Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Llawlyfr rheolaethau swyddogol

Gofynion a safonau cyfreithiol ar gyfer sefydliadau cig cymeradwy.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 June 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 June 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Unwaith y bydd eich safle wedi’i gymeradwyo, bydd y Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol (y Llawlyfr) yn fuddiol i gael mwy o wybodaeth.

Mae’r Llawlyfr yn disgrifio tasgau, cyfrifoldebau a dyletswyddau ein staff sy’n cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy.

Canllawiau ar y llawlyfr rheolaethau swyddogol 

Mae’r ddogfennaeth Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol yn gywir ar 3 Gorffennaf 2023. Gellir gweld newidiadau i’r Llawlyfr yn y log adolygu.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae swyddogion o’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yn cynnal rheolaethau hylendid cig swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy ar ran yr ASB yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r Llawlyfr yn disgrifio tasgau, cyfrifoldebau a dyletswyddau swyddogion DAERA sy’n cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy ar ein rhan. Mae hyn yn cael ei gynnal a’i ddiweddaru gan DAERA ac mae i’w weld ar eu gwefan.

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Pwysig

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

Log o adolygiadau i’r Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol

Gwnaed diwygiadau i ddogfennaeth y Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol ar 5 Mehefin 2024.
Gallwch weld log o adolygiadau i’r Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol yma.