Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild game guidance

Egwyddorion a gofynion olrheiniadwyedd

Olrheiniadwyedd yw’r gallu i olrhain a dilyn bwyd, bwyd anifeiliaid, anifail sy’n cynhyrchu bwyd neu sylwedd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Olrheiniadwyedd yw’r gallu i olrhain a dilyn bwyd, bwyd anifeiliaid, anifail sy’n cynhyrchu bwyd neu sylwedd y bwriedir iddo, neu y disgwylir iddo gael ei ymgorffori mewn bwyd neu fwyd anifeiliaid, a hynny ar bob cam o’r prosesau cynhyrchu, prosesu a dosbarthu.

Mae rheolau olrheiniadwyedd yn helpu i gadw golwg ar fwyd yn y gadwyn gyflenwi. Maen nhw’n sicrhau bod unrhyw fwyd anniogel yn cael ei dynnu oddi ar y farchnad neu’n cael ei alw’n ôl o’r farchnad yn effeithlon ac yn gywir os oes unrhyw broblemau diogelwch bwyd.

Mae’r egwyddorion a’r gofynion ar gyfer olrhain bwyd yn gymwys i bob cam o’r gadwyn cyflenwi bwyd ac maen nhw’n rhan o’r cyfrifoldeb cyfreithiol i reoli risgiau diogelwch bwyd. Mae’n ofynnol i gynhyrchwyr cynradd (gan gynnwys y rhai sy’n cludo neu’n storio anifeiliaid hela gwyllt), gweithredwyr busnesau bwyd a manwerthwyr fodloni’r rheolau olrheniadwyedd hyn. Gellir dod o hyd i ganllawiau pellach ar olrheiniadwyedd bwyd, tynnu a galw bwyd yn ôl.

Wrth i anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt symud drwy’r gadwyn gyflenwi, yr egwyddor sylfaenol yw y dylai fod cofnod “un cam ymlaen, un cam yn ôl” ar bob cam (hynny yw, dylid nodi’r ffynhonnell a’r gyrchfan, a chadw cofnod o’r rhain).

Mae angen i gofnodion olrheiniadwyedd fod yn gyfredol a dylid eu cadw o leiaf hyd nes y gellir tybio’n rhesymol bod y bwyd wedi’i fwyta. Dylent fod ar gael i awdurdodau cymwys ar gais. Mae angen i’r cofnodion gynnwys:

  • disgrifiad o’r bwyd
  • cyfaint/maint
  • enw a chyfeiriad y gweithredwr busnes bwyd sy’n dosbarthu’r bwyd
  • enw a chyfeiriad y cludwr (consigner) (os yw’n wahanol)
  • enw a chyfeiriad gweithredwr y busnes bwyd sy’n cael y bwyd
  • enw a chyfeiriad y sawl sy’n derbyn (consignee) (os yw’n wahanol)
  • rhif adnabod y lot, y swp neu’r llwyth
  • dyddiad dosbarthu

Nid yw gofynion olrheiniadwyedd yn gymwys i’r rhai sy’n hela anifeiliaid hela gwyllt i’w bwyta’n breifat yn y cartref (gweler eithriadau). Fodd bynnag, mae’n rhaid i gynhyrchwyr cynradd sy’n cyflenwi symiau bach o anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol gydymffurfio â’r egwyddorion a’r gofynion cyffredinol ar gyfer olrheiniadwyedd a nodir mewn cyfraith bwyd.