Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Wild game guidance

Canllawiau anifeiliaid hela gwyllt: Atodiadau

Yr holl atodiadau ar gyfer canllawiau anifeiliaid hela gwyllt, gan gynnwys templedi, llyfryddiaeth, acronymau a geirfa.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 October 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Atodiad A – Gwybodaeth Datganiad Heliwr (Templedi Enghreifftiol)

Anifeiliaid Hela Gwyllt Mawr

Rhif Tag:
Dyddiad/Amser Lladd:
Lleoliad/Ystâd:

Rhyw:                            G              B

Rhywogaeth:

Arall:

Pwysau:                                  (kg)

Rwy’n datgan yn unol â Rheoliad a gymathwyd (CE) 853/2004 (fel y’i diwygiwyd) na welwyd unrhyw ymddygiad annormal cyn lladd ac nad oes unrhyw arwydd o halogiad amgylcheddol. Rwyf wedi arolygu’r pen, y plu/ffwr a’r organau perfeddol, heb sylwi ar annormaleddau.

Nodiadau:

 

Rhif y Person Hyfforddedig:

Cymhwyster y Person Hyfforddedig:

Manylion Cyswllt:

Enw:

Llofnod:

Anifeiliaid Hela Gwyllt Bach

Dyddiad/Amser Lladd:

Lleoliad/Ystâd:

Nifer yn y swp:

Rhywogaeth:

Sylwadau:

Cymhwyster y Person Hyfforddedig:

Rhif y Person Hyfforddedig:

Manylion Cyswllt:

Enw:

Llofnod:

Atodiad B – Llyfryddiaeth

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch edrych ar y gwefannau canlynol (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):

Atodiad C – Acronymau

Talfyriad Teitl/Enw Llawn
ABP Sgil-gynhyrchion anifeiliaid
AGHE Sefydliadau trin helgig cymeradwy
ALl Awdurdod Lleol
APHA Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
ASB Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
DAERA Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
DU Y Deyrnas Unedig
FBO Gweithredwr busnes bwyd
FSMS System rheoli diogelwch bwyd
HACCP Dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol
MHI Arolygwr hylendid cig
ND Clefyd hysbysadwy
OV Milfeddyg swyddogol
REUL Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir (Retained)

Atodiad D – Rhestr Termau

  • Anifeiliaid hela gwyllt: mae’r term hwn yn golygu adar gwyllt sy’n cael eu hela i’w bwyta gan bobl yn ogystal â charnolion gwyllt, lagomorffiaid a mamaliaid tir eraill sy’n cael eu hela i’w bwyta gan bobl. Mae’r rhain yn cynnwys mamaliaid sy’n byw yn rhydd mewn tiriogaeth gaeedig sy’n debyg i rai anifeiliaid hela gwyllt:
  • Mae “anifeiliaid hela gwyllt bach” yn golygu adar hela gwyllt a lagomorffau sy’n byw yn rhydd yn y gwyllt;
  • Mae “anifeiliaid hela gwyllt mawr” yn golygu mamaliaid tir gwyllt sy’n byw yn rhydd yn y gwyllt nad ydynt yn dod o fewn y diffiniad o anifeiliaid hela gwyllt bach.
  • Anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio: mae’r term hwn wedi’i ddiffinio yn y rheoliadau hylendid bwyd fel ratidau sy’n cael eu ffermio a mamaliaid tir sy’n cael eu ffermio heblaw anifeiliaid buchol, moch, geifr a defaid ac anifeiliaid carngaled (solipeds) domestig. Mae anifeiliaid hela sy'n cael eu ffermio yn cynnwys ceirw a baeddod a gynhyrchir gan ffermio. Rhaid i’r holl gig o anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio a’u rhoi ar y farchnad gael eu cynhyrchu mewn lladd-dai cymeradwy.
  • Arferion hela arferol: mae’r term hwn yn cynnwys gweithredoedd a gyflawnir ynrheolaidd wrth hela, gan gynnwys gwaedu a chael gwared ar berfedd.
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA): asiantaeth Llywodraeth y DU sy’n rhan o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r ‘Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion’ ac mae’n gyfrifol am iechyd anifeiliaid a phlanhigion yn y DU. Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
  • Awdurdod Cymwys: mae’r term hwn yn golygu’r awdurdod sy’n gyfrifol amsicrhau y cydymffurfir â’r rheoliadau hylendid bwyd perthnasol ac y gweithredir rheolaethau swyddogol ar fwyd a gweithgareddau swyddogol eraill, yn unol â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2).
  • Carcas: mae’r term hwn yn golygu corff anifail ar ôl ei ladd a’i drin (diberfeddu,blingo a/neu blycio).
  • Clefydau hysbysadwy: ystyr y term hwn yw clefydau anifeiliaid y mae’n ofynnolyn ôl y gyfraith i chi roi gwybod amdanynt i APHA, hyd yn oed os ydych ond yn amau bod clefyd ar anifail. Os ydych yn amau bod gan anifail hela gwyllt glefyd hysbysadwy, rhaid i chi gysylltu ag APHA. Darllenwch fwy o wybodaeth am glefydau hysbysadwy a dewch o hyd i’r manylion cyswllt angenrheidiol.
  • Cofrestru: mae’r term hwn yn cyfeirio at y gofyniad i weithredwyr busnesau bwyd – a nodir yn Erthygl 6 yn y gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd – gofrestru safleoedd sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd gyda’r awdurdod cymwys perthnasol, sef eich awdurdod lleol.
  • Croeshalogi: mae’r term hwn yn golygu’r weithred lle caiff bacteria neu ficro-organebau eraill eu trosglwyddo’n anfwriadol o un sylwedd neu wrthrych i’r llall, gydag effaith niweidiol.
  • Cyflenwi cyfyngedig: mae’r term hwn yn golygu bod cyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt i sefydliadau manwerthu eraill wedi’i gyfyngu gan y gofynion i fod yn ymylol ac yn lleol.
  • Cyflenwi lleol: ystyr y term hwn yw cyflenwi o fewn yr un awdurdod lleol, mewn awdurdodau lleol cyfagos (drws nesaf i’w gilydd) neu’r rheiny nad ydynt fwy na 30 milltir/50 cilomedr o ffin awdurdod lleol y cyflenwr, p’un bynnag sydd fwyaf – ond byth y tu hwnt i’r DU, ac eithrio cyflenwi o Ogledd Iwerddon i Weriniaeth Iwerddon.
  • Cymeradwyaeth: mae’r term hwn yn cyfeirio at y gofyniad i weithredwyr busnesau bwyd – yn Erthygl 4 yn y rheolau hylendid penodol sy’n berthnasol i fusnesau – roi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ar y farchnad dim ond os ydynt wedi’u cynhyrchu mewn sefydliadau a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys.
  • Cynhyrchion cynradd: mae’r term hwn yn golygu cynhyrchion cynhyrchu cynradd gan gynnwys cynhyrchion y pridd, ffermio stoc, hela a physgota.
  • Cynhyrchu cynradd: mae’r term hwn yn golygu cynhyrchu, magu neu dyfu cynhyrchion cynradd, gan gynnwys cynaeafu, godro a chynhyrchu anifeiliaid sy’n cael eu ffermio cyn eu lladd. Mae cynhyrchu cynradd hefyd yn cynnwys hela a physgota a chynaeafu cynhyrchion gwyllt.
  • Defnyddiwr terfynol: mae’r term hwn yn golygu defnyddiwr terfynol y bwyd, na fydd yn defnyddio’r bwyd fel rhan o unrhyw waith neu weithgaredd busnes bwyd.
  • Diberfeddu: mae’r term hwn yn golygu’r broses o dynnu organau perfeddol o gyrff anifeiliaid hela gwyllt. Cyfeirir at hyn hefyd weithiau fel ‘gralloching’ yn Saesneg.
  • Gweithredwr busnes bwyd: mae’r term hwn yn golygu’r personau naturiol neu gyfreithiol sy’n gyfrifol am sicrhau bod gofynion cyfraith bwyd yn cael eu bodloni y tu mewn i’r busnes bwyd o dan eu rheolaeth.
  • HACCP: mae’r term hwn yn golygu Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol. Mae HACCP yn system sy’n eich helpu i adnabod peryglon bwyd posib a chyflwyno gweithdrefnau i sicrhau eich bod yn cael gwared ar y peryglon hynny, neu eu lleihau i lefel dderbyniol.
  • Helgig gwyllt: y diffiniad ar gyfer y term hwn yw’r rhannau bwytadwy o anifeiliaid hela gwyllt, gan gynnwys gwaed.
  • Lagomorffiaid: mae’r term hwn yn cynnwys cwningod, ysgyfarnogod a chnofilod.
  • Manwerthu: mae’r term hwn yn golygu ymdrin â a/neu brosesu bwyd a’i storio yn y man gwerthu neu gyflenwi i’r defnyddiwr terfynol, ac yn cynnwys mannau dosbarthu, safleoedd arlwyo, ffreuturau ffatrïoedd, arlwyo sefydliadol, bwytai a gweithrediadau gwasanaeth bwyd tebyg, siopau, canolfannau dosbarthu archfarchnadoedd a safleoedd cyfanwerthu.
  • Offal: mae’r term hwn yn golygu cig ffres heblaw cig y carcas, gan gynnwys organau perfeddol a gwaed:
  • Mae “Offal Gwyrdd” yn golygu stumog, coluddion a meinweoedd cysylltiedig cyrff yr anifeiliaid hela gwyllt, sef cynnwys ceudod yr abdomen yng nghyrff yr anifeiliaid hela gwyllt.
  • Mae “Offal Coch” yn golygu rhannau eraill o offal nad ydynt yn dod o dan diffiniad offal gwyrdd, gan gynnwys yr afu, y galon, yr ysgyfaint ac ati.
  • Organau perfeddol: mae’r term hwn yn golygu organau’r ceudodau thorasig, abdomenol a phelfig, yn ogystal â’r tracea a’r oesoffagws, ac, mewn adar, y grombil.
  • Person hyfforddedig: mae’r term hwn yn cyfeirio at berson sydd wedi cael hyfforddiant priodol i allu cynnal archwiliad cychwynnol o’r anifeiliaid hela gwyllt yn y cae, i nodi unrhyw nodweddion a allai ddangos bod y cig yn peri risg i iechyd.
  • Perygl: mae’r term hwn yn golygu sylwedd biolegol, cemegol neu ffisegol mewn bwyd, neu fwyd anifeiliaid, neu gyflwr mewn bwyd a bwyd anifeiliaid, a allai achosi effaith andwyol ar iechyd.
  • Prosesu: mae’r term hwn yn golygu unrhyw weithred sy’n newid y cynnyrch cychwynnol yn sylweddol, gan gynnwys gwresogi, trin â mwg, halltu, aeddfedu, sychu, marineiddio, echdynnu, allwthio neu gyfuniad o’r prosesau hynny.
  • Pwyntiau Rheoli Critigol: mae’r term hwn yn golygu unrhyw gam mewn proses lle gellir atal, dileu neu leihau peryglon i lefelau derbyniol. Gall enghreifftiau o bwyntiau rheoli critigol gynnwys oeri, profi a choginio.
  • Rhoi ar y farchnad: mae’r term hwn yn golygu cadw bwyd neu fwyd anifeiliaid i’w gwerthu, gan gynnwys cynnig eu gwerthu neu unrhyw fath arall o drosglwyddo, boed yn rhad ac am ddim ai peidio, a’r gwerthu, dosbarthu, a’r mathau eraill o drosglwyddo eu hunain.
  • Sefydliad trin helgig cymeradwy (AGHE): mae’r term hwn yn golygu sefydliad cymeradwy lle mae anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt sy’n cyraedd ar ôl hela yn cael eu paratoi i’w rhoi ar y farchnad. Mae gweithgareddau wedi’u cyfyngu i ddiberfeddu, blingo a/neu blycio sy’n paratoi’r anifeiliaid hela gwyllt i’w rhoi ar y farchnad.
  • Sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABP): mae’r term hwn yn golygu cyrff cyfan o anifeiliaid neu rannau ohonynt, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion eraill a gafwyd o anifeiliaid, nad ydynt i’w bwyta gan bobl, gan gynnwys wygelleodd, embryonau a semen. Cyfeiriwch at Adran 9 am fwy o wybodaeth.
  • Symiau bach: ystyrir bod ‘symiau bach’ yn hunan-ddiffiniedig oherwydd bod y galw am anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt gan ddefnyddwyr terfynol a manwerthwyr lleol sy’n cyflenwi’n uniongyrchol i’r defnyddwyr terfynol yn gyfyngedig.
  • System Rheoli Diogelwch Bwyd (FSMS): mae’r term hwn yn golygu gweithdrefn barhaol a roddir ar waith gan weithredwr busnes bwyd, yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP), ac a ddefnyddir fel adnodd i helpu gweithredwyr busnesau bwyd i gyrraedd safon uwch o ddiogelwch bwyd.