweithiau penodol i’r ASB/FSS fonitro tystiolaeth newydd ynghylch awdurdodiadau ar unrhyw adeg briodol. Yn unol â darpariaethau’r trefniadau awdurdodi perthnasol, mae gan yr ASB/FSS bwerau i weithredu ar unwaith os daw tystiolaeth newydd i’r amlwg sy’n galw am adolygu awdurdodiad, er enghraifft os bydd risg o ran diogelwch bwyd a/neu fwyd anifeiliaid yn dod i’r amlwg. Mae hyn yn berthnasol ar draws pob un o’r deuddeg o drefniadau ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig. Gellir sbarduno’r pwerau ar gyfer gwahanol resymau, a defnyddio tystiolaeth o amrediad eang o ffynonellau, gan gynnwys o fusnesau bwyd neu fwyd anifeiliaid, rheoleiddwyr eraill neu gyrff asesu risg, cyhoeddiadau/astudiaethau mewn cyfnodolion gwyddonol.

Gallai adolygiad arwain at addasu, atal neu ddirymu awdurdodiadau. Yn ogystal, mae yna bwerau o dan Erthygl 53 o Reoliad  a Gymathwyd (CE) Rhif 178/2002 sy’n caniatáu cymryd mesurau brys (sy’n cynnwys atal rhoi cynnyrch ar y farchnad neu unrhyw fesur dros dro priodol arall) mewn achosion pan fo cynnyrch yn debygol o beri risg ddifrifol i iechyd pobl, iechyd anifeiliaid neu’r amgylchedd. Yn ogystal, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau adrodd i’w hawdurdodau diogelwch bwyd os oes ganddynt le i gredu y gallai rhoi’r bwyd neu’r bwyd anifeiliaid ar y farchnad wneud niwed i ddefnyddwyr. Yn dilyn adroddiad, mae’r ASB/FSS yn dadansoddi’r risg hon i ddiogelwch er mwyn llywio’r broses o benderfynu ynghylch a yw’r cynnyrch yn gallu bodloni’r safonau diogelwch bwyd derbyniedig i aros ar y farchnad. Enghraifft o gynnyrch sydd wedi peri i’r ASB/FSS fynd ati’n rhagweithiol i gynnal adolygiad diogelwch yw’r ychwanegyn bwyd titaniwm deuocsid (E171). Gweler y gofrestr o faterion sy’n destun dadansoddiad risg.

Mae manylion am sut mae’r ASB ac FSS yn gwneud argymhellion ar sail tystiolaeth (y broses dadansoddi risg) i’w gweld ar y diagram llif cyhoeddedig (PDF).

Y broses Offerynnau Statudol ar gyfer awdurdodiadau

Ar ôl i benderfyniad gweinidogol i awdurdodi gael ei wneud, yn unol â’r drefn bresennol, mae angen OS/SSI (o dan y weithdrefn datrysiad negyddol) i roi effaith ddeddfwriaethol i’r penderfyniad hwnnw cyn y gellir rhoi cynhyrchion ar y farchnad. Yn seiliedig ar y ceisiadau sydd wedi’u cymeradwyo drwy broses Prydain Fawr ers 2021, mae’r cyfnod o gymeradwyaeth gweinidogol i awdurdodiad cyfreithiol ffurfiol yn cyfrif am o leiaf 3 mis o’r amser a gymerir i gynnyrch newydd gael awdurdodiad ar gyfer y farchnad, ac weithiau’n hirach. Cyflwynwyd y gofyniad i osod OS/SSI wrth ymadael â’r UE, a hynny i ddarparu ar gyfer y gwahaniaethau yng ngweithrediad Cyfraith yr UE a phrosesau rheoleiddio a deddfwriaethol Prydain Fawr. Nid yw sefydliadau cyfatebol yr UE a Senedd Ewrop yn darparu unrhyw graffu ar ddeddfwriaeth drydyddol gan Gomisiwn yr UE wrth awdurdodi awdurdodiadau unigol ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig.

Mae’r ASB/FSS yn gweithio ar sail sy’n ystyried y DU gyfan, yn unol ag ymrwymiadau’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. Fel rhan o’r fframwaith hwn, ein nod yw defnyddio dull cyffredin ar gyfer awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig, a hynny er mwyn lleihau a rheoli unrhyw wahaniaeth ar draws y DU. Mae’r gofynion ar gyfer gosod is-ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau seneddol yn amrywio ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban. Mae yna wahaniaethau o ran prosesau, amserlenni a thoriadau seneddol, a gallai’r rhain gyflwyno heriau wrth alinio dulliau gweithredu.

Mae’r dulliau presennol ar gyfer rhagnodi awdurdodiadau cynhyrchion mewn deddfwriaeth, sy’n amrywio yn ôl y math o gynnyrch rheoleiddiedig, yn cynnwys rhestrau o fewn deddfwriaeth neu ddarnau unigol o ddeddfwriaeth ar gyfer pob awdurdodiad. Dyma’r ffynhonnell wybodaeth y mae awdurdodau lleol, busnesau a phartïon eraill â buddiant yn ei defnyddio i ddod o hyd i awdurdodiadau.

Amcanion polisi

Amcan polisi cyffredinol yr ASB yw sicrhau bod cynhyrchion rheoleiddiedig sydd i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid yn destun asesiadau priodol o ran diogelwch cyn y gellir eu hawdurdodi i’w rhoi ar y farchnad. Wrth wneud hynny, ein nodau (yn unol â’n hegwyddorion arweiniol) yw:

  • rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a hynny oll yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth;
  • cefnogi arloesedd yn y system fwyd a all ddod â manteision i ddefnyddwyr;
  • bod yn gymesur yn ein dulliau gweithredu, gan leihau beichiau diangen ar fusnesau, seilio ein penderfyniadau ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a darparu gwerth i drethdalwyr;
  • bod yn agored a thryloyw.

FSS yw’r corff bwyd yn y sector cyhoeddus yn yr Alban, a’i nod yw diogelu iechyd a lles defnyddwyr yn yr Alban o dan amcanion a osodwyd yn Neddf Bwyd (yr Alban) 2015. Wrth gydweithio â’r ASB i ddiwygio’r ddeddfwriaeth ar gynhyrchion rheoleiddiedig, bydd FSS yn gweithio yn unol â’r pum nod yn ei strategaeth ar gyfer 2021 i 2026, sef:

  • bod bwyd yn ddiogel ac yn ddilys;
  • bod gan ddefnyddwyr ddeiet iachach;
  • bod busnesau bwyd cyfrifol yn gallu ffynnu;
  • bod defnyddwyr yn cael eu grymuso i wneud dewisiadau cadarnhaol am fwyd;
  • bod FSS yn sefydliad dylanwadol y gall pobl ymddiried ynddo.

Bydd y diwygiadau arfaethedig yn symleiddio’r system bresennol, gan ddarparu buddion effeithlonrwydd sylweddol i fusnesau ac i’r ASB/FSS, gan effeithio’n gadarnhaol ar ddewis defnyddwyr. Byddant yn dod â manteision i ddefnyddwyr trwy ddewis gwell o fwyd a bwyd anifeiliaid diogel, a hynny wrth sicrhau mwy o werth i’r trethdalwr. Bydd y newidiadau arfaethedig yn rhyddhau adnoddau’r ASB/FSS er mwyn canolbwyntio ar awdurdodiadau newydd, gan gynnwys cynhyrchion arloesol fel ychwanegion bwyd anifeiliaid sy’n lleihau methan, wrth gynnal arferion rheoleiddio effeithiol ar gyfer diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.

Cynigion

Adnewyddu awdurdodiadau

O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae’n rhaid adnewyddu’r awdurdodiadau bob deng mlynedd ar gyfer y mathau canlynol o gynhyrchion:

  • ychwanegion bwyd anifeiliaid;
  • bwyd neu fwyd anifeiliaid sy’n cynnwys neu sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio organebau a addaswyd yn enetig (GMOs);
  • cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu y bwriedir iddynt gael eu defnyddio mewn bwydydd neu arnynt.

I gadw’r cynhyrchion hyn ar y farchnad, mae’n rhaid i fusnesau wneud ceisiadau adnewyddu er mwyn gallu ail-werthuso’r wybodaeth awdurdodi yng ngoleuni datblygiadau technolegol a gwyddonol. Mae’r gofynion hyn wedi bod yn gyfreithiol ers dros 20 mlynedd. Maent yn ddull anghymesur o gynnal diogelwch y cynhyrchion hyn, ac yn ddefnydd aneffeithlon o adnoddau’r ASB/FSS a busnesau, heb unrhyw fanteision ychwanegol o ran diogelwch bwyd. Byddai cael gwared ar y gofynion hyn yn hybu dull mwy rhagweithiol a deinamig o gynnal diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, a hynny wrth gadw’r gallu i osod gofynion monitro ôl-farchnad ac eglurhau pwerau’r ASB/FSS i adolygu awdurdodiadau presennol a chymryd camau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch bwyd lle bo angen. Bydd yr ASB yn parhau i fynd ati’n rhagweithiol i fonitro risgiau sy’n dod i’r amlwg gan gynnwys, er enghraifft, risg bioddiogelwch.

Bydd diwygiadau arfaethedig yr ASB/FSS yn cryfhau’r pwerau a’r prosesau sydd eisoes ar waith i gynnal y safonau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a nodir yn yr adran Cefndir uchod. Mae cynhyrchion sy’n destun gofynion adnewyddu eisoes wedi cael asesiad diogelwch digonol fel rhan o’u hawdurdodiad cychwynnol. Mae’n ofynnol i ddeiliaid awdurdodiad fynd ati’n rhagweithiol i roi gwybod i’r ASB/FSS os byddant yn dod yn ymwybodol o unrhyw beth newydd sy’n bwrw amheuaeth ar asesiad diogelwch blaenorol. Mae’r ASB/FSS yn cadw’r gofyniad hwn ac yn ystyried sut i’w gwneud yn gliriach i fusnesau beth yw eu cyfrifoldebau. Mae hyn yn gyson â’r rhwymedigaethau cyffredinol presennol ar bob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid i ddweud wrth yr ASB/FSS os oes lle i gredu nad yw bwyd neu fwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â gofynion diogelwch. Yn ogystal, os daw tystiolaeth newydd i’r amlwg sy’n galw am gynnal adolygiad o awdurdodiad, mae’r ASB/FSS yn ymchwilio i ffyrdd o gadw’r gallu i’r ASB/FSS wneud cais am wybodaeth gan fusnesau i lywio’r adolygiad hwnnw a gweithredu’n unol â hynny. Byddai hyn yn cael gwared ar y dyletswyddau ar fusnesau i gyflwyno ceisiadau adnewyddu, gan roi, yn lle hynny, y gallu i’r ASB/FSS wneud cais am wybodaeth gan fusnesau penodol ar sail ad hoc os bydd angen adolygu’r awdurdodiad.

Byddai’r newidiadau hyn yn arwain at lai o faich ar fusnesau heb unrhyw ostyngiad yn y safonau diogelwch bwyd presennol. Bydd adolygiadau sy’n fwy targededig yn golygu na fydd yn ofynnol mwyach i fusnesau gyflwyno cais adnewyddu bob 10 mlynedd. Yn wir, ar sail ein gwaith ymgysylltu hyd yma, mae busnesau’n cefnogi cynigion sy’n lleihau beichiau gweinyddol ac sy’n cynnal llwybrau clir ar gyfer adrodd ar ddata anffafriol. Bydd y diwygiadau arfaethedig i’r gofynion adnewyddu yn gwella gallu’r ASB/FSS i asesu’r dystiolaeth a rhoi cyngor i weinidogion er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch y posibilrwydd o addasu, atal neu ddirymu awdurdodiadau.

Cael gwared ar y gofynion i osod deddfwriaeth i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig

Mae’r ASB/FSS yn cynnig ceisio cytundeb gan weinidogion i ddiwygio deddfwriaeth fel y gall awdurdodiadau cynhyrchion rheoleiddiedig ddod i rym drwy eu cyhoeddi ar ôl penderfyniad gweinidogol ac nad oes rhaid eu nodi na’u rhestru’n llawn mewn deddfwriaeth. Byddai hyn yn cynnwys cael gwared ar restrau o gynhyrchion awdurdodedig (lle maent yn bodoli) ac awdurdodiadau unigol sydd wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth ar hyn o bryd, ac, yn lle hynny, nodi awdurdodiadau cyhoeddedig ar ffurf cofrestr swyddogol ar-lein yn ôl pob tebyg. Bydd hyn yn sicrhau effeithlonrwydd sylweddol yn y Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig, gan leihau’r risg o oedi awdurdodiadau yn y dyfodol wrth sicrhau bod diogelwch a safonau bwyd yn cael eu cynnal. Mae’r arbedion effeithlonrwydd hyn yn cynnwys:

  • creu proses fwy effeithlon ar gyfer dod ag awdurdodiadau i rym yn dilyn penderfyniad gweinidogol, gan gwtogi’r broses o leiaf 3 mis;
  • hwyluso defnydd effeithiol o adnoddau polisi, adnoddau cyfreithiol (ar draws y llywodraeth) ac adnoddau seneddol, gan gyfyngu ar amser seneddol;
  • lleihau’r amser a’r adnoddau sydd eu hangen i gofnodi a chyhoeddi pa gynhyrchion sydd wedi’u hawdurdodi.

Bydd yr arbedion effeithlonrwydd hyn yn galluogi’r ASB/FSS i ganolbwyntio ar awdurdodiadau newydd, gan gynnwys cynhyrchion arloesol fel ychwanegion bwyd anifeiliaid sy’n lleihau methan ac sydd â buddion amgylcheddol ac sy’n cefnogi agenda llywodraeth y DU ar gyfer twf economaidd. Byddant hefyd yn gwella’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y diwydiant, yn cynnig mwy o werth i drethdalwyr ac, yn y pen draw, byddant yn sicrhau bod modd i ddefnyddwyr gael mwy o ddewis neu fynediad ehangach at gynhyrchion buddiol a fydd yn dod i’r farchnad yn gynt. Bydd yr amser a gymerir rhwng gwneud penderfyniad ac awdurdodi yn fyrrach, gan leihau beichiau rheoleiddiol, meithrin cynhyrchiant ac arloesedd, a chaniatáu i gynhyrchion newydd, diogel gyrraedd y farchnad yn gynt.

Ni fydd y buddion hyn yn newid proses benderfyniadau bresennol y gweinidogion: bydd angen cymeradwyaeth weinidogol o Gymru, Lloegr a’r Alban o hyd cyn y byddai cynhyrchion yn cael eu hawdurdodi. Unwaith y caiff ei gymeradwyo, bydd awdurdodiad yn dod i rym pan fydd awdurdodiad cynnyrch wedi’i gyhoeddi gan yr ASB/FSS – bydd y cyhoeddiad yn deddfu’r penderfyniad.

Bydd awdurdodiadau cyhoeddedig yn cynnwys yr un wybodaeth sydd wedi’i hamlinellu mewn deddfwriaeth ar hyn o bryd. Nid oes angen amlinellu manylion gwyddonol a thechnegol awdurdodiadau yn gynhenid mewn deddfwriaeth. Bydd ceisiadau’n destun archwiliad gofalus gan gynrychiolwyr o feysydd gwyddoniaeth, polisi a’r gyfraith, a byddant yn parhau i fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, cyn i argymhellion gael eu cyflwyno i weinidogion am benderfyniad. Mae’r broses hon yn cyd-fynd ag egwyddorion dadansoddi risg a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae’n sicrhau bod penderfyniadau ar awdurdodiad bwyd neu fwyd anifeiliaid yn seiliedig ar asesiad o’i ddiogelwch.

Bydd cynigion yr ASB/FSS yn gwneud y broses awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig yn debyg i brosesau awdurdodi a ddefnyddir gan reoleiddwyr eraill y DU. Mae prosesau awdurdodi cymaradwy ar gyfer meddyginiaethau milfeddygol a chynhyrchion diogelu planhigion (plaladdwyr) nad oes angen deddfwriaeth arnynt i ddod ag awdurdodiadau i rym. Yn y ddau achos, mae’r ddeddfwriaeth yn manylu ar yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chyflwyno mewn cais er mwyn cynnal asesiad diogelwch, yn ogystal â’r weithdrefn ar gyfer awdurdodi. Ar gyfer meddyginiaethau milfeddygol, cedwir cronfa ddata ar wefan y llywodraeth (Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol) sy’n manylu ar yr awdurdodiadau cyfredol, yn ogystal â’r rhai sydd wedi dod i ben a’r rhai a wrthodwyd. Ar gyfer plaladdwyr, mae’r ddeddfwriaeth yn manylu ar y gofynion ar gyfer cofrestr o sylweddau cymeradwy, ac mae yna gyfleuster ar wefan y llywodraeth (Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) lle gall defnyddwyr chwilio am sylweddau awdurdodedig.

Ar gyfer y ddau gynnig allweddol, mae’n debygol y bydd angen gwneud mân newidiadau technegol a chanlyniadol i ddeddfwriaethau eraill er mwyn gweithredu’r cynigion a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad hwn.

Sut mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi llywio’r cynigion hyn

Yn ystod gwanwyn 2023, gwnaeth yr ASB gwblhau adolygiad allanol o’r Fframwaith Rheoleiddio Bwydydd Newydd. Cyhoeddwyd crynodeb o’r canfyddiadau ar 7 Mehefin 2023. Trwy’r gwaith hwn, nodwyd opsiynau posib ar gyfer diwygio yn y dyfodol sy’n berthnasol ar draws y system gyfan.

Gwahoddwyd rhanddeiliaid (gan gynnwys busnesau bach a chanolig) o bob rhan o’r cyfundrefnau ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig hefyd i rannu eu mewnwelediad ar y broses awdurdodi drwy arolwg a gweithdai dilynol, a gynhaliwyd ar 29 a 30 Tachwedd 2023. Roedd y gweithdai’n archwilio’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer nifer o nodweddion polisi ynghylch diwygio. Roedd cynrychiolwyr o’r diwydiant yn cefnogi’r diwygiadau, gan nodi bod angen newid y system bresennol gan ei bod yn aneffeithlon ar hyn o bryd ac nad yw’n cefnogi arloesedd. Roeddent yn cefnogi’r angen am ddiwygiadau, a hynny i leihau beichiau gweinyddol heb ostwng y safonau diogelwch bwyd cyfredol. Bydd y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad hwn, ynghyd â’n cynigion pellach arfaethedig ar gyfer diwygio a moderneiddio’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig, yn cyflawni’r prif argymhellion gan y sawl a gymerodd ran yn y gweithdai hyn.

Mae Byrddau’r ASB ac FSS wedi cael eu diweddaru’n rheolaidd ar ddatblygiad y cynigion hyn ers 2023, pan gytunodd y ddau Fwrdd y dylid datblygu cynlluniau i wella’r system bresennol er mwyn sicrhau bod gan ddefnyddwyr fynediad cynt at ddewis ehangach o gynhyrchion diogel ac arloesol. Ym mis Mawrth 2024, cadarnhaodd Byrddau’r ASB ac FSS eu bod yn cefnogi’r cynigion a geir yn yr ymgynghoriad hwn. Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd yr ASB ac FSS yn gyhoeddus, gan alluogi rhanddeiliaid i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu’r cynigion hyn, a chroesewir cwestiynau ar y papurau dan sylw. Mae’r papurau a gyflwynir i Fyrddau’r ASB ac FSS ar gael ar wefannau’r ASB ac FSS.

Asesiad Effaith

Mae’r ASB/FSS wedi cwblhau dadansoddiad cynnar o’r effeithiau posib a fyddai’n deillio o’r cynigion hyn, pe bai gweinidogion yn cytuno i’r diwygiadau. Bydd asesiad meintiol ac ansoddol o’r effeithiau’n cael ei nodi mewn memorandwm esboniadol pan gyhoeddir y ddeddfwriaeth weithredu. Mae’r effaith wedi’i hasesu yn erbyn y status quo – llinell sylfaen y ddeddfwriaeth bresennol ar gynhyrchion rheoleiddiedig. Yn gyffredinol, y disgwyl yw y bydd gweithredu’r cynigion hyn yn rhoi’r baich lleiaf ar fusnesau ac ar gyrff cyhoeddus/gorfodi. Ni nodwyd unrhyw effeithiau ar ddiogelwch bwyd nac ar iechyd defnyddwyr. Gwnaed yr ystyriaethau canlynol:

Defnyddwyr

  • Costau: ni nododd ein hasesiad ar y cyd o’r cynigion unrhyw effeithiau ar gyfer defnyddwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd. Y rheswm dros hynny yw y bydd yr ASB/FSS yn cadw’r pŵer i adolygu awdurdodiadau presennol a chymryd camau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch bwyd lle bo angen. Bydd effaith ar y defnyddwyr hynny sydd â diddordeb mewn gweld rhestrau o gynhyrchion awdurdodedig gan y bydd angen iddynt ymgyfarwyddo â lleoliad newydd y rhestrau.
  • Manteision: byddai dileu’r broses OS yn cwtogi’r broses awdurdodi ac yn galluogi cynhyrchion i gyrraedd y farchnad yn gynt, gan arwain at fwy o ddewis i ddefnyddwyr. Mae’n debygol y byddai defnyddwyr yn ei chael hi’n haws dod o hyd i wybodaeth am awdurdodiadau oherwydd na fyddai rhestrau’n cael eu cadw o fewn deddfwriaeth.

Busnesau

  • Costau: bydd y brif gost untro uniongyrchol ar gyfer busnesau sydd â buddiant mewn unrhyw un o’r tri math o gynnyrch sydd â gofynion adnewyddu ar hyn o bryd. Bydd y gost yn cynnwys ymgyfarwyddo â’r fframwaith rheoleiddio arfaethedig sy’n dileu’r gofynion hyn. Ar gyfer busnesau sydd â buddiant mewn unrhyw gynnyrch rheoleiddiedig, bydd cost untro yn gysylltiedig ag ymgyfarwyddo â lleoliad newydd y rhestrau sy’n manylu ar y telerau awdurdodi.
  • Manteision: byddai llai o faich ar fusnesau, gan na fydd angen iddynt gyflwyno cais adnewyddu bob 10 mlynedd mwyach, gan arwain at arbed costau. Yn ogystal, byddai cael gwared ar y broses OS/SSI yn cwtogi’r broses awdurdodi ac yn galluogi cynhyrchion i gyrraedd y farchnad yn gynt ar ôl i weinidogion wneud penderfyniad, gan arwain at gynnydd yn y gyfradd enillion ar fuddsoddiad. Mae’n debygol y byddai busnesau’n ei chael hi’n haws dod o hyd i wybodaeth am awdurdodiadau oherwydd na fyddai rhestrau’n cael eu cadw o fewn deddfwriaeth.

Awdurdodau Lleol / Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd

  • Costau: bydd cost ymgyfarwyddo untro â’r fframwaith rheoleiddio newydd nad yw’n cynnwys gofynion adnewyddu mwyach ac â lleoliad newydd y rhestrau sy’n manylu ar y telerau awdurdodi. Oherwydd cytundeb Fframwaith Windsor, byddai costau ymgyfarwyddo untro hefyd yn gymwys i gynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon.
  • Manteision: ni fydd angen i awdurdodau gorfodi fod yn wyliadwrus mwyach am ddyddiadau dod i ben, gan ostwng beichiau ar adnoddau. Mae’n debygol y byddai awdurdodau gorfodi’n ei chael hi’n haws dod o hyd i wybodaeth am awdurdodiadau oherwydd na fyddai rhestrau’n cael eu cadw o fewn deddfwriaeth.

Y camau nesaf

Ar ôl dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, bydd swyddogion yr ASB/FSS yn rhoi cyngor ac argymhellion i weinidogion perthnasol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban (gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i weinidogion Gogledd Iwerddon) er mwyn gwneud penderfyniad.

Yn dilyn y broses ymgynghori, bydd ymatebion yn cael eu cyhoeddi, a byddant ar gael i randdeiliaid a gweinidogion.

Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn

1.    A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gael gwared ar y gofynion i adnewyddu awdurdodiadau bob 10 mlynedd ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, organebau a addaswyd yn enetig i’w defnyddio mewn bwyd a bwyd anifeiliaid, a chyflasynnau mwg?
a)    Nodwch a ydych yn cytuno’n gryf, yn cytuno, ddim yn cytuno nac yn anghytuno, yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf.
b)    Rhowch eich rhesymau dros eich ymateb.

2.    A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gael gwared ar y gofynion ar gyfer rhagnodi awdurdodiadau ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig a’u gosod mewn deddfwriaeth ar ôl penderfyniad gweinidogol i awdurdodi’r cynhyrchion rheoleiddiedig dan sylw, ac yn lle hynny osod dyletswydd i gyhoeddi awdurdodiadau ar ôl penderfyniad y gweinidog i awdurdodi’r cynhyrchion rheoleiddiedig dan sylw?
a)    Nodwch a ydych yn cytuno’n gryf, yn cytuno, ddim yn cytuno nac yn anghytuno, yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf.
b)    Rhowch eich rhesymau dros eich ymateb.

3.    A oes gennych unrhyw sylwadau ar ein hasesiad o effeithiau’r newidiadau arfaethedig, neu a oes gennych sylwadau i’w hychwanegu nad ydynt wedi’u nodi yn yr ymgynghoriad hwn?

Eglurwch unrhyw safbwyntiau a roddwyd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad a rhowch dystiolaeth berthnasol i ategu’ch safbwyntiau lle bo modd. Bydd hyn yn ein helpu i ddadansoddi ymatebion i lywio ein proses benderfynu.

Sut i ymateb i’r ymgynghoriad

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am 9 wythnos. Rhaid i’r ymatebion ddod i law erbyn diwedd y dydd ar 5 Mehefin 2024. Dylech ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk

Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.

Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, byddwn yn adolygu’r ymatebion a bydd adroddiad sy’n cynnwys crynodeb o’r ymatebion yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr ASB. I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau

Rhennir ymatebion gydag FSS.

Rhagor o wybodaeth

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.

Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban, diolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Yn gywir,

Y Tîm Ymgysylltu, Arloesi, a Diwygio Rheoleiddiol, Gwasanaethau Rheoleiddiedig

Aodiad A: Rhestr o randdeiliaid

Cysylltir yn uniongyrchol â chymdeithasau masnach rhanddeiliaid allweddol sydd â buddiant sylweddol mewn cynhyrchion rheoleiddiedig, ac a gynrychiolir ar draws pedair gwlad y DU, er mwyn cael eu hadborth am yr ymgynghoriad hwn:

  • ArloesiAber
  • Beyond GM
  • Busnes Cymru
  • Campden BRI
  • Canolfan Bwyd Cymru
  • Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE
  • Consortiwm Manwerthu Cymru
  • Consortiwm Manwerthu Gogledd Iwerddon
  • Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC)
  • Croplife
  • Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC)
  • Y Cyngor Biotechnoleg Amaethyddol
  • Cyngor Maeth Cyfrifol y DU (CRN UK)
  • Cyngor Moeseg Bwyd
  • Cymdeithas Blasau’r DU
  • Cymdeithas Bwyd a Diod Gogledd Iwerddon
  • Cymdeithas Bwydydd Oer
  • Cymdeithas Cywarch Diwydiannol Ewrop
  • Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain
  • Cymdeithas Ddeieteg Prydain
  • Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Atchwanegiadau ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid Prydain (BAFSAM)
  • Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Bwyd Iachus
  • Cymdeithas Maeth Arbenigol Prydain (BSNA)
  • Cymdeithas Masnach Canabis
  • Cymdeithas Masnach Grawn Gogledd Iwerddon (NIGTA)
  • Cymdeithas Masnach Marchogaeth Prydain (BETA)
  • Cymdeithas y Pridd
  • Cymdeithas Proteinau Amgen (APA)
  • Cymdeithas Ychwanegion a Chynhwysion Bwyd (FAIA)
  • Food Foundation
  • Ffederasiwn Busnesau Bach (Cymru)
  • Ffederasiwn Busnesau Bach (Gogledd Iwerddon)
  • Ffederasiwn Bwyd a Diod (Cymru)
  • Ffederasiwn Bwyd a Diod (Lloegr)
  • Ffederasiwn Masnachu Darpariaethau
  • Ffermwyr a Thyfwyr Organig
  • Y Ganolfan Dechnoleg Bwyd
  • Gene Watch
  • GM Freeze
  • Grŵp Sector y Ffederasiwn Bwyd a Diod: Ychwanegion bwyd
  • Y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol
  • Y Gymdeithas Masnach Grawn a Bwyd Anifeiliaid (GAFTA)
  • Hybu Cig Cymru
  • Leatherhead Food International
  • Scotland Food and Drink
  • Sefydliad Bwyd Da Ewrop (GFI Europe)
  • Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd
  • Sefydliad Maetheg Prydain
  • Sustain
  • Swyddfa Genedlaethol Iechyd Anifeiliaid (NOAH)
  • UK Hospitality Cymru
  • UK Pet Food (y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Bwyd Anifeiliaid Anwes (PFMA) yn flaenorol)
  • Undeb Amaethwyr Cymru
  • Undeb Amaethwyr Ulster
  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr yr Alban
  • Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
  • Which?
  • WWF

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Atodiad B: Rhestr anghynhwysfawr o ddeddfwriaeth berthnasol

Mae’r ddeddfwriaeth a restrir isod yn nodi rhai o’r deddfwriaethau allweddol y bydd y cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn effeithio arnynt. Ni fwriedir i hon fod yn rhestr gynhwysfawr, ac, fel y nodwyd yn y ddogfen hon:

  • rydym hefyd yn cynnig cael gwared ar restrau o gynhyrchion awdurdodedig (lle maent yn bodoli) ac awdurdodiadau unigol sydd wedi’u cynnwys mewn deddfwriaeth ar hyn o bryd, ac, yn lle hynny, nodi awdurdodiadau cyhoeddedig ar ffurf cofrestr swyddogol ar-lein yn ôl pob tebyg; ac
  • mae hefyd yn debygol y bydd angen gwneud mân newidiadau technegol a chanlyniadol i ddeddfwriaethau eraill nad ydynt wedi’u rhestru isod er mwyn gweithredu’r cynigion a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad hwn.

Deddfwriaeth a gymathwyd sy’n ymwneud ag ychwanegion bwyd anifeiliaid, yn benodol:

  • Rheoliad (CE) Rhif 1831/2003 ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid
  • Rheoliad (CE) Rhif 378/2005 ar y rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (CE) Rhif 1831/2003 o ran dyletswyddau a thasgau’r Labordy Cyfeirio Cymunedol ynghylch ceisiadau i awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid
  • Rheoliad (CE) Rhif 429/2008 ar y rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (CE) Rhif 1831/2003 mewn perthynas â pharatoi a chyflwyno ceisiadau, ac asesu ac awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid

Deddfwriaeth a gymathwyd sy’n ymwneud ag ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd, yn benodol:

  • Rheoliad (CE) Rhif 1331/2008 sy’n sefydlu gweithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd
  • Rheoliad (CE) Rhif 1332/2008 ar ensymau bwyd
  • Rheoliad (CE) Rhif 1333/2008 ar ychwanegion bwyd
  • Rheoliad (CE) Rhif 1334/2008 ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol sydd â nodweddion cyflasu i’w defnyddio mewn ac ar fwydydd, ac ati
  • Rheoliad (CE) Rhif 231/2012 sy’n gosod manylebau ar gyfer yr ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (CE) Rhif 1333/2008
  • Rheoliad (UE) Rhif 872/2012 sy’n mabwysiadu’r rhestr o sylweddau cyflasynnau y darperir ar ei chyfer gan Reoliad (CE) Rhif 2232/96, sy’n ei chyflwyno yn Atodiad I i Reoliad (CE) Rhif 1334/2008 ac sy’n diddymu Rheoliad (CE) Rhif 1565/2000 a Phenderfyniad 1999/217/EC
  • Rheoliad (UE) Rhif 873/2012 ar fesurau trosiannol sy’n ymwneud â rhestr yr Undeb Ewropeaidd o gyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell a nodir yn Atodiad I i Reoliad (CE) Rhif 1334/2008

Deddfwriaeth a gymathwyd sy’n ymwneud â deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, yn benodol:

  • Rheoliad (CE) Rhif 1935/2004 ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac ati
  • Rheoliad (CE) Rhif 282/2008 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig wedi’u hailgylchu y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac ati
  • Rheoliad (CE) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd
  • Rheoliad (UE) Rhif 10/2011 ar ddeunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd

Deddfwriaeth a gymathwyd sy’n ymwneud ag organebau a addaswyd yn enetig, yn benodol:

  • Rheoliad (CE) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig
  • Rheoliad (CE) Rhif 641/2004 ar y rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (CE) Rhif 1829/2003 o ran y cais i awdurdodi bwyd a bwyd anifeiliaid newydd a addaswyd yn enetig, rhoi gwybod am gynhyrchion presennol a phresenoldeb digwyddiadol neu anosgoadwy deunydd a addaswyd yn enetig sydd wedi cael gwerthusiad risg ffafriol
  • Rheoliad Gweithredu (UE) Rhif 503/2013 ar geisiadau i awdurdodi bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig, yn unol â Rheoliad (CE) Rhif 1829/2003, ac ati

Deddfwriaeth a gymathwyd sy’n ymwneud â bwydydd newydd, yn benodol:

  • Rheoliad (UE) 2015/2283 ar fwydydd newydd, ac ati
  • Rheoliad Gweithredu (UE) 2017/2470 sy’n sefydlu’r rhestr o fwydydd newydd

Deddfwriaeth a gymathwyd sy’n ymwneud â chyflasynnau mwg, yn benodol:

  • Rheoliad (CE) Rhif 2065/2003 ar gyflasynnau mwg a ddefnyddir neu y bwriedir iddynt gael eu defnyddio mewn bwydydd neu arnynt
  • Rheoliad Gweithredu (UE) Rhif 1321/2013 sy’n sefydlu’r rhestr o gynhyrchion crai awdurdodedig â chyflasyn mwg i’w defnyddio felly mewn neu ar fwyd, a/neu ar gyfer cynhyrchu cyflasynnau mwg deilliadol