Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad y Cyfarwyddwyr i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Hydref 2024

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Anjali Juneja, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU a Nathan Barnhouse, ac Uwch-dîm Rheoli'r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 October 2024

1. Crynodeb

1.1 Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys:

  • crynodeb o’r pynciau a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yn ystod cyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 18 Medi 2024
  • crynodeb o weithgarwch ymgysylltu’r uwch-dîm rheoli ar draws Cyfarwyddiaeth Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA) 
  • trosolwg o ddatblygiadau a materion o ddiddordeb i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) mewn perthynas â Chymru.  

1.2 Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol: 

  • nodi’r diweddariad 
  • gwahodd y Cyfarwyddwyr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach 

2. Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

2.1 Dyma adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr, a gyflwynwyd i gyfarfod y Bwrdd ym mis Medi.

3. Trosolwg gan Gyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU (UKIA) 

3.1 Ers fy niweddariad diwethaf, mae’r llywodraeth wedi rhannu ei huchelgais i fynd i’r afael â rhwystrau masnachu drwy geisio negodi cytundeb milfeddygol/Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) i helpu i hybu busnesau, swyddi a masnach rhwng y DU a’r UE. Bydd yr ASB yn gweithio i sicrhau bod unrhyw drefniadau yn y dyfodol yn diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â diogelwch a safonau bwyd ledled y DU. Yn ogystal, mae llywodraeth y DU wedi datgan ei bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithredu Fframwaith Windsor a diogelu marchnad fewnol y DU. Mae’r ASB yn parhau i weithio i gyflawni’r holl ofynion perthnasol mewn perthynas â hyn ac i gefnogi gweithrediad ewyllys da Fframwaith Windsor. 

3.2 Mae Rheoleiddio ar Lefel Genedlaethol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r sefydliad, ac yn dilyn penderfyniad y Bwrdd ym mis Medi ar y camau nesaf, mae’r tîm yn parhau i ymgysylltu â’r tîm canolog i sicrhau dealltwriaeth glir o’r rhaglen waith a’r cynllun ymgysylltu ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn rhan o’r drafodaeth yng Nghyfarfod WFAC ym mis Hydref.

3.3 Mae’r broses Adolygu Gwariant hefyd yn rhan o waith ehangach y sefydliad ar hyn o bryd. Yng Nghymru, rwyf wedi cwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod cyllideb a dull gweithredu’r ASB yn ystod proses pennu cyllideb Llywodraeth Cymru, ac rydym yn parhau i dynnu sylw at y pwysau cynyddol ar ein hadnoddau. Yn gyson â’r gweinyddiaethau eraill, rydym yn disgwyl proses hynod heriol y flwyddyn ariannol nesaf o ran pennu cyllideb.

3.4 Mewn newyddion rhyngwladol, nôl ym mis Gorffennaf, cymerodd yr ASB ran yng nghyfarfod y Deialog Diogelwch Bwyd Strategol. Dyma fforwm anffurfiol o reoleiddwyr bwyd o’r DU, y Comisiwn Ewropeaidd, UDA, Canada, Awstralia a Seland Newydd sy’n cyfarfod unwaith y flwyddyn ond sy’n datblygu gwaith mewn is-grwpiau trwy gydol y flwyddyn. Yn y cyfarfod eleni, cytunodd y grŵp i fwrw ymlaen â gwaith ar y cyd ar bynciau fel adnoddau milfeddygol a chadw staff, twyll bwyd, ymateb i argyfyngau, ac ardystio electronig. Bydd y grŵp yn cyfarfod nesaf yn haf 2025.  

3.5 Hefyd, archwiliwyd sefydliadau pysgod y DU gan Dde Korea ym mis Gorffennaf. Roedd yr archwilwyr yn canmol yn fawr sgiliau trefnu a dulliau gweithredu awdurdodau cymwys y DU o’r arolygiad mewnol hwn, gan gynnwys mewnbwn yr ASB ac awdurdodau lleol, yn enwedig gan mai hwn oedd y cyntaf o’i fath i’r DU.  Roedd pob un o’r pedwar sefydliad a archwiliwyd (sy’n allforio cregyn môr wedi’u coginio i Dde Korea) wedi ‘llwyddo’ yn eu harolygiadau sy’n golygu bod mynediad i’r farchnad yn cael ei gynnal ar gyfer y sefydliadau hyn.  Roedd allforion cynhyrchion bwyd môr y DU i Dde Korea werth £8.7m yn 2023. Mae rôl yr ASB yn hollbwysig wrth i ni sicrhau mewnbwn awdurdodau lleol, cefnogi’r sefydliadau cyn ac yn ystod yr arolygiadau, a chyflwyno ein trefn Rheolaethau Swyddogol i awdurdodau archwilio.

3.6 Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cefnogi ein Cadeirydd mewn cyfarfodydd gyda’r Farwnes Hayman, Is-ysgrifennydd Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a Sarah Murphy AS, y Gweinidog dros Iechyd Meddwl a Lles sy’n gyfrifol am yr ASB yng Nghymru. 

3.7 Yn olaf, rwy’n falch o allu cyhoeddi ein bod wedi penodi ein Cyfarwyddwr newydd yng Nghymru, Sian Bowsley, a fydd yn ymgymryd â’r swydd dros dro. Mae Sian yn ymuno â ni o Dasglu Fframwaith Windsor yn Swyddfa’r Cabinet, lle mae hi wedi gweithio ers mis Ebrill 2022 fel arweinydd Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) a bwyd-amaeth. Yn y rôl honno, Sian oedd un o’r prif negodwyr ar Reoliad SPS Fframwaith Windsor, ac ers hynny mae wedi gweithio’n agos gyda’r ASB, Defra a DAERA i sicrhau bod y Rheoliad yn cael ei weithredu mewn ffordd sy’n cydbwyso disgwyliadau’r UE, y baich ar fusnesau a gweithrediad marchnad fewnol y DU. Mae Sian hefyd yn arwain ar yr holl wahaniaethau rheoleiddiol ar gyfer SPS a bwyd-amaeth mewn perthynas â Gogledd Iwerddon. Cyn ymuno â’r Tasglu, bu’n gweithio yn Defra ar gynllunio ymadael yr UE heb gytundeb; Cytundebau Masnach Rydd Awstralia a Seland Newydd; a chyflenwad bwyd yn ystod COVID-19. Cyn ymuno â’r Gwasanaeth Sifil, bu Sian yn gweithio fel lobïwr i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn Lloegr a Brwsel.

4. Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

4.1 Ers y diweddariad diwethaf ym mis Gorffennaf, rydym wedi gweld rhai newidiadau pellach i’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru gydag Eluned Morgan AS wedi’i phenodi’n Brif Weinidog a Sarah Murphy AS yn mabwysiadu rôl y Gweinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant gyda chyfrifoldeb am yr ASB yng Nghymru. Yn ogystal, mae Huw-Irranca Davies AS wedi’i benodi’n Ddirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a Jeremy Miles AS yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r tîm wedi ymateb ac addasu’n effeithlon ac yn gyflym i’r datblygiadau hyn, gan gysylltu â’r holl swyddfeydd gweinidogol y mae eu portffolios yn ymwneud â gwaith yr ASB.

4.2 Mae’r haf wedi bod yn gyfnod hynod brysur i’r tîm o ran ymgysylltu. Fel y byddwch wedi gweld yn y diweddariad blynyddol i’r Bwrdd ym mis Medi, gwnaethom gefnogi’r Cadeirydd gyda’i rhaglen ymgysylltu yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni a hwyluso stondin wybodaeth yr ASB yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni. Yn ogystal, gwnaethom gefnogi Cadeiryddion yr ASB ac WFAC yn eu cyfarfod ym mis Awst gyda’r awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynnal rheolaethau swyddogol yn Afon Menai (Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn), cynaeafwyr pysgod cregyn ac academyddion o Brifysgol Bangor yn ystod ymweliad yng Ngogledd Cymru. Roedd yn gyfarfod cynhyrchiol lle cafodd y ddau Gadeirydd gyfle i glywed yn uniongyrchol gan randdeiliaid Cymru am yr heriau a’r cyfleoedd mewn perthynas â physgod cregyn.

4.3 Ynghyd â Chadeirydd WFAC, rydym wedi cefnogi Cadeirydd yr ASB yn ei chyfarfodydd â Gweinidogion Cymru dros y misoedd diwethaf. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod diweddar y Cadeirydd gyda’n Gweinidog, Sarah Murphy. Roedd hwn yn gyfle i drafod darnau o waith sy’n datblygu gan gynnwys rheoleiddio ar lefel genedlaethol ac awdurdodiadau marchnad. Roedd y gefnogaeth hon hefyd yn ymestyn i gyfarfod y Cadeirydd â Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ym mis Gorffennaf (cyfarfod a drefnwyd yn ystod tymor Jayne Bryant fel y Gweinidog â chyfrifoldeb am yr ASB yng Nghymru). Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle da i drafod y cyd-destun awdurdodau lleol yng Nghymru, y pwysau sy’n wynebu awdurdodau lleol, a sut mae’r ASB yn ceisio cefnogi awdurdodau lleol i wneud eu gwaith pwysig.

4.4 Awdurdodiadau marchnad – mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus yn ddiweddar ar 25 o geisiadau am ychwanegion bwyd anifeiliaid ac un cais am PARNUT (bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol neilltuol). Mae’r tîm wrthi’n ystyried yr holl ymatebion a ddaeth i law cyn cynghori Gweinidogion. Yn ogystal, mae rheolwyr risg polisi ledled gwledydd Prydain Fawr wrthi’n ystyried nifer o geisiadau sydd wedi symud ymlaen o’r cam asesu risg, gan gynnwys ceisiadau o wahanol gyfundrefnau bwyd a bwyd anifeiliaid. Rydym yn bwriadu lansio ein set nesaf o geisiadau ar gyfer ymgynghoriad dros y gaeaf.

4.5 Archwiliadau awdurdodau lleol – cynhaliwyd archwiliad i brofi holl drefniadau cyswllt brys y tu allan i oriau awdurdodau lleol ym mis Gorffennaf. Roedd y canfyddiadau’n nodi bod gan fwyafrif yr awdurdodau lleol drefniadau effeithiol ar waith i ymdrin ag argyfyngau y tu allan i oriau gwaith arferol. Rhoddwyd adborth i awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai sydd â threfniadau llai nag effeithiol, ac mae adroddiad cryno drafft wedi’i rannu ag awdurdodau lleol iddynt gael lleisio eu sylwadau.

4.6 Bara a blawd – mae gwaith yn parhau mewn perthynas â diwygio deddfwriaeth sy’n ymwneud â bara a blawd ar sail gydgysylltiedig ledled y DU, a fydd yn cynnwys ychwanegu asid ffolig at flawd. Mae hyn yn helpu i atal diffygion y tiwb nerfol rhag ffurfio yn ystod beichiogrwydd cynnar. Y bwriad yw ceisio caniatâd gweinidogol ym mhedair gwlad y DU cyn diwedd y flwyddyn.

4.7 Atchwanegiadau bwyd – mae’r ASB bellach wedi cyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr a chanllawiau i fusnesau, gyda’r nod o gefnogi defnydd diogel o atchwanegiadau bwyd sy’n cynnwys caffein. Mae hyn yn dilyn marwolaeth unigolyn a gamgyfrifodd y dos o atchwanegiad caffein, ac y priodolwyd ei farwolaeth i wenwyndra caffein. Mae’r cyngor a’r canllawiau hefyd yn cyfeirio at ffynonellau eraill o gaffein yn y deiet (te, coffi, siocledi, diodydd egni) ac yn rhoi arweiniad i fusnesau ar sut i gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol mewn perthynas ag atchwanegiadau.

4.8 Gorsensitifrwydd i fwyd – mae’r ASB ar fin cyhoeddi ymgynghoriad ar ddarparu gwybodaeth mewn lleoliadau y tu allan i’r cartref, a fydd yn ymdrin â chanllawiau newydd gan yr ASB. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio adborth ar y canllawiau, yr effeithiau posib ar weithredwyr busnesau bwyd, ac yn cynnig cyfle i ymatebwyr nodi unrhyw faterion eraill y dylai’r ASB geisio mynd i’r afael â nhw yn y canllawiau.

4.9 Diweddariad ar ddigwyddiadau – Cynhwysion mwstard wedi’u halogi â physgnau – mae’r tîm wedi bod yn rhan o ddigwyddiad anarferol sydd wedi cynnwys camau i dynnu neu alw’n ôl swm sylweddol o’r cynnyrch yr effeithiwyd arno. Ar ôl cyhoeddi cyngor brys ar alergeddau ar 20 Medi, ac yn dilyn dadansoddiad helaeth o’r gadwyn fwyd, canfu ymchwiliadau gan yr ASB ac FSS fod y cynhwysion mwstard halogedig yn gysylltiedig â chyflenwyr yn India. Mae tîm Cymru wedi chwarae rhan weithredol yn yr ymchwiliadau i sicrhau y cymerir camau gweithredu ar gynhyrchion a allai fod wedi’u dosbarthu yng Nghymru. Sicrhaodd y tîm hefyd fod rhanddeiliaid perthnasol yng Nghymru yn cael gwybod am ddatblygiadau a dosbarthiad y cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt, gan hysbysu Gweinidogion am y sefyllfa ar yr un pryd. Gweithiodd y tîm yn agos gyda’u cydweithwyr yn y tîm cyfathrebu yng Nghymru i sicrhau bod negeseuon diogelwch i ddefnyddwyr yn cael eu lledaenu’n effeithiol ar ein llwyfannau. Mae ymchwiliadau’n parhau.

4.10 Lansio Ein Bwyd 2023 – cyhoeddwyd yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar Safonau Bwyd, Ein Bwyd 2023, a’i osod yn y Senedd ar 8 Hydref 2024. Er mwyn lansio’r adroddiad hwn yng Nghymru, ysgrifennodd Cadeirydd yr ASB at Weinidogion, Aelodau’r Senedd a rhanddeiliaid allweddol eraill yn eu gwahodd i drafod canfyddiadau’r adroddiad a materion eraill o bwys mewn cyfarfodydd dwyochrog. Roedd adroddiad eleni’n adlewyrchu bod safonau bwyd uchel yn parhau’n sefydlog, ond bod cwestiynau ynghylch gwydnwch y system fwyd. Roedd yr adroddiad hefyd yn adlewyrchu gostyngiad hirdymor parhaus yng ngweithlu awdurdodau lleol, gydag ôl-groniad cynyddol yn nifer y busnesau bwyd sy’n aros am arolygiad.

4.11 Ymgyrchoedd cyfathrebu – ers cyfarfod diwethaf WFAC â thema ym mis Gorffennaf, mae ein tîm cyfathrebu yng Nghymru wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws yr ASB ar yr ymgyrchoedd, y digwyddiadau a’r ceisiadau canlynol gan y cyfryngau:

Ymgyrch busnesau bwyd – Arddangosfa sgoriau hylendid bwyd ar-lein – lansiwyd yr ymgyrch hon ar 19 Medi, a’i nod yw dangos i fusnesau pa mor hawdd yw hi i arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar-lein. Mae’n hyrwyddo’r manteision, ac yn cyfeirio busnesau at ganllawiau defnyddiol. Gall busnesau lawrlwytho delwedd o’u sgôr i’w gwefannau sy’n diweddaru’n awtomatig. Gwnaethom gyrraedd ein cynulleidfa trwy amrywiaeth o sianeli gan dalu i roi hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol yn y Gymraeg a’r Saesneg, creu pecyn adnoddau i awdurdodau lleol a phartneriaid i’w galluogi i gefnogi a rhannu’r ymgyrch, a chyhoeddi stori newyddion ar food.gov.

Ymgyrchoedd ymatebol ‘Always On’: Ymgyrch i fyfyrwyr – lansiwyd yr ymgyrch hon ddechrau mis Medi a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Hydref. Nod yr ymgyrch ddigidol fach hon yw codi ymwybyddiaeth o arferion diogelwch bwyd a hylendid ymhlith myfyrwyr. Nododd ymchwil a gynhaliwyd gan yr ASB yn 2021 a 2022 heriau ac ymddygiadau penodol o fewn y grŵp hwn. Ein nod yw cynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â’n tudalennau gwe Diogelwch Bwyd i Fyfyrwyr trwy gydweithio â phartneriaid, a thrwy ddefnyddio negeseuon organig wedi’u targedu ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â thalu am hysbysebion.

Cefnogi’r digwyddiad sy’n ymwneud â chynhwysion mwstard wedi’u halogi â physgnau – roedd tîm cyfathrebu Cymru yn ymwneud yn helaeth â’r digwyddiad diweddar hwn, gan gydweithio’n agos i sicrhau bod negeseuon yn cael eu cyfathrebu’n amserol â thimau cyfathrebu perthnasol yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhannodd y tîm hefyd negeseuon dwyieithog pwysig â defnyddwyr ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi gweld ymgysylltiad sylweddol â’r cynnwys hwn ar draws sianeli, gyda chynnydd amlwg yn nifer y dilynwyr yn ystod y digwyddiad hwn. Roedd y tîm hefyd yn cefnogi rhannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol trwy’r llwyfan cyfathrebu ag awdurdodau lleol newydd, Rwydwaith Rhannu’r ASB (FSA LINK). Roedd Uned Iaith Gymraeg fewnol yr ASB hefyd yn cefnogi’r digwyddiad hwn yn gyflym.

5. Ymgynghoriadau

5.1 Ymgynghoriadau cyfredol

6. Edrych tua’r dyfodol  

6.1 Blas Cymru – cynhelir cynhadledd Blas Cymru eleni yn Venue Cymru, Llandudno ar 24 Hydref. Bydd Cadeirydd yr ASB yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar ‘arloesi ar gyfer llwyddiant’, a bydd gan dîm Cynhyrchion Rheoleiddiedig yr ASB stondin gwybodaeth i gynnig arweiniad a chymorth.

6.2 Cynhadledd y Gymdeithas Diogelu Bwyd – bydd y gynhadledd eleni yn cael ei chynnal yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd ar 6 Tachwedd ar thema Troseddau Bwyd a Galw Bwyd yn Ôl. Bydd aelod o Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB yn rhan o’r panel o siaradwyr, a bydd gan yr ASB yng Nghymru stondin wybodaeth yn y digwyddiad.

6.3 Cynhelir cynhadledd flynyddol NFU Cymru ar 7 Tachwedd, ac mae Cadeirydd yr ASB wedi cael gwahoddiad i siarad yn y digwyddiad. Bydd y tîm yn cefnogi’r gwaith ymgysylltu hwn.

6.4 Wrth i ni ddynesu at y Nadolig, byddwn yn cynnal ein hymgyrch diogelwch bwyd blynyddol dros y Nadolig. Prif ffocws yr ymgyrch hon yw newid ymddygiad, gyda’r nod o wella arferion diogelwch bwyd yn y cartref dros y Nadolig. Yn yr wythnosau cyn y Nadolig, byddwn hefyd yn atgoffa ac yn annog defnyddwyr i wirio’r sgôr hylendid bwyd cyn bwyta allan neu drefnu parti Nadolig.