Rheoleiddio gwin
Canllawiau ar sut mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gorfodi rheoliadau gwin yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gyfrifol am orfodi rheoliadau gwin yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae hyn yn cynnwys yr holl safleoedd a’r masnachwyr yn y gadwyn gynhyrchu a marchnata, gan gynnwys cyfanwerthwyr, warysau a gwinllannoedd. Mae safleoedd manwerthu yn dod o dan reolaeth awdurdodau lleol.
Gellir cysylltu â'r Tîm Arolygu Safonau Gwin trwy anfon e-bost at winestandards@food.gov.uk neu drwy eich arolygydd rhanbarthol.
Pwysig
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi lansio canllaw digidol – Busnesau bwyd a diod: gweithio gyda'r UE. Mae'n cwmpasu'r camau allweddol y gallai fod angen i fusnesau bwyd a diod eu cymryd ar ôl diwedd y cyfnod pontio.
Bydd y canllaw yn cynnwys y canllawiau diweddaraf ar gyfer cynhyrchwyr a masnachwyr gwin, ac yn cynnwys newidiadau ac ychwanegiadau wrth i wybodaeth bellach gael ei chadarnhau.
Sut mae'r ASB yn rheoleiddio busnesau gwin
Mae'r ASB yn gyfrifol am annog tyfwyr, cynhyrchwyr a masnachwyr i gydymffurfio â deddfau ar win trwy gynnig cyngor ac addysg.
Rydym ni’n cynnal rhaglen o arolygiadau, gan ddefnyddio dadansoddiad risg, i ddarparu gwasanaeth wedi'i dargedu sy’n gost-effeithiol.
Rydym ni’n nodi unrhyw achosion o dor-cyfraith ac yn casglu tystiolaeth ar gyfer camau cyfreithiol mewn achosion difrifol, gan weithio'n aml gyda chyrff rheoleiddio eraill.
Rydym ni’n sicrhau diogelwch, ansawdd, dilysrwydd a labelu cywir mewn perthynas â chynhyrchion gwin. Mae ein gwaith gorfodi yn cynnwys masnach a safleoedd o fewn y gadwyn cynhyrchu a dosbarthu. Mae hyn yn cynnwys ffatrïoedd potelu, warysau wedi'u bondio, mewnforwyr, cyfanwerthwyr, gwinllannoedd a gwindai.
Rydym ni hefyd yn cynnal Cofrestr o Winllannoedd y DU sy'n cofnodi ardaloedd sy’n cynnwys gwinwydd a gwybodaeth am gynhyrchiant gan gynhyrchwyr.
Mae gennym ni ganllawiau pellach ar sut i gofrestru gwinllannoedd.
Manwerthwyr gwin, trwyddedu gwirod a gwin ffrwythau
Caiff rheoliadau gwin ar safleoedd manwerthu eu gorfodi gan awdurdodau lleol. I wneud ymholiadau neu i geisio canllawiau am win sy’n cynnwys unrhyw ffrwythau ar wahân i rawnwin, cysylltwch â’ch tîm Safonau Masnach lleol.
Mae awdurdodau lleol yn gweinyddu’r gofynion Trwyddedu Gwirodydd sy’n dod o dan Drwyddedau Personol a Safleoedd. I gael rhagor o wybodaeth am fasnach a gwin, ewch i wefan y Gymdeithas Masnach Gwin a Gwirodydd.