Galwadau am ddata
Pam rydym yn ceisio data a sut y caiff eich data ei ddefnyddio.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) sy’n gyfrifol am sicrhau bod y bwyd rydym yn ei fwyta yn ddiogel. I asesu hyn, mae angen data arnom i lywio asesiadau risg fel rhan o’r broses dadansoddi risg gyffredinol. Mae’r broses dadansoddi risg wedi’i chrynhoi fel siart llif gyda chofrestr o faterion asesu risg ar ein gwefan.
Mae casglu’r data hwn yn sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth a’r wybodaeth fwyaf priodol.
Rydym yn ceisio data ar lefelau’r halogion a geir mewn bwydydd yn bennaf. Bydd yn ein helpu i ddeall y sefyllfa ar lawr gwlad o ran halogiad cemegol mewn bwyd.
Gan bwy rydym yn ceisio data
Rydym yn croesawu data, fel data am ddigwyddiadau (ar lefelau halogion mewn bwydydd), gan weithredwyr busnesau bwyd, arbenigwyr yn y maes, sefydliadau masnach, sefydliadau rhyngwladol a’r rheiny sy’n gwneud gwaith ymchwil mewn pwnc sy’n ymwneud â’r alwad am dystiolaeth.
Sut rydym yn ceisio gwybodaeth
Rydym yn cyhoeddi galwadau am dystiolaeth ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn annog rhanddeiliaid i rannu’r manylion trwy e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Trin gwybodaeth
Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cyhoeddi galwadau am ddata ar y cyd.
Bydd data a roddir i ni yn cael ei ddefnyddio i asesu ac adolygu materion diogelwch bwyd. Bydd y data’n cael ei ddefnyddio at y diben hwn yn unig ac ni chaiff ei ddefnyddio mewn unrhyw amgylchiadau ar gyfer gorfodi o unrhyw fath. Bydd data a gesglir yn cael ei gyhoeddi fel data cyfanredol ac ni chaiff ei briodoli i unigolyn, busnes, corff masnach na sefydliad.
Byddwn yn cadw data gwyddonol am 20 mlynedd.
Yr ASB fydd rheolydd y data a bydd yn gyfrifol am gydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Ni fydd y data’n cynnwys gwybodaeth bersonol, ac felly ni fydd GDPR yn berthnasol. Fodd bynnag, mae’n bosib y byddwn yn cael ein gorfodi i rannu data yn unol â chais rhyddid gwybodaeth.
Galwadau am ddata
Hanes diwygio
Published: 17 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Gorffennaf 2024