Cynhwysion mwstard wedi’u halogi â physgnau – canllawiau i ddefnyddwyr
Diweddariad i ddefnyddwyr gan gynnwys cwestiynau ac atebion ar y digwyddiad a’r ymchwiliad i gynhwysion mwstard wedi’u halogi â physgnau.
Beth sydd wedi digwydd a beth mae’r ASB yn ei wneud i gadw pobl yn ddiogel?
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), gan weithio gyda Safonau Bwyd yr Alban (FSS), wedi bod yn cydgysylltu ymchwiliadau gan nifer o awdurdodau lleol i gynhwysion mwstard yn y gadwyn cyflenwi bwyd a allai fod wedi’u halogi â physgnau.
O ganlyniad i ymchwiliadau helaeth a pharhaus, gwnaeth y busnes bwyd FGS Ingredients Limited, sy’n mewnforio mwstard i weithgynhyrchu cynhyrchion sbeis gan gynnwys powdr cyri, sesnin a chymysgeddau sbeis o India, gymryd y cam rhagofalus o dynnu cynhyrchion yn ôl. Mae cwsmeriaid FGS Ingredients Limited wedi cymryd camau tebyg ac wedi tynnu a galw’n ôl yr holl gynhyrchion sy’n cynnwys mwstard.
Beth yw’r cyngor diweddaraf i ddefnyddwyr?
Rydym nawr yn cynghori pobl sydd ag alergedd i bysgnau nad oes angen iddynt osgoi bwyta bwydydd sy’n cynnwys neu a allai gynnwys mwstard, powdr mwstard, hadau mwstard neu flawd mwstard mwyach oherwydd y gallent fod wedi’u halogi â physgnau. Mae hyn yn berthnasol i fwyta gartref a bwyta allan.
Yn dilyn ymchwiliadau gan Gyngor Dinas Caerlŷr (Leicester), yr awdurdod gorfodi lleol, ac FGS Ingredients Limited, sydd wedi’u cefnogi gan yr ASB ac FSS, rydym wedi cael sicrhad bod mesurau wedi’u rhoi ar waith gan FGS Ingredients Limited i leihau’r risg i bobl ag alergedd i bysgnau.
Mae FGS Ingredients Limited wedi cynghori ei gwsmeriaid i dynnu nwyddau sy’n cynnwys y cynhwysion mwstard halogedig oddi ar y farchnad.
Gan weithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol perthnasol ar gyfer yr holl fusnesau yr effeithir arnynt, rydym wedi cynghori busnesau bwyd i adolygu eu cadwyni cyflenwi bwyd a thynnu unrhyw gynhyrchion a allai fod wedi’u halogi â chynhwysion mwstard oddi ar y farchnad. Ar gyfer y cynhyrchion hynny a werthwyd mewn cyd-destun manwerthu, cafodd hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl eu cyhoeddi hefyd.
Fel cam rhagofalus ychwanegol er diogelwch, mae gwaith samplu a gwyliadwriaeth ar gynhyrchion mwstard wedi cynyddu, a hynny er mwyn sicrhau bod modd nodi unrhyw gynhyrchion pellach a allai fod yn destun halogiad cyn gynted â phosib, gan alluogi defnyddwyr i fwynhau’r bwydydd hyn yn hyderus.
Faint o gynhyrchion sydd wedi’u galw’n ôl?
Ar 11 Tachwedd 2024, mae 265 o gynhyrchion o 51 o frandiau wedi’u galw’n ôl. Mae’r ASB ac FSS yn parhau i annog defnyddwyr a busnesau i wirio a oes dal i fod ganddynt unrhyw rai o’r cynhyrchion halogedig a oedd wedi’u rhestru yn y rhybuddion alergedd gartref ac, os felly, dylai pobl ag alergedd i bysgnau osgoi defnyddio’r cynhyrchion hynny a dilyn y cyngor yn y rhybuddion alergedd.
A yw bellach yn ddiogel bwyta cynhyrchion sy’n cynnwys mwstard a brynwyd mewn archfarchnadoedd a siopau?
Ydy, mae bellach yn ddiogel. Os oes gennych unrhyw gynhyrchion gartref a brynwyd cyn 1 Hydref 2024, dylech wirio a oedd y rhain yn destun rhybuddion alergedd. Gallwch wirio hyn trwy adolygu’r rhestr o gynhyrchion a alwyd yn ôl:
- Diweddariad 17 – Mae sawl brand yn galw cynhyrchion sy’n cynnwys mwstard yn ôl oherwydd y gallent fod wedi’u halogi â physgnau
- Diweddariad 12 – Mae FGS Ingredients Ltd yn galw nifer o gynhyrchion sy’n cynnwys powdr mwstard yn ôl oherwydd pysgnau heb eu datgan
- Mae Hain Daniels yn galw ‘Yorkshire Provender Jacket & Toast Toppers’ yn ôl oherwydd pysgnau heb eu datgan
A yw bellach yn ddiogel bwyta cynhyrchion sy’n cynnwys mwstard wrth fwyta allan mewn bwytai a chaffis?
Ydy. Mae gwiriadau wedi’u cynnal ar draws y sector gwasanaeth bwyd i gael gwared ar gynhyrchion halogedig sy’n anniogel. Rydym yn dal i annog pob defnyddiwr sydd ag alergedd i roi gwybod i fwytai neu gaffis am eu halergedd pan fyddant yn bwyta allan, a hynny er mwyn sicrhau bod eu bwyd yn ddiogel i’w fwyta.
Mae busnesau bwyd wedi adolygu eu cadwyni cyflenwi ac mae unrhyw gynhyrchion halogedig wedi’u tynnu oddi ar y farchnad, ac mae camau diogelwch bwyd perthnasol wedi’u cymryd.
A yw’r achos hwn o gynhyrchion wedi’u halogi â physgnau yn bryder byd-eang? A oes angen i mi gymryd camau rhagofalus ychwanegol os byddaf yn teithio y tu allan i’r DU?
Mae ein cyngor yn berthnasol i’r DU yn unig. Ni all yr ASB roi cyngor manwl ar reolaethau diogelwch bwyd mewn gwledydd eraill. Os ydych yn bryderus, dylech geisio cyngor gan awdurdodau diogelwch bwyd yn y wlad rydych yn teithio iddi.
Mae mwstard yn gynnyrch sy’n cael ei fasnachu’n fyd-eang, ac mae unrhyw wledydd sydd wedi cael cynhyrchion halogedig gan y DU wedi cael gwybod trwy system rhybuddio diogelwch bwyd ryngwladol.
Sut gallaf ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt?
Rydym wedi darparu rhestr lawn o gynhyrchion sydd wedi’u galw yn ôl:
- Diweddariad 17 – Mae sawl brand yn galw cynhyrchion sy’n cynnwys mwstard yn ôl oherwydd y gallent fod wedi’u halogi â physgnau
- Diweddariad 12 – Mae FGS Ingredients Ltd yn galw nifer o gynhyrchion sy’n cynnwys powdr mwstard yn ôl oherwydd pysgnau heb eu datgan
- Mae Hain Daniels yn galw ‘Yorkshire Provender Jacket & Toast Toppers’ yn ôl oherwydd pysgnau heb eu datgan
Byddwn yn rhoi diweddariad i ddefnyddwyr cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael, ac rydym yn annog unigolion ag alergeddau i gofrestru ar gyfer ein rhybuddion alergedd i gael gwybod am gynhyrchion a gaiff eu galw’n ôl yn y dyfodol.
Os yw’r broblem wedi’i datrys, pam mae diweddariadau pellach wedi’u cyhoeddi mewn perthynas â’r hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl? A fydd diweddariadau eraill ar ôl hyn?
Cyngor yr ASB oedd cymryd camau rhagofalus i leihau’r risg i ddefnyddwyr. Roedd y gadwyn gyflenwi’n hirfaith a chymhleth ac, wrth i gyflenwyr a oedd yn dosbarthu’n eang gael eu nodi, cymerodd yr ASB gamau i gynyddu nifer y cynhyrchion a alwyd yn ôl ar lefel y diwydiant, drwy gyhoeddi diweddariadau i’r rhybuddion. Efallai y bydd cynhyrchion pellach yn cael eu hychwanegu at y rhestr, ond ni fydd hynny’n newid y cyngor diweddaraf i ddefnyddwyr.
Hanes diwygio
Published: 18 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Tachwedd 2024