Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Canllawiau awdurdodi ar gyfer deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd

Gofynion awdurdodi ar gyfer deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd (FCM) yn ddeunyddiau ac yn eitemau sy’n dod i gysylltiad â bwyd wrth ei gynhyrchu, ei brosesu, ei storio, ei baratoi neu ei weini. Mae enghreifftiau o ddeunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd yn cynnwys:

  • cynwysyddion ar gyfer cludo bwyd
  • deunyddiau pecynnu
  • llestri cegin
  • offer bwrdd

Mae pedwar categori o ddeunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd sy'n ddarostyngedig i reoliadau penodol:

  • monomerau ac ychwanegion plastig
  • deunyddiau gweithredol/deallus (‘AIMs’)
  • prosesau plastig wedi'i ailgylchu
  • ffilm cellwlos atgynyrchiedig (RCF)

Awdurdodiadau deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd

Mae angen awdurdodi deunyddiau rheoleiddiedig sy’n dod i gysylltiad â bwyd cyn y gellir eu defnyddio a’u rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr.  Rhaid i bob deunydd sy’n dod i gysylltiad â bwyd  gydymffurfio â gofynion Rheoliad a gymathwyd 1935/2004, sy’n nodi’r fframwaith cyffredinol. Mae cyfraith a gymathwyd yn amlinellu’r gofynion awdurdodi ar gyfer y sylweddau hyn:

Mae’n ofynnol i’r ASB gadw rhestrau o ddeunyddiau awdurdodedig sy’n dod i gysylltiad â bwyd fel y’u pennir gan yr awdurdod priodol (gweinidogion) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Deunyddiau gweithredol a deallus (AIMs) a phrosesau plastig wedi’i ailgylchu

Nid yw’r rhestrau cadarnhaol ar gyfer AIMs a phrosesau plastig wedi’i ailgylchu wedi’u sefydlu eto mewn deddfwriaeth. Hyd nes y bydd y rhestrau cadarnhaol ar waith, bydd angen i’r partïon cyfrifol sicrhau eu bod yn cadw at y gofynion deddfwriaethol perthnasol a nodir isod.

AIMs 

Yn absenoldeb awdurdodiadau ym Mhrydain Fawr, gellir rhoi’r cynhyrchion hyn ar y farchnad ym Mhrydain Fawr os ydynt yn bodloni’r canlynol:

  • y gofynion cymwys o dan Reoliad a gymathwyd 450/2009
  • y gofynion cymwys o dan Reoliad a gymathwyd 1935/2004. Er enghraifft, ni ddylent fod yn niweidiol i iechyd pobl, effeithio’n niweidiol ar gyfansoddiad bwyd (fel newid ei asidedd), nac effeithio’n andwyol ar ei flas, ei arogl, ei liw na’i wead. Rhaid i’r cynhyrchion hyn hefyd gael eu gweithgynhyrchu yn unol ag Arferion Gweithgynhyrchu Da fel y’u disgrifir yn Rheoliad a gymathwyd 2023/2006.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi deddfwriaeth deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd. Mae ganddynt y pŵer i gynnal gwiriadau dogfennol a chyflwyno hysbysiadau gorfodi os bydd amheuaeth o ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd.

Efallai y bydd ystyriaethau ychwanegol cyn gwneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig neu ei roi ar y farchnad. Er enghraifft, os yw AIMs yn cynnwys sylwedd bioladdol (biocidal), efallai y bydd angen i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) asesu’r sylwedd actif i benderfynu a yw’n addas i’w ddefnyddio fel deunydd sy’n dod i gysylltiad â bwyd yn y lle cyntaf. Bydd y math penodol o gynnyrch (PT) o dan y Rheoliad Cynhyrchion Bioladdol yn dibynnu ar y math o sylwedd bioladdol a’r amodau defnydd arfaethedig. Er enghraifft, gellir defnyddio bioladdwyr PT4 ar gyfer cyswllt uniongyrchol â bwyd: diheintio offer, cynwysyddion, offer bwyta, arwynebau neu bibellau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu, cludo, storio neu fwyta bwyd neu fwyd anifeiliaid, ac i drwytho deunyddiau a allai ddod i gysylltiad â bwyd.

Bydd angen cyflwyno ceisiadau i’w gwerthuso a’u hystyried i’w cynnwys ar y rhestr gadarnhaol. Nid oes gofyniad i wneud hyn ar unwaith ar gyfer AIMs. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar amserlen ac ar ganllawiau pellach ar sefydlu rhestrau cadarnhaol ar gyfer y cynhyrchion rheoleiddiedig hyn.

Prosesau plastig wedi'i ailgylchu

Yn absenoldeb awdurdodiadau ym Mhrydain Fawr, gall prosesau plastig wedi’i ailgylchu barhau i weithredu, a gellir rhoi plastig wedi’i ailgylchu a gynhyrchir gan eu defnyddio ar farchnad Prydain Fawr, os ydynt yn bodloni’r canlynol: 

  • y gofynion cymwys o dan Reoliad a gymathwyd 282/2008 (ar gyfer prosesau ailgylchu) a Rheoliad a gymathwyd 10/2011 (ar gyfer gofynion cyffredinol ar ddeunyddiau plastig sy’n dod i gysylltiad â bwyd)
  • y gofynion cymwys o dan Reoliad a gymathwyd 1935/2004. Er enghraifft, ni ddylent fod yn niweidiol i iechyd pobl, effeithio’n niweidiol ar gyfansoddiad bwyd (fel newid ei asidedd), nac effeithio’n andwyol ar ei flas, ei arogl, ei liw na’i wead. Rhaid i’r cynhyrchion hyn hefyd gael eu gweithgynhyrchu yn unol ag Arferion Gweithgynhyrchu Da fel y disgrifir yn Rheoliad a gymathwyd 2023/2006

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi deddfwriaeth deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd. Mae ganddynt y pŵer i gynnal gwiriadau dogfennol a chyflwyno hysbysiadau gorfodi yn achos amheuaeth o ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth deunydd cyswllt bwyd.

Bydd angen cyflwyno ceisiadau i’w gwerthuso a’u hystyried i’w cynnwys ar y rhestr gadarnhaol. Nid oes gofyniad i wneud hyn ar unwaith ar gyfer prosesau plastig wedi’i ailgylchu. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar amserlen ac ar ganllawiau pellach ar sefydlu rhestrau cadarnhaol ar gyfer y cynhyrchion wedi’u rheoleiddio hyn.

Ceisiadau/hysbysiadau’r UE o dan Reoliad y Comisiwn 2022/1616

Mae proses ymgeisio ar wahân i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion yr UE o dan Reoliad y Comisiwn 2022/1616 ac ni ddylid ei drysu â’r broses ar gyfer awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig i’w roi ar y farchnad na chydymffurfiaeth â Rheoliad a gymathwyd 282/2008 ym Mhrydain Fawr. Nid yw Rheoliad y Comisiwn 2022/1616 yn gymwys ym Mhrydain Fawr ond mae’n gymwys yng Ngogledd Iwerddon o dan drefniadau Fframwaith Windsor.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi sefydlu ei dudalen we ar ailgylchu plastig sy’n rhoi cyngor a chyfarwyddiadau i weithredwyr ailgylchu plastig, o ran a yw’n dechnoleg newydd neu’n dechnoleg addas. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd hefyd yn gyfrifol am gynnal ei gofrestrau.

Yr ASB yw’r awdurdod cymwys swyddogol mewn perthynas â’r gofynion a nodir o dan Reoliad y Comisiwn 2022/1616. Sicrhewch fod dogfennau a diweddariadau perthnasol yn cael eu cyflwyno i recycledplastic-notifications@food.gov.uk.

Ychwanegion mewn plastig ac RCF

Ni ellir rhoi ychwanegion mewn plastig ac RCF newydd ar y farchnad nes bod y broses awdurdodi wedi’i chwblhau.

Awdurdodiadau newydd

I wneud cais i awdurdodi deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd, defnyddiwch ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Gofynnir i chi uwchlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd wedyn yn creu eich coflen. Nid oes rhaid talu ffi i wneud y cais.

Bydd angen i chi hefyd anfon sampl a gwybodaeth ategol i’r Labordy Cyfeirio Cenedlaethol (NRL) fel rhan o’r broses ymgeisio ar gyfer y deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd canlynol:

  • ychwanegion a monomerau cychwynnol mewn deunyddiau plastig sy’n dod i gysylltiad â bwyd
  • ychwanegion mewn deunyddiau gweithredol a deallus sy’n dod i gysylltiad â bwyd (AIMs)
  • ychwanegion mewn ffilm cellwlos atgynyrchiedig (RCF)

Dylai’r wybodaeth rydych chi’n ei chyflwyno i’r labordy NRL gynnwys:

  • sampl ffisegol o’r sylwedd (250g)
  • y daflen diogelwch cynnyrch berthnasol (yn Saesneg) a data sbectrosgopig (os yw’n berthnasol)
  • y dull neu’r dulliau dadansoddol, gan gynnwys paramedrau perfformiad fel y’u nodir yn 4.1.8, 4.3,7 a 5.5 o’r Nodyn Cyfarwyddyd ar gyfer Deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd
  • manylion cyswllt priodol y person(au) sy’n gyfrifol am wneud y cais

Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei storio’n ddiogel gan yr NRL.

Dylid anfon yr wybodaeth a’r sampl y gofynnwyd amdanynt i Fera, yn y cyfeiriad canlynol:

Fera Science Ltd (Fera) 
Food Contact Materials team 
York Biotech Campus 
Sand Hutton 
Caerefrog YO41 1LZ 
Y Deyrnas Unedig

Dylid gwneud hyn ar yr un pryd ag y gwneir y cais llawn drwy ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig.

Er mwyn osgoi unrhyw oedi posib yn nhollau’r DU, yn enwedig o ran cyflwyno samplau ffisegol o dramor, a fyddech cystal â rhoi gwybod i Fera Science ymlaen llaw yn sales@fera.co.uk neu drwy wefan FERA. Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at y canllawiau diweddaraf ar labelu a chludo parseli i’r DU.

Canllawiau manwl

Mae EFSA wedi datblygu canllawiau technegol ar y gofynion ar gyfer coflenni ceisiadau yn flaenorol, ac mae’r canllawiau hyn hefyd yn gymwys ar gyfer coflenni a gyflwynir ym Mhrydain Fawr.   Fodd bynnag, dylech ddilyn y rhannau sy’n ymwneud â datblygu coflenni yn unig, ac nid y broses ymgeisio.  Dylech hefyd gynnwys unrhyw ddogfennaeth atodol i gefnogi eich cais. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gwybodaeth ychwanegol/esboniadau y gofynnwyd amdanynt yn flaenorol gan EFSA.

RCF: Nid oes canllawiau penodol ar gael ar gyfer ychwanegion mewn RCF, ond gallwch ddefnyddio'r canllawiau ar gyfer monomerau ac ychwanegion plastig fel canllaw defnyddiol.

Ceisiadau parhaus

Os gwnaethoch gyflwyno cais ar gyfer deunyddiau sy’n dod i gysylltiad â bwyd i’r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac na chwblhawyd y broses asesu ar gyfer y cais hwn, er enghraifft cyhoeddwyd barn EFSA ond nid chafodd ei roi ar restr awdurdodedig (cadarnhaol), bydd angen i chi gyflwyno’ch cais i ni, gan ddefnyddio ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Wrth lenwi’r ffurflen gais, gofynnir i chi ddarparu’ch rhif cwestiwn EFSA.

Awdurdodiadau presennol

Os awdurdodwyd eich ychwanegyn plastig neu ffilm cellwlos atgynyrchiedig gan y Comisiwn Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol ar waith, bydd yr awdurdodiad hwnnw’n parhau i fod yn ddilys ym Mhrydain Fawr ac nid oes angen i chi wneud cais am awdurdodiad newydd.

Ceisio cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu’r gofynion ymgeisio, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gallwch nawr ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig.