Rheoliadau deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd
Trosolwg o’r rheoliad allweddol ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd.
Rydym yn gyfrifol am ddiogelu'r cyhoedd yn erbyn cemegion a allai drosglwyddo i fwyd o'r deunyddiau y maent yn dod i gysylltiad â nhw, er enghraifft deunydd pecynnu ac offer. Rydym yn helpu i orfodi rheolaethau yn seiliedig ar waith ymchwil a gwyliadwriaeth.
Rheoliadau Cenedlaethol 2012
Mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau ar gyfer deunyddiau ac eitemau y disgwylir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd neu drosglwyddo eu cynnwys i fwyd, er enghraifft, deunyddiau fel inciau argraffu a labeli gludiog. Nid yw hyn yn cynnwys sylweddau sy'n gorchuddio'r bwyd ac sy'n rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta, fel croen selsig.
Mae Rheoliadau cenedlaethol 2012 yn darparu un pwynt cyfeirio ar gyfer busnesau ac awdurdodau gorfodi trwy ddod â thair prif Offeryn Statudol ynghyd ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, fel eu bod yn un set o reoliadau. Mae'r rheoliadau cyfunol yn sicrhau parhad y darpariaethau gorfodi ar gyfer deddfwriaeth bresennol sy'n berthnasol yn uniongyrchol i ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd.
Gogledd Iwerddon
Mae rheoliadau 2012 yn nodi:
- pa achosion o ddiffyg cydymffurfio sy’n droseddau ac sy’n destun cosbau
- beth yw awdurdod cymwys
Polisi preifatrwydd ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd
Hanes diwygio
Published: 25 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Ebrill 2024