Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU
Ein Bwyd 2022: Atodiad 4: Cyfeiriadau penodau a nodiadau esboniadol
Atodiad 4: Cyfeiriadau penodau a nodiadau esboniadol ar gyfer yr adroddiad blynyddol o safonau bwyd ar gyfer 2022.
- Mae swyddi a ddyrennir yn swyddi proffesiynol a ddyrennir i ddarparu gwasanaeth rheolaethau hylendid bwyd awdurdod lleol yn seiliedig ar y gyllideb sydd ar gael.
- Cyhoeddwyd y papur allanol mwyaf diweddar ar adnoddau Swyddogion Safonau Masnach yn 2020.
- Rhagolygon o’r farchnad laeth | AHDB
- Y diffygion yn niwydiant wyau Prydain yn dangos chwyddiant prisiau bwyd | Reuters
- Nid yw hyn yn cynnwys ffa a chodlysiau (pulses) oherwydd diffyg data.
- Daw’r holl ffigurau yn y paragraff hwn o ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar dueddiadau defnyddwyr: mesur cyfaint cadwynog, wedi’i addasu yn unol â’r tymhorau
- Gofynnwyd i’r ymatebwyr: A oes gennych chi bryderon am unrhyw rai o’r canlynol? Faint o siwgr sydd mewn bwyd; gwastraff bwyd; lles anifeiliaid; hormonau, steroidau neu wrthfiotigau mewn bwyd; faint o halen sydd mewn bwyd; faint o fraster sydd mewn bwyd; gwenwyn bwyd; hylendid bwyd wrth fwyta allan; hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê; y defnydd o blaladdwyr; twyll neu droseddau bwyd; y defnydd o ychwanegion (er enghraifft, cyffeithyddion (preservatives) a lliwiau bwyd); prisiau bwyd; bwydydd a addaswyd yn enetig (GM); halogi cemegol o du’r amgylchedd; taith bwyd; nifer y calorïau mewn bwyd; gwybodaeth am alergenau mewn bwyd; coginio’n ddiogel gartref; dim un o’r rhain; ddim yn gwybod. Roedd yr ymatebwyr yn cael dewis mwy nag un ateb. Mae’r canrannau’n dangos cyfran yr ymatebwyr a ddewisodd bob opsiwn.
- Gall gwahaniaethau mewn canrannau rhwng yr Alban a gweddill y DU fod oherwydd gwahaniaethau methodolegol yn y modd y caiff data ei gasglu.
- Mae chwe dosbarthiad posib (A, B, C1, C2, D ac E) i Raddau Cymdeithasol. Mae data’r cyfrifiad yn defnyddio dosbarthiad cyfun, pedair ffordd. C1: Galwedigaethau gweinyddol a phroffesiynol, goruchwyliol, clerigol, a rheoli iau. DE: Galwedigaethau â llaw lled-fedrus a di-grefft; di-waith a swyddi yn y graddau isaf.
- Mae’r ASB wedi mesur diffyg diogeledd bwyd ers 2016. Yn 2016 a 2018, cafodd diffyg diogeledd bwyd ei fesur yn arolwg Bwyd a Chi. Ers 2020, mae wedi cael ei fesur yn arolwg Bwyd a Chi 2.
- Oherwydd gwahaniaethau yn y ffordd y caiff y data ei gasglu, ni allwn gymharu’n uniongyrchol rhwng mesur swyddogol USDA, fel y nodir yn Bwyd a Chi 2, a’r mesurau mwy anffurfiol sy’n cael eu holrhain yn fisol o rai ymddygiadau sy’n ymwneud â diffyg diogeledd bwyd.
- Mae siwgrau rhydd yn cyfeirio at bob siwgr wedi’i ychwanegu ar unrhyw ffurf; pob siwgr sy’n bresennol yn naturiol mewn sudd ffrwythau, sudd llysiau, purées a phastau, a chynhyrchion tebyg lle mae’r strwythur wedi’i dorri i lawr; pob siwgr mewn diodydd (ac eithrio diodydd llaeth); a lactos a galactos wedi’u hychwanegu fel cynhwysion.
- Gofynnwyd i’r ymatebwyr: I ba raddau y mae’r meysydd hyn yn peri pryder i chi am ddyfodol bwyd yn y DU dros y 3 blynedd nesaf? Cost bwyd iachus. Dewisiadau ymateb: Ddim yn bryderus o gwbl; Ychydig yn bryderus; Yn eithaf pryderus; Yn hynod bryderus. Mae’r ganran a nodir ar gyfer ‘pryderus’ yn cyfuno’r atebion ‘Yn hynod bryderus’ ac ‘Yn eithaf pryderus’.
- Gofynnwyd i’r ymatebwyr: I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad hwn? Rwy’n teimlo bod bwydydd iachus yn rhy ddrud i mi. Dewisiadau ymateb: Anghytuno’n gryf; Anghytuno ychydig; Ddim yn cytuno nac yn anghytuno; Cytuno ychydig; Cytuno’n gryf. Mae’r ganran a nodir yn cyfuno’r atebion ‘Cytuno ychydig’ a ‘Cytuno’n gryf’.
- Gofynnwyd i’r ymatebwyr: I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad hwn? Mae’n anodd dod o hyd i fwyd ffres (er enghraifft, ffrwythau, llysiau, cig) sy’n cyd-fynd â’m cyllideb. Dewisiadau ymateb: Anghytuno’n gryf; Anghytuno ychydig; Ddim yn cytuno nac yn anghytuno; Cytuno ychydig; Cytuno’n gryf. Mae’r ganran a nodir yn cyfuno’r atebion ‘Cytuno ychydig’ a ‘Cytuno’n gryf’.
- Llyfr Poced Ystadegau Bwyd Defra - Tarddiad bwyd sy’n cael ei fwyta yn y DU, 2021
- Cyllid a Thollau EF - Data masnachu’r DU
- Yng Nghymru, mae’r cynllun hefyd yn cwmpasu gweithrediadau busnes-i-fusnes fel gweithgynhyrchwyr sy’n dod o dan gylch gwaith awdurdodau lleol.
- Mae’r CSHB a’r FHIS yn darparu gwybodaeth am safon hylendid bwyd sefydliadau yn seiliedig ar eu harolygiad diweddaraf. Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn rhoi sgôr rhwng 0 a 5 lle mae 5 yn cynrychioli’r sgôr uchaf, gan nodi safonau hylendid ‘da iawn’. Mae’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn rhoi gradd ‘pasio’ neu ‘angen gwella’. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, rydym wedi cymryd sgôr CSHB o 3 neu uwch i ddangos sgôr foddhaol neu well ar gyfer busnesau yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon a aseswyd o dan y CSHB, a ‘sgôr llwyddo’ ar gyfer busnesau yn yr Alban a aseswyd o dan yr FHIS. Oherwydd y gwahaniaethau rhwng FHIS a’r CSHB, nid oes modd cymharu data’r Alban a gweddill y DU.
- Mae sefydliadau cig cymeradwy yn trin, paratoi neu gynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid y mae gofynion wedi’u gosod ar eu cyfer yn Rheoliad yr UE a Ddargedwir (CE) Rhif 853/2004.
- Ceir eglurhad o ystyr y categorïau sgôr yng nghanllawiau busnes yr ASB ar archwilio sefydliadau cig
- Roedd hyn yn bennaf oherwydd y trawsnewid yn yr Alban, gydag FSS yn dod yn awdurdod cymwys ar gyfer bwyd anifeiliaid a symud i system electronig newydd. Mae unrhyw ganlyniadau yn sgil arolygiadau bwyd anifeiliaid cyn 2021 yn cael eu cymryd o wybodaeth yr awdurdod lleol.
- Mae sefydliadau bwyd anifeiliaid yn cael sgôr o naill ai ‘Cydymffurfio’n Wael’, ‘Cydymffurfio’n Amrywiol’, ‘Cydymffurfio’n Foddhaol’, ‘Cydymffurfio i raddau helaeth neu’n well’ a ‘Chydymffurfio’n Foddhaol at Safon Ofynnol ac aelod o Gynllun Sicrwydd sy’n cael ei gydnabod gan yr ASB’. Ystyrir bod unrhyw sefydliad sydd â sgôr uwch na ‘Boddhaol’ yn cydymffurfio. Ceir mwy o wybodaeth yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid.
- Mae swyddi a ddyrennir yn swyddi proffesiynol a ddyrennir i ddarparu gwasanaeth rheolaethau hylendid bwyd awdurdod lleol yn seiliedig ar y gyllideb sydd ar gael.
- Mae awdurdodau lleol yn cyfrifo cyfran y swyddi wedi’u llenwi gan ddefnyddio sawl dull gwahanol. Yn aml, amcangyfrifon o’r adnoddau yw’r rhain, sydd heb eu dilysu’n llawn gan yr ASB.
- Mae hysbysiadau am ffliw adar yn cael eu cofnodi fel achosion o halogiad microbiolegol gan fod yr ASB yn rhan o’r gwaith cydgysylltu, i sicrhau bod y cig yn y gadwyn gyflenwi sy’n cael ei gyfyngu ar ôl ei ladd oherwydd clefyd hysbysadwy, yn cael ei olrhain a’i dynnu’n ôl.