Alcohol ffug
Sut i adnabod alcohol ffug neu alcohol sydd wedi'i gynhyrchu yn anghyfreithlon, a chanllawiau a beryglon yfed y cynhyrchion hyn.
Mae alcohol ffug neu alcohol sy'n cael ei gynhyrchu'n anghyfreithlon yn alcohol sydd wedi'i wneud mewn distyllfa heb ei drwyddedu neu mewn tai pobl i'w werthu.Gall alcohol ffug gael ei becynnu i edrych fel brandiau adnabyddus a gaiff eu cynhyrchu'n gyfreithlon. Dyma beth yw 'ffugio'.
Fodca yw'r cynnyrch sy'n cael ei ffugio fwyaf. Os ydych chi'n gweld fodca ar werth am bris rhad iawn, mae'n debyg nad fodca mohono.
Mae diodydd alcoholaidd sydd wedi'u cynhyrchu a'u hardystio'n gywir yn cael eu cynhyrchu gydag ethanol, sef math o alcohol sydd wedi'i gymeradwyo i'w fwyta gan bobl. Gall diodydd alcoholaidd ffug gael eu cynhyrchu drwy ddefnyddio mathau eraill o alcohol sy'n rhatach. Os ydych yn eu hyfed nhw, gallant eich dallu chi, eich gadael chi mewn coma neu hyd yn oed gwaeth.
Gall alcohol ffug gynnwys cemegion sy'n cael eu defnyddio mewn:
- hylif gwrthrewi
- sylwedd golchi sgrin
- hylif farnis ewinedd
Sut i adnabod ac osgoi alcohol ffug
Cofwich y 4 cliw bob amser:
- Cynnyrch – byddwch yn ofalus o fersiynau ffug a brandiau dieithr
- Pris – os yw’r pris yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod
- Pecynnu – cadwch lygad am labeli o ansawdd gwael, camsillafu a photeli sy’n edrych fel petai rhywun wedi ymyrryd â nhw
- Safle – prynwch alcohol o siop ag enw da bob amser
Os ydych yn amau bod rhywun yn cyflenwi neu'n gwerthu alcohol ffug, dylech roi gwybod i'ch swyddfa Safonau Masnach lleol. Byddant yn anfon eich ymholiad at Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr ASB neu at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) pan yn briodol.
Dylech geisio cyngor meddygol os ydych yn credu eich bod chi wedi yfed alcohol ffug.