Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Marchnata ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi neu fwydydd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio i wledydd eraill

Gofynion ar sut i farchnata ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi, rhag-gymysgeddau (premixtures) neu fwyd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio o Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon i wledydd eraill.

Gellir marchnata ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi neu fwyd anifeiliaid sy'n cynnwys ychwanegion bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gwledydd eraill y tu allan i'r UE (trydydd gwledydd) os yw rhai gofynion yn cael eu bodloni.

Gall bwyd anifeiliaid nad yw'n cydymffurfio o'r fath gynnwys ychwanegion bwyd anifeiliaid:

  • nad ydynt wedi'u hawdurdodi ym Mhrydain Fawr na Gogledd Iwerddon
  • sydd wedi'u hawdurdodi ond sydd wedi'u hymgorffori mewn rhag-gymysgeddau neu fwyd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth genedlaethol. Er enghraifft, ychwanegion bwyd anifeiliaid wedi'u hymgorffori ar lefelau uwchlaw'r terfynau uchaf a ganiateir neu fwyd anifeiliaid a fwriadwyd ar gyfer rhywogaethau anifeiliaid y tu allan i gwmpas awdurdodiad yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid.

Mae'r gofynion i fusnesau bwyd anifeiliaid allforio bwydydd anifeiliaid yn unol â Rheoliad 178/2002 yr UE a ddargedwir (Erthygl 12)

Bydd yr amodau a nodir isod hefyd yn berthnasol i fwydydd a ddaw o'r UE neu drydedd wlad arall nad ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth genedlaethol Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon.

Allforio ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi neu fwydydd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio i wledydd y tu allan i'r UE

Mae'r gofynion ar gyfer allforion o'r fath i wledydd y tu allan i'r UE yr un peth â’r gofynion os ydynt yn tarddu naill ai o Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon. Gellir allforio ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi neu ychwanegion bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys ychwanegion bwyd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio ym Mhrydain Fawr neu Ogledd Iwerddon i wledydd os:

 

  • ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth y wlad gyrchfan (destination country)
  • yw’r bwyd anifeiliaid yn ddiogel ac yn cael ei ganiatáu'n benodol gan awdurdod cymwys y wlad gyrchfan

Marchnata ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi neu fwydydd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio i wledydd yr UE

Ar gyfer trosglwyddo nwyddau i'r UE, mae'r amodau canlynol yn berthnasol:

  • O Brydain Fawr i aelod-wladwriaethau'r UE, mae amodau allforio i wledydd y tu allan i'r UE a amlinellir uchod yn dal i fod yn berthnasol
  • O Ogledd Iwerddon i aelod-wladwriaethau'r UE, mae symud nwyddau o dan ddeddfwriaeth bresennol yr UE yn parhau i fod yn berthnasol ac nid yw'n gyfystyr ag allforio nwyddau. Yn ogystal, efallai na fydd ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi neu fwydydd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio sy'n dod i mewn i Ogledd Iwerddon yn cael eu cludo i aelod-wladwriaethau'r UE, oni bai nad oes trosglwyddiad perchnogaeth (er enghraifft o fewn yr un cwmni sydd wedi'i leoli mewn gwahanol wledydd).

Camau ar gyfer busnesau bwyd anifeiliaid

Gellir parhau i allforio bwyd anifeiliaid sy'n ddiogel, ond nad yw'n cydymffurfio â'r deddfau bwyd anifeiliaid perthnasol yn y wlad sy'n allforio (hynny yw, y deddfau cymwys ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon), os yw'r busnes bwyd anifeiliaid yn sicrhau:

  • bod y bwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â deddfau ac amodau'r wlad sy'n mewnforio (cyrchfan), neu
  • rhoddir caniatâd penodol gan Awdurdod Cymwys y wlad gyrchfan ar ôl cael gwybod am y rheswm (rhesymau) pam na ellir ei roi ar farchnad y wlad sy'n allforio
  • rhaid cadw tystiolaeth i ddangos bod yr amodau uchod yn cael eu diwallu i fodloni awdurdodau gorfodi y DU pe bai'r angen yn codi

Ar gyfer allforion o Brydain Fawr sydd i fod i'r UE, efallai y bydd angen cynrychiolaeth trydydd gwlad ar gyfer busnesau bwyd anifeiliaid cyn cludo (hynny yw, busnes bwyd anifeiliaid wedi'i leoli yn yr UE). Sefydlwch gyda'r wlad yn yr UE sy'n mewnforio (cyrchfan) yn ôl eu rheolau cenedlaethol a oes angen cynrychiolaeth trydydd gwlad ar gyfer y cynnyrch penodol rydych chi'n bwriadu ei allforio o Brydain Fawr. Nid yw cynrychiolaeth trydydd gwlad yn berthnasol ar gyfer symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon ac aelod-wladwriaethau'r UE.

Hysbysu'r ASB

Os yw ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi neu fwydydd anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu hallforio o'r DU (Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon), rhowch wybod i ni am y canlynol:

1.    Manylion y cynnyrch:

  • enw a math o gynnyrch - gan gynnwys manylion yr ychwanegion bwyd anifeiliaid heb eu hawdurdodi
  • rhif swp (batch number)
  • nifer

2.    Manylion symud nwyddau:

  • dyddiad anfon
  • man(nau) gadael y DU
  • gwlad gyrchfan y tu allan i'r DU (trydydd gwlad)

3.    Manylion y sefydliad yn y wlad gyrchfan (gan gynnwys aelod-wladwriaethau'r UE o Brydain Fawr) sy'n cael eich cynnyrch:

  • enw’r busnes
  • enw cyswllt
  • cyfeiriad
  • rhif ffôn
  • cyfeiriad e-bost

Dylid anfon y manylion hyn at: feeddelivery@food.gov.uk

Dylid cysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol mewn perthynas ag allforio ychwanegion bwyd anifeiliaid penodedig heb eu hawdurdodi.