Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ein Bwyd 2023

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi galw ar y llywodraeth i weithio gyda rheoleiddwyr i fynd i’r afael â’r prinder parhaus o weithwyr proffesiynol allweddol yn y system fwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 October 2024

Tynnir sylw at effeithiau posib y prinder hwn yn eu hadroddiad blynyddol ‘Ein Bwyd’, sef asesiad o safonau bwyd ledled y DU sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer 2023.

Arhosodd safonau bwyd yn sefydlog yn 2023, er gwaethaf pwysau gan gynnwys chwyddiant a phrinder llafur. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn codi cwestiynau am wydnwch system fwyd y DU, gan gynnwys prinder parhaus yn y galwedigaethau allweddol sydd eu hangen i gadw bwyd yn ddiogel.

Ar ôl gostyngiad hirdymor mewn niferoedd, mae’r pwysau ar swyddogion iechyd yr amgylchedd a safonau masnach mewn awdurdodau lleol yn parhau’n drwm, gydag ôl-groniad sylweddol yn nifer y busnesau bwyd sy’n aros am arolygiad.

Mae’r adroddiad hefyd yn canfod, heb fodel dibynadwy a diogel ar gyfer cyflogi milfeddygon swyddogol, fod mwy o risg o amharu ar gadwyn gig y DU yn y blynyddoedd i ddod oherwydd prinder staff, yn ogystal â chostau cynyddol a fydd yn cael eu trosglwyddo i fusnesau a defnyddwyr.

Mae’r ASB ac FSS yn galw ar y llywodraeth, y diwydiant a rheoleiddwyr i gryfhau’r rhannau hynny o’r system fwyd sydd wedi bod yn dirywio. Heb arbenigedd y gweithwyr proffesiynol allweddol hyn, mae risg wirioneddol y bydd safonau o fewn busnesau bwyd yn dirywio, gan roi pobl mewn mwy o berygl o salwch, a pheryglu ymddiriedaeth yn ein system fwyd.

Mae’r risgiau hyn yn sylweddol, gan fod sector bwyd-amaeth y DU yn cyfrannu £147.8 biliwn at economi’r DU ac yn cyfrif am £24.4 biliwn o allforion. Mae’n hanfodol bod y cyhoedd a phartneriaid masnachu yn parhau i ymddiried ym mwyd y DU, ac er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni gadw safonau’n uchel.

Roedd system fwyd y DU yn parhau i brofi heriau sylweddol trwy gydol 2023, gyda chostau byw cynyddol a chwyddiant yn parhau i effeithio ar filiau bwyd defnyddwyr, a busnesau bwyd wrth iddynt  fynd i’r afael â phrinder llafur a chostau uwch yn y gadwyn gyflenwi.

Er gwaethaf y pwysau hyn, mae ein safonau bwyd yn parhau i fod yn uchel, ac mae llawer i’w ddathlu ynghylch  gwydnwch system fwyd y DU.

Fodd bynnag, rwy’n dal i boeni am y prinder parhaus yn y gweithwyr proffesiynol allweddol sydd eu hangen arnom er mwyn cadw ein bwyd yn ddiogel. Mae ein hadroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr angen am bolisïau o ran iechyd y cyhoedd ledled y DU sy’n mynd i’r afael ag achosion deiet gwael.

Ni all yr un sefydliad neu lywodraeth unigol sicrhau bod pob defnyddiwr yn cael mynediad cyfartal at fwyd diogel, iach a chynaliadwy, ac mae angen i ni weithio mewn partneriaeth i ddarparu’r system fwyd y mae defnyddwyr ei heisiau a’i hangen yn y dyfodol.”
​​

Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae ein system fwyd yn parhau i fod yn gadarn, ond mae’r prinder yn y gweithlu yn ymestyn adnoddau ac yn rhoi straen ychwanegol ar yr asiantaethau sy’n gyfrifol am gadw bwyd yn ddiogel. 

Dyma’r drydedd flwyddyn i bryderon gael eu codi, ac mae angen i ni weithredu nawr i gynnal safonau uchel a sicrhau ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein cadwyn cyflenwi bwyd. Mae FSS wedi bod yn codi ei llais ers tro ynghylch cynaliadwyedd y model presennol a’r effaith y mae diffyg adnoddau yn ei chael ar reoleiddio busnesau bwyd. Rydym wedi codi’r mater hwn gyda gweinidogion yr Alban, ac rydym ni, a rhanddeiliaid eraill, yn parhau i’w gymryd o ddifrif. Rydym yn gwybod bod angen diwygio’r system, ac mae gennym gynigion ar gyfer hyn. Ond nid oes gennym y cyllid angenrheidiol i gyflawni newidiadau i’r system bresennol.
​​​​​​

Heather Kelman, Cadeirydd Safonau Bwyd yr Alban

Lawrlwytho Ein Bwyd 2023

Darllenwch yr adroddiad llawn yma:

Wales