Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio halen neu gynhyrchion sodiwm isel a ddefnyddir yn lle halen

Canllawiau ar ychwanegion, labelu, deunydd pecynnu a hylendid wrth fewnforio cynhyrchion halen.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 June 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 June 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Gwybodaeth gyffredinol

Mae'n rhaid i halen, neu gynhyrchion sodiwm isel a ddefnyddir yn lle halen, o drydydd gwledydd fodloni'r un safonau a gweithdrefnau hylendid bwyd a chyfansoddiad, neu rai cyfwerth, â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr. Fel arfer, nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch chi i fewnforio halen.

Ychwanegion

I gael gwybodaeth am ychwanegion bwyd a ddefnyddir fel asiantau gwrth-galedu neu unrhyw ychwanegion bwyd eraill a ddefnyddir mewn halen neu ddewisiadau sodiwm isel, cysylltwch â’n Tîm Ychwanegion Bwyd.

Labelu

Mae gwybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar gael ar wefan GOV.UK.

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, ewch i GOV.UK i ddod o hyd i’ch Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd lleol. 

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir ar gyfer pecynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan gyfraith y Deyrnas Unedig (DU) a ddargedwir (retained UK law) ym Mhrydain Fawr. Mae'r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio gyda bwyd. I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd.

Hylendid bwyd

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd.

Plaladdwyr

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am lefelau diogelwch plaladdwyr ar gyfer mewnforion ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Halogion

Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013 yn darparu ar gyfer deddfu a gorfodi cyfraith y DU a ddargedwir sy'n gosod terfynau rheoleiddio ar gyfer halogion mewn bwyd, fel nitrad, mycotocsinau, metelau, 3-MCPD, deuocsinau a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs. 

Darllenwch ein canllawiau ar gyfer busnesau ar ddiogelwch cemegol.

Cymdeithas Halen

Gallwch chi gysylltu â'r Gymdeithas Halen i gael gwybodaeth am safonau'r DU ar gyfer halen.

Cysylltiadau Tîm

Food Hygiene Policy TeamTîm Polisi Hylendid Bwyd

foodhygiene.policy@food.gov.uk