Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae’r Cynllun hwn yn eich helpu i ddewis ble i fwyta neu ble i brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir i chi am safonau hylendid y busnesau. Rydym yn cynnal y Cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 June 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 June 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Drwy’r Cynllun, mae busnes yn cael sgôr rhwng 5 a 0 sy’n cael ei harddangos yn ei safle ac ar-lein er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau mwy gwybodus o ran ble i brynu a bwyta bwyd.

5 – mae’r safonau hylendid yn dda iawn

4 – mae’r safonau hylendid yn dda

3 – mae’r safonau hylendid yn foddhaol ar y cyfan

2 – mae angen gwella

1 – mae angen gwella yn sylweddol

0 – mae angen gwella ar frys


Mae’r Cynllun wedi’i osod yng nghyfraith Cymru a Gogledd Iwerddon, ond mae dangos y sticer hylendid bwyd yn wirfoddol yn Lloegr.  
Sticer sgôr 5 y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru

Ar beth mae’r sgoriau’n seiliedig?

Mae’r sgoriau’n rhoi cipolwg o’r safonau hylendid bwyd ar adeg yr arolygiad. Cyfrifoldeb y busnes yw cydymffurfio â chyfraith hylendid bwyd ar bob adeg.

Mae hyn yn cynnwys:

  • sut y caiff y bwyd ei drin 
  • sut y caiff y bwyd ei storio
  • sut y caiff y bwyd ei baratoi
  • glanweithdra’r cyfleusterau
  • sut y caiff diogelwch bwyd ei reoli

Nid yw’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn rhoi gwybodaeth am yr elfennau canlynol:

  • ansawdd y bwyd 
  • gwasanaeth cwsmeriaid
  • sgiliau arlwyo
  • cyflwyniad
  • pa mor gyfforddus yw’r lleoliad
Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi cael gwenwyn bwyd, ceisiwch gyngor meddygol gan eich meddyg teulu a chysylltwch â thîm iechyd yr amgylchedd neu dîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.

Deall sgoriau

Mae’r sgôr yn dangos pa mor dda yw’r busnes ar y cyfan, a hynny’n seiliedig ar y safonau a welwyd adeg yr arolygiad. Mae’r sgôr ar gael ar-lein ac ar sticeri a gaiff eu harddangos ar safle’r busnes. Mae modd gweld y dyddiad y cafodd y safonau hylendid eu harolygu gan swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol ar gefn y sticer ac ar gofnod y sgôr ar-lein.

Caiff sgoriau eu rhoi i leoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi, ei werthu, neu ei fwyta, fel:

  • bwytai, tafarndai, a chaffis
  • siopau tecawê, faniau bwyd, a stondinau
  • ffreuturau a gwestai
  • archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill
  • ysgolion, ysbytai, a chartrefi gofal

Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd gan sicrhau bod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta.
Yn ystod yr arolygiad, bydd y swyddog yn gwirio’r tair elfen ganlynol:

  • pa mor hylan y mae’r bwyd yn cael ei drin – sut mae’n cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio
  • cyflwr ffisegol y busnes – gan gynnwys glendid, cynllun, goleuo, awyru, rheoli plâu, a chyfleusterau eraill
  • sut mae’r busnes yn rheoli diogelwch bwyd, gan ystyried y prosesau, yr hyfforddiant a’r systemau sydd ar waith i sicrhau y caiff hylendid da ei gynnal. Yna, gall y swyddog asesu pa mor hyderus ydyw y bydd y safonau’n cael eu cynnal y dyfodol

Eithriadau

Mae dau grŵp o fusnesau sydd wedi’u heithrio a gaiff eu harolygu gan swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol, ond nad ydynt yn cael sgôr:

  • busnesau sy’n peri risg isel i iechyd y cyhoedd, er enghraifft, siopau papurau newydd, fferyllfeydd, neu ganolfannau ymwelwyr sy’n gwerthu nwyddau wedi’u lapio ymlaen llaw nad oes angen eu cadw’n oer
  • gofalwyr plant a busnesau sy’n darparu gwasanaethau gofal yn y cartref

Y raddfa sgorio

Caiff y safonau hylendid a ganfuwyd adeg yr arolygiad eu sgorio’n unol â graddfa benodol:

  • Mae 5 ar frig y raddfa, ac mae hyn yn golygu bod y safonau hylendid yn dda iawn ac yn cydymffurfio’n llwyr â’r gyfraith
  • Mae 0 ar waelod y raddfa, ac mae hyn yn golygu bod angen gwella ar frys

I gael y sgôr uchaf, mae’n rhaid i fusnesau lwyddo ym mhob un o’r tair elfen y cyfeirir atynt uchod. Os na fydd busnes wedi cael y sgôr uchaf, bydd y swyddog yn egluro i’r busnes pa gamau y mae angen eu cymryd i wella’r sgôr hylendid.

Mae dadansoddiad o’r tair elfen sy’n ffurfio sgôr hylendid bwyd busnes hefyd i’w weld yng nghofnod y sgôr ar-lein. Mae’r wybodaeth hon ar gael ar gyfer busnesau sydd wedi cael arolygiad ers mis Tachwedd 2014 yng Nghymru, ac ar gyfer busnesau sydd wedi cael arolygiad ers mis Ebrill 2016 yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae gwybodaeth fanwl ar gael yn adroddiad arolygu’r swyddog diogelwch bwyd. Os hoffech weld hwn, gallwch gyflwyno cais rhyddid gwybodaeth i’r awdurdod lleol a gynhaliodd yr arolygiad. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yr awdurdod lleol drwy chwilio am y busnes ac yna glicio ar enw’r busnes.

Bydd yr awdurdod lleol yn ystyried eich cais rhyddid gwybodaeth ac, fel arfer, bydd yn anfon copi o’r adroddiad atoch. Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu nad yw’n gallu gwneud hynny. O dan y fath amgylchiadau, bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu â chi i roi gwybod ac i esbonio pam. Gellir rhoi gwybod am unrhyw bryderon sy’n ymwneud â diogelwch bwyd busnes i’r tîm diogelwch bwyd lleol sy’n gyfrifol am y busnes. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yr awdurdod lleol drwy chwilio am y busnes ac yna glicio ar enw’r busnes.

Dod o hyd i sgôr

Gallwch fwrw golwg dros ein sgoriau ar-lein.

Caiff sgoriau eu harddangos mewn man amlwg, yn ffenest neu ar ddrws y busnes. Gallwch hefyd holi aelod o staff pa sgôr gafodd y busnes yn ystod yr arolygiad diwethaf. Mae arddangos sgoriau hylendid yn hysbyseb dda i fusnesau sy’n cydymffurfio â gofynion cyfraith hylendid bwyd. Os yw’r sgôr yn isel, gallwch ddewis prynu eich bwyd neu’ch pryd o fwyd o fusnes â sgôr uwch.

Os na allwch ddod o hyd i sgôr

Ewch ati i geisio chwilio gan ddefnyddio enw’r busnes yn unig neu ran gyntaf y cod post. Ar gyfer y busnesau hynny sydd wedi’u cofrestru mewn cyfeiriad preifat (e.e. arlwywyr cartref), dim ond gwybodaeth gyfyngedig am y cyfeiriad sy’n cael ei chyhoeddi – hynny yw, rhan gyntaf y cod post. Ni fydd chwilio gan ddefnyddio rhannau o’r cyfeiriad sydd heb eu cyhoeddi, er enghraifft, y cod post llawn neu’r dref, yn gweithio.  Os byddwch yn dal i fethu dod o hyd i sgôr, dylech gysylltu â’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am arolygu’r sefydliad.  Yr ASB sy’n darparu’r wefan sgoriau, ond mae’r hyn a gyhoeddir arni’n cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol.

Cymru

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau yng Nghymru arddangos eu sgoriau mewn man amlwg, fel drws blaen, mynedfa neu ffenestr y busnes. Mae’n rhaid i bob busnes yng Nghymru ddarparu gwybodaeth am eu sgôr ar lafar os daw cais felly gan berson ar y safle neu dros y ffon.
Mae’r cynllun yn berthnasol i fusnesau sy’n gwerthu i fusnesau, gan gynnwys gweithgynhyrchwyr bwyd a chyfanwerthwyr. Rhaid i siopau tecawê gynnwys datganiad dwyieithog ar fwydlenni a thaflenni sy’n dweud wrth ddefnyddwyr sut i ddod o hyd i fanylion y sgôr ar ein gwefan.

Gogledd Iwerddon

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon arddangos eu sgoriau wrth y fynedfa i gwsmeriaid, neu’n agos ati, fel y drws blaen, y fynedfa, neu ffenest y busnes. Rhaid arddangos sticeri mewn man lle gall cwsmeriaid eu gweld a’u darllen yn hawdd cyn iddynt fynd i mewn i’r safle pan fo’r busnes ar agor.
Mae’n rhaid i bob busnes yng Ngogledd Iwerddon ddarparu gwybodaeth am eu sgôr ar lafar os daw cais felly gan berson ar y safle neu dros y ffôn.

Lloegr

Does dim rhaid i fusnesau yn Lloegr arddangos eu sgôr ar y safle, ond rydym yn eu hannog i wneud hynny.

Gwahaniaethau rhwng y sgôr ar-lein a’r sgôr ar y sticer 

Mae’n bosib y bydd gwahaniaethau dros dro rhwng y sgôr a ddangosir ar-lein a’r sgôr a ddangosir mewn safle busnes. Fodd bynnag, yn aml bydd rheswm teilwng dros hyn, er enghraifft:

  • mae’r busnes wedi apelio yn erbyn ei sgôr ddiweddaraf ac yn aros am y canlyniad
  • mae’r awdurdod lleol wrthi’n uwchlwytho’r sgôr newydd i’n gwefan

Hyd yn oed os bydd busnes yn cael y sgôr uchaf, mae’n bosib y bydd ychydig o oedi wrth i’r awdurdod lleol ddiweddaru’r wefan. Mae awdurdodau lleol yn uwchlwytho sgoriau o leiaf bob 28 diwrnod. Os na allwch ddod o hyd i sgôr ar gyfer busnes, bydd angen i chi gysylltu â’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am arolygu’r busnes.

Dylech hefyd gysylltu â’r awdurdod lleol os ydych chi’n poeni bod busnes yn arddangos sgôr uwch na’r sgôr ar y wefan yn fwriadol i awgrymu bod ganddo safonau hylendid uwch nag sydd ganddo mewn gwirionedd.

Busnesau gyda sgoriau isel

Mae’n rhaid i fusnesau sydd â sgoriau isel wneud gwelliannau ar frys, neu roi gwelliannau mawr ar waith, o ran eu safonau hylendid. Bydd swyddog diogelwch bwyd yr awdurdod lleol yn defnyddio nifer o ddulliau gorfodi ac yn rhoi cyngor ac arweiniad i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gweithredu.

Bydd y swyddog diogelwch bwyd hefyd yn rhoi gwybod i’r busnes pa mor sydyn y mae’n rhaid cyflwyno’r gwelliannau hyn. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o broblem y mae angen mynd i’r afael â hi.

Os bydd y swyddog yn gweld bod safonau hylendid busnes yn wael iawn a bod risg uniongyrchol i iechyd y cyhoedd – hynny yw, nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta – bydd yn rhaid i’r swyddog weithredu er mwyn diogelu defnyddwyr. Gallai hyn arwain at atal rhan o’r busnes neu ei gau’n gyfan gwbl nes ei fod yn ddiogel i ailddechrau.

Pa mor aml y cynhelir arolygiadau

Caiff sgôr newydd ei rhoi bob tro y bydd y busnes yn cael ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd o awdurdod lleol y busnes.

Mae pob awdurdod lleol yn cynllunio rhaglen o arolygiadau bob blwyddyn. Mae amlder yr arolygiadau’n dibynnu ar y risg bosib i iechyd y cyhoedd.

Mae’r asesiad yn ystyried y ffactorau canlynol:

  • y math o fwyd sy’n cael ei drin
  • nifer y cwsmeriaid a’r math o gwsmeriaid, er enghraifft grwpiau sy’n agored i niwed
  • y mathau o brosesau a gyflawnir cyn i’r bwyd gael ei werthu neu ei weini
  • y safonau hylendid a welwyd ar ddiwrnod yr arolygiad diwethaf

Caiff busnesau sy’n peri risg uwch eu harolygu’n amlach na busnesau sy’n peri risg is, er enghraifft manwerthwr bach sy’n gwerthu amrywiaeth o fwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw sydd ond yn gorfod cael eu cadw yn yr oergell. Mae’r cyfnod rhwng arolygiadau’n amrywio o chwe mis ar gyfer y busnesau risg uchaf i ddwy flynedd ar gyfer y busnesau risg isaf. Ar gyfer rhai busnesau risg isel iawn, gall y cyfnod rhwng arolygiadau fod yn fwy na dwy flynedd, ond efallai y bydd rhai eithriadau i hyn.

Resources

Wales

Northern Ireland

England