Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU
Ein Bwyd 2022: Atodiad 2: Rhestr o dermau
Dyma restr o dermau a ddefnyddir yn yr adroddiad blynyddol o safonau bwyd ar gyfer 2022.
Term | Esboniad |
---|---|
3-MCPD | Halogydd bwyd sy’n codi yn sgil rhai prosesau gweithgynhyrchu bwyd sy’n cynnwys brasterau llysiau (er enghraifft, olew llysiau). |
Afflatocsinau | Cyfansoddion gwenwynig a gynhyrchir gan rai mathau penodol o lwydni a geir mewn bwyd, a all achosi niwed i’r afu a chanser. |
Alergenau | Mae 14 prif alergen y mae’n rhaid eu datgan yn ôl y gyfraith, ond gall defnyddwyr fod ag alergedd neu anoddefiad i fwydydd neu gynhwysion eraill. |
Braster dirlawn | Math o fraster sy’n gysylltiedig â risg uwch o golesterol gwaed uchel, a all gynyddu’r risg o glefyd y galon a strôc. |
Cig wedi’i brosesu | Unrhyw gig sydd wedi’i addasu er mwyn newid y blas neu ymestyn ei oes silff. |
Cynaliadwy | Lleihau ein hôl troed carbon, hyrwyddo arferion gorau o ran cynaliadwyedd, cadw adnoddau naturiol, a meithrin ymwybyddiaeth o’r amgylchedd trwy ein polisïau a’n harferion. |
Cytundebau masnach rydd | Mae cytundebau masnach yn nodi’r rheolau sy’n ymwneud â masnach rhwng dwy wlad neu fwy. Eu nod yw hwyluso masnachu rhwng y gwledydd hynny. Maent yn gwneud hyn drwy leihau’r cyfyngiadau ar fewnforion ac allforion rhyngddynt. |
Dadansoddi risg | Y broses o asesu, rheoli a chyfleu risgiau diogelwch sy’n berthnasol i fwyd a bwyd anifeiliaid. |
Diffyg diogeledd bwyd yn y cartref | Term a ddefnyddir i ddisgrifio cartrefi sydd heb fynediad dibynadwy at ddigon o fwyd fforddiadwy a maethlon. |
Digwyddiadau hinsawdd | Newidiadau hirdymor mewn patrymau tywydd a thymheredd, a all fod yn newidiadau naturiol neu newidiadau sy’n cael eu hachosi gan losgi tanwydd ffosil ers y 19eg ganrif. |
Dilyniannu genom | Newidiadau hirdymor mewn patrymau tywydd a thymheredd, a all fod yn newidiadau naturiol neu newidiadau sy’n cael eu hachosi gan losgi tanwydd ffosil ers y 19eg ganrif. |
Dinitroffenol (DNP) | Cemegyn hynod docsig, sy’n wenwynig i bobl ac a all achosi marwolaeth. |
E. coli | Math o facteria yw Escherichia coli sydd i’w gael yng ngholuddion anifeiliaid a phobl. Gall rhai mathau achosi salwch difrifol mewn pobl, fel E. coli sy’n cynhyrchu sytotocsinau Vero (VTEC). |
Ffeibr | Math o garbohydrad na all y corff ei dreulio. Mae ffeibr, sydd i’w gael yn naturiol mewn bwydydd planhigion fel grawn cyflawn, ffa, cnau, ffrwythau a llysiau, yn helpu i gadw ein system dreulio’n iach. |
Gweithredwyr bwyd ar-lein | Darparwyr bwyd sy’n dosbarthu bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr ar ôl iddynt archebu naill ai drwy gyfrifiadur neu ffôn clyfar dros y rhyngrwyd. |
Pathogen | Bacteriwm, feirws neu organeb arall a all achosi clefyd. |
Rheolaethau swyddogol | Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu arolygiadau, gwaith gorfodi, cyngor a chanllawiau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu ganllawiau’r llywodraeth. |
Salmonela | Mae salmonelâu yn grŵp o facteria cyffredin sy’n achosi gwenwyn bwyd. Fel arfer, cânt eu lledaenu drwy goginio annigonol a thrwy groeshalogi. Mae haint Salmonela (salmonelosis) yn glefyd bacteriol cyffredin sy’n effeithio ar y llwybr coluddol. Mae bacteria Salmonela fel arfer yn byw yng ngholuddion anifeiliaid a phobl ac yn cael eu gollwng trwy ysgarthion. Mae pobl yn cael eu heintio amlaf trwy ddŵr neu fwyd wedi’i halogi. |
Samplu | Ystyr samplu yw cymryd cynnyrch i wirio ei fod yn cyrraedd y safon angenrheidiol. Gall hyn gynnwys bod yn ddiogel, bod o’r safon a ddymunir, neu fod â’r labelu cywir. Cymerir samplau i gefnogi gwaith gorfodi, fel rhan o wiriadau busnes, ac at ddibenion ymchwil a gwyliadwriaeth. |
Siwgrau rhydd | Pob siwgr sy’n bresennol yn naturiol mewn sudd ffrwythau, sudd llysiau, purées a phastau, a chynhyrchion tebyg lle mae’r strwythur wedi’i dorri i lawr; pob siwgr mewn diodydd (ac eithrio diodydd llaeth); a lactos a galactos wedi’u hychwanegu fel cynhwysion. |
System Rhybuddio Cyflym ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (RASFF) | System yr UE sy’n galluogi rhannu gwybodaeth yn effeithlon rhwng gwledydd yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd (EFTA). |
Tarfiadau | Dull o ymyriadau troseddau bwyd a roddwyd ar waith yn ddiweddar sy’n atal neu’n lleihau’r cyfle i gyflawni troseddau bwyd ac sydd, wrth wneud hynny, yn cynyddu diogeledd bwyd y DU drwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel. |
Ychwanegion | Mae ychwanegion bwyd yn gynhwysion sy’n cael eu hychwanegu at fwyd i gyflawni swyddogaethau penodol. |