Profi ar gyfer Trichinella mewn moch
Sut y mae'n rhaid profi moch ar gyfer trichinella cyn iddynt fynd i'r gadwyn fwyd.
Mae'n rhaid profi pob mochyn bridio (hychod a baeddod) ar gyfer Trichinella. Os nad ydych chi'n magu moch mewn siediau dan reolaeth, yna mae'n rhaid i'r rhain hefyd gael eu profi cyn y gallant fynd i'r gadwyn fwyd ddynol.
Hunan-brofi a labordai hunan-brofi
Mae'r rheolau ar gyfer profi moch ar gyfer trichinella wedi'u nodi yn rheoliad 2015/1375 yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir.
Mae safonau ynghlwm wrth siediau dan reolaeth fel rheoli plâu a storio bwyd anifeiliaid mewn modd diogel er mwyn lleihau'r risg o foch yn cael trichinella.
Mae cyfraith y Deyrnas Unedig (DU) yn caniatáu i'ch busnesau sefydlu labordy hunan-brofi. Mae hyn yn golygu y gallwch chi brofi'r moch eich hun i sicrhau nad oes ganddynt trichinella.
Fel lladd-dy hunan-brofi bydd gennych chi fwy o reolaeth dros yr amserlenni ar gyfer profion sydd fwyaf cyfleus i chi.
Gellir cynnal profion ar ddiwrnod y lladd. Os na cheir hyd i trichinella, gellir rhyddhau'r carcasau.
Gallwch chi sefydlu labordy yn eich lladd-dy ond bydd angen i chi dalu'r costau sefydlu a gweithredu.
Er mwyn sefydlu labordy hunan-brofi, mae'n rhaid i chi gymryd rhan mewn:
- hyfforddiant ar brofi ar gyfer trichinella, sy'n cael ei ddarparu gan y Labordy Cyfeirio Cenedlaethol (NRL) ar gyfer paraseitiaid
- ein cynllun Sicrhau Ansawdd
Gweld Labordy Cyfeirio Cenedlaethol gyfer Trichinella ac Echinococcus Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
Gwasanaethau profi
Ar gyfer busnesau nad ydynt yn hunan-brofi, mae gennym ni labordy a all gynnal profion trichinella.
Rydym ni'n darparu'r gwasanaeth profi sy'n cynnwys y pecyn samplu a'r dosbarthwr/casglwr sydd ei angen er mwyn cludo samplau i'r labordy profi. Enw'r gwasanaeth hwn yw Cynllun Sicrhau Ansawdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Os nad yw'r moch i'w hallforio, byddwn ni'n talu am y canlynol:
- negesydd
- pecyn samplu
- profi
Mae'n rhaid cadw carcasau'r moch hyd nes bod y prawf yn dangos nad oes trichinella gan y moch.
Gellir casglu samplau ar y diwrnod y mae'r mochyn yn cael ei ladd, os ydych yn cysylltu â'r gwasanaeth ymlaen llaw. Bydd y canlyniadau wedyn yn cael eu hanfon yn ôl erbyn 6pm y diwrnod canlynol.
Defnyddio labordai profi eraill
Gallwch chi ddefnyddio labordy hunan-brofi sy'n bodoli eisoes mewn lladd-dy arall ond bydd hwn yn drefniant preifat rhwng busnesau.
Bydd yn rhaid i'r Milfeddyg Swyddogol yn y lladd-dy hunan-brofi gytuno â hyn er mwyn sicrhau bod yr holl samplau yn cael eu cynnal a'u cadw a bod modd eu holrhain. Bydd y Milfeddyg Swyddogol hefyd yn gwirio bod cydymffurfiaeth â Chynllun Sicrwydd Ansawdd yr ASB yn parhau.
Mae angen i'r dogfennau Gweithdrefn Weithredu Safonol (SOP) yn y ddau ladd-dy gynnwys yr wybodaeth hon.
Os ydych chi'n defnyddio labordy hunan-brofi arall, byddwch chi'n gyfrifol am ddarparu:
- y pecyn samplu
- cludo profion
- cost y profi
Gall lladd-dy hefyd sefydlu trefniant profi preifat gyda labordy profi achrededig Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS). Unwaith eto, byddwch chi'n gyfrifol am:
- costau'r pecyn samplu
- cludo
- profi
Cymhorthdal ar gyfer profi
Byddwn ni’n rhoi cymhorthdal ar gyfer profion trichinella ar gyfer hychod a baeddod a moch nad ydynt wedi’u magu mewn siediau dan reolaeth os nad ydych yn defnyddio ein labordy profi dan gontract. Ni fyddwn yn rhoi cymhorthdal ar gyfer profion nad oes eu hangen yn y DU, fel profion ychwanegol a allai fod yn ofynnol ar gyfer allforio.
Ar gyfer labordy o fewn y lladd-dy, byddwn ni'n talu 60c fesul sampl a brofir ar gyfer eich anifeiliaid eich hun yn unig.
Pan fyddwch chi'n defnyddio labordy hunan-brofi sy'n bodoli eisoes mewn lladd-dy arall neu labordy achrededig UKAS, trefniant ariannol preifat rhwng eich busnesau yw hyn. Byddwn ni'n talu 60c fesul sampl a brofir i'r lladd-dy sy'n darparu'r samplau yn unig.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r dewisiadau profi a ddarperir uchod, anfonwch e-bost at y Tîm Contractau a Chytundebau Lefel Gwasanaeth.
Hanes diwygio
Published: 14 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Ionawr 2021