Wild game guidance
Eithriad cyflenwi manwerthwr i fanwerthwr
Mae’r rheoliadau hylendid bwyd yn caniatáu i fanwerthwr gyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i sefydliadau manwerthu eraill yn unig, heb yr angen am gymeradwyaeth fel AGHE.
Rhaid i’r cyflenwi fod yn ymylol, yn lleol ac yn gyfyngedig. Diffinnir y termau hyn ym Mholisi Cymeradwyo Gweithredol yr ASB fel hyn:
- Mae ‘ymylol’ yn golygu cyflenwi bwyd sy’n dod o anifeiliaid i fanwerthwyr eraill hyd at chwarter cyfanswm y bwyd a werthir, wedi’i gyfrifo yn ôl pwysau neu yn ôl gwerth os yw mesur yn ôl pwysau yn anymarferol ar gyfer yr ystod o gynhyrchion. Er mwyn bodloni’r maen prawf hwn, mae’n rhaid i chi, fel y manwerthwr, werthu o leiaf 75% o’r holl fwyd rydych chi’n ei gyflenwi yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol trwy eich siop fanwerthu eich hun. Rhaid i unrhyw anifeiliaid hela gwyllt neu helgig gwyllt rydych chi’n eu gwerthu, ac eithrio trwy eich siop fanwerthu eich hun, gael eu gwerthu i fanwerthwyr eraill, fel siopau cigyddion a bwytai.
- Mae ‘lleol’ yn golygu bod yn rhaid i fanwerthwyr eraill y cyflenwir iddynt fod yn yr un sir, mewn siroedd cyfagos (drws nesaf) neu’r rheiny nad ydynt fwy na 30 milltir/50 cilomedr o ffin sir y manwerthwr, p’un bynnag sydd fwyaf – ond byth y tu hwnt i’r DU, ac eithrio cyflenwi o Ogledd Iwerddon i Weriniaeth Iwerddon. Gall y siroedd hynny yng Ngogledd Iwerddon sy’n ffinio â Gweriniaeth Iwerddon gyflenwi i’r sir gyfagos yng Ngweriniaeth Iwerddon.
- Mae ‘cyfyngedig’ yn golygu bod cyflenwi helgig gwyllt i sefydliadau manwerthu eraill wedi’i gyfyngu gan y gofynion i fod yn ymylol ac yn lleol fel yr uchod.