Hylendid bwyd ar gyfer eich busnes
Gofynion hylendid bwyd ar gyfer eich busnes.
Mae hylendid bwyd da yn hanfodol i sicrhau bod y bwyd rydych chi’n ei weini’n ddiogel i’w fwyta. Mae’n helpu i atal gwenwyn bwyd.
Pan fyddwch chi’n sefydlu busnes bwyd, mae angen i chi gyflwyno ffyrdd o weithio a fydd yn eich helpu i sicrhau bod mesurau hylendid bwyd da ar waith o’r cychwyn cyntaf.
Y pedwar hanfod hylendid bwyd
Dyma’r pedwar hanfod ar gyfer hylendid da:
Gallwch chi ddefnyddio’r pedwar hanfod i atal y problemau diogelwch bwyd mwyaf cyffredin.
Er mwyn rheoli gweithdrefnau hylendid a diogelwch bwyd yn eich busnes bwyd, dylech chi ddilyn egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP).
Storio bwyd yn ddiogel
Mae’n bwysig iawn storio bwyd yn y lle cywir i’w gadw’n ddiogel, i’w ddiogelu rhag bacteria niweidiol, cemegion a gwrthrychau yn mynd i mewn i fwyd. Bydd angen i chi storio gwahanol fathau o fwyd trwy eu cadw mewn:
- cynwysyddion sy’n cael eu cadw mewn cypyrddau neu ar silffoedd – fel pasta, reis a blawd
- oergell
- rhewgell
Cludo bwyd yn ddiogel
Pan fyddwch chi’n cludo bwyd, o’ch safle i leoliad arall neu o’r warws talu a chario i’ch safle, rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n atal y bwyd rhag cael ei halogi, er enghraifft gyda baw neu facteria.
Mae’n arbennig o bwysig sicrhau bod:
- bwyd yn cael ei gludo mewn deunydd pecynnu neu gynwysyddion sy’n diogelu’r bwyd rhag halogiad
- bwyd oer a bwyd wedi’i rewi yn cael ei gadw ar y tymheredd cywir (mae rhai busnesau’n defnyddio bagiau a blychau oer, neu faniau wedi’u hoeri)
- bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta yn cael eu cadw ar wahân
Hyfforddi staff
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod unigolion sy’n trin bwyd yn cael yr oruchwyliaeth a’r hyfforddiant hylendid bwyd priodol, sy’n cyd-fynd â’r ardal y maent yn gweithio ynddi ac yn eu galluogi i drin bwyd yn y modd mwyaf diogel. Yn y Deyrnas Unedig, nid oes rhaid i unigolion sy’n trin bwyd gael tystysgrif hylendid bwyd i baratoi neu werthu bwyd.
Gellir dysgu’r sgiliau a addysgir mewn rhaglenni hyfforddi swyddogol hefyd drwy:
- hyfforddiant wrth weithio
- hunan-astudio
- profiad blaenorol perthnasol
Mae gennym ni gyrsiau diogelwch bwyd ar-lein rhad ac am ddim i fusnesau, gan gynnwys hyfforddiant alergenau.
Hylendid personol
Er mwyn cadw bwyd yn ddiogel, mae’n hanfodol bod gennych chi a’ch staff safonau hylendid personol uchel.
Mae hylendid personol yn cynnwys:
- golchi dwylo
- dillad
- addasrwydd i weithio
- hyfforddiant
Arolygiadau a sgôr hylendid bwyd
Bydd swyddogion awdurdodedig eich cyngor lleol yn arolygu eich safleoedd i wirio a yw eich busnes yn cydymffurfio â chyfraith bwyd ac yn cynhyrchu bwyd sy’n ddiogel i’w fwyta.
Os ydych chi’n gweini neu’n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i’r cyhoedd, mae’n bosib y byddwch chi’n rhan o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Bydd eich sgôr yn seiliedig ar yr hyn a welir ar ddiwrnod yr arolygiad ac efallai y byddwch chi’n cael sgôr hylendid rhwng 5 (da iawn) a 0 (angen gwella ar frys), yn seiliedig ar y safonau hylendid bwyd ar y pryd.
Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich arolygiad cyntaf.
Mae canllawiau ar gael i helpu busnesau i arddangos eu sgôr ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Trwy arddangos eich sgôr ar eich safle neu ar-lein, gallwch ddangos i gwsmeriaid pa mor dda yw eich safonau hylendid.
Canllawiau ar gyfer y diwydiant bwyd
I gael rhagor o wybodaeth am hylendid ar gyfer eich busnes, gallwch chi brynu a darllen ein canllawiau ar wefan y Swyddfa Llyfrfa.
Gwneud a gwerthu brechdanau
- Canllaw’r Diwydiant Bwyd ar Arferion Hylendid Da: Siopau Brechdanau a Sefydliadau Tebyg sy’n Gweini Bwyd
- Canllaw’r Diwydiant ar Arferion Hylendid Da: Gweithgynhyrchu Brechdanau
Busnesau manwerthu
- Canllaw’r Diwydiant Bwyd ar Arferion Hylendid Da: Manwerthu
- Canllawiau Arferion Gorau ar gyfer Cynhyrchu Bwyd Wedi’i Oeri: Rhifyn 4
Canllawiau eraill y diwydiant i gynorthwyo’ch busnes
Hanes diwygio
Published: 30 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Tachwedd 2024