Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Canllawiau ar awdurdodi ensymau bwyd

Canllawiau ar awdurdodi ensymau bwyd a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o gais ar gyfer ensymau bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae ensymau yn bresennol mewn micro-organebau, planhigion ac anifeiliaid ac yn gweithredu fel catalyddion mewn adweithiau cemegol amrywiol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynyddu cyfradd yr adweithiau. Oherwydd hyn, gallant fod yn ddefnyddiol wrth gynhyrchu bwyd neu gynhwysion bwyd penodol (hynny yw cyflasynnau), sicrhau mwy o gynnyrch neu brosesau cynhyrchu mwy effeithlon.

Defnyddir ensymau bwyd yn bennaf:

  • yn y diwydiant pobi
  • wrth wneud gwin a bragu
  • wrth weithgynhyrchu caws
  • wrth gynhyrchu sudd ffrwythau

Food enzyme authorisations 

Mae cyfraith a gymathwyd ar y broses awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd yn Rheoliad 1331/2008 a Rheoliad 234/2011  yn amlinellu’r weithdrefn awdurdodi ar gyfer y sylweddau hyn fel cynhyrchion rheoleiddiedig. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r ASB gadw cofrestr sy’n cynrychioli’n gywir statws awdurdodi’r cynhyrchion hyn fel y’i pennir gan yr awdurdod priodol (gweinidogion) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Nid yw’r rhestr ddomestig ar gyfer ensymau bwyd wedi’i sefydlu eto. Hyd nes y bydd y rhestr ar waith, gellir parhau i ddefnyddio ensymau mewn bwyd os ydynt yn bodloni gofynion y gyfraith a gymathwyd ganlynol:

Fodd bynnag, os yw defnydd ensym yn dod o fewn cwmpas ychwanegion bwyd neu ddeddfwriaeth bwyd newydd bydd angen ei gymeradwyo cyn y gellir ei ddefnyddio, os na chaniateir eisoes o dan y ddeddfwriaeth berthnasol.

Unwaith y bydd y rhestr wedi’i sefydlu, bydd angen awdurdodi ensymau bwyd newydd i’w rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr.

Galwad am geisiadau

Byddwn yn cyhoeddi galwad am geisiadau gan osod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer ensymau bwyd. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd pob cais dilys yn cael ei werthuso a’i ystyried i’w gynnwys ar y rhestr gychwynnol.

Gallwn dderbyn ceisiadau cyn cyhoeddi’r alwad, ond efallai na fyddant yn cael eu gwerthuso ar unwaith.

Awdurdodiadau newydd

I wneud cais i awdurdodi ensym bwyd ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Gofynnir i chi uwchlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd wedyn yn creu eich coflen. Nid oes rhaid talu ffi i wneud y cais.

Bydd angen i’ch cais i awdurdodi ensym gynnwys:

  • llythyr cysylltiedig yn rhoi amlinelliad o’r cais (yn nodi’r ensym, ei ddefnydd arfaethedig, a’r categorïau bwyd perthnasol y mae’r cais yn ymwneud â nhw)
  • coflen dechnegol
  • crynodeb o’r goflen
  • crynodeb cyhoeddus o’r goflen
  • gwybodaeth gyswllt yr ymgeisydd/ymgeiswyr ac arbenigwyr technegol

Os ydych chi am i rai rhannau o’r ffeil gael eu trin yn gyfrinachol, mae angen i’ch cais hefyd gynnwys:

  • rhestr o rannau o’r goflen yr hoffech iddynt gael eu trin yn gyfrinachol
  • cyfiawnhad dilysadwy ar gyfer pob rhan y gofynnir iddynt gael eu trin yn gyfrinachol
  • coflenni cyflawn heb rannau cyfrinachol

Canllawiau manwl

Mae’r gofynion gwneud cais wedi’u nodi mewn cyfraith a gymathwyd:

Yn flaenorol, datblygwyd canllawiau hefyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA). Mae’r canllawiau hyn yn parhau i fod yn berthnasol gan fod ein dull yn seiliedig ar brosesau’r UE. Dylech chi ddilyn y rhannau sy’n ymwneud â datblygu coflenni yn unig ac nid y broses ymgeisio:

Ceisio cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn neu’r broses awdurdodi, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gallwch nawr ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig.