Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hylendid llaeth a gweddillion gwrthfiotig

Canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr llaeth ar safonau hylendid a phrofi llaeth am weddillion gwrthfiotig.

Mae deddfwriaeth hylendid bwyd yn nodi dyletswydd busnesau bwyd i gynhyrchu bwyd yn ddiogel.

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr llaeth

Mae ein canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr llaeth yn helpu cynhyrchwyr llaeth i gyflawni'r safonau hylendid sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth, fel y maent yn berthnasol i ddaliadau cynhyrchu llaeth.

Maent yn cynnwys:

  • gwybodaeth am eich rhwymedigaethau cyfreithiol
  • canllawiau ar arfer da
  • Dyddiadur Cynnyrch Llaeth i'ch helpu i gofnodi a chynnal cofnodion effeithiol

England, Northern Ireland and Wales

Profi llaeth am weddillion gwrthfiotig

Mae'n rhaid i gynhyrchwyr llaeth sicrhau nad yw llaeth amrwd  o anifeiliaid sy'n cael eu trin â gwrthfiotigau neu yn y cyfnod cadw'n ôl yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd.

Rhaid i fusnesau bwyd brofi llaeth am wrthfiotigau ar wahanol bwyntiau yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys ar y fferm. Os canfyddir fod llaeth yn cynnwys gweddillion gwrthfiotig yn uwch na'r uchfaswm gweddillion a ganiateir, mae'n rhaid i fusnesau bwyd gychwyn gweithdrefnau i sicrhau nad yw llaeth amrwd yn cael ei roi ar y farchnad.

Mae ein canllawiau ar brofi llaeth am weddillion gwrthfiotig yn egluro:

  • gofynion cyfreithiol
  • beth mae methu prawf sgrinio gwrthfiotigau yn ei olygu a pha gamau y mae gofyn eu cymryd
  • pwy y dylid eu hysbysu os oes prawf yn methu

England, Northern Ireland and Wales