Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
CSHB: Arddangos eich sgôr

Manteisio i’r eithaf ar eich sgôr hylendid bwyd

Mae ein pecyn cymorth yn helpu eich busnes bwyd i fanteisio i’r eithaf ar eich sgôr hylendid bwyd. Rydym yn darparu canllawiau ar ddelweddau, adnoddau i’w lawrlwytho a baneri y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich gwefan a’ch sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 August 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 August 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae sgôr hylendid bwyd da yn rhoi hwb i fusnes. Pan fyddwch chi’n ennill y sgôr hylendid bwyd uchaf, mae’n bryd dechrau gwneud y gorau o’r manteision. Dyma rai awgrymiadau a all eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich sgôr.

Arddangos eich sticer sgôr hylendid bwyd

Gwnewch yn siŵr eich bod yn arddangos eich sticer sgôr hylendid bwyd mewn man lle gall eich cwsmeriaid ei weld yn hawdd, er enghraifft mewn ffenestr, ar eich drws, ar eich bwydlen neu yn eich ymgyrchoedd hyrwyddo. I’ch helpu, mae gennym rai delweddau y gallwch eu lawrlwytho a'u defnyddio sy’n dangos eich sgôr.

Os ydych chi wedi colli eich sticer, cysylltwch â swyddog diogelwch bwyd eich awdurdod lleol a all roi un newydd i chi.

Cymru a Gogledd Iwerddon

Rhaid i fusnesau bwyd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon arddangos y sticer sgôr a anfonwyd atynt. Dyna’r gyfraith. Rhaid ei arddangos wrth neu ger mynedfa eich busnes mewn man lle gall eich cwsmeriaid ei weld yn hawdd.

Arddangos eich sgôr hylendid bwyd ar-lein

Rydym yn darparu detholiad o ddelweddau sgôr hylendid bwyd i’w harddangos ar-lein, gan gynnwys eich gwefan neu ap, ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mewn e-byst.

Er mwyn eich helpu i gael y gorau o’ch sgôr hylendid ar-lein, rydym wedi cyhoeddi canllawiau arferion gorau ar gyfer arddangos eich sgôr ar eich gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rheolau ar ddefnyddio delweddau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae delweddau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) a logo’r ASB (y “Delweddau”) wedi’u diogelu gan nodau masnach cofrestredig y DU a hawliau eiddo deallusol eraill, ac mae’r ASB yn berchen arnynt ac yn eu rheoli.

Er mwyn sicrhau nad yw’r cyhoedd yn cael eu drysu na’u camarwain, rhaid dilyn y rheolau canlynol bob amser wrth ddefnyddio’r delweddau:

  • ni ddylai’r Delweddau gael eu newid na’u diwygio heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw – cysylltwch â HygieneRatings@food.gov.uk os hoffech addasu’r dyluniadau hyn
  • mae elfennau gweledol y CSHB a logo’r ASB yn rhan annatod o ddyluniad y Delweddau – gellir eu defnyddio fel rhan o weithgarwch hyrwyddo, fel y disgrifir yn y canllawiau hyn, ac ni ddylid eu defnyddio mewn unrhyw ffordd arall heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw
  • ni ddylid cyflwyno’r Delweddau mewn unrhyw weithgarwch a deunyddiau hyrwyddo mewn unrhyw fodd a allai awgrymu bod yr ASB yn hyrwyddo unrhyw fusnes bwyd unigol, cadwyn o fusnesau bwyd, gwefan, adnodd ar-lein neu weithgarwch arall
  • rhaid i fusnesau bwyd ddefnyddio delweddau o’u sgôr hylendid bwyd gyfredol yn unig

Os na fydd busnes bwyd yn defnyddio’r sgôr gywir a ddyfarnwyd, bydd hyn yn torri’r rheolau a gall fod yn drosedd. Gallwn ni derfynu eich caniatâd ar unwaith i ddefnyddio’r Delweddau o ganlyniad i hynny neu unrhyw achos arall o dorri’r rheolau hyn.

Gallwn ni roi neu dynnu caniatâd, neu roi amodau ar gyfer unrhyw un o’r uchod, yn ôl ein disgresiwn llwyr. Cedwir pob hawl arall yn llwyr.

Gallwn ni ddiwygio’r rheolau hyn ar unrhyw adeg. Bydd diwygiadau’n cael eu rhannu ar y dudalen hon. Trwy barhau i ddefnyddio’r Delweddau, byddwch chi’n cytuno i'r diwygiadau. Os nad ydych chi’n cytuno, rhaid i chi roi'r gorau i’w defnyddio.

Pwysig
Trwy lawrlwytho a/neu ddefnyddio Delweddau’r CSHB, rydych chi’n derbyn ac yn cytuno’n ffurfiol i gydymffurfio’n llwyr â’r rheolau hyn.

Rheolau ar ddefnyddio sticeri’r CSHB

Mae sticeri’r CSHB yn cynnwys y Delweddau, sydd wedi’u diogelu â nod masnach, ac maent yn ddarostyngedig i’r holl reolau uchod. Dim ond awdurdodau lleol sy’n gweithredu’r cynllun sy’n eu dyroddi.

Ni ddylid cael sticeri o unrhyw ffynhonnell arall. Os byddwch chi’n eu cael o ffynhonnell arall, byddai hynny’n torri’r rheolau a nodir uchod.

Dyma atgoffa busnesau bwyd bod arddangos neu ddefnyddio sgôr annilys mewn unrhyw weithgarwch neu ddeunydd hyrwyddo yn torri’r rheolau uchod a’n hawliau.  Os byddwch yn torri’r rheolau uchod a/neu ein hawliau eiddo deallusol, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r Delweddau ar unwaith, ond nid yw hynny’n ein rhwystro rhag cymryd camau cyfreithiol.

Gall hefyd fod yn drosedd o dan ddeddfwriaeth safonau masnachu, er enghraifft o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. Yng Nghymru, mae’n drosedd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n drosedd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2016.

Lawrlwytho Delweddau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Gallwch lawrlwytho’r gwaith celf ar gyfer sticeri ffenestr, logos, a ffotograffau o sticeri’r CSHB mewn ffenestri, yn ogystal â baneri gwefannau, drwy ddefnyddio’r dolenni canlynol.

Sylwer, os hoffech chi arddangos sgôr eich busnes ar-lein, dylech lawrlwytho eich sgôr hylendid bwyd i’w harddangos ar-lein neu ddefnyddio’r cod JavaScript a pheidio â defnyddio’r gwaith celf ar gyfer sticeri ffenestr.