Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyfarfod â Thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 4 Chwefror 2025

Penodol i Gymru

Agenda ar gyfer cyfarfod â Thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar drosolwg o feysydd polisi bwyd ehangach – maeth ac iechyd deietegol. Cyfarfod hybrid fydd hwn a gynhelir wyneb yn wyneb yn Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays ac ar-lein dros MS Teams.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 January 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 January 2025

Cyfarfod hybrid â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd

Agenda a phapurau

10am – 10.15am – Croeso gan y Cadeirydd

I gynnwys cyflwyniad, diweddariad llafar o gyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr, ymddiheuriadau, datganiadau o fuddiannau a chofnodion cyfarfod mis Hydref 2024.

10.15am – 10.35am – Adroddiad Pwyllgor Bwyd, Deiet a Gordewdra Tŷ’r Arglwyddi 

  • David Holmes, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth yr ASB 

10.35am – 10.55am – Blaenoriaethau iechyd deietegol Llywodraeth Cymru 

  • Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru

10.55am – 11.20am – Maeth a gordewdra ymhlith oedolion

  • Ilona Johnson, Ymgynghorydd ym maes Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru 

11.20am – 11.35am – Egwyl

11.35am – 11.55am – Trosolwg o waith Iechyd Deietegol yr ASB yng Ngogledd Iwerddon 

  • Sharon Gilmore, Pennaeth Safonau ac Iechyd Deietegol, yr ASB yng Ngogledd Iwerddon

11.55am – 12.10pm – Adroddiad Cyfarwyddwyr yr ASB yng Nghymru

  • Diweddariad ysgrifenedig gan uwch-arweinwyr UKIA a Chymru ers y cyfarfod â thema diwethaf ym mis Hydref 2024

12.10pm – 12.30pm – Unrhyw faterion eraill a dod â’r cyfarfod i ben

Cyfarfod â thema nesaf: Mis Ebrill

Cadw eich lle a chyflwyno cwestiynau

Anfonwch e-bost i walesadminteam@food.gov.uk er mwyn cadw lle i ddod i’r cyfarfod wyneb yn wyneb neu wylio ar-lein, cyflwyno cwestiwn neu gael mwy o wybodaeth.