Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Canllawiau ar awdurdodi prosesau dadwenwyno bwyd anifeiliaid

Gofynion o ran awdurdodi prosesau dadwenwyno bwyd anifeiliaid

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae proses ddadwenwyno (detoxification) yn broses lle mae sylwedd annymunol yn cael ei dynnu o fwyd anifeiliaid halogedig nad yw’n cydymffurfio. Gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:

  • ffisegol – wedi’i dynnu ar bwrpas o fwyd anifeiliaid halogedig nad yw’n cydymffurfio
  • cemegol – wedi’i ddadelfennu (broken down) neu ei ddinistrio gan sylwedd cemegol yn gyfansoddion diniwed (harmless)
  • biolegol neu ficrobiolegol – wedi’i fetaboli neu ei ddinistrio neu ei ddadactifadu gan broses fiolegol neu ficrobiolegol yn gyfansoddion diniwed

Mae angen awdurdodi prosesau dadwenwyno bwyd anifeiliaid cyn y gellir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr. Mae Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/786 yn diffinio’r meini prawf derbynioldeb ar gyfer y prosesau dadwenwyno ffisegol, cemegol a (micro)biolegol.  

Yn gyffredinol, caniateir dulliau ffisegol lle mae sylwedd annymunol yn cael ei leihau neu ei ddileu trwy lanhau, didoli neu dynnu mecanyddol. Fodd bynnag, mae angen awdurdodiad ar gyfer dadwenwyno cemegol, biolegol neu ficrobiolegol.

Awdurdodiadau newydd

I wneud cais i awdurdodi proses ddadwenwyno newydd ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Gofynnir i chi uwchlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd wedyn yn creu eich coflen. Nid oes rhaid talu ffi i wneud y cais.

Nid oes unrhyw ganllawiau penodol ar gael ar gyfer ceisiadau am brosesau dadwenwyno. Fodd bynnag, dylai eich cais ddangos bod y broses ddadwenwyno yn bodloni’r meini prawf derbynioldeb a sefydlwyd yn Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/786

Ceisiadau parhaus

Os gwnaethoch gyflwyno cais dadwenwyno i’r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw’r broses asesu ar gyfer y cais hwn wedi’i chwblhau, bydd angen i chi gyflwyno’ch cais i ni, gan ddefnyddio ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Wrth gwblhau’r cais, gofynnir i chi ddarparu rhif eich cwestiwn EFSA.

Awdurdodiadau presennol

Os cafodd eich cynnyrch neu broses ei awdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol ar waith, bydd yr awdurdodiad hwnnw’n parhau i fod yn ddilys ym Mhrydain Fawr.

Ceisio cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu’r gofynion ymgeisio, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gallwch nawr ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig.