Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Diwygiadau i’r broses awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad

Newidiadau i’r broses awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad a sut maent yn effeithio ar fusnesau bwyd a bwyd anifeiliaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2025

Ers 1 Ebrill 2025, mae offeryn statudol (OS) newydd, sy’n cwmpasu Prydain Fawr, wedi rhoi ar waith ddau ddiwygiad i’r broses awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad:

  • dileu gofynion ar gyfer adnewyddu awdurdodiadau o bryd i’w gilydd sydd wedi bodoli ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflasynnau mwg a bwyd neu fwyd anifeiliaid sy’n cynnwys organebau a addaswyd yn enetig, sy’n cynnwys organebau a addaswyd yn enetig (GMOs), neu sydd wedi’u cynhyrchu o organebau a addaswyd yn enetig
  • galluogi awdurdodiadau ddod i rym yn dilyn penderfyniad gweinidogol, ac yna cael eu cyhoeddi ar gofrestr neu restr swyddogol, yn hytrach na chael eu rhagnodi gan OS 

Gwnaeth y diwygiadau hyn foderneiddio’r broses reoleiddio a’i galluogi i fod yn gyson ag arloesedd a thechnolegau newydd, gan hefyd barhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Gwnaethom gynnal ymgynghoriad ar y newidiadau hyn yn 2024.   

Mae Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cynhyrchion Rheoleiddiedig) (Diwygio, Dirymu, Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) 2025 (‘OS diwygio’) yn ymwneud â’r cyfundrefnau canlynol ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig: 

  • ychwanegion bwyd anifeiliaid 
  • ychwanegion bwyd 
  • ensymau bwyd 
  • cyflasynnau bwyd
  • deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd (FCMs) 
  • organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) 
  • bwydydd newydd 
  • cyflasynnau mwg

Dileu’r gofyniad i adnewyddu awdurdodiadau

Yn flaenorol, roedd tair o’r cyfundrefnau ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig (ychwanegion bwyd anifeiliaid, GMOs a chyflasynnau mwg) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodiadau’r farchnad gael eu hadnewyddu bob deng mlynedd. 

Ar 1 Ebrill 2025, dilëwyd y gofyniad hwn i adnewyddu, gan gysoni’r cyfundrefnau hyn â chyfundrefnau eraill, fel ychwanegion bwyd a bwydydd newydd. 

Mae’r holl gyfundrefnau ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig eisoes yn dibynnu ar ddull dadansoddi risg cadarn yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) i ganfod unrhyw risgiau sy’n dod i’r amlwg.  Mae’r dull presennol hwn yn darparu mecanweithiau ar gyfer monitro tystiolaeth newydd a mynd i’r afael â risgiau sy’n dod i’r amlwg yn brydlon.

Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i ganolbwyntio ar waith sganio’r gorwel ac asesu risg ar gyfer pob math o gynnyrch er mwyn ymateb i dystiolaeth newydd ar ddiogelwch wrth iddi ddod i’r amlwg.  Mae hyn yn rhoi gwybod i’r ASB ac FSS a yw cynhyrchion sydd eisoes wedi’u hawdurdodi yn ddiogel i aros ar y farchnad ar unrhyw adeg. Gwneir hyn yn lle gweithio i amserlenni adnewyddu a oedd wedi’u pennu’n fympwyol a oedd yn gofyn am adolygiadau cynhwysfawr ar gyfer pob cynnyrch, hyd yn oed os nad oedd tystiolaeth newydd i awgrymu bod angen hyn.  Os nodir pryder diogelwch mewn perthynas â chynnyrch, gall yr ASB ac FSS adolygu’r awdurdodiad a chynghori gweinidogion a ddylid dirymu, addasu neu atal yr awdurdodiad. 

Roedd yr OS diwygio’n dileu dyddiadau dod i ben ar gyfer awdurdodiadau a oedd yn destun adnewyddu. Mae’n sicrhau sail ddeddfwriaethol ddigonol i’r ASB ac FSS ofyn am wybodaeth gan bob busnes dan sylw (nid dim ond deiliaid yr awdurdodiadau), er mwyn cynorthwyo gydag asesiad diogelwch, os bydd unrhyw wybodaeth newydd neu bryderon yn datblygu.

Ceisiadau adnewyddu sydd yn y gwasanaeth ar hyn o bryd

Cafodd ceisiadau adnewyddu a oedd eisoes wedi’u cyflwyno cyn dod i rym eu gwirio am unrhyw bryderon diogelwch posib, ceisiadau ymestyn defnydd neu addasu. Gwiriwyd hefyd unrhyw adroddiadau monitro ôl-farchnad, adroddiadau monitro amgylcheddol ôl-farchnad neu ddiweddariadau i ddulliau dadansoddi neu ganfod yr oedd angen eu hadolygu.

Ni wnaeth ceisiadau adnewyddu a oedd yn y gwasanaeth cyn Ebrill 2025 barhau drwy’r broses awdurdodi cyn eu rhoi ar y farchnad. Mae’r awdurdodiadau hyn yn parhau i fod yn ddilys ac nid oes ganddynt ddyddiad dod i ben mwyach, felly gall y cynhyrchion awdurdodedig aros ar y farchnad, oni bai eu bod yn cael eu hatal, eu haddasu neu eu dirymu yn y dyfodol. Fodd bynnag, yn dibynnu ar natur ceisiadau unigol, parhaodd rhai fel ceisiadau i ymestyn defnydd neu addasu yn lle hynny. 

Os canfyddir tystiolaeth newydd o bryder diogelwch posib (yn deillio o wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn ceisiadau adnewyddu a oedd yn y gwasanaeth cyn Ebrill 2025 neu rywle arall), mae gan yr ASB ac FSS bwerau i adolygu’r awdurdodiad, gofyn am wybodaeth newydd gan fusnesau, a chynghori gweinidogion a ddylid addasu, atal neu ddirymu eu hawdurdodiad.

Cynhyrchion sydd â dyddiad adnewyddu ar ôl 1 Ebrill 2025

Mae’r OS diwygio wedi dileu dyddiadau dod i ben ar gyfer cynhyrchion a oedd eisoes ar y farchnad a oedd yn destun gofynion adnewyddu yn flaenorol. Nid oes angen ceisiadau adnewyddu ar gyfer y cynhyrchion hyn mwyach.  Mae’r awdurdodiadau hyn yn parhau i fod yn ddilys ac nid oes ganddynt ddyddiad dod i ben mwyach, felly gall y cynhyrchion awdurdodedig aros ar y farchnad, oni bai eu bod yn cael eu hatal, eu haddasu neu eu dirymu yn y dyfodol.

Monitro cynhyrchion ar y farchnad

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob busnes hysbysu’r ASB ac FSS os oes ganddynt reswm i gredu bod cynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir ar y farchnad yn anniogel.  Mae darpariaethau Cyfraith Bwyd Cyffredinol (Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 178/2002) a’r OS diwygio yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau roi gwybod am wybodaeth os daw tystiolaeth newydd i’r amlwg ynghylch diogelwch cynnyrch awdurdodedig. 

Yn achos rhai cynhyrchion, mae hefyd angen monitro ôl-farchnad a/neu fonitro amgylcheddol ôl-farchnad, neu adrodd i’r rheoleiddiwr amdanynt fel rhan o’u telerau awdurdodi.  Mae’r rhain yn parhau i gael eu gosod o fewn telerau awdurdodi cynhyrchion lle bo angen. 

Mae angen i fusnesau barhau i gynnal unrhyw waith monitro ôl-farchnad a monitro amgylcheddol ôl-farchnad sy’n berthnasol i awdurdodiadau, gan gynnwys darparu adroddiadau i’r ASB ac FSS.

Os daw gwybodaeth newydd am ddiogelwch cynnyrch i’r amlwg, bydd yr ASB ac FSS yn ystyried ei berthnasedd, yn dadansoddi unrhyw risg bosib, ac o bosib, yn cyhoeddi cyngor ynghylch a yw’r cynnyrch yn ddiogel i aros ar y farchnad.

Ni fydd yr holl wybodaeth yn sbarduno adolygiad diogelwch llawn. Byddwn yn gwerthuso’r angen i gymryd camau gweithredu yn seiliedig ar yr wybodaeth a ystyriwyd.  Os oes risg uniongyrchol i ddiogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid, bydd yr ASB ac FSS yn gweithredu yn unol â’n dull rheoli digwyddiadau.

Not all information will trigger a full safety review; we will evaluate the necessity of action based on the information considered.  If there is an immediate food or feed safety risk, the FSA and FSS will take action through our incident management approach.

Sut i ddarparu gwybodaeth

Os oes angen i chi gysylltu â’r ASB ac FSS ynglŷn ag awdurdodiad sy’n bodoli eisoes, anfonwch e-bost atom yn regulatedproducts@food.gov.uk. Dylech ddefnyddio’r llwybr hwn i roi gwybod i ni am unrhyw bryderon diogelwch newydd, neu rai sy’n datblygu, am gynnyrch awdurdodedig, er enghraifft os byddwch yn dod yn ymwybodol o unrhyw amheuaeth newydd ar asesiad diogelwch blaenorol.

Yn ogystal, rhaid i chi (lle bo angen) ddefnyddio’r llwybr hwn i anfon adroddiadau monitro ôl-farchnad, adroddiadau monitro amgylcheddol ôl-farchnad, diweddariadau neu newidiadau i ddulliau dadansoddi neu ganfod, ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud ag awdurdodiad presennol. 

Wrth anfon e-bost, dylech sôn am yr awdurdodiad neu'r cynnyrch rydych chi'n cyfeirio ato, y math o wybodaeth rydych chi'n ei darparu, a chynnwys y rhif RP os yw'n berthnasol.    

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau adrodd i’r ASB/FSS os oes ganddynt le i gredu y gallai rhoi’r bwyd neu’r bwyd anifeiliaid ar y farchnad wneud niwed i ddefnyddwyr.

Rhaid i chi roi gwybod i’r ASB yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon am unrhyw ddigwyddiadau diogelwch bwyd. Os ydych yn yr Alban, neu os yw’r digwyddiad yn ymwneud â busnes yn yr Alban, rhowch wybod am y digwyddiad i FSS.  

Gwybodaeth gyfundrefn-benodol

Organebau wedi’u haddasu’n enetig (GMOs)

Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i osod gofynion o fewn telerau awdurdodiadau ar gyfer GMOs, gan gynnwys ar gyfer monitro ôl-farchnad a monitro amgylcheddol ôl-farchnad lle bo’n berthnasol. 

Bydd angen i fusnesau barhau i gydymffurfio ag unrhyw fonitro ôl-farchnad a monitro amgylcheddol ôl-farchnad sy’n berthnasol i awdurdodiadau presennol, gan gynnwys darparu adroddiadau i’r ASB ac FSS.

Mae awdurdodiadau GMO yn cynnwys manylion y dulliau labordy sydd wedi’u dilysu ar gyfer adnabod, canfod a meintioli’r GMO.  Mae’n ofynnol o hyd i fusnesau hysbysu’r ASB ac FSS os oes ganddynt unrhyw wybodaeth newydd a allai effeithio ar addasrwydd dull wedi’i ddilysu. Mae hyn yn galluogi’r ASB, FSS a LGC (Labordy Cyfeirio Cenedlaethol y DU ar gyfer GMOs) i wirio bod y dull a gymeradwywyd yn flaenorol yn dal i fod yn gyfredol.

Os oes angen i chi gysylltu â’r ASB ac FSS ynglŷn ag awdurdodiad sy’n bodoli eisoes, anfonwch e-bost atom yn regulatedproducts@food.gov.uk. Gallwch ddefnyddio’r llwybr hwn i hysbysu’r ASB ac FSS am unrhyw bryderon diogelwch newydd am gynnyrch neu unrhyw bryderon sy’n datblygu. Yn ogystal, gallwch ddefnyddio’r llwybr hwn i anfon adroddiadau monitro ôl-farchnad, adroddiadau monitro amgylcheddol ôl-farchnad, diweddariadau neu newidiadau i ddulliau dadansoddi neu ganfod, ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud ag awdurdodiad presennol. Wrth anfon e-bost, dylech sôn am yr awdurdodiad neu'r cynnyrch rydych chi'n cyfeirio ato, y math o wybodaeth rydych chi'n ei darparu, a chynnwys y rhif RP os yw'n berthnasol.    

Ychwanegion bwyd anifeiliaid

Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i osod gofynion o fewn telerau awdurdodiadau ar gyfer ychwanegion bwyd, gan gynnwys ar gyfer monitro ôl-farchnad lle bo’n berthnasol. 

Bydd angen i fusnesau barhau i gydymffurfio ag unrhyw ofynion monitro ôl-farchnad sy’n berthnasol i awdurdodiadau cyfredol, gan gynnwys darparu adroddiadau i’r ASB ac FSS.

Mae awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid yn cynnwys manylion am ddulliau labordy sydd wedi’u dilysu at ddibenion canfod. Mae’n ofynnol o hyd i fusnesau hysbysu’r ASB ac FSS os oes ganddynt unrhyw wybodaeth newydd a allai effeithio ar addasrwydd dull wedi’i ddilysu. Mae hyn yn galluogi’r ASB, FSS a LGC (Labordy Cyfeirio Cenedlaethol y DU ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid) i wirio bod y dull a gymeradwywyd yn flaenorol yn dal i fod yn gyfredol.

Os oes angen i chi gysylltu â’r ASB ac FSS ynglŷn ag awdurdodiad sy’n bodoli eisoes, anfonwch e-bost atom yn regulatedproducts@food.gov.uk. Gallwch ddefnyddio’r llwybr hwn i hysbysu’r ASB ac FSS am unrhyw bryderon diogelwch newydd am gynnyrch neu unrhyw bryderon sy’n datblygu. Yn ogystal, gallwch ddefnyddio’r llwybr hwn i anfon adroddiadau monitro ôl-farchnad, diweddariadau neu newidiadau i ddulliau dadansoddi neu ganfod, ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud ag awdurdodiad presennol. Wrth anfon e-bost, dylech sôn am yr awdurdodiad neu'r cynnyrch rydych chi'n cyfeirio ato, y math o wybodaeth rydych chi'n ei darparu, a chynnwys y rhif RP os yw'n berthnasol.    

Erthygl 10 mewn perthynas ag ychwanegion bwyd anifeiliaid

Nid yw ychwanegion bwyd anifeiliaid hirsefydlog y caniateir iddynt fod ar y farchnad ym Mhrydain Fawr o dan Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 (a elwir yn ychwanegion bwyd anifeiliaid ‘Erthygl 10’) o fewn cwmpas yr OS diwygio a chânt eu hadolygu ar wahân.  Mae’r ASB ac FSS yn datblygu dull cymesurol o asesu risg a rheoli’r ychwanegion hyn, er mwyn hwyluso eu defnydd parhaus ar y farchnad ym Mhrydain Fawr a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddiogel.

Mae’r OS diwygio yn sicrhau y gellir dal i ddefnyddio’r darpariaethau adnewyddu a gafodd eu dirymu yn y dyfodol, os bydd angen, i adolygu’r ychwanegion bwyd anifeiliaid hirsefydlog hyn.  Bydd yr awdurdodiadau ychwanegion Erthygl 10 hyn a restrir yn y gofrestr gyhoeddus yn parhau cyhyd ag y byddant yn parhau i fod wedi’u caniatáu. 

Awdurdodiadau brys ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid

Mae awdurdodiadau brys ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid yn rhai dros dro a roddir am uchafswm o bum mlynedd.  Cânt eu defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, fel er mwyn diogelu lles anifeiliaid, yn dilyn asesiad diogelwch cyn rhoi’r cynnyrch ar y farchnad. 

Nid yw natur dros dro yr awdurdodiadau hyn wedi newid.  Mae’r dyddiadau dod i ben ar gyfer awdurdodiadau brys presennol yn parhau i fod yn gymwys, a byddant yn parhau i gael eu pennu ar gyfer awdurdodiadau brys yn y dyfodol.

Ensymau bwyd a ‘cyflasynnau sy’n cael eu gwerthuso’

Mae’r OS diwygio yn ymdrin â darpariaethau sy’n ymwneud â gosod cyflasynnau ar y farchnad sy’n cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. Mae’r gofynion a’r diffiniadau ynghylch statws y cynhyrchion hyn bellach wedi’u nodi yn Rheoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1334/2008 ar gyflasynnau.

Caniateir i’r cynhyrchion hyn gael eu rhoi ar y farchnad, tra byddant yn aros am benderfyniadau asesu ac awdurdodi pellach, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion deddfwriaethol penodol.

Ar gyfer ensymau bwyd, gwnaed newidiadau i’r broses ar gyfer awdurdodiadau cychwynnol a sefydlwyd y rhestr ddomestig gyntaf o ensymau bwyd. Nid oes angen i ensymau bwyd sy’n dod o dan Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 1332/2008 gael eu cymeradwyo cyn eu defnyddio, nes bod awdurdodiadau cychwynnol wedi’u gwneud.

Nid yw’r OS diwygio yn newid statws y cynhyrchion hyn ond mae’n newid y broses awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, cyflasynnau ac ensymau. Mae hyn er mwyn caniatáu i unrhyw awdurdodiadau yn y dyfodol ddod i rym yn dilyn penderfyniad gweinidogol ac yna cael eu cyhoeddi ar gofrestr neu restr swyddogol (i’w cyhoeddi a’u cynnal gan yr ASB/FSS), yn hytrach na chael eu rhagnodi gan OS. 

Deunyddiau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (math o ddeunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd)

Mae’r OS diwygio yn diwygio darpariaethau ynghylch rhoi deunyddiau gweithredol a deallus (AIMs) y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ar y farchnad.

Nid yw’r cynhyrchion hyn eto wedi bod trwy asesiadau a phenderfyniadau awdurdodi yn yr un modd â mathau eraill o gynhyrchion y cyfeirir atynt yn yr OS diwygio, ond caniateir iddynt gael eu rhoi ar y farchnad tra byddant aros am benderfyniadau asesu ac awdurdodi pellach, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion diogelwch deddfwriaethol penodol.

Nid yw’r OS diwygio yn newid statws y cynhyrchion hyn ond mae’n caniatáu i unrhyw awdurdodiadau yn y dyfodol ddod i rym yn dilyn penderfyniad gweinidogol ac yna cael eu cyhoeddi ar gofrestr neu restr swyddogol (i’w cyhoeddi a’u cynnal gan yr ASB ac FSS), yn hytrach na chael eu rhagnodi gan OS. 

Cyfundrefnau cynhyrchion rheoleiddiedig y tu allan i gwmpas y diwygiadau

Ni chafodd toddyddion echdynnu, prosesau dadwenwyno bwyd anifeiliaid, bwyd wedi’i arbelydru (irradiated), plastigau wedi’u hailgylchu, ffilm seliwlos atgynyrchiedig, a bwyd anifeiliaid at ddefnydd maethol penodol eu cynnwys yn yr OS diwygio.  Mae hyn oherwydd bod y broses gymeradwyo y maent yn eu dilyn naill ai:

  • heb ei nodi mewn deddfwriaeth, neu 
  • heb gynnwys y gallu priodol i’r awdurdod wneud penderfyniadau, neu 
  • yn cynnwys deddfwriaeth nad yw’n weithredol neu’n annhebygol o gael ei defnyddio ar ei ffurf bresennol. 

Mae deddfwriaeth a gofynion blaenorol yn parhau i fod yn gymwys i’r mathau hyn o gynnyrch.

Galluogi awdurdodiadau i ddod i rym yn dilyn penderfyniad gweinidogol

Gweinidogion Cymru a Lloegr sy’n penderfynu a ddylid awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig, yn seiliedig ar gyngor yr ASB.  Gweinidogion yn yr Alban sy’n penderfynu a ddylid awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig, yn seiliedig ar gyngor FSS

O dan y broses awdurdodi flaenorol, ar ôl penderfyniad gweinidogol, roedd angen OS cyn y gellid rhoi cynhyrchion ar y farchnad, gan ymestyn y broses gymeradwyo.   

Nawr, mae awdurdodiadau’n dod i rym yn dilyn penderfyniad gweinidogol.  Mae gweinidogion yn rhoi gwybod i’r ASB ac FSS am benderfyniadau awdurdodi.  Mae'n ofynnol i’r ASB ac FSS gadw cofrestr sy’n cynrychioli’n gywir y statws awdurdodi ar gyfer pob cynnyrch, fel y’i pennir gan weinidogion.

Mae’r cofrestrau hyn yn cynnwys y telerau awdurdodi ar gyfer pob cynnyrch a dyma’r brif ffynhonnell wybodaeth i randdeiliaid ar y cynhyrchion rheoleiddiedig a gwmpesir gan yr OS diwygio sydd wedi’u hawdurdodi ar gyfer y farchnad ym Mhrydain Fawr.

Dod o hyd i fanylion cynhyrchion rheoleiddiedig awdurdodedig

Mae’r cofrestrau ar-lein swyddogol o gynhyrchion rheoleiddiedig awdurdodedig ar gael yn gyhoeddus yma. Maent yn cynnwys gwybodaeth sy’n nodi pa gynhyrchion sydd wedi’u hawdurdodi a’u telerau awdurdodi a dyma’r brif ffynhonnell wybodaeth i randdeiliaid, fel busnesau a swyddogion gorfodi, am y cynhyrchion rheoleiddiedig a gwmpesir gan yr OS diwygio sydd wedi’u hawdurdodi i’w rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr.

Rydym yn parhau i ddatblygu’r cofrestrau, gyda’r bwriad o’u gwella a’u mireinio ymhellach, gan gynnwys ymateb i adborth defnyddwyr.

Diweddaru’r cofrestrau

Bydd cofnodion yn y cofrestrau yn cael eu diweddaru pan ddaw penderfyniad gweinidogol sy’n effeithio ar awdurdodiad i rym. Caiff y cofrestrau hefyd eu cynnal a chadw er mwyn sicrhau cywirdeb.

Lle mae awdurdodiad presennol yn cael ei addasu, bydd manylion unrhyw newidiadau a wneir yn cael eu cofnodi yn y gofrestr, ynghyd â manylion unrhyw ddarpariaethau trosiannol.

Cael gwybod am ddiweddariadau

Cysylltir yn uniongyrchol ag ymgeiswyr pan fydd penderfyniadau ynghylch awdurdodi yn cael eu gwneud. Gall rhanddeiliaid eraill sydd eisiau cael diweddariadau gofrestru i dderbyn cylchlythyr yr ASB ar awdurdodiadau’r farchnad.

Mae’r cylchlythyr yn cynnwys gwybodaeth a dolenni i gofnodion newydd ar y cofrestrau, asesiadau diogelwch, ymgynghoriadau ac awdurdodiadau sydd newydd eu cyhoeddi.