Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild game guidance

Cysylltiadau, cymeradwyaethau a chofrestru, a ffynonellau gwybodaeth ychwanegol am anifeiliaid hela gwyllt

Gwybodaeth am sut i gysylltu os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynghylch y gofynion cyfreithiol ar hylendid bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cyffredinol

Os oes angen eglurhad pellach neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gofynion cyfreithiol ar hylendid bwyd sy’n gymwys i anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt, cysylltwch â thîm Polisi Hylendid Cig yr ASB gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: wildgameguidance@food.gov.uk

Cymeradwyaeth

I geisio cymeradwyaeth ar gyfer AGHE, cysylltwch â thîm cymeradwyo’r ASB gan ddefnyddio’r cyfeiriadau e-bost canlynol:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses gymeradwyo, darllenwch y dudalen ynghylch y broses gymeradwyo ar wefan yr ASB.

Cofrestru

Os ydych yn cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i’r gadwyn fwyd ac nad ydych yn dod o dan yr eithriadau perthnasol, bydd angen i chi gofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. I ddarganfod a yw’r eithriadau hyn yn berthnasol i chi ai peidio, ac i gofrestru fel busnes bwyd, bydd angen i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol. I gael y manylion cyswllt perthnasol, ewch i’r dudalen cysylltu â ni ar ein gwefan.

Ffynonellau Gwybodaeth Ychwanegol am Anifeiliaid Hela Gwyllt

Mae nifer o ffynonellau gwybodaeth ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt, yn ogystal â sefydliadau sy’n gallu darparu cyngor ac arweiniad ar ystod o bynciau gan gynnwys ceirw, drylliau a rheoli plâu. Mae Atodiad B yn cynnwys rhestr o ffynonellau defnyddiol, fodd bynnag, gan nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr, rydym yn argymell y dylai unigolion sy’n ceisio cyngor o’r fath ymgymryd â’u hymchwil eu hunain.