Plaladdwyr mewn bwyd
Mae plaladdwyr yn sylweddau cemegol neu fiolegol sy’n cael eu defnyddio i ladd neu reoli plâu wrth feithrin a storio cnydau. Mae gennym ni oruchwyliaeth o blaladdwyr a diogelwch bwyd yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn gyfrifol am bolisi ar blaladdwyr, ar gyfer materion cymeradwyo a gorfodi ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae plaladdwyr weithiau'n cael eu disgrifio fel 'cynhyrchion diogelu planhigion' neu PPPau.
Gallant gynnwys y canlynol:
- chwynladdwyr i reoli chwyn cyn ac wrth iddynt dyfu
- pryfleiddiaid i amddiffyn hadau a phlanhigion rhag cael eu difrodi gan bryfed
- nematicides a gwenwyn lladd malwod i reoli mwydod a gwlithenni yn ymosod ar blanhigion sy'n tyfu
- gwenwyn llygod i atal difrod a halogiad gan famaliaid bach megis llygod a llygod mawr yn ystod y prosesau tyfu a storio
- ffwngladdwyr i atal llwydni rhag ffurfio ar blanhigion wrth eu tyfu neu pan maent mewn siop
Gall llwydni niweidio cnydau a lleihau eu gwerth maeth. Gallant hefyd gynhyrchu tocsinau ffwngaidd (mycotocsinau) a all fod yn niweidiol i iechyd.
Mae plaladdwyr bron bob amser yn atal, yn niweidio neu’n lladd organeb fyw, felly mae’r broses o’u cymeradwyo a’u defnyddio yn cael eu rheoleiddio'n llym er mwyn sicrhau nad ydynt yn achosi niwed i ddefnyddwyr, yr amgylchedd, organebau nad ydynt yn dargedau fel adar, mamaliaid, pysgod neu bryfed sy’n peillio.
Deddfwriaeth
Mae busnesau bwyd yn gyfrifol am sicrhau bod y bwyd y maent yn ei gynhyrchu neu ei fewnforio yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol, gan gynnwys lefelau uchafswm gweddillion (MRLs).
Rheoleiddio cynhyrchion diogelu planhigion
Mae gofynion manwl ar gyfer rhoi cynhyrchion diogelu planhigion ar y farchnad, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer cymeradwyo:
- sylweddau gweithredol
- cynhyrchion a sefydlu’r amodau defnyddio (a ddiffinnir weithiau fel Arferion Amaethyddol Da)
Nodir y gofynion hyn yn:
- Rheoliad a Gymathwyd (CE) Rhif 1107/2009 ar gyfer Cymru a Lloegr
- Rheoliad (CE) Rhif 1107/2009 ar gyfer Gogledd Iwerddon
Rheoleiddio lefelau uchafswm gweddillion plaladdwyr mewn bwyd a bwyd anifeiliaid
Mae lefelau uchafswm gweddillion ar gyfer rhoi plaladdwyr mewn bwyd. Dyma'r lefelau uchaf o weddillion plaladdwyr a all aros mewn bwyd yn dilyn defnydd cywir o'r plaladdwr yn unol ag Arferion Amaethyddol Da. Mae'n rhaid i lefelau uchafswm gweddillion bob amser ddiogelu iechyd ac fel arfer maent o dan lefel sy'n peri pryder.
Nodir y lefelau yn:
- Rheoliad a Gymathwyd (CE) Rhif 396/2005 a ddargedwir ar gyfer Cymru a Lloegr
- Rheoliad (CE) Rhif 396/2005 yng Ngogledd Iwerddon
Mae lefelau uchafswm gweddillion yn cael eu sefydlu ar gyfer pob nwydd unigol y mae defnydd cymeradwy ar ei gyfer. Ar gyfer bwydydd lle nad yw defnyddio plaladdwyr wedi’i gymeradwyo ac nid oes lefel goddefiant mewnforio (lefel y cytunwyd arni ar gyfer bwydydd wedi’u mewnforio hyd yn oed os nad oes defnydd cymeradwy), mae lefel uchafswm gweddillion o 0.01 mg/kg yn berthnasol i unrhyw weddillion a ddarganfyddir. Ni chaniateir rhoi unrhyw fwyd sy'n methu â chydymffurfio â lefelau uchafswm gweddillion ei roi ar y farchnad.
Profi bwyd wedi'i fewnforio am blaladdwyr
Mae Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd yn cynnal profion plaladdwyr ar fwyd wedi'i fewnforio ar ein rhan. Os caiff problem barhaus ei darganfod gyda chynnyrch penodol neu wlad sy'n cyflenwi, gall hyn ddod yn destun mesurau rheoli cryfach, a nodir yn:
- Rheoliad a Gymathwyd (UE) Rhif 2019/1793 yng Nghymru a Lloegr
- Rheoliad (UE) Rhif 2019/1793 yng Ngogledd Iwerddon
Pwyllgorau arbenigol
Mae'r Pwyllgor Arbenigol ar Blaladdwyr (ECP) a'r Pwyllgor Arbenigol ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd (PRiF) yn rhoi cyngor i adrannau'r llywodraeth ar ddefnyddio a chymeradwyo plaladdwyr i sicrhau diogelwch bwyd. Mae cynrychiolwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn bresennol yn y ddau bwyllgor.
Hanes diwygio
Published: 6 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Chwefror 2024