Canllawiau ar awdurdodi cyflasynnau
Gofynion o ran awdurdodi cyflasynnau bwyd a'r hyn sydd angen i chi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais.
Defnyddir cyflasynnau er mwyn:
- ychwanegu blas neu arogl newydd at fwyd
- gwella blas neu arogl presennol bwyd
Mae cyflasyn masnachol yn aml yn gymysgedd cymhleth o wahanol sylweddau a ddewisir i ddarparu’r blas a ddymunir.
Awdurdodiadau cyflasynnau
Rhaid i bob cyflasyn a phob cyfansoddyn o gyfuniad cyflasyn fod yn ddiogel o dan gyfraith bwyd gyffredinol. Yn ogystal, rhaid i rai cyflasynnau gael eu gwerthuso’n ddiogel cyn eu hawdurdodi i’w defnyddio mewn bwyd ym Mhrydain Fawr. Mae deddfwriaeth a gymathwyd yr UE ar y weithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd yn amlinellu’r weithdrefn awdurdodi ar gyfer y sylweddau hyn.
Mae angen awdurdodi’r mathau hyn o gyflasynnau:
- sylweddau cyflasynnau
- paratoadau cyflasynnau a gafwyd o ddeunyddiau heblaw bwyd
- cyflasynnau proses thermol os yw cynhwysion yn dod o ddeunyddiau ffynhonnell heblaw bwyd neu os na chyflawnir yr amodau neu’r terfynau cynhyrchu a osodir yn Atodiad V o Reoliad a gymathwyd 1334/2008 yr UE
- rhagsylweddyn (precursor) cyflasynnau a gafwyd o ddeunydd ffynhonnell heblaw bwyd
- cyflasynnau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 3(2)(g)(ii) o Reoliad a gymathwyd (CE) 1334/2008 a gymathwyd
- deunyddiau crai eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 3(2)(g)(ii) o Reoliad a gymathwyd (CE) 1334/2008
Cofrestr o gyflasynnau
Mae’r ASB yn cadw cofrestr sy’n adlewyrchu’n gywir statws awdurdodi cyflasynnau fel y’u pennir gan yr awdurdod priodol (gweinidogion) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r gofrestr o gyflasynnau yn nodi rhestr o gyflasynnau y caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr ac yn cyfeirio at eu telerau awdurdodi. Rheoliad a gymathwyd (UE) 1334/2008 yw’r sail gyfreithiol ar gyfer awdurdodi cyflasynnau.
Awdurdodiadau newydd
I wneud cais i awdurdodi cyflasyn ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwefan ceisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig. Gofynnir i chi uwchlwytho’r holl ddogfennau i gefnogi’ch cais, a fydd wedyn yn creu eich coflen. Nid oes rhaid talu ffi i wneud y cais.
Dylai eich cais i awdurdodi cyflasyn gynnwys:
- llythyr cysylltiedig yn rhoi amlinelliad o’r cais (yn nodi’r sylwedd, ei ddefnydd arfaethedig, a’r categorïau bwyd perthnasol y mae’r cais yn ymwneud â nhw)
- coflen dechnegol
- crynodeb o’r goflen
- crynodeb cyhoeddus o’r goflen
- gwybodaeth gyswllt yr ymgeisydd/ymgeiswyr ac arbenigwyr technegol
Os ydych chi am i rai rhannau o’r goflen gael eu trin yn gyfrinachol, mae angen i’ch cais gynnwys:
- rhestr o rannau o'r goflen yr hoffech iddynt gael eu trin yn gyfrinachol
- cyfiawnhad dilysadwy ar gyfer pob rhan y gofynnir iddynt gael eu trin yn gyfrinachol
- coflenni cyflawn heb rannau cyfrinachol
Canllawiau manwl
Mae Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) eisoes wedi datblygu canllawiau technegol ar y gofynion ar gyfer coflenni ceisiadau sydd hefyd yn gymwys i goflenni a gyflwynir ym Mhrydain Fawr. Fodd bynnag, dylech ddilyn y rhannau sy’n ymwneud â datblygu coflenni yn unig, ac nid y broses ymgeisio.
Sylweddau cyflasu sydd wrthi’n cael eu gwerthuso
Diffinnir ‘sylweddau cyflasu sydd wrthi’n cael eu gwerthuso’ yn Erthygl 3(2)(m) o Reoliad a gymathwyd 1334/2008. Cafodd y rhain eu cynnwys yn y tabl yn Rhan A o Atodiad I i Reoliad 1334/2008 a’u marcio â throednodyn yng ngholofn 8, a chaniatawyd eu rhoi ar y farchnad a’u defnyddio mewn neu ar fwydydd gan Erthygl 4 o Reoliad 872/2012. Cyfeirir at y rhain weithiau fel ‘cyflasynnau troednodyn’.
Nid yw sylweddau cyflasu sydd wrthi’n cael eu gwerthuso wedi cwblhau’r gwerthusiad ac felly nid ystyrir eu bod yn ‘awdurdodedig’, ond caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr. Mae angen i’r rhain gael eu hasesu a naill ai eu hawdurdodi gan weinidogion neu eu tynnu oddi ar y rhestr.
Os nad yw cwmnïau neu gymdeithasau masnach yn bwriadu darparu’r astudiaethau sy’n angenrheidiol ar gyfer cwblhau’r gwerthusiadau, dylent gyflwyno cais yn gofyn i’r cyflasynnau gael eu tynnu oddi ar y rhestr.
Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant cyflasynnau ac yn nodi ein cynlluniau ar gyfer cwblhau’r broses o werthuso’r sylweddau hyn a gofyn am wybodaeth i ganiatáu i'r gwerthusiadau gael eu cwblhau. Yn y cyfamser, efallai y byddwn ni’n gofyn am wybodaeth am sylweddau cyflasu unigol fesul achos.
Ceisio cymorth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn neu’r broses awdurdodi, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk
Gwneud cais am awdurdodiad
Gallwch nawr ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein i wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig.
Hanes diwygio
Published: 12 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025