Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Trichinella

Mae trichinosis yn glefyd sy'n cael ei achosi gan larfâu mwydod parasitig bach a all effeithio ar anifeiliaid a phobl.

Sut rydych chi'n cael eich heintio

Mae pobl yn cael eu heintio drwy fwyta cig amrwd, cig wedi'i goginio neu gig wedi'i brosesu o foch, baeddod gwyllt, ceffylau neu anifeiliaid helgig sy'n cynnwys y paraseit.

Gall yr haint achosi symptomau:

  • dolur rhydd
  • poen yn y stumog
  • teimlo'n sâl

Os nad yw'n cael ei drin, mae'n gallu achosi:

  • gwres
  • poen yn y cyhyrau
  • cur pen

Mewn achosion difrifol, mae'n gallu effeithio ar organau hanfodol ac hyd yn oed eich lladd.

Sut mae anifeiliaid yn cael eu heintio

Mae anifeiliaid yn cael eu heintio wrth fwyta cig sy'n cynnwys y mwydyn parasitig.

Mewn moch, gall bwyd anifeiliaid fod yn ffynhonell heintio pan fydd wedi'i halogi gan anifeiliaid gwyllt marw fel cnofilod.

Mae yna ofynion ar gyfer profi trichinella mewn moch a nodir yn y gyfraith.

Er mwyn atal cig wedi'i heintio gan foch a rhywogaethau perthnasol eraill rhag mynd i'r gadwyn fwyd ddynol, mae'n ofynnol cynnal profion yn y Deyrnas Unedig.

Trichinella mewn baeddod gwyllt 

Mae baeddod gwyllt nad ydynt yn cael eu ffermio yn cael eu cyfrif fel anifeiliaid 'gwyllt' (feral).

Pan fydd baeddod gwyllt yn chwilio am fwyd, gallai'r bwyd y maen nhw'n ei fwyta gael ei halogi â trichinella, gan gynyddu'r risg o heintio.

Os yw baedd gwyllt wedi'i saethu gan heliwr a'i gyflenwi'n uniongyrchol i ddefnyddiwr neu fanwerthwr lleol, mae'n rhaid ei brofi am trichinella.

Mae profi yn helpu diogelu defnyddwyr rhag bwyta cig wedi'i heintio.

Canllawiau ar brofi ar gyfer trichinella

Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) wedi datblygu canllawiau ar gyfer helwyr ar brofi baeddod gwyllt ar gyfer trichinella. Mae’r canllawiau’n esbonio sut y dylid cymryd samplau a’u hanfon.

Canllawiau ar gyfer profi baeddod gwyllt ar gyfer trichinella ar wefan APHA (PDF)