Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Labelu gwin

Canllawiau ar y gofynion labelu y mae’n rhaid i win eu bodloni er mwyn gallu ei werthu yn y Deyrnas Unedig (DU).

Rhaid i win a gynhyrchir yn y DU neu sy’n cael ei fewnforio i'r DU gydymffurfio â rheoliadau ar labelu gwin.

Labelu ‘gwin’ 

Rhaid dangos y disgrifiad 'Gwin' ar y label fel y categori ar gyfer gwin heb ddynodiad daearyddol lle nad yw'r disgrifydd tarddle (provenance) yn cynnwys y term 'gwin'.

Tarddle gwin

Caniateir i winoedd sydd heb ddynodiad daearyddol ddangos y wlad fel ‘Gwin o Gymru (neu Loegr)’, neu ‘Cynnyrch o Gymru’ neu ‘Cynhyrchwyd yng Nghymru’, yn hytrach na ‘Gwin o’r Deyrnas Unedig’ neu gyfwerth. Mae’n rhaid i winoedd eraill (Ansawdd, Rhanbarthol a phefriog) hefyd ddefnyddio un o’r fformatau hyn ar gyfer y wlad.

Canllawiau Cynlluniau Gwin Ansawdd y DU

Mae’n bwysig sicrhau bod eich labeli yn cydymffurfio â’r canllawiau canlynol:

Nid yw’n orfodol arddangos unedau alcohol na rhybuddion iechyd cysylltiedig ar win. Gellir dod o hyd i fanylion am yr eitemau hyn ar wefan Portman Group.

Labelu alergenau ar win

Gall gwin gynnwys alergenau a allai effeithio ar ddefnyddwyr sydd ag alergedd neu anoddefiad bwyd.
Rhaid i'r gwinoedd canlynol gynnwys datganiad ar un o'r labeli os oes unrhyw un o'r 14 alergen sydd wedi’u dynodi gan gyfraith bwyd yn bresennol yn y cynnyrch:

  • gwinoedd gyda mwy na 10 mg/litr o sylffwr deuocsid
  • dylid labelu gwinoedd sy'n cael eu mireinio â llaeth neu gynhyrchion wyau (terfynau y gellir eu canfod yn y cynnyrch gorffenedig ar lefelau uwch na 0.25 mg/litr) yn glir.

Mae’n rhaid i’r geiriad gynnwys y gair ‘contains’ (yn Saesneg):

  • sylffwr deuocsid/sylffitau (sulphites a sulfites)
  • ‘wy’, ‘protein wy’, ‘cynnyrch wy’, ‘lysoseim wy’ neu ‘albwmin wy’
  • ‘llaeth’, ‘cynhyrchion llaeth’, ‘casein llaeth’ neu ‘protein llaeth’

Labeli ar win sy’n cael ei fewnforio

I gael cyngor ar labeli penodol, cysylltwch â’ch arolygwr rhanbarthol.

Dylai cynhyrchwyr o’r tu allan i’r DU gyfeirio eu hymholiadau at eu mewnforiwr yn y DU.