Lles anifeiliaid
Rydym yn cynnal gwiriadau rheolaidd ar ladd-dai yn y Deyrnas Unedig (DU), er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’n rheoliadau sy’n cynnal lles anifeiliaid.
Rôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrth reoleiddio lles anifeiliaid
Rydym yn monitro ac yn gorfodi cydymffurfiaeth o ran lles mewn lladd-dai cymeradwy ar ran Llywodraeth Cymru yng Nghymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn Lloegr trwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA).
Mae’r gofynion o ran lles anifeiliaid yn cael eu monitro a’u gorfodi gan Filfeddygon Swyddogol i sicrhau bod anifeiliaid yn osgoi unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen yn ystod y broses ladd a gweithrediadau cysylltiedig.
Rydym yn rhoi cyfarwyddiadau i bob aelod o staff gymryd camau gorfodi prydlon a chymesur pan nodir nad yw lles anifeiliaid yn cael ei gynnal.
Cyfrifoldeb am les anifeiliaid
Gweithredwyr lladd-dai sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd mewn lladd-dai ac am sicrhau iechyd a lles anifeiliaid sydd dan eu gofal.
Mae’r cyfrifoldeb a’r gofynion hyn wedi’u nodi yn y canllawiau ar reoliadau Lles Anifeiliaid adeg eu Lladd.
Rhaid i unigolion sy’n rhan o’r broses ladd a gweithrediadau cysylltiedig gael eu hyfforddi a’u trwyddedu’n briodol. Rhaid iddyn nhw fod â chymhwyster hyfedredd (proficiency) cyn gallu gwneud cais am Dystysgrif Cymhwysedd.
Mae angen bod â Thystysgrif Cymhwysedd, yr ydym yn ei dyfarnu ar ran Llywodraeth Cymru a Defra, er mwyn lladd anifeiliaid mewn lladd-dy.
Mae’r Cymhwyster Bwyd a Diod (FDQ) yn cymeradwyo darparwyr dysgu i gyflenwi ac asesu cymwysterau hyfedredd, yn ogystal â darparu hyfforddiant cymeradwy ar gyfer Tystysgrifau Cymhwysedd. Gallant ddarparu mwy o wybodaeth i staff lladd-dai er mwyn cwblhau’r cymhwyster gofynnol.
Gwiriadau lles yr ASB
Mae Milfeddygon Swyddogol yn cynnal gwiriadau i sicrhau nad oes unrhyw faterion yn ymwneud â lles yr anifeiliaid a gyflwynir i’w lladd.
Gall hyn ddigwydd:
- pan fydd yr anifeiliaid ar y fferm
- wrth eu cludo i’r lladd-dy
- pan fydd yr anifeiliaid yn cyrraedd y lladd-dy
- pan fydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw ar y safel a hyd at y pwynt lladd
Mae ein staff gweithrediadau yn gwirio:
- y trefniadau ar gyfer dadlwytho a thrin yr anifeiliaid
- ble maent yn cael eu cadw cyn eu lladd
- sut mae anifeiliaid yn cael eu hatal a’u trin
- lleoliad yr offer stynio
- effeithiolrwydd y stynio
- effeithlonrwydd y gwaedu
Mae ein gwiriadau’n cynnwys sicrhau bod gan weithredwr y lladd-dy weithdrefnau priodol ar waith i ddiogelu lles anifeiliaid. Mae arolygwyr hylendid cig yn eu cefnogi gyda’r dyletswyddau hyn.
Mae hyn yn cynnwys monitro lladd drwy ddulliau crefyddol gan gynnwys cyfleusterau atal arbennig a all fod ar waith at y diben hwn.
Yng Nghymru, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i orfodi deddfwriaeth lles anifeiliaid, ac yn Lloegr rydym yn gweithio gyda Defra i wneud hyn. DAERA sy’n gorfodi deddfwriaeth lles anifeiliaid yng Ngogledd Iwerddon.
Defnydd gorfodol o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai
Daeth rheoliadau ar ddefnydd gorfodol o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn Lloegr i rym ym mis Mai 2018. Mae’n rhaid i weithredwr lladd-dy:
- osod offer teledu cylch cyfyng yn ei ladd-dy
- cadw delweddau teledu cylch cyfyng am 90 diwrnod
- sicrhau bod y delweddau ar gael i’n harolygwyr
Rhaid i offer teledu cylch cyfyng ddangos y lladd a gweithrediadau cysylltiedig yn glir ac yn llawn ym mhob rhan o’r lladd-dy lle mae anifeiliaid byw yn bresennol, fel ardaloedd lle maen nhw’n cael eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a’u lladd, hyd at y pwynt lle mae’r asesiad ar gyfer absenoldeb bywyd yn cael ei wneud.
Rhaid i weithredwyr lladd-dai roi mynediad i’n harolygwyr at eu cyfleusterau cylch cyfyng ac unrhyw recordiadau a wnaed, a hynny er mwyn sicrhau bod ein harolygwyr yn gallu monitro’n effeithiol a gwirio safonau lles anifeiliaid. Defnyddir cyfleusterau cylch cyfyng fel adnodd ychwanegol; nid ydynt yn cymryd lle arsylwadau swyddogol ymarferol uniongyrchol.
Gall ein harolgwyr gyhoeddi hysbysiad gorfodi os canfyddir bod gweithredwyr lladd-dai wedi torri’r rheoliadau o ran cyfleusterau cylch cyfyng.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’w gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy cymeradwy yng Nghymru fod â chyfleusterau cylch cyfyng ym mhob man lle mae anifeiliaid byw yn bresennol. Yn dilyn ymgynghoriad ar y cynnig, bydd y gofyniad hwn yn cael ei gyflwyno yn 2024.
Lladd-dai newydd
Rhaid i ladd-dai newydd fodloni holl ofynion y rheoliadau a chânt eu hasesu yn ystod eu cais am gymeradwyaeth i weithredu.
Mynediad i’r offer Teledu Cylch Cyfyng a’r recordiadau
Rhaid i ladd-dai roi mynediad i arolygwyr yr ASB i’w cyfleusterau teledu cylch cyfyng a'u recordiadau fel y gallant gynnal gwaith monitro effeithiol a gwirio safonau lles anifeiliaid. Defnyddir teledu cylch cyfyng fel adnodd ychwanegol; nid yw’n disodli arsylwadau swyddogol ymarferol uniongyrchol.
Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i fusnesau na’u cynrychiolwyr fod yn bresennol pan adolygir recordiadau. Gall gweithredwyr busnesau benderfynu cael aelod o staff yn bresennol pan fydd recordiad yn cael ei wylio neu ei gopïo, neu pan fydd offer yn cael ei atafael.
Arddangos bywyd
Cynllun sicrwydd Halal yw’r protocol Arddangos Bywyd (DoL) a arweinir gan y diwydiant ac a gefnogir gan y llywodraeth. Cytunwyd arno gan Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Les Anifeiliaid yn 2021.
Mae’n rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr Mwslimaidd domestig a rhyngwladol fod stynio defaid a geifr yn drydanol wrth eu pennau yn unig yn gydnaws â gofynion lladd halal.
Mae’n cynnwys asesiad wedi’i drefnu o stynio (un neu ddau anifail) a oruchwylir gan un o filfeddygon yr ASB (am ddim ar hyn o bryd), ynghyd â chorff crefyddol cymeradwy a fydd yn ardystio bod y dull stynio yn cydymffurfio â gofynion lladd halal. Mae’r ardystiad yn para am flwyddyn a gellir ei adnewyddu’n flynyddol.
Gall gweithredwyr lladd-dai wneud cais i ymuno â’r cynllun DoL, lle byddant yn dod o hyd i adran ar Arddangos Bywyd ac yn ymgyfarwyddo â’r rhagofynion a dod o hyd i ddolen i’r ffurflen gais.
Data Lles Anifeiliaid – ein gwiriadau
Ar gyfer Cymru a Lloegr
Rydym yn cyhoeddi setiau Data Agored newydd mewn perthynas â chamau gorfodi ym maes lles anifeiliaid a chydymffurfio â lles anifeiliaid fel cyfran o’r trwybwn. Mae tair set ddata:
- Achosion o ddiffyg cydymffurfio â Lles Anifeiliaid (ar y fferm, adeg cludo ac mewn lladd-dai)
- Achosion o gydymffurfio â Lles Anifeiliaid mewn lladd-dai (achosion critigol o diffyg cydymffurfio yn erbyn trwybwn)
- Achosion o gydymffurfio â Lles Anifeiliaid ar y fferm a chludiant (achosion critigol o diffyg cydymffurfio yn erbyn trwybwn)
Mae’r set ddata o ddiffyg cydymffurfio yn dangos nifer y digwyddiadau a arweiniodd at gamau gorfodi yng Nghymru a Lloegr ym mhob rhan o’r lladd-dy, yn ogystal â nifer a natur yr achosion o ddiffyg cydymffurfio yr aseswyd eu bod wedi digwydd naill ai ar y fferm neu wrth gludo, ac wedi’u rhannu â’r awdurdod cymwys.
Mae’r setiau data cydymffurfio yn cymharu nifer yr anifeiliaid, fesul rhywogaeth, sydd wedi dioddef neu brofi trallod fel y’u cofnodwyd yn y data diffyg cydymffurfio. Gwneir hyn yn erbyn y cyfanswm sydd naill ai’n cydymffurfio (ar y fferm ac wrth gludo) neu sydd wedi’i brosesu i gydymffurfio (lladd-dai) â deddfwriaeth lles anifeiliaid berthnasol.
Mae yna ddogfennau ategol a gyhoeddir ochr yn ochr â’r Data Agored sy’n ymdrin â chefndir y data, deall yr hierarchaeth ym maes gorfodi, a sut y caiff sgoriau eu dyrannu.
Arolwg cenedlaethol
Rydym wedi cynnal sawl arolwg ar ran Llywodraeth Cymru a Defra.
Cynhaliwyd arolygon lles anifeiliaid wythnos o hyd mewn lladd-dai yn 2011, 2013, 2015 a 2018 a 2022 i roi sicrwydd bod:
- gweithredwyr lladd-dai’n cymryd camau gweithredol i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chyflawni safonau lles angenrheidiol anifeiliaid
- Milfeddygon Swyddogol a thimau rheng flaen yn cyflawni eu rolau’n effeithiol, gan gynnal gwaith monitro priodol a chymryd camau gorfodi perthnasol pe bai gweithredwr lladd-dai’n methu â chydymffurfio
Mae canlyniadau arolygon lles anifeiliaid a gynhaliwyd yn 2011, 2013 a 2015 ar gael yn yr Archifau Cenedlaethol a’r dualen we: Anifeiliaid fferm: data o’r arolwg o ddulliau lladd 2015.
Cyhoeddwyd canlyniadau arolwg lles anifeiliaid 2018 ac arolwg lles anifeiliaid 2022 gan Defra.
Hanes diwygio
Published: 9 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Chwefror 2024