Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Dosbarthu pysgod cregyn

Sut y caiff ardaloedd cynhyrchu eu dosbarthu, y dull trin a sut i wneud cais am ddosbarthiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 April 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 April 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae dosbarthu ardal gynhyrchu yn pennu pa driniaeth sy’n ofynnol cyn y gellir rhoi Molysgiaid Dwygragennog Byw (pysgod cregyn) ar y farchnad i’w bwyta gan bobl.

Mae ardaloedd cynhyrchu ac ailosod pysgod cregyn yn cael eu dosbarthu yn ôl y lefelau E. coli sydd wedi’u canfod o fewn cnawd pysgod cregyn.

Lefelau o E. coli a ganiateir

Mae lefelau E. coli yn cael eu mesur fesul 100g o gnawd.

Ym mhob achos, mae’r safonau iechyd wedi’u nodi yn:

  • Atodiad III i Reoliad Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a gymathwyd (CE) 853/2004
  • Erthyglau 53, 54 a 55 o Reoliad Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a gymathwyd (UE) 2019/627

Rhaid hefyd bodloni meini prawf microbiolegol y cynnyrch terfynol a bennir yn Rheoliad Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a gymathwyd (CE) 2073/2005.

Bydd yr ardal gynhyrchu yn cael ei dosbarthu’n A, B neu C. Ardaloedd A yw’r lleiaf halogedig ac ardaloedd C yw’r mwyaf. Mae lefel y driniaeth sy’n ofynnol i gael gwared ar halogiad o’r molysgiaid dwygragennog byw ar ôl cynaeafu yn dibynnu ar y dosbarthu hwn. Os nad oes modd cyflawni dosbarth C oherwydd lefelau halogi sy’n uchel, yna efallai y bydd cynaeafu o’r ardal yn cael ei wahardd.

Dyma’r safonau y mae’n rhaid eu cyflawni a lefel y driniaeth sy’n ofynnol ar gyfer pob dosbarthiad: 

Dosbarth A

  • angen o leiaf 10 sampl bob blwyddyn
  • rhaid i 80% o ganlyniadau samplu fod yn llai na neu’n hafal i 230 E. coli/100g
  • ni all unrhyw ganlyniadau fod yn fwy na 700 E. coli/100g

Gellir cynaeafu pysgod cregyn byw ar gyfer eu bwyta gan bobl yn uniongyrchol os caiff gofynion safonol y cynnyrch terfynol eu bodloni.

Dosbarth B

  • angen o leiaf 8 sampl bob blwyddyn
  • rhaid i 90% o ganlyniadau samplu fod yn llai na neu’n hafal i 4,600 E. coli/100g
  • ni all unrhyw ganlyniad sampl fod yn fwy na 46,000 E. coli/100g

Gellir cyflenwi pysgod cregyn byw i’w bwyta gan bobl ar ôl un o’r prosesau canlynol:

  • puro mewn sefydliad cymeradwy
  • ailosod am o leiaf mis mewn ardal ailosod Dosbarth A dosbarthedig
  • proses trin â gwres wedi’i chymeradwyo
Cymru a Lloegr
Mae yna system ddosbarthu hirdymor ar gyfer gwelyau dosbarth B yng Nghymru a Lloegr. Nod y system yw dangos mwy o sefydlogrwydd yn y dosbarthiadau sy’n seiliedig ar gydymffurfiaeth dros gyfnod o bum mlynedd yn hytrach na’r tair blynedd safonol.

Dosbarth C

  • angen o leiaf 8 sampl bob blwyddyn
  • rhaid i bob canlyniad sampl fod yn llai na neu’n hafal i 46,000 E. coli/100g

Gellir ond gwerthu pysgod cregyn i’w bwyta ar ôl cwblhau un o’r prosesau canlynol:

  • ailosod am o leiaf ddeufis mewn ardal ailosod dosbarth B gymeradwy cyn cael triniaeth mewn canolfan buro gymeradwy
  • ailosod am o leiaf ddeufis mewn ardal ailosod dosbarth A gymeradwy
  • ar ôl proses trin â gwres sydd wedi’i chymeradwyo

Ardaloedd sydd wedi’u gwahardd 

Ni ddylai pysgod cregyn o ardaloedd sydd â chanlyniadau lefel gwaharddedig (mwy na 46,000 E. coli/100g) fod yn destun cynhyrchu na chael eu cynaeafu.

Puro pysgod cregyn

Gellir puro pysgod cregyn trwy eu dal mewn tanciau pwrpasol o ddŵr môr glân neu artiffisial. Mae’r pysgod cregyn yn cael eu gosod mewn dŵr am yr amser angenrheidiol i leihau halogiad i’w gwneud yn addas i’w bwyta gan bobl. Mae’r amodau dŵr yn annog y pysgod cregyn i hidlo halogion fel E. coli.

Mae canolfannau dosbarthu yn ardaloedd ar neu oddi ar y lan sy’n prosesu molysgiaid dwygragennog byw sy’n addas i’w bwyta gan bobl.

Rhaid i bob sefydliad puro a dosbarthu gael eu cymeradwyo gan eich awdurdod lleol. Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion penodol ar gyfer canolfannau puro a dosbarthu yn Atodiad III i Reoliad Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a gymathwyd (CE) 853/2004.

Proses ymgeisio

Dosbarthiad posib a llenwi’r ffurflen

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn egwyddor mewn cynaeafu/pysgota neu ailosod pysgod cregyn yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi wneud cais i ddosbarthu’r ardal gynhyrchu yn gyntaf. Dylai’r ymgeisydd (y cynaeafwr) ar y cyd â’r awdurdod lleol lenwi ffurflen gais ar gyfer yr ardal gynhyrchu neu’r ardal ailosod.

Byddwch cystal â llenwi ac anfon y ffurflen hon yn electronig, ynghyd â map addas ac unrhyw wybodaeth ategol berthnasol arall. Peidiwch â llenwi’r ffurflen hon ar bapur. Ni fyddwn yn derbyn copïau caled na rhai wedi’u sganio.

Cofiwch nad yw dosbarthu ardal gynaeafu pysgod cregyn yn rhoi’r hawl i gynaeafu pysgod cregyn.

Efallai y bydd angen caniatâd arnoch chi gan gyrff eraill cyn bwrw ati. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau’r caniatâd hwn, yn ôl yr angen, ac i’r awdurdod lleol wirio bod popeth yn ei le, gan gynnwys gallu’r awdurdod lleol hwnnw i samplu ar gyfer monitro parhaus, cyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r ASB.

England

Ar ôl i chi anfon y ffurflen

Ar ôl i’ch cais ddod i law, byddwn ni’n ei wirio ac yn gofyn am ragor o wybodaeth neu eglurhad pellach os bydd angen. Unwaith y byddwn ni’n fodlon, byddwn ni’n ei hanfon at ein contractiwr i gynnal arolwg glanweithiol (‘sanitary’) os oes angen.

Mae arolwg glanweithiol yn asesiad o’r ffynonellau llygredd sy’n effeithio ar yr ardal gyneafu, er mwyn pennu pwyntiau samplu priodol a chynllun samplu ar gyfer dosbarthu posibl.

Mae angen deg sampl rheolaethau swyddogol, a gymerir gan yr awdurdod lleol yng Nghymru ac yn Lloegr ac amrywiaeth o gyrff samplu yng Ngogledd Iwerddon, o leiaf wythnos ar wahân er mwyn gallu dosbarthu dros dro. Ar ôl blwyddyn lawn o waith samplu rheolaethau swyddogol, gellir rhoi dosbarthiad blynyddol.

Mae angen o leiaf 16 wythnos o ddyddiad cyflwyno’r cais cyn y gellir dechrau cyneafu pysgod cregyn, gan ddibynnu ar gymeradwyo dosbarthiad.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses ddosbarthu ar gael yn y protocol dosbarthu.

Adroddiadau arolygon glanweithdra

Rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2020 roedd trefniant dros dro ar waith ar gyfer asesu ardaloedd cynhyrchu newydd i bennu pwyntiau monitro cynrychioladol dros dro. Mae pwynt monitro cynrychioladol yn un pwynt monitro o fewn ardal gynhyrchu pysgod cregyn, a all gynrychioli nifer o safleoedd yn yr ardal gynhyrchu honno.

O fis Ebrill 2020, rydym yn comisiynu arolygon glanweithiol sy’n ystyried gwybodaeth ychwanegol ar gyfer ardaloedd cynhyrchu.

Adroddiadau Arolygon Glanweithdra Ebrill 2020 – presennol (Saesneg yn unig)

Asesiadau ardaloedd dosbarthu Ebrill 2020 – presennol (Saesneg yn unig)

Asesiadau Pwyntiau Monitro Cynrychioladol Ebrill 2017 – Mawrth 2020 (Saesneg yn unig)

Protocol dosbarthu

Pan fydd gwely pysgod cregyn wedi cau am gyfnod amhenodol, efallai y bydd angen samplau ychwanegol cyn y gellir ailagor y gwely. Efallai y bydd yn rhaid i’r broses ddosbarthu ddechrau eto os yw ar gau am nifer o flynyddoedd neu os yw wedi’i ddad-ddosbarthu.

Ymdrin â chanlyniadau uchel

Cynlluniau gweithredu

Penderfynir ar gynlluniau gweithredu lleol gan ddefnyddio ffactorau ac amodau lleol. Bydd faint o fanylion yn y cynllun yn dibynnu ar:

  • nifer a maint y gwelyau pysgod cregyn dan gyfrifoldeb yr awdurdod bwyd lleol
  • unrhyw amodau lleol arbennig
  • nifer y rhanddeiliaid dan sylw

Camau gweithredu

Mae camau gweithredu yn berthnasol i bob dosbarth o welyau pysgod cregyn. Byddant yn cael eu gweithredu pan fydd eich canlyniadau yn uwch na’r lefel a ganiateir.

Mae’n bosibl y caiff gwely ei israddio neu ei gau dros dro fel rhan o fesurau rheoli tymor byr yn ystod cam gweithredu.

Er mwyn ailagor y gwely yn ei ddosbarthiad blaenorol, mae’n rhaid cymryd dau sampl boddhaol yn olynol o leiaf saith diwrnod ar wahân.

Dechreuwn ymchwilio i ganlyniadau dosbarthiad sydd, er enghraifft, yn uwch na’r trothwy ar gyfer y dosbarthiad a ddyfarnwyd.

Gofynnir i wybodaeth gan DAERA, NIEA a chynaeafwyr geisio sefydlu achos y canlyniad uwch a phenderfynu ar weithredu yn y dyfodol.

Bydd unrhyw ardaloedd gyda chanlyniadau uwchben y lefel a ganiateir ar gau ar gyfer cynaeafu.

Rhestr ddosbarthu a chynlluniau samplu cyfredol

Diweddarwyd ddiwethaf 2 Rhagfyr 2024.

Gwybodaeth atodol

Canlyniadau monitro dosbarthu