Sefyllfaoedd lle gallai fod angen cofrestru wrth ddarparu bwyd yn y gymuned
Canllawiau sy'n disgrifio sefyllfaoedd yn ystod COVID-19 lle gallai fod angen i unigolion sy'n darparu bwyd gofrestru fel busnes bwyd.
Os ydych chi'n darparu bwyd i'r gymuned, efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol fel busnes bwyd. Gallai hyn gynnwys y rhai sy'n darparu prydau bwyd i unigolion agored i niwed neu staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), neu'r rhai sy'n gweithredu o gegin gartref.
Mae cyfraith bwyd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl gofrestru gweithgareddau lle mae bwyd yn cael ei gyflenwi'n rheolaidd ac yn dilyn strwythur. Mae hyn yn ofynnol p'un a yw bwyd yn cael ei roi am ddim neu ei werthu.
Mae'r canllawiau hyn yn ategu canllawiau ar ddarparu bwyd cymunedol ac elusennol. Os ydych chi'n darparu bwyd i'r gymuned, dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â’r canllawiau ar ddiogelwch bwyd ar gyfer coginio cymunedol. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar gofrestru, hylendid bwyd, rheoli alergenau, labelu bwyd a gofynion hylendid dosbarthu bwyd.
Mae'r enghreifftiau ar y dudalen hon yn disgrifio gweithgareddau bwyd a allai fod angen eu cofrestru fel busnes bwyd. Nid yw bob amser yn glir a oes angen cofrestru ar gyfer cyflenwi bwyd cymunedol ac elusennol.
Mae natur, maint a pha mor rheolaidd yw gweithgareddau yn y sector cymunedol ac elusennol yn amrywiol ac mae'r enghreifftiau hyn yn ceisio adlewyrchu hyn. Fe'u dyluniwyd i adlewyrchu gweithgareddau ac ymddygiad bwyd mewn perthynas â phandemig COVID-19.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o weithgareddau a allai olygu bod angen cofrestru. Rydym ni’n eich cynghori i gysylltu â'ch awdurdod lleol os ydych chi'n ansicr a oes angen i chi gofrestru neu beidio.
Annhebygol bod angen cofrestru
Mae'n annhebygol y bydd angen cofrestru ar gyfer darparu bwyd yn y sefyllfa ganlynol:
Sefyllfa un
- Sefyllfa – Mae aelod o'r cyhoedd yn creu bocsys bwyd o nwyddau silff-sefydlog, fel bwyd tun, ac yn eu danfon i gymdogion oedrannus ar sail ad hoc.
- Rheswm – Nid ystyrir bod y gweithgarwch hwn yn dilyn strwythur. Mae bwyd silff-sefydlog yn risg isel, er ei fod yn cael ei ddarparu i grŵp agored i niwed yn y sefyllfa hon. Nid oes angen i'r aelod o’r cyhoedd gofrestru gyda'i awdurdod lleol.
Tebygol bod angen cofrestru
Mae darparu bwyd yn y sefyllfaoedd canlynol yn cynnwys parhad gweithgarwch a rhywfaint o drefn o ran dilyn strwythur. Felly byddai angen cofrestru:
Sefyllfa dau
- Sefyllfa – Mae sefydliad elusennol yn defnyddio arian y maen nhw wedi'i godi i archebu prydau bwyd o fwytai a siopau tecawê lleol. Maent yn casglu'r bwyd hwn ac yn ei ddosbarthu i drigolion lleol yn wythnosol.
- Rheswm – Ystyrir bod y gweithgarwch hwn yn drefnus ac yn dilyn strwythur. Mae elfen o risg i ddosbarthu prydau poeth neu oer ac mae'n ofynnol i'r sefydliad sicrhau bod prydau bwyd yn cael eu diogelu rhag halogiad. Dylai'r sefydliad elusennol gofrestru gyda'i awdurdod lleol.
Sefyllfa tri
- Sefyllfa – Mae perchennog busnes bwyd cofrestredig sy'n rhedeg busnes sydd wedi'i arolygu a’i sgorio gan yr awdurdod lleol, yn paratoi ac yn danfon prydau bwyd o gegin eu cartref.
- Rheswm – Ystyrir bod y gweithgarwch hwn yn drefnus ac yn dilyn strwythur. Er ei fod wedi'i gofrestru gyda'r awdurdod lleol, mae gweithredu o amgylchedd cartref yn creu lefel wahanol o risg o fewn y gweithgarwch. Mae rhan o'r asesiad arolygu yn cwmpasu'r safle ei hun. Felly, os yw safle gwahanol yn cael ei ddefnyddio gan y busnes i baratoi bwyd, rhaid iddo hefyd gael ei gofrestru gyda'i awdurdod lleol.
Sefyllfa pedwar
- Sefyllfa – Mae clwb cymunedol nad oedd wedi cofrestru o'r blaen, gan ei fod ond yn gwerthu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw pan oedd y clwb cymunedol yn cael ei ddefnyddio, wedi arallgyfeirio i drin a pharatoi bwyd risg uchel. Mae hyn am gyfnod o wythnosau yn ystod ymateb COVID-19.
- Rheswm – Ystyrir bod y gweithgarwch hwn yn drefnus ac yn dilyn strwythur. Mae gweithrediad newydd y clwb yn creu lefel wahanol o risg. Mae elfen o risg i ddosbarthu prydau poeth neu oer ac mae'n ofynnol i'r sefydliad sicrhau bod prydau bwyd yn cael eu diogelu rhag halogiad. Dylai'r clwb cymunedol gofrestru gyda'i awdurdod lleol.